Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl ar gyfer y Grŵp Cynghori'r Gweinidog Perfformiad a Chynhyrchiant y GIG.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol Allanol ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG (‘y grŵp’) i ystyried rhoi barn annibynnol am y trefniadau a'r systemau sydd ar waith ar hyn o bryd i sicrhau perfformiad a chynhyrchiant y GIG ledled GIG Cymru a'i gefnogi i wella.
Bydd y grŵp yn gweithredu'n annibynnol ar GIG Gymru, a thrwy ei aelodaeth, bydd yn rhoi'r canlynol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
- sicrwydd allanol am berfformiad y trefniadau presennol sy'n anelu at wella perfformiad a chynhyrchiant yn GIG Cymru
- arsylwadau ar sut y gellid cryfhau'r trefniadau presennol i wella perfformiad a chynhyrchiant ymhellach
Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar y systemau goruchwylio a sicrwydd sydd ar waith ym mhob rhan o'r system yn y lle cyntaf, yn hytrach na threfniadau cyflawni cyrff unigol y GIG.
Nid oes gan y Grŵp Cynghori Gweinidogol bwerau gweithredol. Grŵp cynghori yn unig ydyw.
Diben / rôl y grŵp
Bydd y grŵp yn ystyried ac yn llunio:
- myfyrdod ar berfformiad GIG Cymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU
- asesiad o'r prosesau sydd ar waith ar lefel system i ysgogi gwelliannau i effeithlonrwydd a chynhyrchiant yn GIG Cymru
- barn annibynnol am flaenoriaethau ar gyfer gwella perfformiad a thargedau cysylltiedig
- asesiad o'r ffordd y mae'r GIG yng Nghymru yn ymateb i fesurau effeithlonrwydd a chynhyrchiant ac amrywiadau mewn perfformiad ar draws y system
- asesiad o'r ysgogiadau presennol ar gyfer newid a gwelliannau a awgrymwyd i wella cynhyrchiant a pherfformiad gan swyddogion Llywodraeth Cymru
Bydd disgwyl i'r grŵp ddefnyddio eu gwybodaeth a'u profiad o ddulliau gweithredu mewn mannau eraill, a sylfeini tystiolaeth cymharol priodol o systemau eraill er mwyn mynegi barn ynglŷn â sut y gellid gwella perfformiad a chynhyrchiant yng Nghymru yn y meysydd a nodir isod.
Bydd y grŵp yn gweithio gyda swyddogion arweiniol Llywodraeth Cymru a fydd yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen yng nghyd-destun perfformiad Cymru i lywio asesiad y grŵp.
Pan fydd yr asesiad wedi'i gwblhau, caiff adroddiad ysgrifenedig ei lunio ar gyfer Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd yr adroddiad drafft wedi'i lunio gan swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n cyflawni swyddogaeth ysgrifenyddiaeth y grŵp a bydd yn cael ei lunio o fewn chwe mis i'r cyfarfod cyntaf.
Bydd y grŵp yn sicrhau bod yr adroddiad yn gwneud y canlynol:
- ystyried perfformiad presennol GIG Cymru a chyd-destun perthnasol ei drefniadau cyflawni
- ystyried y trefniadau goruchwylio ac atebolrwydd sydd ar waith ar hyn o bryd
- ystyried rhaglen waith y Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd, a systemau cymorth cenedlaethol eraill fel y rhaglen gofal a gynlluniwyd, fel sy'n berthnasol i'r agenda effeithlonrwydd a chynhyrchiant
- cynnwys argymhellion y gellir eu cyflawni o fewn strwythur a fframwaith gweithredu presennol GIG Cymru
- cydnabod y cyfyngiadau ariannol presennol ar gyllid cyhoeddus a'r heriau ariannol a wynebir gan GIG Cymru
- cydnabod y ddyletswydd ansawdd a'r ddyletswydd gonestrwydd yng Nghymru ac yn adlewyrchu'r angen i gyflawni gwelliannau mewn perfformiad a chynhyrchiant yn erbyn yr angen i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gleifion, diogelwch cleifion, ansawdd gofal gwell a chydbwysedd ariannol
- cynnwys argymhellion ar feysydd lle y gallai gwledydd y DU gydweithio i wella cynhyrchiant a pherfformiad
Er mwyn sicrhau bod yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o berfformiad, systemau a strwythurau presennol, anogir y grŵp i holi barn Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar / Prif Weithredwr y GIG am yr adroddiad drafft cyn iddo gael ei gwblhau.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried yr adroddiad ac yn penderfynu sut i ymateb i argymhellion.
