Cylch gorchwyl
Crynodeb o bwrpas y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach.
Rôl a diben
Bydd y Grŵp Ymgynghori ar Bolisi Masnach yn rhoi cyngor arbenigol i’r Gweinidog yr Economi ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ar faterion polisi masnach ac yn helpu i lywio safbwynt Llywodraeth Cymru. Heblaw am nodi materion a godir mewn trafodaethau, ni fydd y Grŵp yn gyfrifol am faterion gweithredol, er enghraifft materion sy’n ymwneud â chefnogi allforwyr. Rôl cynghori fydd gan y Grŵp, yn hytrach na rôl gwneud penderfyniadau.
Aelodaeth
Bydd gan y Grŵp 10 i 15 o unigolion yn aelodau ohono i fynegi barn cymunedau busnes, y gymdeithas sifil ac undebau llafur o bob rhan o Gymru. Bydd gan y panel aelodau craidd a chaiff aelodau ychwanegol eu cyfethol yn ôl y gofyn, gan ddibynnu ar y pwnc trafod.
Caiff aelodau eu recriwtio trwy ddull y cytunir arno gan y Gweinidog yr Economi.
Bydd y Gweinidog yr Economi yn cadeirio’r Grŵp o leiaf unwaith bob blwyddyn, gyda’r Pennaeth Polisi Masnach yn cadeirio’r Grŵp bob amser arall.
Bydd y Cadeirydd yn cael gwahodd aelodau ychwanegol ag arbenigedd penodol i ymuno â’r Grŵp o dro i dro i gryfhau arbenigedd y Grŵp. Bydd y Cadeirydd yn cael sefydlu is-grwpiau hefyd wedi’u tynnu o aelodau’r Grŵp i ystyried materion penodol yn fanylach.
Bydd gofyn i aelodau fynd i gyfarfodydd yn rheolaidd, cyfrannu’n egnïol at drafodaethau, bod yn rhan o’r paratoadau ar gyfer cyfarfodydd, ac archwilio a chynnig sylwadau ar y dogfennau sy’n destun trafod.
Ni fydd tâl i aelodau ond ad-delir costau teithio a chynhaliaeth rhesymol iddynt yn unol â pholisi cyfredol Llywodraeth Cymru.
Caiff yr aelodaeth ei hadolygu o dro i dro.
Cylch cyfarfodydd
Bydd y Grŵp yn cyfarfod yn ôl y gofyn, ond disgwylir iddo gwrdd o leiaf dair gwaith y flwyddyn.
Swyddogion o’r is-adran Polisi Masnach fydd yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddol i’r Grŵp.
Bydd Llywodraeth Cymru’n cael diddymu’r Grŵp unrhyw bryd.
Adroddiadau
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi crynodeb o’r drafodaeth a geir ym mhob cyfarfod, ac ar ôl cytuno arno, caiff ei gyhoeddi ar dudalennau Polisi Masnach gwefan Llywodraeth Cymru.