Dulliau gweithio
Yr egwyddorion a’r dulliau gweithio a ddylai lywio gwaith y grŵp cyfeirio.
Cynnwys
Sefydlwyd y grŵp cyfeirio gan y Prif Weinidog i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â datblygu pwerdy niwclear Hinkley Point C.
Diben y grŵp yn ôl ei gylch gorchwyl yw:
mynegi barn rhanddeiliaid wrth Weinidogion, yn ôl y gofyn, am faterion sy’n codi o brosiect Hinkley Point C sy’n berthnasol i Gymru ac i bobl Cymru a sicrhau lles unigolion a’r gymuned trwy leihau niwed i bobl a’r amgylchedd.
Mae’r cylch gorchwyl yn esbonio hefyd y bydd y grŵp yn cwrdd yn ôl y gofyn. Er hwyluso hyn, mae slotiau misol wedi’u trefnu i’r grŵp gael cwrdd trwy Microsoft Teams. Mater i’r grŵp fydd penderfynu a fydd angen y slotiau hyn arno.
Bydd bod yn dryloyw ac yn hygyrch yn egwyddorion sylfaenol i’r grŵp, ynghyd ag ymrwymiad i gyfrinachedd ynghylch cyfraniadau unigolion.
Tryloyw a hygyrch
Bydd unigolion yn gallu cysylltu â’r grŵp trwy ei gyfeiriad e-bost GrwpHinkley@llyw.cymru. Nodir y cyfeiriad ar wefan y grŵp. Caiff agenda pob cyfarfod ei gyhoeddi ar y wefan cyn pob cyfarfod ynghyd â nodyn byr o’r materion a drafodwyd.
Tynnir sylw aelodau at yr ohebiaeth a’r sylwadau fydd wedi dod i law. Gwneir hynny fel arfer yn y cyfarfod ond gellid gwneud hynny’n uniongyrchol os bydd angen.
Mae croeso i aelodau gyfeirio’n gyffredinol at waith y grŵp ond dylid holi’r cadeirydd cyn gwneud datganiadau ffurfiol.
Mae’r aelodau wedi’u penodi fel unigolion ac oherwydd eu harbenigeddau. Nid ydynt wedi’u penodi i gynrychioli sefydliadau. Mater i’r aelod fydd penderfynu a yw mater sy’n codi o drafodaethau’r grŵp yn creu gwrthdaro buddiannau iddo. Os bydd gwrthdaro o’r fath, dylid ei ddatgan a dylid cytuno â’r cadeirydd ar drefniadau ar gyfer rheoli’r gwrthdaro hwnnw.
Gan fod aelodau wedi’u penodi oherwydd eu harbenigeddau, nid oes angen eilyddion. Mae croeso i aelodau gyflwyno cyfraniadau ysgrifenedig ar gyfer y cyfarfodydd nad ydynt yn gallu bod yn bresennol ynddynt.
Cyfrinachedd
Er mwyn sbarduno’r drafodaeth ehangaf bosibl, dylai’r rheini sy’n cymryd rhan gadw trafodaethau’r grŵp yn gyfrinachol. Er y caiff nodyn byr o’r trafodaethau ei gyhoeddi, ni fydd yn tynnu sylw at y farn a fynegir gan aelodau unigol.
Caiff unrhyw gyngor a roddir gan y grŵp i Weinidogion ei gyhoeddi. Gofynnir i aelodau beidio â chyfeirio at y cyngor hwnnw ar goedd cyn ei gyhoeddi. Ni ddylai hynny serch hynny eu rhwystro rhag rhoi eu sylw neu eu cyngor eu hunain ar y materion hynny.
Mae croeso i aelodau sôn am waith y grŵp wrth grwpiau rhanddeiliaid ehangach ond dylai cyfeiriadau o’r fath ganolbwyntio ar nodiadau’r cyfarfodydd a deunydd arall sydd wedi’i gyhoeddi.
Trefnu
Rhag torri ar draws rôl apeliadol Gweinidogion Cymru o ran trefniadau caniatáu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), os bydd gan aelodau’r grŵp ymholiadau i Lywodraeth Cymru neu CNC am waith y grŵp, dylent eu cyflwyno trwy’r Ysgrifenyddiaeth. Os bydd yr ymholiadau’n codi materion sensitif, dylid eu trafod â’r cadeirydd.
Bydd y grŵp yn cadw golwg ar y dulliau gweithio hyn wrth i’w waith fynd yn ei flaen.