Neidio i'r prif gynnwy

Bywgraffiadau'r Grŵp Atebolrwydd Allanol.

Cynrychiolwyr amrywiaeth

Sabiha Azad

Mae Sabiha Azad yn gweithio i'r Comisiynydd Plant fel Swyddog Cyfranogi. Mae Sabiha yn gobeithio cyfrannu ei phrofiad bywyd ac ehangu profiadau amrywiol cymunedau ethnig lleiafrifol. Mae hi'n awyddus i gyflwyno newidiadau go iawn i greu Cymru wrth-hiliol yn hytrach na gwella gwybodaeth a gwneud ymrwymiadau tymor byr. 

Marilyn Bryan

Mae Marilyn Bryan wedi bod yn gweithio i hyrwyddo tegwch ar hyd ei hoes, ac mae ei rolau proffesiynol a gwirfoddol wedi tynnu sylw at wahaniaethu ac anghyfiawnder. Mae Marilyn o'r farn y dylid canolbwyntio ar atebion, ac mae'n ystyried ei hun yn was i'r Gymuned. Yn ei barn hi gall Cydweithredu, Cyfathrebu a Chydweithrediad fynd i'r afael â gwahaniaethu. 

Helal Uddin

Mae Helal Uddin yn Gyd-gyfarwyddwr ac yn Bennaeth Gwasanaethau a Phartneriaethau yn y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid. Mae Helal yn teimlo'n angerddol dros wneud Cymru yn lle gwell ac mae'n mwynhau pob her a phob mantais a ddaw yn sgil yr heriau hynny. Mae Helal yn teimlo mai braint yw cael gwasanaethu'r cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, a phobl Cymru, a bod yn rhan o'r gwaith o wella cymdeithas i bawb. 

Maria Mesa

Daeth Maria Mesa i Gymru o Colombia fel ffoadur gwleidyddol 44 mlynedd yn ôl. Mae'n Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig, ac mae wedi gweithio'n ddiflino i datblygu sefydliadau a gwasanaethau arloesol sy'n ymateb i anghenion cymunedau Ethnig Leiafrifol, yn enwedig menywod. Mae bywyd personol a phroffesiynol Maria wedi'i cael ei yrru gan ei hangerdd, ei hymrwymiad a'i chred mewn cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.

Loren Henry

Cyd-sefydlodd Loren Henry sefydliadau celfyddydau ieuenctid Urban Circle a G-Expressions i ysgogi gwelliant i bobl ifanc, rhywbeth a ddaeth fwyfwy i'r amlwg yn sgil mudiad BLM. Mae Loren yn croesawu'r cyfrifoldeb am herio anghyfiawnder. Mae ei phrofiad bywyd yn ei galluogi i uniaethu â'r cymunedau ymylol y mae'n gweithio ynddynt ac i wella dyheadau pobl ifanc, gan wrando arnyn nhw a'u cymunedau.

Aliya Mohammed

Aliya Mohammed yw Prif Swyddog Gweithredol Race Equality First ac mae ganddi dros 10 mlynedd o arbenigedd mewn Gwrth-hiliaeth, gan ddarparu hyfforddiant ar gyfer y gwasanaeth sifil.  Datblygodd y Fframwaith Gweithredu ar Droseddau Casineb yn 2016 a chadeiriodd Pwyllgor Cymru ar gyfer Adroddwr Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Hiliaeth i'r Deyrnas Unedig. 

Rajma Begum

Rajma Begum yw Rheolwr Amrywiaeth Chwaraeon Cenedlaethol CGGC ac mae'n Aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru. Mae angerdd Rajma am gydraddoldeb ym myd chwaraeon yn deillio o brofiadau personol negyddol o oedran ifanc.  Mae'n gweithio gyda phartneriaid ar draws sbectrwm cydraddoldeb ac amrywiaeth, a'i chenhadaeth yw sicrhau bod pob camp a chelfyddyd yn groesawgar i gymunedau ethnig amrywiol Cymru.

Martin Gallagher

Mae Martin Gallagher yn Deithiwr Gwyddelig, sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei gymrodoriaeth PhD gyda Phrifysgol Northumbria. Mae wedi gweithio gyda llawer o sefydliadau, megis Heddlu Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru, y Senedd a llawer o rai eraill i godi ymwybyddiaeth o anghydraddoldebau y mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn eu hwynebu ac mae'n ymgyrchydd dros gydraddoldeb. 

