Mae'r Economi Gylchol ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (CESME) yn brosiect a ariennir gan Ewrop sy'n galluogi busnesau bach a chanolig i droi heriau amgylcheddol yn gyfleoedd.
Mae'r Economi Gylchol ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (CESME) yn brosiect a ariennir gan Ewrop sy'n galluogi busnesau bach a chanolig i droi heriau amgylcheddol yn gyfleoedd. Mae'r economi gylchol yn un o gysyniadau allweddol yr Economi Werdd, lle gall deunyddiau o ansawdd uchel sy'n deillio o gynnyrch gwastraff gael eu cyflenwi yn ôl i weithgynhyrchu Cymru a'u defnyddio'n gynhyrchiol dro ar ôl tro.
Mewn byd lle mae prisiau adnoddau yn codi'n gyflym, mae gan y model economi gylchol y potensial i ddarparu buddiannau cost sylweddol i fusnesau Cymru. Mae astudiaethau wedi canfod y gallai Economi Gylchol arbed hyd at £2bn i economi Cymru ac mae ganddi'r potensial i greu hyd at 30,000 o swyddi.
Roedd y cyfarfod yn Thessaloniki yn cynnwys gweithdai ac ymweliadau astudio â thri busnes bach a chanolig yn Rhanbarth Macedonia Ganolog yng Ngwlad Groeg, ac mae pob un ohonynt yn gweithredu arferion da sy'n hyrwyddo economi gylchol. Mae cyfarfod Thessaloniki yn dilyn cyfarfodydd anffurfiol CESME blaenorol yma yng Nghymru fis Mai diwethaf, ac yn Aalborg, Denmarc a Bologna, yr Eidal.
Yn gynharach eleni cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig gronfa £6.5miliwn i helpu Cymru i symud tuag at economi gylchol. Meddai Lesley Griffiths:
“Mae Cymru wedi ymrwymo'n llawn i fanteision yr economi gylchol. Mae rhannu arbenigedd gwerthfawr â'n partneriaid Ewropeaidd yn ein helpu i ddileu rhwystrau i fusnesau bach a chanolig a bydd yn gwireddu ein gweledigaeth o Gymru wyrddach a llai gwastraffus.”
“Bydd y gronfa £6.5 miliwn a gyhoeddais yn gynharach eleni yn helpu busnesau i arbed arian drwy ddod yn fwy effeithlon a chryf o ran adnoddau, dull a fydd yn cyflawni manteision amgylcheddol niferus gan gynnwys llai o wastraff a llai o allyriadau CO2”.
Mae'r prosiect Economi Gylchol ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (CESME) yn cael ei gefnogi gan €1.73 miliwn o gyllid Ewrop Interreg a rhagwelir y bydd yn parhau am bedair blynedd. Mae Cymru yn un o 10 partner o chwe gwlad Ewropeaidd.
Cynhaliwyd y digwyddiad CESME diweddaraf yn Thessaloniki, Gwlad Groeg ar 10 ac 11 Mai 2017. Ceir rhagor o wybodaeth am CESME ar wefan Interreg Europe (dolen allanol)