Meysydd ffocws perfformiad a chynhyrchiant
Bydd yr adroddiad yn crynhoi asesiad y grŵp o berfformiad GIG Cymru o gymharu â systemau tebyg eraill ac, ar sail ei brofiad a sylfeini tystiolaeth cymharol allanol priodol, sut y gellid gwneud gwelliannau pellach yn y meysydd canlynol:
- gofal a gynlluniwyd – ystyried sut y gall GIG Cymru sicrhau amseroedd aros byrrach ar gyfer triniaeth ar draws pob arbenigedd yn unol â'r targedau cenedlaethol a bennwyd yn y rhaglen trawsnewid gofal a gynlluniwyd genedlaethol
- pa mor llwyddiannus y bu'r GIG yng Nghymru wrth drin y rhai sydd wedi aros y cyfnodau hiraf a'r achosion mwyaf brys hynny ochr yn ochr â chefnogi cydymffurfiaeth â Chael Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf (GiRFT) a safonau'r Coleg Brenhinol
- perfformiad o ran canser – gan ganolbwyntio'n benodol ar wella amseroedd aros ar gyfer y cyswllt cyntaf, diagnosis a phenderfyniad i drin, gwella canlyniadau cleifion a sicrhau canlyniadau teg ledled Cymru
- sut mae perfformiad diagnostig wedi effeithio ar y metrigau perfformiad ehangach, a pha gamau pellach y mae angen eu cymryd i wella'r gallu i gael profion diagnostig ar draws y system
- gan ystyried y chwe nod cenedlaethol ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng, adrodd ar gynnydd tuag at sicrhau gwelliannau yn erbyn y targedau perfformiad cenedlaethol ar gyfer gofal brys
- gan gydnabod y sefyllfa ehangach o ran gofal integredig, sut mae Cymru yn perfformio o ran metrigau llif cleifion, yn enwedig mewn perthynas ag oedi o ran llwybrau gofal a'r effaith ar gadernid y system, gan gynnwys sut y gallai Cymru sicrhau gwelliannau mewn perthynas â lleihau nifer yr achosion o oedi o ran llwybrau gofal
- sut mae GIG Cymru yn rhoi systemau ar waith drwy Weithrediaeth y GIG a systemau canolog eraill i sicrhau gwelliannau ar unwaith ar lefel Cymru gyfan a mynd i'r afael â'r amrywiadau rhwng perfformiad a darpariaeth byrddau iechyd
Mae angen ystyried perfformiad GIG Cymru yng nghyd-destun y canlynol:
- adferiad GIG Cymru ar ôl y pandemig
- amrywiadau mewn lefelau perfformiad
- lefelau cyffredinol iechyd y boblogaeth, demograffeg a galw am wasanaethau
- yr heriau ariannol ehangach a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus a'r GIG ledled y DU
Rhagwelir y bydd swyddogion arweiniol yn darparu'r sylfaen dystiolaeth a'r asesiad cychwynnol o berfformiad presennol yng Nghymru yn erbyn y meysydd allweddol a amlinellir uchod i lywio ystyriaethau'r grŵp.