Leila Usmani

Mae Leila Usmani (hi/she) yn rheoli  hymgynghoriaeth datblygu sefydliadol, ac yn gweithio ar wahân o fewn ymchwil, polisi, lobïo a dylanwadu gwrthhiliol. Gyda phrofiad o bobl LGBTQIA+, pobl anabl, a menywod a phobl ifanc  ethnig leiafrifol, mae Leila yn blaenoriaethu croestoriadedd gwrth-hiliaeth yn ei holl waith. Bydd Leila yn cefnogi gweithrediad yr ARWAP gan sicrhau bod y lens hon yn cael ei chymhwyso ar draws y meysydd polisi. 

Mfikela Jean Samuel

Daw Mfikela Jean Samuel o Orllewin Affrica yn wreiddiol ac mae bellach yn byw yng Ngwynedd, gan weithio mewn gwahanol brosiectau ymgysylltu cymunedol. Mae Sam yn credu bod ei ddegawd o brofiad, cyfarfyddiadau a gweithgareddau yn y rhan hon o Gymru wedi'i arfogi â gwybodaeth werthfawr a fydd yn cyfrannu at weithredu'r ARWAP. 

Annette Nelson

Symudodd Annette Nelson i ganolbarth Cymru yn 2015. Roedd Annette yn uwch arweinydd profiadol ym maes addysg yn un o'r awdurdodau lleol a gyflawnodd fwyaf yn y Deyrnas Unedig, gan herio a chefnogi ysgolion i godi safonau. Fel menyw ddu cwiar, mae Annette yn deall ac yn cofleidio pŵer croestoriadedd.  Mae Annette wedi bod yn Arweinydd Addysg ar gyfer yr ymgyrch pêl-droed fyd-eang Football v Homoffobia ers 2013.

Arbenigwyr

Nelarine Cornelius

Mae Nelarine Cornelius yn Athro Astudiaethau Sefydliadol ac yn aelod o'r Ganolfan Ymchwil i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Queen Mary, Prifysgol Llundain. Mae Nelarine yn ymchwilio i gyfiawnder cymdeithasol a busnes ac mae'n gyd-arweinydd prosiect sy'n dadansoddi setiau data cenedlaethol ar anghydraddoldeb hiliol yn y gweithle. Ei ffocws gyda'r ARWAP fydd cyflogaeth, arweinyddiaeth, strwythurau atebolrwydd a seiliau tystiolaeth. 

Uzo Iwobi

Mae Uzo Iwobi yn Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac roedd yn Ymgynghorydd Polisi Arbenigol i Lywodraeth Cymru o 2019 i 2021.  Mae Uzo wedi herio hiliaeth yng Nghymru ers 30 mlynedd fel ymarferydd cydraddoldeb a bu'n Gomisiynydd i'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Mae Uzo eisiau gweld y cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i drawsnewid bywydau. 

Jason Arday

Bydd Jason Arday yn dod yn Gadeirydd Athrawol Addysgl 2002 (Cymdeithaseg Addysg) ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 2023. Mae Jason yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Runnymede ac mae'n aelod o Banel Cynghori Cenedlaethol y Ganolfan Astudiaethau Llafur a Chymdeithasol a hefyd Grŵp Cyfeirio Academaidd Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG. 

Nisreen Mansour

Cafodd Nisreen Mansour ei geni a'i magu yng Nghaerdydd, i fam o'r Iseldiroedd a thad o Irac. Mae Nisreen wedi gweithio i TUC Cymru fel swyddog polisi am y pum mlynedd diwethaf.  Mae'r gweithle yn rhan enfawr o weithredu'r ARWAP, a bydd Nisreen yn cynghori ar wneud llais y gweithiwr yn egwyddor ganolog. 

Lella Nouri

Mae Lella Nouri yn Uwch-ddarlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae ei hymchwil yn arbenigo mewn casineb a gweithgarwch eithafol.  Mae Lella wedi cael profiad bywyd o gael ei magu a gweithio fel menyw o gefndir ethnig leiafrifol yng Nghymru. I Lella, mae sicrhau bod lleisiau cymunedau ethnig leafrifol yn cael eu clywed yn greiddiol i lwyddiant y cynllun gweithredu.

Indu Deglurkar

Mae Indu Deglurkar yn Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.   Mae Indu wedi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn amryw o rolau arwain ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.  Hoffai fynd i'r afael â phenderfyniadau cymdeithasol ym maes iechyd a datblygu ffyrdd cadarn o fynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol yn y GIG ar bob lefel.  

Professor Charlotte Williams OBE

Mae’r Athro Charlotte Williams OBE yn Athro Anrhydeddus yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, ac yn gyn-Ddeon Cyswllt ac Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol RMIT ym Melbourne, Awstralia. Mae wedi’i phenodi’n Gymrawd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Glyndŵr, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Enillodd ei chofiant arloesol, ‘Sugar and Slate, Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2003. Mae wedi ymddangos nifer o weithiau ar y teledu ac wedi siarad ar y radio, yn trafod amlddiwylliannaeth yng Nghymru.