Amdanom ni
Mae Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru wedi’i drefnu gan Lywodraeth Cymru.
Mae Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn tynnu ynghyd sefydliadau ar draws cymdeithas. Mae hyn yn cynnwys cyrff cyhoeddus, partneriaid cymdeithasol a’r trydydd sector. Mae’r Fforwm yn darparu arweinyddiaeth wrth fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru ac yn cydgysylltu’r gwaith. Mae 4 ffrwd waith a gweithgorau pwrpasol i bob un:
- Grŵp Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth Atal Caethwasiaeth Cymru: yn gweithio i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu a darparu hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern
- Grŵp Dioddefwyr a Goroeswyr Atal Caethwasiaeth Cymru: yn gweithio i wella sefyllfa pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o gaethwasiaeth fodern
- Grŵp Atal Caethwasiaeth Cymru: yn gweithio i gynllunio a gweithredu ymyriadau i atal ac amharu ar gaethwasiaeth fodern
- Grŵp Rhyngwladol a Chadwyni Cyflenwi Atal Caethwasiaeth Cymru: yn gweithio i fynd i’r afael â’r risgiau o ran camfanteisio ar lafur ac arferion cyflogaeth anfoesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae’r grŵp hefyd yn gweithio i wella’r cydweithredu â phartneriaid y DU a phartneriaid rhyngwladol ar fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a chefnogi goroeswyr