Wrth lunio'r adroddiad hwn, dylai'r Grŵp ystyried y canlynol:
- sut y gellid gwella perfformiad a chynhyrchiant y GIG yng Nghymru
- y potensial i gyflwyno rhagor o fesurau ychwanegol i wella cyfuniad o berfformiad a chynhyrchiant ar draws y system, yn seiliedig ar brofiad a thystiolaeth o atebion a brofwyd mewn systemau cymaradwy eraill
- sut y gellid cryfhau systemau presennol
- a ellid defnyddio unrhyw newidiadau i drefniadau ariannol i sicrhau gwelliannau, gan gydnabod y cysylltiad rhwng y systemau dyrannu presennol yng Nghymru a model gweithredu byrddau iechyd sy'n seiliedig ar y boblogaeth
- sut y gellid defnyddio saernïaeth ddigidol yn fwy effeithiol i gefnogi gwelliannau mewn perfformiad
- sut y gellid cryfhau'r trefniadau presennol i wella perfformiad a chynhyrchiant
Aelodaeth
Caiff aelodau eu penodi gan Weinidogion Cymru drwy gystadleuaeth agored yn dilyn proses benodi gyhoeddus. Gall Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd wneud penodiadau uniongyrchol i'r grŵp. Rhaid i bob aelod gydymffurfio â'r telerau a gyflwynwyd iddynt gan Weinidogion Cymru pan gawsant eu penodi. Mae hyn yn cynnwys datgan unrhyw fuddiannau preifat y gellir ystyried eu bod yn mynd i groes i rôl a chyfrifoldebau'r grŵp, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a swyddi ag awdurdod y tu allan i'r rôl.
Bydd y grŵp yn cynnwys cadeirydd a nifer bach o aelodau sy'n arbenigo ar wella perfformiad a chynhyrchiant y GIG ar lefel genedlaethol a system gyfan. Bydd Gweinidogion Cymru am sicrhau bod gan aelodau'r grŵp amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol.
Mae'r cadeirydd yn atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ei berfformiad personol. Mae'r aelodau yn atebol i gadeirydd y grŵp am eu perfformiad personol.
Caiff y Grŵp ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth a gwybodaeth am y trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd mewn perthynas â pherfformiad a chynhyrchiant y GIG yng Nghymru.
Caiff y grŵp ei ddiddymu'n awtomatig ar ôl wyth mis oni fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn nodi fel arall.
Bydd aelodau'r grŵp yn dangos safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol a bydd disgwyl iddynt gydymffurfio â'r cod ymddygiad ar gyfer aelodau bwrdd cyrff cyhoeddus.
Rôl a chyfrifoldebau'r cadeirydd
Bydd y cadeirydd yn gwneud y canlynol:
- hwyluso trafodaeth adeilado er mwyn helpu i wneud penderfyniadau
- sicrhau y caiff achosion o wrthdaro buddiannau ac anghydfodau eu cofnodi a'u rhannu â Llywodraeth Cymru
- tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet a Chyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar at unrhyw faterion o bwys neu faterion brys y rhoddwyd gwybod iddo amdanynt neu y bydd yn eu trafod
- adrodd i Ysgrifennydd y Cabinet ar waith y Grŵp
- bodloni'r gofynion a nodir yn ei gylch gorchwyl
Rôl a chyfrifoldebau'r aelodau
Mae aelodau'r grŵp yn gyfrifol am y canlynol:
- cymhwyso eu profiad a'u gwybodaeth at faterion sy'n rhan o gylch gwaith y grŵp
- bod yn agored i syniadau a gweithio i gytuno ar gyfaddawd os oes angen
- darparu tystiolaeth a gwybodaeth gymaradwy addas o systemau eraill i gefnogi argymhellion
- mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd a chyfrannu at waith er budd y grŵp
- rhoi'r gorau i unrhyw fusnes lle y gallai fod achos canfyddedig o wrthdaro buddiannau
- bodloni'r gofynion a nodir yn ei gylch gorchwyl
Cyfarfodydd
Caiff cyfarfodydd eu cynnal yn rhithwir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Bydd swyddogion perthnasol o Lywodraeth Cymru ar gael ar ddechrau pob cyfarfod i gyflwyno gwybodaeth am faes penodol (o blith y rhestr o faterion uchod) i hwyluso trafodaeth y grŵp. Cytunir ar yr amserlen ar gyfer pob cyfarfod yn ystod y cyfarfod cyntaf.
