Neidio i'r prif gynnwy
BuddsoddiadManylebCost Safonol (heb TAW)Gwerth y grantSgôr yr eitem
Systemau trafod symudol

System trafod gwartheg symudol sy’n cynnwys: 

Rhedfa

Craets â lled mewnol heb fod yn llai na 720mm.

Ochrau sy'n agor i roi mynediad i anifail. 

Corlan ar gyfer o leiaf 25 o wartheg (24 mis +).

Trelar integredig sy’n gyfreithlon i fod ar y ffordd.

Bar ffolen y gellir ei weithredu o du allan y craets a'r rhedfa.

Iau pen addasadwy hyd llawn. 

Metel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.

£15,792£6,317

417.50

 

Systemau trafod sefydlog

System gorlannu wedi'i chodi i fodloni gofynion y safle unigol sy’n cynnwys: 

Ardal ddal ddiogel, effeithiol a rhedfa sydd wedi'i chysylltu â chraets gwartheg.

2 gorlan ddal fetel sy'n dal o leiaf 25 o wartheg (24 mis +).

Corlan gornelu gron ag o leiaf radiws o 3m, a'r ochrau wedi'u gorchuddio i atal gwartheg rhag gweld allan, sy’n arwain at 

redfa syth neu gam 3–5m (yn dibynnu ar y system) a'r ochrau wedi'u gorchuddio â gât cau wedi'i gosod yn y rhedfa. 

Metel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.

£11,817£4,727

420

 

Craets gwartheg

Craets gwartheg sy’n cynnwys:

Lled mewnol heb fod yn llai na 720mm.

Iau pen hyd llawn y gellir ei haddasu.

Ochrau sy'n agor i roi mynediad i anifail.

Cyfleuster i atal gwartheg rhag symud yn eu hôl a weithredir o du allan y rhedfa.

Metel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.

£3,882£1,553

407.5

 

Craets gwasgu gwartheg sy’n gweithio drwy system hydrolig.

 

Craets gwasgu sy’n gweithio drwy system hydrolig. Bydd gan y craets:

Iau pen hyd llawn awtomatig y gellir ei haddasu â llaw, ac iddi gyfleuster ailosod awtomatig.

Mynediad llawn at y ddwy ochr.

Cyfleuster i atal gwartheg rhag symud yn eu hôl a weithredir o du allan y rhedfa.

System addasu hydrolig sy'n cael ei phweru gan bwmp hydrolig. 

Nid yw craetsys lle mae'r swyddogaeth gwasgu'n cael ei gweithredu â llaw yn gymwys. 

Nid yw craetsys tocio carnau arbenigol yn gymwys. 

£11,807£4,723

407.5

 

Craets Tocio Carnau Gwartheg Arbenigol

Mae craets gwartheg arbenigol ar gyfer tocio carnau ac nid yw wedi'i fwriadu at ddibenion eraill o ran rheoli anifeiliaid. Bydd y craets yn cynnwys:

Lled mewnol o 720 mm o leiaf,

Iau pen hyd llawn, 

Bar ffolen a/neu gatiau er mwyn helpu i fynd i mewn i'r craets.

Winshis mecanyddol neu drydanol. 

Rhaid cynnwys strapiau codi harnais/cynhalydd bol.

O leiaf ddau floc carnau. 

Bydd pob rhan metel fferrus o'r craets wedi'i chalfaneiddio'n llawn neu wedi'i phaentio â phaent powdr.

Nid yw craets troi/rholio yn gymwys.

£6,096£2,438450
Sgŵp pen (gwartheg)

Sgŵp pen gwartheg sy'n: 

Rhwystro anifail rhag symud ei ben ochr i ochr, gan gynyddu diogelwch ar gyfer yr anifail a'r gweithredwr. 

Lleihau'r risg y bydd yr anifail yn cwympo o fewn y craets.

£619£248387.5
System bwyso electronig

Dyfais bwyso ddigidol sy'n gallu: 

Cofnodi pwysau anifail unigol.

Olrhain cyfraddau pesgi.

Didoli gwartheg gan ddefnyddio gât ddidoli sy'n adnabod gwartheg yn awtomatig. 

Cysylltu â chyfrifiadur neu ddyfais symudol. 

Mae bariau a llwyfannau pwyso'n eitemau ar wahân (gweler isod) .

£918£367410
Bariau/Llwyfannau Pwyso

Bariau/Llwyfannau Pwyso sy’n cynnwys: 

Bariau neu lwyfan pwyso sy'n gydnaws â'r craets, ac 

sy’n gydnaws â system bwyso electronig (gweler isod).

£1,217£487410
Offer Pwyso Gwartheg yn Awtomatig

Offer annibynnol sy'n pwyso gwartheg yn awtomatig. Mae'r system yn cynnwys:

Llwyfan pwyso gydag ardal rhadfa neu ddal.

Darllenydd EID.

Y gallu i fonitro / cofnodi pwysau'r anifail o bell.

Gall y system gynnwys cafn dŵr, cafn bloc bwyd neu fwynau, neu redfa tywys.

Nid yw costau tanysgrifio blynyddol yn gymwys.

£8,711£3,484580
Gât ddidoli sy'n adnabod gwartheg yn awtomatig

Gât ddidoli sy'n adnabod gwartheg yn awtomatig sy'n cynnwys:

Gât sy'n gweithio drwy system hydrolig.

