Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, y byddai grŵp arbenigol newydd yn cael ei greu i roi cyngor ar gydberthnasau iach fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y panel yn darparu cyngor a chymorth ar faterion sy’n ymwneud ag addysgu am gydberthnasau iach fel rhan o’r cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys ystod o feysydd, gan gynnwys gwella dealltwriaeth o faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, parch a chydsyniad, rhagfarn ar sail rhyw a bwlio.

Mae Emma Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, wedi cytuno i gadeirio’r Grŵp.

Yn ogystal ag addysgu ar raglenni gradd ac ôl-radd ym maes astudiaethau plentyndod, mae’r Athro Renold wedi cydweithio yn ddiweddar â Cymorth i Ferched Cymru, NSPCC Cymru a’r Comisiynydd Plant i ddatblygu’r adnodd ar-lein AGENDA: Canllaw i Bobl Ifanc ar Wneud i Berthnasoedd Cadarnhaol Gyfri.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae darparu dysg o ansawdd da i blant a phobl ifanc ar gydberthnasau iach yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â phob math o faterion pwysig a dwi am gael y cyngor arbenigol gorau i’n helpu i gyflawni hyn.

“Dwi wrth fy modd bod ffigwr mor brofiadol â’r Athro Emma Renold wedi cytuno i gadeirio’r grŵp gan ei bod yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’r rôl newydd hon.

“Mae hi’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwaith ar faterion rhyw a rhywioldeb ymhlith plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys bwlio, trais a rhywioli a dwi’n edrych ymlaen at gael cydweithio â hi.”

Dywedodd yr Athro Renold:

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael cefnogi’r ymgais i gyflwyno addysg am ryw a chydberthnasau yn effeithiol fel rhan o’r cwricwlwm yng Nghymru.

“Mae cadeirio’r panel hwn yn gyfle anhygoel i ddefnyddio tystiolaeth ymchwil a chydweithio ag arbenigwyr, gan gynnwys pobl ifanc, i nodi’r adnoddau a’r arferion mwyaf effeithiol wrth fynd i’r afael â materion yn ymwneud â llesiant rhywiol plant a phobl ifanc a materion yn ymwneud â’u rhyw.”

Bydd y panel yn unigolion ac yn sefydliadau sydd â phrofiad ac arbenigedd perthnasol.