Neidio i'r prif gynnwy
Llun o Rachel Sharp

Mae Rachel wedi bod yn bennaeth ar Ymddiriedolaethau Natur Cymru ers 2011.

Ymddiriedolaethau Natur Cymru yw'r corff sy’n cynrychioli chwe ymddiriedolaeth natur leol Cymru sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu bywyd gwyllt. Mae gan WTW dros 23,000 o aelodau ac mae’n gyfrifol am 216 o warchodfeydd natur. Mae’n ymgyrchu ar lefel leol, Cymru a’r DU dros fesurau gwell i warchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd yng Nghymru.

Mae gan Rachel BSc o Brifysgol Llundain (Birbeck) mewn Rheoli’r Amgylchedd ac roedd yn bennaeth ar Ymddiriedolaeth Natur Brycheiniog am bron 3 blynedd cyn mynd yn bennaeth ar WTW.

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae hi wedi bod yn gynghorydd allanol i gyrff amrywiol gan gynnwys Dolen Amgylchedd Cymru – y corff ymbarél dros fudiadau anllywodraethol yr amgylchedd a chefn gwlad yng Nghymru – ac yn aelod grŵp o Banel Cynghori Annibynnol Dŵr Cymru ar yr Amgylchedd.