Dr James Robinson Cyfarwyddwr Cadwraeth, Wildfowl & Wetlands Trust (WWT)
Mae’r Dr Robinson yn bencampwr brwd a llwyddiannus dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ac mae’n enwog am fynd â’r maen i’r wal ac arwain timau uchel eu perfformiad.
Mae’n ymroi i ddiogelu ac adfer ein byd naturiol a’r bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal ac mae wedi seilio ei yrfa ar wella’i sgiliau, ei wybodaeth a’i brofiadau i gyflawni’r nod hwn.
Ef ar hyn o bryd yw Cyfarwyddwr Cadwraeth WWT, yn Slimbridge, Swydd Gaerloyw. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Dwyrain Lloegr, Pennaeth Polisi Natur, Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon a Rheolwr Cadwraeth Gogledd Iwerddon gyda’r RSPB; Pennaeth Uned Bioamrywiaeth Gwlypdiroedd WWT; Cynorthwy-ydd Ymchwil ym Mhrifysgol Durham a Darlithydd yng Ngholeg Bishop Burton. Enillodd BSc Anrhydedd mewn Gwyddorau Biolegol a PhD mewn ecoleg adar y môr, y ddwy ym Mhrifysgol Durham. Mae’n aelod o Fwrdd Rheoli WWT, gan gyfrannu at bynciau llosg o fewn yr Ymddiriedolaeth ac ysbrydoli staff a gwirfoddolwyr.
Sgiliau
- Arweinydd a rheolwr tîm mawr a gwasgaredig (220+ staff a nifer fawr o wirfoddolwyr), datblygu cerdyn sgorio cytbwys a diwygio’r sefydliad.
- Datblygu, arwain a rheoli cyllidebau (£15m+) a phrosiectau mawr
- Datblygu strategaeth gadwraeth a’i rhoi ar waith ar lefel byd, gwlad a rhanbarth.
- Rheoli a lliniaru risg.
- Datblygu timau hyfedrus a rheoli newid trwy ysbrydoli gwelliant ac arloesedd parhaus.
- Meithrin perthynas effeithiol â rhanddeiliaid pwysig a ffurfio partneriaethau sy’n cyflawni cydamcanion.
- Datblygu polisi ac eiriolaeth (y DU, Iwerddon, rhyngwladol)
- Caffael a rheoli tir ac eiddo
- Creu ac adfer cynefinoedd ar raddfa fawr, gan gynnwys addasu i’r newid yn yr hinsawdd.
- Rhoi cyngor ar gadwraeth, yn fewnol ac yn allanol.
- Datblygu a chynnal ymgyrchoedd.
- Cyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig a gweithredu fel llysgennad.
- Datblygu cynlluniau cadwraeth rhyngwladol a threfnu gweithdai rhyngwladol.
- Cynnal a chyhoeddi gwyddoniaeth ecolegol a chadwraethol.