Neidio i'r prif gynnwy

Camau

Cam gweithredu Cyfrifoldeb
1. Sefydlu statws Grŵp Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG yn y gorffennol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ysgrifenyddiaeth
2. Defnyddio papur y Comisiynydd Pobl Hŷn, hidlo sylwadau, gwirio amserlenni, rhannu er mwyn cael sylwadau a'i roi i'r Cwnsler Cyffredinol - Jeremy Miles i'w adolygu. Ysgrifenyddiaeth
3. Cam gweithredu – ychwanegu’r ap olrhain symptomau at yr agenda nesaf. Gwahodd Geraint Lewis Ysgrifenyddiaeth
4. Ystyried materion ynghylch ymweld â chartrefi gofal Pawb

1. Croeso, ymddiheuriadau a chyflwyniadau

Gwnaeth y Cadeirydd y cyflwyniadau, gan nodi’r ymddiheuriadau.

2. Pwyntiau gweithredu a chofnodion blaenorol

Cytunwyd ar y cofnodion ac ystyriwyd y camau gweithredu.

Pwyllgorau moeseg glinigol a chydsyniad ar sail gwybodaeth yn ystod COVID-19

Ymunodd Dr Ben Thomas, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i drafod cydsyniad a moeseg. Darparodd gwasanaethau cyfreithiol Cymru gyngor ynglŷn ag ailddechrau triniaeth arferol a'r egwyddor o gydsyniad ar sail gwybodaeth. Trafodwyd hyn gan y grŵp.

Gall asesiadau meddygol ac asesiadau cyfreithiol fod yn anodd eu cysoni. Gallai'r cyngor hwn orgymhlethu asesiadau risg a cheisio meintoli rhywbeth sy'n anodd iawn ei feintoli. Ddim eisiau drysu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac mae ymarferwyr clinigol yn edrych am fwy o symlrwydd.

Mae problemau o ran cydbwyso buddiannau’r unigolyn a buddiannau iechyd y cyhoedd. Gall ymddygiad unigolyn beryglu pobl eraill heb iddo beryglu ei hun.

Er enghraifft, mae risg uchel o drosglwyddo heintiau nosocomiaidd mewn adrannau argyfwng oherwydd nifer y bobl a dderbynnir iddynt.
Roedd y sylwadau ar y ddogfen yn amrywio'n eang. Mae pryder ynghylch y perygl o ymgyfreitha. Roedd y ffaith nad oes sôn am gofnodi yn y ddogfen hefyd yn destun pryder. Mae angen i’r broses fod yn ymarferol mewn lleoliad clinigol. Rhaid i’r broses o gofnodi cydsyniad fod yn amlwg. Nid yw’r risgiau yn newydd, mae clinigwyr yn gwneud y mathau hyn o benderfyniadau yn rheolaidd.

Nid oes cyfeiriad at ddewis iaith. Mae’n bwysig cofnodi dewis iaith a rhaid ystyried y diffyg capasiti oherwydd diffyg dewis iaith, yn enwedig wrth ymdrin ag unigolion ag afiechydon penodol fel dementia.

Y nod yw osgoi sefyllfa lle nad yw’r risg yn amlwg, lle mae clinigwyr yn teimlo y dylent osgoi gofyn i grwpiau penodol ddod i gael archwiliad/triniaeth - hy pobl hŷn, pobl ag anableddau, salwch hirdymor neu bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (sy’n wynebu risg anghymesur). Dylid dilyn yr un egwyddor, felly, â'r trafodaethau ynglŷn â pheidio â cheisio dadebru drwy ddulliau cardio-anadlol (DNACPR) - dim penderfyniadau cyffredinol ar sail grwpiau.

Mae ymgynghoriadau o bell yn cael eu hystyried yn fwy diogel, fodd bynnag, rhaid ystyried anghenion iaith ac a oes modd cynnal yr ymgynghoriadau o bell.

Mae clinigwyr yn wynebu anawsterau wrth geisio sicrhau amrywiaeth o safbwyntiau er mwyn gwneud penderfyniadau. Mae cynllunio gofal ymlaen llaw yn ffactor pwysig yn hyn o beth. Efallai na fydd modd cynnal ymgynghoriadau wyneb yn wyneb mewn grwpiau mawr i drafod pennaf les cleifion o dan yr amgylchiadau presennol. Mae angen asesiad capasiti.

Recordiad fideo fyddai'r ffordd orau o gael tystiolaeth o gydsyniad. Un broblem sy’n codi yw nad yw hanner y bobl dros 75 oed ar-lein. Gallai ymgynghoriadau digidol, felly, fod yn bryder. Mae angen cryfhau dulliau o roi cyngor dros y ffôn hefyd. Mae unigolion heb deulu yn dibynnu ar weithwyr cymdeithasol, sydd hefyd yn chwarae rhan bwysig.

Efallai y bydd unigolion sy'n cael eu gwarchod yn ystyried eu bod mewn perygl parhaus a bydd angen bod yn sensitif. Mae'n haws darbwyllo unigolion i aros gartref na’u cynghori ei bod yn ddiogel iddynt adael eu cartrefi. Mae gwybodaeth yn dangos nad yw pobl wedi bod yn dod i adrannau damweiniau ac achosion brys, bod unigolion yn ceisio cyngor meddygol yn hwyr ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau a bod nifer yr achosion o drais domestig yn cynyddu. Rhaid i unrhyw lwybr allan o'r cyfnod o gyfyngiadau symud ystyried dull o symud ymlaen yn seicolegol yn ogystal ag yn gorfforol.

