Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar y rhesymeg dros y Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan i Gymru.

Senedd Cymru oedd y Senedd gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae hefyd wedi datgan argyfwng natur. Symud i ffwrdd oddi wrth danwydd ffosil cyn gynted â phosibl a llywio gwaith rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy a natur-bositif yw dwy her ein hoes. 

Mae Cymru wedi ymrwymo i fod yn gyfrifol yn fyd-eang drwy gynnal digon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ei hanghenion trydan ei hun o leiaf erbyn 2035. Ers degawd mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at yr angen am fwy o seilwaith trydan yng Nghymru i gefnogi'r uchelgais hwn. Mae hyn yn seiliedig ar anghenion pobl yng Nghymru, sydd wedi cysylltu â'u cynrychiolwyr etholedig ar bynciau gan gynnwys diffyg dibynadwyedd y cyflenwad pŵer mewn ardaloedd gwledig ac mewn trefi a dinasoedd mwy, yn ogystal ag adborth cyson gan y sector ynni am ddiffyg argaeledd neu amseroedd arwain hir ar gyfer cysylltiadau grid newydd, sy'n golygu bod eu prosiectau'n edrych yn anghyraeddadwy. Mae tystiolaeth dda o ran yr angen i fusnesau ehangu a chael cysylltiadau galw mwy wrth iddynt symud oddi wrth danwydd ffosil i drydan. 

Ar hyn o bryd mae cynigion ar gyfer grid newydd yn cael eu hysgogi gan gwmnïau unigol neu unigolion. Pan fo'r grid mor gyfyngedig ag ydyw yng Nghymru, mae cynigion newydd yn aml yn sbarduno'r angen am waith uwchraddio sylweddol a allai fod yn anfforddiadwy i unrhyw unigolyn neu sefydliad, gan adael prosiectau ar stop. Mae'r dull hwn yn dameidiog ac mae'n annhebygol o feddwl am yr ateb mwyaf effeithiol ar gyfer anghenion y grid yn y dyfodol, a ddylai gael ei ddylunio i ddefnyddio cyn lleied â phosibl o seilwaith. Mae arnom angen dull wedi'i gynllunio a all leihau unrhyw effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd negyddol canfyddedig seilwaith newydd cyn belled ag y bo modd, gan ganiatáu i bobl a natur yng Nghymru ffynnu yn y tymor hir.

Yn 2023 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaeth a oedd yn darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer anghenion trydan yn y dyfodol, ac felly ar gyfer rhwydweithiau newydd. Roedd adroddiadau Gridiau Ynni'r Dyfodol i Gymru yn glir ynghylch yr angen i fuddsoddi mewn rhwydweithiau trosglwyddo a dosbarthu. Mae ein gwaith ar gynllunio ynni lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wedi'i ddylunio i roi llawer mwy o eglurder ynghylch lle a phryd yn union y bydd angen y rhwydweithiau newydd hyn. 

Mae'r angen am fuddsoddiad newydd a chynllun bellach yn cael ei gydnabod ar lefel y DU, gyda Gweithredwr y System Ynni yn gyfrifol am ddatblygu Cynllun Ynni Strategol Gofodol a chynllun rhwydwaith strategol sy'n deillio o hynny. 

Mae Cymru yn rhan bwysig o'r system ynni ym Mhrydain Fawr. Hyd yn hyn rydym wedi bod yn allforiwr net o ynni, yn bennaf oherwydd y generaduron tanwydd ffosil sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Mae trydan yn llifo rhwng Iwerddon a Lloegr ar draws Cymru ac rydym hefyd yn cynnal safle mawr i nwy naturiol ddod i mewn i Brydain Fawr. 

Yr angen am grŵp annibynnol 

Ein prif ysgogiad ar gyfer rheoli seilwaith ynni newydd yw drwy ein pwerau datganoledig o dan Bolisi Cynllunio. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chynrychiolwyr o bob sector a rhanbarth yng Nghymru i ddatblygu set o egwyddorion ar gyfer datblygu'r grid. Bydd y rhain yn seiliedig ar fframwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddant yn ystyried gofynion y gymuned, effaith amgylcheddol, effaith weledol, cost a chyfyngiadau technegol. Ein bwriad yw ystyried yr egwyddorion arfaethedig ar gyfer eu hymgorffori ym Mholisi Cynllunio Cymru. 

Byddai angen i gynigion ar gyfer llinellau trydan newydd fodloni'r egwyddorion hyn os ydynt am gael cymorth gan Lywodraeth Cymru. 

Mae'r grŵp cynghori annibynnol ar grid trydan y dyfodol i Gymru yn cael ei ffurfio i ddatblygu'r gwaith hanfodol i feithrin dealltwriaeth o'r dulliau posibl o ddarparu seilwaith grid trydan. 

Bydd y grŵp yn helpu Gweinidogion i feithrin dealltwriaeth o effeithiau a chostau'r amrywiol opsiynau, gan ystyried maint llawn yr effeithiau hynny a meithrin y ddealltwriaeth ddyfnach honno o'r dulliau posibl o gyflawni'r gwaith ehangu seilwaith angenrheidiol. Bydd y grŵp yn creu sylfaen dystiolaeth gyhoeddus ac yn dyfeisio cyfres o egwyddorion i gefnogi gwaith datblygu'r atebion mwyaf priodol i Gymru. 

Trwy'r dull hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru sydd â'r seilwaith sydd ei angen arni ar gyfer y dyfodol, wedi'i ddarparu yn y lle iawn, mewn modd sy'n rheoli costau ac effeithiau yng Nghymru, gan sicrhau y gall Cymru barhau i ffynnu yn y tymor hir.