Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Cefndir

1. Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar bolisi amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn eu plith mae addysg, iechyd, llywodraeth leol, trafnidiaeth, cynllunio, datblygu economaidd, gofal cymdeithasol, diwylliant, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth. Wrth ddarparu gwasanaethau, rhoddir ystyriaeth i anghenion ac amgylchiadau penodol Cymru, nad ydynt o bosib yr un fath â rhai Lloegr.

2. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae'r Grŵp Arbenigol yn dwyn ynghyd bobl sydd â gwybodaeth fanwl am faterion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog (neu ran benodol ohoni) yng Nghymru, i wella ein dealltwriaeth am eu hanghenion a ffyrdd o wella darpariaeth gwasanaethau.

Aelodau

3. Cadeirydd y Grŵp yw Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae portffolio'r Gweinidog yn cynnwys cyfrifoldeb dros gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Yr aelodau eraill yw:

  • Eiriolwr y Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru
  • Pennaeth y Fyddin yng Nghymru
  • Pennaeth y Llynges yng Nghymru
  • Pennaeth y Llu Awyr yng Nghymru
  • Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin
  • Ffederasiwn Teuluoedd y Llynges
  • Ffederasiwn Teuluoedd y Llu Awyr
  • HIVE
  • Y Lleng Brydeinig Frenhinol
  • Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA)
  • Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid (RFCA)
  • Gwasanaeth Lles y Cyn-filwyr
  • Cydffederasiwn yr Elusennau Gwasanaeth (COBSEO)
  • Tîm Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • GIG Cymru i Gyn-filwyr
  • NOMS Cymru
  • Cynrychiolaeth Byrddau Iechyd Lleol
  • Yr Adran Gwaith Phensiynau (DWP)

Gall y Grŵp Arbenigol wahodd cynrychiolwyr o sefydliadau eraill pan fo angen i helpu mewn meysydd gwasanaeth penodol a chyflawni prosiectau penodol.

Cyfathrebu

4. Bydd pob aelod o'r grŵp yn gyfrifol am ddosbarthu gwaith y grŵp o fewn strwythur ei sefydliad ei hun.

Bydd rhanddeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol perthnasol yn cael diweddariadau ar waith y grŵp ddwywaith y flwyddyn.

Bydd y Grŵp Arbenigol, lle bo'n briodol, yn cysylltu â rhwydweithiau a grwpiau eraill fel Rhwydwaith y Lluoedd Arfog CLlLC, sydd â'r diben canlynol:

  • Trafod materion o ddiddordeb lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy'n cael eu codi gan Gymuned y Lluoedd Arfog.
  • Codi ymwybyddiaeth am faterion a nodwyd i'r Grŵp Arbenigol eu hystyried.
  • Hyrwyddo rhannu gwybodaeth ac arferion da yn fewnol ac yn allanol gyda sefydliadau â buddiant.

Cylch gorchwyl

5. Rhoi sylw i’r canlynol:

  • Ystyried anghenion personél y Lluoedd Arfog, eu teuluoedd a chyn-filwyr o ran gwasanaethau cyhoeddus.
  • Nodi a chytuno ar feysydd gwaith allweddol sy'n helpu i wella anghenion cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
  • Cydweithio i ddarparu atebion mewn meysydd lle gwelir bod angen.
  • Hyrwyddo rhannu gwybodaeth ac arferion da yn fewnol
  • ac yn allanol gyda'r partïon â buddiant.

Amserlen ac agenda cyfarfodydd

6. Cynhelir cyfarfodydd y Grŵp Arbenigol ddwywaith y flwyddyn. Mae croeso i aelodau'r grŵp gysylltu â'r ysgrifenyddiaeth rhwng cyfarfodydd os am gynnig mater i'w gynnwys yn yr agenda.

Papurau a chofnodion

7. Yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn agored, byddwn yn cyhoeddi cofnodion dwyieithog ar ein gwefan cyn gynted â phosib ar ôl y cyfarfod dan sylw.

Swyddogion

8. Bydd Eiriolydd y Lluoedd Arfog yn Llywodraeth Cymru, Reg Kilpatrick yn bresennol yng nghyfarfodydd y Grŵp, ynghyd â thîm Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru. Bydd swyddogion eraill Llywodraeth Cymru neu gyrff cyhoeddus eraill Cymru yn bresennol pan fydd eu cyfrifoldebau yn cael eu trafod.