Grŵp Cyflawni Rhanddeiliaid Coed a Gwrychoedd: cylch gorchwyl
Mae’r Grŵp Cyflawni Rhanddeiliaid Coed a Gwrychoedd yn grŵp gwirfoddol sy’n rhoi cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rôl y Grŵp
Grŵp cyflawni / cynghori ar y cyd yw hwn. Mae'n grŵp gwirfoddol sy'n rhoi cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru ar gyflawni targedau ar gyfer plannu coed a chreu gwrychoedd/perthi yng Nghymru, wedi'u cydbwyso yn erbyn amcanion allweddol eraill o ran defnyddio tir ac amcanion economaidd-gymdeithasol a diwylliannol ehangach. Bydd y grŵp hefyd yn ystyried dulliau o gynnal a rheoli coed a gwrychoedd yn barhaus fel elfennau allweddol o gyfalaf naturiol Cymru. Mae'r aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o'r llywodraeth, y diwydiant ffermio, y sector coedwigaeth, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, y gymuned wyddonol, a pherchnogion tir mawr eraill.
Dyma rôl y Grŵp Cyflawni i Randdeiliaid ar gyfer Coed a Gwrychoedd:
- Cefnogi gwaith datblygu targedau ar lefel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) ar gyfer plannu coed a chreu gwrychoedd a'r adnoddau i'w cyflawni, gan alluogi trafodaeth yn Ford Gron Weinidogol yr SFS a phenderfyniad gan Weinidogion Cymru.
- Cefnogi gwell dealltwriaeth ar draws y sector o ddiben a gwerth targedau ar lefel y cynllun drwy egluro a hyrwyddo manteision lluosog coed a gwrychoedd ar gyfer y fferm a'r amgylchedd.
- Rhoi cyngor ar daflwybrau blynyddol ar gyfer plannu coed a chreu gwrychoedd i gefnogi targedau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys tir yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a'r tu allan iddo.
- Monitro cynnydd yn erbyn y taflwybrau blynyddol, gan wneud argymhellion ar gyfer gweithredu os nad yw'r ddarpariaeth ar y trywydd iawn.
- Adolygu a datblygu dealltwriaeth gyffredin o'r rhwystrau i blannu a chymhellion ar gyfer plannu, a gwneud argymhellion ar gamau i'w gwneud yn opsiwn deniadol a dichonadwy ar ffermydd Cymru, yn ogystal ag yn haws ac yn gyflymach i berchnogion tir a rheolwyr blannu coed a gwrychoedd.
- Nodi camau i newid y naratif ar integreiddio coed a gwrychoedd ar ffermydd – gan gydnabod y manteision lluosog y gallant eu cael i fusnesau fferm a'r amgylchedd.
- Ystyried dulliau o sicrhau bod coed a gwrychoedd yng Nghymru yn cael eu cynnal a'u rheoli'n barhaus mewn ffordd sy'n gwneud y mwyaf o fanteision lluosog yr adnoddau naturiol hynny.
I ddechrau, bydd y ffocws ar y cyfnod rhwng 2025 a 2030, ond gyda chylch gwaith y grŵp yn ehangu i ganolbwyntio ar y cyfnod rhwng 2030-2050 dros amser.
Bydd y grŵp yn cael data cyfanredol ar blannu coed a chreu gwrychoedd, gwariant Llywodraeth Cymru ar gefnogi gwaith plannu coed a chreu gwrychoedd a dadansoddiadau eraill i lywio eu gwaith. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cyfraddau plannu a manylion ar wariant ar hyn o bryd ac yn flynyddol wedi hynny, gan sicrhau bod y cynnydd a wneir yn cael ei weld yn llawn.
Aelodau’r Grŵp
Bydd y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan Naomi Matthiessen, Dirprwy Gyfarwyddwr Tirweddau, Natur a Choedwigaeth.
Dyma aelodau arfaethedig y grŵp:
Sefydliadau Cynrychioliadol
- Confor
- Coed Cadw – Woodland Trust
- Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
- Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (NFU Cymru)
- Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA Cymru)
- Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur (NFFN)
- Ymddiriedolaeth Natur Cymru
- Cymdeithas y Pridd
- Llais y Goedwig
- Dŵr Cymru
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- World Wildlife Fund (WWF)
- Forest Research
- Cynrychiolydd Tirweddau Dynodedig Gwarchodedig
- Arbenigwr gwrychoedd
- Llywodraeth Cymru
Dirprwyon
Dylai sefydliadau anelu at sicrhau cysondeb o ran presenoldeb ond gallant anfon dirprwy gyda chytundeb y Cadeirydd.
Arsylwyr
Gellir gwahodd arsylwyr/cyflwynwyr penodol i gyfarfodydd penodol o'r grŵp os oes angen hynny ar gyfer yr agenda.
