Neidio i'r prif gynnwy

Y Grŵp Cynghori Annibynnol Grid Trydan y Dyfodol i Gymr a sut y bydd yn gweithio

Diben

Diben y grŵp yw meithrin dealltwriaeth o'r dulliau posibl o ddarparu seilwaith trydan, creu sylfaen dystiolaeth gyhoeddus a llunio cyfres o egwyddorion y cytunwyd arnynt ar gyfer penderfynu ar yr atebion mwyaf priodol i Gymru.

Bydd y grŵp yn gwneud y canlynol:

  • Adolygu seilwaith a chapasiti'r grid trydan presennol yng Nghymru.
  • Ystyried yr heriau a'r cyfleoedd lefel uchel sy'n gysylltiedig â grid trydan y dyfodol a chyflymder y ddarpariaeth sydd ei hangen i gyrraedd targedau sero net Llywodraeth Cymru.
  • Ymgysylltu ag arbenigwyr technegol i ledaenu gwybodaeth berthnasol i aelodau o amrywiaeth o randdeiliaid ledled Cymru.
  • Adolygu gwybodaeth a chyflwyno'r wybodaeth bresennol i'w hadolygu, sy'n berthnasol i ddiben y grŵp.
  • Creu sylfaen dystiolaeth hygyrch am anghenion Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys cost, effeithiau a manteision gwahanol ddulliau o adeiladu seilwaith grid.  
  • Adeiladu consensws ar set o egwyddorion ymarferol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer datblygu grid trydan yng Nghymru, gan ystyried persbectif y cyhoedd a'r gymuned, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, yr amgylchedd a llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd canfyddiadau'r grŵp yn cael eu defnyddio fel sylfaen gyfeirio i lywio polisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith cludo trydan. Byddant yn cael eu cyhoeddi a'u cyfleu'n rhagweithiol i gynulleidfa eang. Bydd y gwaith yn sylfaen gyfeirio ar gyfer polisi a chynllunio mewn perthynas â seilwaith trydan derbyniol yng Nghymru.

Aelodaeth

Bydd y Grŵp yn cynnwys arbenigwyr o wahanol feysydd gan gynnwys ynni, peirianneg, gwyddor amgylcheddol, economeg, buddiant cymunedol a pholisi. Cadeirydd annibynnol fydd yn cadeirio'r cyfarfodydd, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu ysgrifenyddiaeth. Gwahoddwyd aelodau yn seiliedig ar eu harbenigedd, cysylltiadau cymunedol neu fuddiant. Ni ddylid dirprwyo presenoldeb heb gytundeb y cadeirydd.

Amseru

Bydd y grŵp yn cyfarfod yn fisol gan ddechrau ym mis Mehefin 2024 a bydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2024. 

Trefniadau gwaith ac atebolrwydd

The group will be a collaborative enabling forum.

Bydd y grŵp yn fforwm galluogi cydweithredol.

Caiff y cyfarfodydd eu trefnu gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys paratoi agendâu, casglu papurau ategol a pharatoi nodiadau cyfarfod. Bydd aelodau'r grŵp yn cytuno ar agenda a phynciau ffocws. Bydd unrhyw wybodaeth a anfonir fel papurau trafod yn cael ei rhannu'n gyfrinachol ac ni ddylid ei rhannu ag eraill heb gytundeb ymlaen llaw gan y cadeirydd a'r ysgrifenyddiaeth. 

Dylid darparu diweddariadau a chyfraniadau at ddogfennau cyfarfodydd mewn pryd er mwyn caniatáu i bapurau gael eu dosbarthu wythnos cyn y cyfarfod perthnasol.

Mae'r aelodau'n cytuno i fynychu cyfarfodydd misol, a fydd yn rhithiol hyd nes y cytunir yn wahanol. Bydd rheoleidd-dra cyfarfodydd yn cael ei adolygu wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Bydd cyfarfodydd ychwanegol i drafod pynciau penodol hefyd yn opsiwn. 

Gellir ffurfio is-grwpiau i gefnogi gwaith y grŵp hwn. 

Gellir gwahodd sefydliadau neu unigolion perthnasol i ymuno â chyfarfodydd penodol i ddarparu gwybodaeth dechnegol arbenigol. Gwneir hyn drwy gytundeb y grŵp hwn neu drwy argymhelliad y Cadeirydd. 

Cyfathrebu

Diben yr adolygiad yw darparu sylfaen dystiolaeth hygyrch i gefnogi'r broses o ymgysylltu â'r cyhoedd a gwneud penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru. Felly, bydd tystiolaeth, papurau a chyflwyniadau arbenigol a ddaw i law'r grŵp, yn amodol ar eu cwblhau'n derfynol gan y ffynhonnell, yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd modd priodoli'r dystiolaeth, fel sail ar gyfer casgliadau ac argymhellion, i'w ffynhonnell.

Fodd bynnag, bydd trafodaethau yn y grŵp yn cael eu cynnal yn gyfrinachol. Bydd canlyniad terfynol y trafodaethau yn cael ei gytuno gyda Llywodraeth Cymru cyn ei gyhoeddi. 

Diwygio, addasu neu amrywio

Caniateir i'r Cylch Gorchwyl hwn gael ei ddiwygio, ei amrywio neu ei addasu yn ysgrifenedig ar ôl ymgynghori, fel y cytunwyd gan yr aelodau. Gall y cynrychiolwyr a enwir o sefydliadau newid.