Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl oedran, awdurdod lleol, dull astudio ac incwm gweddilliol ar gyfer Medi 2020 i Awst 2021.

Mae’r data, sy’n seiliedig ar geisiadau a dderbyniwyd erbyn 31 Gorffennaf 2021, yn gywir ar 18 Hydref 2021.

Prif bwyntiau

Gwnaeth cyfanswm o 4,495 o fyfyrwyr mewn addysg bellach (AB) gais am y Grant yn 2020/21, sy’n ostyngiad o 15% o gymharu â 2019/20. O’r ceisiadau hyn, roedd 3,725 yn llwyddiannus, sy’n ostyngiad o 16% o gymharu â 2019/20. O ganlyniad, talwyd gwerth £4.2 miliwn o Grantiau i fyfyrwyr AB yn 2020/21, o gymharu â’r £4.9 miliwn a dalwyd yn 2019/20. Roedd 3,500 (94%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn a 210 (6%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr rhan-amser.

Mae cyfran y ceisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn yn parhau i fod yn uchel, sef tua 97.0%, a’r ffigur cyfatebol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yn 85%. Roedd 2,570 (74%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 150 (70%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr ag incwm gweddilliol o £6,120 neu lai, ac felly dyfarnwyd iddynt y symiau grant llawn. Roedd 1,480 (54%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 50 (39%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr 21 oed neu iau.

Adroddiadau

Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach), Medi 2020 i Awst 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 880 KB

PDF
Saesneg yn unig
880 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.