Gweithrediad y Grŵp
Bydd y Grŵp yn cynnal cyfarfodydd hybrid gyda'r opsiwn o bresenoldeb wyneb yn wyneb a dros Teams.
Bydd y Grŵp yn cyfarfod ddwywaith y mis tan ganol mis Mawrth 2025, ac ar yr adeg honno bydd pa mor rheolaidd y cynhelir cyfarfodydd yn cael ei adolygu. Rhagwelir yr angen am gyfarfodydd cymharol aml i ddechrau oherwydd y gwaith sylweddol sy'n gysylltiedig â datblygu manylion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy mewn perthynas â choed a gwrychoedd.
Bydd y Grŵp yn rhan allweddol o drefniadau llywodraethu Polisi Coed a Choedwigaeth Llywodraeth Cymru a bydd yn adrodd i'r Bwrdd Diwygio Coedwigaeth mewnol. Bydd gan y Grŵp linell adrodd hefyd i Ford Gron Weinidogol yr SFS ar gyfer pob elfen o'u cylch gwaith sy'n ymwneud â dylunio a gweithredu'r cynllun SFS.
Bydd dyletswyddau ysgrifenyddiaeth yn cael eu darparu gan Dîm Polisi Coed a Choedwigaeth Llywodraeth Cymru.
Blaenoriaethau ac allbynnau ar gyfer y 3 mis cyntaf
Yn ystod y tri mis cyntaf o weithredu, bydd y Grŵp yn canolbwyntio ar y camau allweddol canlynol:
- Cytuno ar ddull gweithredu o ran targedau ar lefel cynllun ar gyfer coed a gwrychoedd i'w cyflwyno i'r Dirprwy Brif Weinidog
- Diffinio graddfa a chwmpas y cynllun cyfle a'r cysylltiadau i geisiadau grant i'w cytuno drwy'r Bwrdd Diwygio Coedwigaeth a Bord Gron yr SFS
- Argymell haenau sensitifedd i gefnogi'r cynllun cyfle, gan gynnwys unrhyw rai sydd angen eu diweddaru, i'w cymeradwyo gan y Dirprwy Brif Weinidog
- Dechrau datblygu'r broses a strwythur cymorth ar gyfer cwblhau'r cynllun, gan gynnwys canllawiau a chyngor i'w cytuno drwy'r Bwrdd Diwygio Coedwigaeth a Bord Gron yr SFS.
Gwybodaeth gefndir
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru am gefnogi'r gwaith o blannu ystod eang o goed a chreu gwrychoedd er mwyn sicrhau manteision lluosog, o goed a gwrychoedd sy'n ychwanegu gwerth i fusnesau fferm, i goetiroedd a fydd yn darparu cynefin newydd gwerthfawr ac yn lliniaru effeithiau llifogydd, a'r cyfan yn cloi carbon o'r atmosffer, gan helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol ar gyfer creu coetiroedd a gwrychoedd newydd:
- Strategaeth Coetiroedd i Gymru (2018): rydym am i orchudd coetir gynyddu o leiaf 2000 hectar y flwyddyn rhwng 2020 a 2030 a thu hwnt
- Adroddiad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC) “Y Llwybr i Gymru Sero Net” (2020): angen creu 43,000 hectar o goetir erbyn 2030 a 180,000 hectar erbyn 2050 – gan gynyddu gorchudd coetir o 15% i 24% erbyn 2050.
- Adroddiad Cynnydd y CCC (2023): Cynnal a gwella cymhellion i gefnogi amaeth-goedwigaeth a gwrychoedd yn nhirwedd ffermio Cymru yn ystod y cyfnod pontio i’r fframwaith ôl-PAC newydd. Plannu coed ar 2% o dir fferm erbyn 2025 gan gynnal ei brif ddefnydd, gan godi i 5% erbyn 2035, ac ymestyn gwrychoedd 20% erbyn 2035 a rheoli gwrychoedd presennol yn well.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni'r Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy a nodir yn Neddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023. Mae gan Gymru ymrwymiadau sylweddol hefyd mewn perthynas â'r argyfwng natur a bioamrywiaeth o dan y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang a thrwy Fil yr Amgylchedd (Llywodraethant, Egwyddorion a Thargedau Bioamrywiaeth) sydd ar ddod. O'i wneud yn y ffordd iawn, gall plannu coed a chreu gwrychoedd gefnogi'r holl amcanion a'r ymrwymiadau hyn mewn modd cadarnhaol.
