Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cyfeirio Arbenigol Rhanddeiliaid a Grŵp Swyddogion Trawslywodraethol Mewnol Hinkley Point C.

Cyflwyniad

Fel ymateb i ymrwymiad y Prif Weinidog yn ei faniffesto i sefydlu Panel o Arbenigwyr i ystyried goblygiadau datblygu pwerdy niwclear yn Hinkley Point, Gwlad yr Haf i Gymru, rhoddir ystyriaeth isod i’r pwyntiau canlynol:

  • Cwmpas a Phwrpas,
  • Cylch Gorchwyl,
  • Aelodaeth Grŵp Cyfeirio’r Rhanddeiliaid (a’r Grŵp Swyddogion Trawslywodraethol Mewnol fydd yn gwasanaethu’r Grŵp Cyfeirio newydd),
  • Llywodraethu.

Cwmpas a phwrpas

Cynigir ein bod yn sefydlu Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid (SRG) fel cyfrwng i gyflwyno barn rhanddeiliaid i Weinidogion, i’w darparu ‘yn ôl y gofyn’, am ddatblygiad y pwerdy niwclear newydd yn Hinkley Point C.  Yn gyfochrog â’r Grŵp hwnnw, caiff Grŵp Swyddogion Trawslywodraethol Mewnol ei ffurfio i adlewyrchu a gwasanaethu’r SRG.

Cylch gorchwyl

Gan gyfeirio at yr uchod, bydd Cylch Gorchwyl yr SRG yn canolbwyntio ar y pwrpasau craidd canlynol (o’i gyfieithu):

Cyflwyno barn rhanddeiliaid i Weinidogion yn ôl y gofyn am faterion sy’n codi o brosiect Hinkley Point C sy’n berthnasol i Gymru a phobl Cymru, a gwella llesiant unigolion a chymunedau trwy leihau’r drwg i bobl a’r amgylchedd.

O fanylu, bydd yr SRG yn:

  • gweithredu fel grŵp anffurfiol ad hoc i gyflwyno barn rhanddeiliaid i Weinidogion am faterion allai fod yn berthnasol i Gymru yn sgil prosiect Hinkley Point.  Nid gwaith y Grŵp fydd cyflwyno argymhellion.
  • bydd ganddo aelodau’n cynrychioli ystod o arbenigeddau gan gynnwys academia, diwydiant, rheoleiddwyr, yr amgylchedd, iechyd a’r economi – rhoddir sylw arbennig i’r disgyblaethau hyn yng nghyd-destun Aber Hafren.
  • bydd yn gorff anstatudol fydd yn cwrdd ar sail ad hoc, gan ddibynnu pryd y bydd materion sydd angen eu trafod yn codi.
  • yn gyfochrog ag e, bydd Grŵp Swyddogion Trawslywodraethol mewnol i wasanaethu’r SRG ac i fwydo ffrwyth ei drafodaethau i Weinidogion.

Aelodaeth Grŵp Cyfeirio’r Rhanddeiliaid

Gan ddilyn yr ymagwedd a anogir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd yr SRG yn defnyddio’r 7 nod a’r 5 ffordd o weithio i’w lywio wrth ei waith.  Daw ei aelodau o blith cydbwysedd o ddisgyblaethau, heb yr un yn drech na’r lleill. 

Bydd yr SRG a’r Grŵp Swyddogion Trawslywodraethol mewnol yn adlewyrchu cydbwysedd sectorol rhwng academia, diwydiant a rheoleiddwyr i sicrhau bod materion yn cael eu hystyried o nifer o safbwyntiau.

Bydd aelodaeth yr SRG yn cynrychioli’r disgyblaethau craidd canlynol:

  • Yr Amgylchedd/Ecoleg, gydag arbenigedd yng nghyd-destun Aber Hafren
  • Peirianneg dŵr a sifil ac asesiadau o amgylchedd y dŵr yng nghyd-destun Aber Hafren
  • Economi/Economeg gymdeithasol yng nghyd-destun de-ddwyrain Cymru a thros y ffin i dde-orllewin Lloegr
  • Iechyd y cyhoedd
  • Cynhyrchu niwclear/ynni ar raddfa fawr
  • Sectorau a phrosesau rheoleiddio mewn cyd-destun trawsffiniol.

Grŵp Swyddogion Trawslywodraethol Mewnol

Cadeirydd – John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a Chynllunio (i’w gadarnhau)

Gydag aelodaeth o’r timau canlynol:

  • Yr Amgylchedd a Dŵr
  • Y Swyddfa Wyddoniaeth
  • Yr Economi – Rhanbarth y De-ddwyrain
  • Cynllunio a Rheoleiddio
  • Cynghorydd Ynni Gweinidogion Cymru

Llywodraethu

Cadeirydd

Jane Davidson, Dirprwy Is-Ganghellor Emeritws, Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Yn absenoldeb y Cadeirydd a benodwyd, bydd aelodau’r SRG yn cytuno ar un o’u plith i gadeirio.

Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd

Bydd cyfarfodydd yr SRG yn cael eu cynnal ad hoc gan ddibynnu a oes materion sydd angen eu trafod.  Disgwylir na fydd angen i’r Cadeirydd na’r aelodau neilltuo mwy na 2 ddiwrnod y mis o’u hamser i’r gwaith hwn.

Adroddiadau

Bydd disgwyl i Grŵp Swyddogion Trawslywodraethol mewnol rannu canlyniadau a thrafodaethau’r SRG â Gweinidogion.

Tâl

Ni fydd cadeirydd ac aelodau’r SRG yn cael eu talu (ac eithrio costau rhesymol).

Ysgrifenyddiaeth

Darperir y gwasanaethau ysgrifenyddol gan Lywodraeth Cymru.

Hyd

Bydd yr SRG yn gwasanaethu am gyfnod o 12 mis i ddechrau.