Caiff ceisiadau am wybodaeth gan aelodau'r grŵp eu cyflwyno i Dîm Uwchgyfeirio ac Ymyrryd Llywodraeth Cymru.
Bydd Tîm Uwchgyfeirio ac Ymyrryd Llywodraeth Cymru yn trefnu i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru neu GIG Cymru fod yn bresennol mewn cyfarfodydd ar gais y grŵp yn seiliedig ar y maes pwnc perthnasol er mwyn sicrhau y caiff y wybodaeth a'r arbenigedd cywir eu rhannu â'r grŵp.
Caiff swyddogaeth ysgrifenyddiaeth y grŵp a'r broses o lunio'r adroddiad eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Ni chaiff unrhyw ddirprwyon eu derbyn yn lle aelodau.
Bydd angen nifer gofynnol o aelodau mewn cyfarfod er mwyn gwneud cworwm.
Ni chaiff allbwn ei gyhoeddi yn dilyn pob cyfarfod; bydd y grŵp yn adrodd yn ôl i Ysgrifennydd y Cabinet drwy gyfarfodydd misol a'r adroddiad terfynol.
Proses adrodd reolaidd
Bydd y cadeirydd yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet bob mis. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, bydd y cadeirydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Ysgrifennydd y Cabinet am gynnydd ei waith ac yn nodi unrhyw gamau interim neu uniongyrchol y cred y grŵp y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried eu cymryd i wella perfformiad a chynhyrchiant yn y byrdymor.
Atodiad A: trefniadau presennol i sicrhau a chefnogi perfformiad a chynhyrchiant y GIG
- Mae Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi dull Gweinidogion Llywodraeth Cymru o gael sicrwydd gan sefydliadau GIG Cymru. Cyhoeddwyd y fframwaith ym mis Ionawr 2024 ac mae'n nodi dull Llywodraeth Cymru o gael sicrwydd gan sefydliadau GIG Cymru; a'r dull o uwchgyfeirio ac ymyrryd pan fydd angen mynd i'r afael â materion sy'n peri pryder.
- Mae Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 yn rhoi'r cyd-destun cyfreithiol ar gyfer y fframwaith hwn sy'n nodi rhesymeg Gweinidogion Cymru dros geisio sicrwydd a phwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru.
- Mae pwyslais cryf ar gydweithio, cydgynhyrchu ac integreiddio yn neddfwriaeth Cymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn rhoi'r cefndir deddfwriaeth i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gyda'i gilydd, mae'r tri darn hyn o ddeddfwriaeth yn rhoi pwyslais cadarn ar leihau anghydraddoldebau iechyd drwy ddarparu cymorth ataliol hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, Mesur y Gymraeg 2011, a Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarnau penodol eraill o ddeddfwriaeth.
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn sail i'r Rhaglen Lywodraethu a Cymru Iachach ac mae'n llywio ein gwaith a'r hyn rydym yn ei wneud i gyflawni ymrwymiadau a gwerthoedd Llywodraeth Cymru.
- Mae Cymru Iachach yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n cynnig dull system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol sy'n deg, a lle y caiff gwasanaethau eu cynllunio ar sail anghenion unigryw unigolion a grwpiau a'r hyn sy'n bwysig iddynt, yn ogystal ag ansawdd a chanlyniadau diogel. Un o'r gwerthoedd craidd a ddisgrifir yn Cymru Iachach yw “Rhoi ansawdd a diogelwch uwchlaw popeth – darparu gofal gwerth uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ein cleifion bob amser.”
- Sefydlwyd Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd GIG Cymru i ysgogi dull systematig o gryfhau gwaith ar draws y system, cymryd camau i sicrhau gwelliant ariannol a darparu gofal iechyd mwy cynaliadwy yn gyson.
- Mae fframwaith cynllunio GIG Cymru yn nodi'r blaenoriaethau gweinidogol a'r pethau allweddol i'w cyflawni sy'n rhoi ffocws i'r broses oruchwylio ac yn cyd-fynd yn agos â'r asesiadau o sefydliadau fel rhan o'r fframwaith hwn.