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn plannu tua 700ha y flwyddyn ar gyfartaledd ac mae gennym 40,000ha arall o blannu i'w gyflawni yn y 5 mlynedd nesaf i gyrraedd targed y CCC ar gyfer 2030. Yn yr un modd, mae targedau heriol ar draws gwledydd y DU ac mae Tasglu Coed newydd y DU yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gydweithio i gynyddu cyfraddau plannu coed.
Sefydlwyd yr Archwiliad Dwfn i Goed a Phren yn gynnar yn haf 2021 i nodi a mynd i'r afael â rhwystrau i blannu coed, gan gyhoeddi ei argymhellion ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno. Mae nifer o'r argymhellion wedi cael eu cwblhau neu wrthi’n cael eu cwblhau.
Bydd y Cynllun Cyflawni Coed a Choedwigaeth, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, yn adeiladu ar argymhellion yr Archwiliad Dwfn a gwaith y Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon ac yn blaenoriaethu camau gweithredu i gynyddu lefelau plannu coed.
Mae angen sefydlu taflwybrau ar gyfer plannu coed a chreu gwrychoedd rhwng nawr a 2030, yn seiliedig ar asesiad realistig o botensial plannu coed / creu gwrychoedd. Mae angen blaenoriaethu ymdrechion er mwyn cyflawni cymaint o blannu a chreu gwrychoedd â phosibl tuag at darged y CCC erbyn 2030, gan gydbwyso ag amcanion eraill o ran defnyddio tir ac amcanion economaidd-gymdeithasol a diwylliannol ehangach.
Fel y sector mwyaf o berchnogion tir, ffermwyr sydd â'r rôl fwyaf sylweddol i'w chwarae o ran cefnogi plannu coed a chreu gwrychoedd yng Nghymru. Yn hanesyddol nid yw perchnogion tir eraill, fel elusennau a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, wedi cael gafael ar gyllid grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru i greu coetir. Gan gydnabod hyn, mae angen i ymdrechion ganolbwyntio ar alluogi a chymell ffermwyr i blannu coed a gwrychoedd, gan hefyd ymgysylltu ag ystod ehangach o sefydliadau o ran plannu coed a chreu gwrychoedd mewn modd sydd wedi'i flaenoriaethu – gan ganolbwyntio ar y perchnogion tir hynny y tu hwnt i ffermwyr lle mae'r cyfleoedd mwyaf sylweddol yn bodoli.
Ym mis Mai 2024 cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog, sydd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, ei fod yn sefydlu Bord Gron Weinidogol yr SFS. Mae cynrychiolaeth eang o'r diwydiant ffermio, ffermwyr, y gadwyn gyflenwi ehangach, a'r sectorau milfeddygol, natur, coedwigaeth a bwyd ar y Ford Gron. Diben y grŵp yw datblygu ymhellach y dull partneriaeth sydd ei angen i gwblhau dyluniad a gweithrediad yr SFS, gan adeiladu ar gamau blaenorol o gydlunio ac ymgysylltu. Bydd mewnbwn o'r Ford Gron yn helpu i lywio opsiynau cyn i Weinidogion Cymru lunio cynllun terfynol a gweithredu penderfyniadau.
Mae dau is-grŵp, sef Gweithgor Swyddogion a'r Panel Adolygu Tystiolaeth ar Atafaelu Carbon (a elwir o hyn ymlaen yn “Panel Carbon”), yn helpu'r Ford Gron.
Mae'r Panel Carbon hwn yn drawstoriad cynrychioliadol o aelodau'r Ford Gron ac fe'i sefydlwyd i archwilio'r dystiolaeth sy'n sail i gamau pellach neu amgen i atafaelu carbon o fewn Haen Gyffredinol y Cynllun.
Mae'r Panel Carbon wedi archwilio'r Gweithredoedd posibl, y sylfaen dystiolaeth, maint y cyfle i bob Gweithred gael ei gwneud ledled Cymru, gan gynnwys yr ystyriaethau ymarferol ar lefel fferm ar gyfer plannu coed a chreu gwrychoedd.
Roedd y Panel Carbon yn cydnabod gwerth mwy o goed a gwrychoedd, yn unol â dull 'y goeden iawn, yn y lle iawn', a chyflwynodd gyfres o argymhellion i gefnogi'r gwaith o blannu mwy o goed a chreu gwrychoedd ar ffermydd Cymru. Roedd hyn yn cynnwys yn yr SFS ac mewn polisïau ehangach, y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â phlannu coed ar ffermydd Cymru – h.y. y rhwystrau sydd, ar hyn o bryd, yn cyfrannu at fethu â chyrraedd targedau plannu coed. Rydym yn rhag-weld y bydd gwaith y Grŵp Cyflawni i Randdeiliaid ar gyfer Coed a Gwrychoedd yn ystyried sut i weithredu argymhellion y Panel Carbon pan fo hynny'n briodol.