Mae'r llythyr DNACPR wedi bod yn effeithiol yn y gymuned glinigol ac mae'n bosibl y gall dull tebyg weithio'n dda ar gyfer cofnodi penderfyniadau.

4. Meysydd blaenoriaeth sydd angen sylw er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol y GIG / cynllun adfer y Llywodraeth

Beth yw'r heriau sy’n ein hwynebu wrth inni symud allan o'r cyfnod o gyfyngiadau symud? Ystyriodd y grŵp faterion a ddarparwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn a chynllun adfer Llywodraeth y DU.

Cyflwyniad y Comisiynydd Pobl Hŷn

Dyma rai o'r cwestiynau a godwyd:

  • Sut y gellir gwneud y defnydd mwyaf o'r grŵp hwn yn ystod y cyfnod o newid?
  • Yr angen a’r galw am wasanaethau iechyd nawr a phan fydd cyfyngiadau yn cael eu codi. A yw gwerthoedd ac egwyddorion yn cael eu dilyn? Gellid darparu papur i'r Cwnsler Cyffredinol.
  • Mae dulliau cyfathrebu gwael wedi bod yn destun pryder ac mae angen eglurder ynghylch lle y gellir codi cwestiynau moesol a moesegol.
  • Materion yn ymwneud â gwahaniaethu ar gyfer unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig. Gallai'r grŵp hwn fod yn lle i godi’r materion hyn ac i weithio gyda'r Comisiwn Hawliau Dynol.
  • Dylai'r grŵp hwn ystyried ei rôl a'i gylch gwaith a chysylltu ag amrywiaeth o gyrff eraill. A fyddai angen ystyried gofal cymdeithasol hefyd?
  • Roedd y trafodaethau grŵp yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
  • Morbidrwydd yn nodwedd benodol ar ôl COVID-19. Gallu hirdymor gweithwyr proffesiynol meddygol i ymdopi yn risg
  • Galar heb ei ddatrys yn dod i’r amlwg ar ffurf ofn mewn plant. Mae angen ystyried defnyddio grwpiau cymunedol sydd â phrofiad i roi cymorth i’r unigolion hyn er mwyn atal cenhedlaeth rhag cael ei heffeithio.
  • A oes angen Grŵp Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y GIG yng Nghymru?
  • Angen monitro sut yr adroddir ar farwolaethau.
  • A allai'r grŵp hwn newid (dros amser) i fod yn Fwrdd Moeseg ar gyfer Cymru, yn debyg i gyrff cenedlaethol eraill. Byddai'n ymdrin i ddechrau, yn amlwg, â materion yn ymwneud â COVID-19
  • Mae angen newid y geiriad o ‘agored i niwed’ i ‘gwerthfawr’. Gall anghydraddoldeb achosi i rywun fod yn agored i niwed ond nid yw pobl yn agored i niwed yn naturiol.
  • Ystyried ein gwerthoedd a beth yw ein blaenoriaethau fel gwlad. Mae negeseuon cyhoeddus yn bwysig iawn hefyd. Mae angen dulliau cyfathrebu rhagweithiol.
  • Gall crynhoi materion ac achosion unigol fod yn dasg anodd gan nad yw'r adnoddau perthnasol gan y trydydd sector. Mae angen ystyried cyngor ac eiriolaeth.
  • Angen cyffredinol ehangach i fyfyrio, cofio, dangos pryder am yr amgylchedd a sicrhau mwy o gyfiawnder cymdeithasol. Mae cymunedau yn awyddus i gael trafodaethau yn seiliedig ar werth ynglŷn â'r dyfodol. Mae grwpiau ffydd yn dechrau ystyried hyn.
  • Gallai'r grŵp hwn hyrwyddo materion anghydraddoldeb a chynnwys y safbwyntiau hyn ym maes iechyd.
  • Mae gofal cymdeithasol ar wahân ar hyn o bryd. Angen ystyried a oes modd dod â’r materion hyn ynghyd.
  • Gallai'r grŵp helpu i wthio agenda i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd, y system iechyd a’r Llywodraeth.
  • Mae Prif Swyddogion Gweithredol y byrddau iechyd yn ystyried sefyllfaoedd niweidiol posibl, gan gynnwys COVID-19, y GIG yn cael ei orlethu, marwolaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 a niwed i grwpiau agored i niwed.
  • Mae angen dull er mwyn i'r GIG ystyried sut i newid y ffordd y mae pobl yn defnyddio'r system. Bydd canolfannau ffydd, y trydydd sector, Parciau Cenedlaethol a sefydliadau gofal yn y gymuned yn chwarae rhan anferth.
  • Mae angen ystyried pa mor gyson yw defnydd y gwasanaeth iechyd o’r canllawiau moesol a moesegol.

Diolchodd y grŵp i'r Comisiynydd Pobl Hŷn am y papur. Cytunwyd y dylid defnyddio'r papur trafodaeth, wedi’i olygu yn seiliedig ar y drafodaeth yn ystod y cyfarfod, a'i roi i'r Cwnsler Cyffredinol, sy’n casglu barn ar hyn o bryd ar adferiad Cymru. Gellir cyflwyno sylwadau yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol - cymrurdyfodol@llyw.cymru

 

5. Unrhyw fater arall – blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol

Oherwydd natur a chyflymder y gwaith, cynhelir y cyfarfod nesaf ar 21 Mai.

Cyfeiriodd yr aelodau at yr angen i drafod ystyriaethau moesegol mewn perthynas â’r ap olrhain symptomau COVID-19. Cytunwyd y byddai'n cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Mynegwyd pryder ynghylch ymweld â chartrefi gofal. Gofynnwyd i'r holl aelodau ystyried hyn ac adrodd yn ôl yn ystod y cyfarfod nesaf.