- Mae dyletswydd statudol ar fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i ddatblygu cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd sy'n gytbwys yn ariannol ac a gymeradwywyd gan y bwrdd. Rhaid i'r rhain nodi sut y bwriedir cyflawni'r blaenoriaethau gweinidogol gyda'r adnoddau sydd ar gael i sefydliadau. Caiff y cynllun ei fonitro drwy drefniadau rheoli perfformiad presennol. Bydd methu â chyflwyno cynllun sy'n gytbwys yn ariannol yn torri'r ddyletswydd statudol ac, felly, yn arwain at ganlyniadau o dan y fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd.
- Mae monitro'r pethau i'w cyflawni a nodir yn fframwaith a pholisïau Llywodraeth Cymru ynghyd ag allbynnau sefydliadol pob fframwaith yn agweddau pwysig ar y broses uwchgyfeirio ac ymyrryd, gan gynnwys:
- Mae'r system rheoli ansawdd genedlaethol yn dwyn data o nifer o ffynonellau ynghyd, gan gynnwys digwyddiadau diogelwch cleifion, er mwyn triongli'r data hynny a llywio amrywiaeth o weithgareddau mewn perthynas â dysgu ac ansawdd a sicrwydd llywodraethiant.
- Mae gan y ddyletswydd ansawdd yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020) (“Deddf 2020”) ddau nod – gwella ansawdd gwasanaethau a gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru. Mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau gyda'r nod o wella ansawdd gwasanaethau iechyd. Nod y ddyletswydd ansawdd yw sicrhau ein bod yn cryfhau ein systemau rheoli ansawdd drwy roi ffocws priodol ar gynllunio ansawdd, rheoli ansawdd, gwella ansawdd a sicrhau ansawdd. Mae'n diffinio ansawdd fel diwallu anghenion y boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu mewn modd parhaus, dibynadwy a chynaliadwy. Gyda'i gilydd, mae'r meysydd ansawdd a'r galluogwyr ansawdd yn creu Safonau Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2023.
- Caiff y sefyllfa sefydliadol yn erbyn y blaenoriaethau a'r mesurau a nodwyd yn y fframweithiau cynllunio a pherfformiad eu hadolygu ac maent yn cynnwys:
- amcanion cenedlaethol y cytunwyd arnynt gyda chadeiryddion sefydliadau GIG Cymru; caiff amlder cyfarfodydd adolygu gyda'r cadeiryddion ei bennu yn ôl eu statws uwchgyfeirio
- llythyrau i swyddogion atebol a anfonwyd gan Brif Weithredwr GIG Cymru sy'n amlinellu'r cyfrifoldebau am reolaeth a pherfformiad ariannol
- ymateb Llywodraeth Cymru i gynllun sefydliadol, gan gynnwys amodau atebolrwydd
Mae'r diagram isod yn nodi'r trefniadau ar gyfer goruchwylio sefydliadau GIG Cymru:
Image- Bydd asesiad yn erbyn y fframwaith yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys data ansoddol, fel gwybodaeth ansoddol a metrigau ariannol y fframwaith perfformiad a gyhoeddwyd. Bydd gwybodaeth o'r System Rheoli Ansawdd Genedlaethol, adolygiadau o ddiogelwch cleifion, archwiliad clinigol, ac asesiad yn erbyn datganiadau ansawdd a Safonau NICE yn rhan amlwg o'r asesiad. Caiff gwybodaeth o sgyrsiau am wella ansawdd, gwerth mewn rhaglenni iechyd, digidol, cenedlaethol, a rhwydweithiau clinigol hefyd ei hystyried i gefnogi sefydliadau mewn asesiad cynhwysfawr o'u sefyllfa a'u cynnwys.
- Mae gwybodaeth gan drydydd partïon annibynnol perthnasol, gan gynnwys Llais, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth lywio asesiadau Llywodraeth Cymru.
