Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Grŵp Atebolrwydd Allanol yn sicrhau bod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cael ei weithredu’n effeithiol drwy lywio, cyd-ddylunio, herio Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, a’u dal i gyfrif.

I grynhoi, prif ffocws y Grŵp Atebolrwydd yw sicrhau bod y Cynllun yn cael ei weithredu, monitro cynnydd o ran camau ac ymrwymiadau, a sicrhau bod y momentwm yn cael ei gynnal. 

Mae’r Grŵp Atebolrwydd Allanol yn elfen hanfodol o strwythur llywodraethiant Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r Grŵp Atebolrwydd Allanol yn cynnwys 11 o Gynrychiolwyr Amrywiaeth a 7 Arbenigwr i helpu i ddal y Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif. 

Mae cynrychiolaeth hefyd i sefydliadau allweddol eraill megis Llywodraeth Cymru, TUC Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac eraill.