Caiff cyfarfodydd goruchwylio eu cynnal fel a ganlyn:
Cyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd:- Caiff cyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd (JET) eu cynnal ddwywaith y flwyddyn, a'u cadeirio gan Brif Weithredwr GIG Cymru.
- Mae'r cyfarfodydd yn craffu ar ansawdd, prosesau cynllunio, darpariaeth a pherfformiad y sefydliad yn erbyn y gofynion cenedlaethol, ei gynllun, ac unrhyw amodau atebolrwydd.
Cyfarfodydd uwchgyfeirio:- Cynhelir cyfarfod uwchgyfeirio ffurfiol â phob sefydliad â statws uwchgyfeirio, wedi'i gadeirio gan Lywodraeth Cymru.
- Mae'r cyfarfodydd hyn yn monitro cynnydd yn erbyn meini prawf penodol y cytunwyd arnynt ar gyfer diddymu statws uwchgyfeirio.
Bwrdd perfformiad GIG Cymru:- Mae Bwrdd Perfformiad GIG Cymru yn cwrdd yn fisol a chaiff ei gadeirio gan Brif Weithredwr GIG Cymru. Mae Prif Weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a phob bwrdd iechyd yn bresennol.
- Mae Bwrdd Perfformiad GIG Cymru yn asesu perfformiad yn erbyn y llwybrau perfformiad y cytunwyd arnynt.
Cyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig:- Cyfarfodydd misol a gadeirir gan Ddirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru neu ei ddirprwy enwebedig.
- Mae Cyfarfodydd Ansawdd Cynllunio a Chyflawni Integredig (IQPD) yn asesu perfformiad yn erbyn llwybrau y cytunwyd arnynt, yn ystyried ansawdd a diogelwch cyffredinol gwasanaethau ac yn cynnal archwiliadau dwfn o bynciau penodol. Dylai byrddau iechyd godi pryderon mewn modd rhagweithiol.
Cyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar Wasanaethau Penodol:- Caiff cyfarfodydd misol ychwanegol eu cynnal gyda sefydliadau i ganolbwyntio'n gyfan gwbl ar wasanaethau sydd dan bwysau ledled Cymru, fel gwasanaethau canser, offthalmoleg, a gofal a gynlluniwyd.
- Mae'r cyfarfodydd hyn yn craffu ar ansawdd, prosesau cynllunio, darpariaeth a pherfformiad, gan gynnwys cynlluniau adfer, llwybrau, a digwyddiadau difrifol.
Mae'r diagram isod yn nodi trefniadau llywodraethiant y cyfarfodydd rhyngwyneb a chydberthnasau:
Image- Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei Bwrdd Ansawdd a Chyflawni misol i gyfarfod â chydweithwyr yng Ngweithrediaeth GIG Cymru a phartïon allweddol eraill i drafod pob sefydliad a mater sy'n peri pryder.
- Bwriad sefydlu Gweithrediaeth GIG Cymru yn 2023 oedd cyfuno gweithgarwch cenedlaethol a sicrhau dull cyson o gynllunio, pennu blaenoriaethau yn seiliedig ar ganlyniadau, a rheoli perfformiad ac atebolrwydd. Rôl Gweithrediaeth y GIG yw cefnogi'r gwaith o sicrhau gwelliant ac ansawdd, a bod yn gyfrwng i gefnogi Llywodraeth Cymru a'r GIG i alluogi gwelliant. Nid yw'n gorff atebol ac nid yw'n dwyn sefydliadau i gyfrif. Dylai helpu i gyflawni polisïau cenedlaethol a rhoi gwybodaeth a sicrwydd i Lywodraeth Cymru ynghylch cyflawni.
- Sefydlwyd Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru, sef cyd-bwyllgor o'r saith bwrdd iechyd sy'n gweithredu ar eu rhan. Fodd bynnag, yn y pen draw mae byrddau iechyd unigol yn atebol i'w poblogaeth a rhanddeiliaid eraill am ddarparu gwasanaethau a gomisiynwyd gan Bwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru ar gyfer y preswylwyr yn eu hardal.