Cysylltiad ag offer rheoli cyfrifiadurol/system EID

Tagiau electronig, coleri neu dransbonderau pigwrn/ffêr i adnabod yr anifail, sy’n 

gweithredu yn awtomatig gyda system bwyso ddigidol ac sy’n gallu didoli buchod yn ddau grŵp o leiaf. 

£11,047£4,419420
Ychwanegyn tocio carnau ar gyfer craets 

Ychwanegyn tocio carnau sy'n cynnwys: 

Harnais/cynhalydd bol. 

Winsh coesau blaen ac ôl â strapiau codi a phedwar bloc carnau. 

£784£314485

Synhwyrydd bwrw llo

 

Uned synhwyro bwrw llo sydd:

Wedi ei chysylltu â ffôn/dyfais llaw er mwyn rhoi rhybudd pan fydd buwch ar fin bwrw llo. (heb gynnwys teledu cylch cyfyng)

£231£92500

Uned golchi cwpanau godro

 

System golchi cwpanau godro sy'n: 

Golchi cwpanau godro er mwyn diheintio'r uned rhwng gwartheg. 
(Pris fesul uned) 

£951£380387.5

System canfod gwartheg sy'n gofyn tarw – uned sylfaenol

 

System canfod gwartheg sy'n gofyn tarw sy'n cynnwys: 

System awtomatig ar gyfer canfod buchod sy'n gofyn tarw yn seiliedig ar ymddygiad, ac 

sy’n cael ei defnyddio gyda naill ai dagiau clust electronig, coleri gwddf neu dransbonderau pigwrn/ffêr i nodi anifeiliaid unigol. 

Mae systemau y gellir eu defnyddio ar gyfer olrhain lleoliad at ddibenion rheoli hefyd yn gymwys.

£3,024£1,210457.5

System canfod gwartheg sy'n gofyn tarw – tagiau clust, coleri gwddf neu dransbonderau pigwrn/ffêr

 

System awtomatig ar gyfer canfod buchod sy'n gofyn tarw, i fesur ymddygiad sy'n gysylltiedig ag arwyddion gofyn tarw, sy’n cynnwys yr eitemau canlynol:

Coleri gwddf unigol, tagiau clust, band pigwrn/ffêr â thransbonder. 

Mae'r gost fesul coler gwddf/band pigwrn, tag glust neu folws. Mae tagiau clust, coleri gwddf, transbondwyr pigwrn neu folysau a ddefnyddir ar gyfer olrhain lleoliad at ddibenion rheoli hefyd yn gymwys.

Er mwyn i dagiau clust fod yn gymwys rhaid iddynt fod â disgwyliad oes o bum mlynedd o leiaf, a rhaid gallu eu hailddefnyddio (cael eu trosglwyddo i anifail arall). 

Nid yw tagiau a ddefnyddir at ddibenion y System Olrhain Gwartheg yn gymwys ar gyfer cyllid. 

£77£31457.5

System i ganfod buwch sy'n gofyn a ac sydd wedi derbyn tarw (system goler)

 

System i ganfod buwch sy'n gofyn ac sydd wedi derbyn tarw sy'n cynnwys:

System sy’n canfod ar sail agosrwydd drwy goler a wisgir gan y tarw. 

Tagiau clust electronig y gellir eu hailddefnyddio. 

Coler ganfod ac o leiaf 50 tag clust y gellir eu hailddefnyddio. 

Rhaid i'r tag clust fod â disgwyliad oes o bum mlynedd o leiaf. 

Ni ddylid defnyddio tagiau ar gyfer adnabod anifeiliaid mewn perthynas â gofynion olrhain gwartheg BCMS.

Dim mwy na dwy system y cais.

£1,095£438510
Gât i ddal buwch sy'n bwrw llo

Gât i ddal buwch sy'n bwrw llo sy'n cynnwys:

Gât o fewn y ffrâm sy'n cau am y fuwch i'w dal yn ddiogel. 

Iau pen y gellir ei haddasu.

Cadwyn gloi i'w rhwystro rhag symud yn ei hôl.

Rheiliau ar yr ochrau a phaneli mynediad o fewn y gât siglo i ganiatáu mynediad diogel at ddibenion rhoi triniaeth feddygol, i helpu'r fuwch i fwrw'r llo, er mwyn i'r llo sugno neu i odro'r fuwch.

Metel wedi'i galfaneiddio neu wedi'i baentio â phaent powdr.

£706£282420

System llaw awtomatig i olchi tethi

 

Brwsh llaw awtomatig i olchi tethi sy'n gallu: 

Golchi, diheintio, ysgogi a sychu'r fuwch – i gyd ar yr un tro. 

Hyd at ddau fesul parlwr godro.

£6,726£2,690405

Cafnau bwyd sy'n atal moch daear 

 

Cafn bwyd gwartheg sy'n cynnwys: 

Roleri neu fecanweithiau eraill sy'n rhwystro neu'n atal moch daear rhag cael at y bwyd gwartheg.

Pris fesul cafn.

£334£134422.5
Daliwr torthau mwynau sy'n atal moch daear 

Daliwr torthau mwynau i wartheg, sy'n atal moch daear rhag dod i gysylltiad â'r dorth fwynau. 

Pris fesul daliwr.

£188£75402.5
Brwsh troi ar gyfer buchod

Brwsh troi pwrpasol: 

sy'n dechrau ac yn stopio'n awtomatig. 

£1,391£556387.5

Systemau trafod symudol (250 dafad) 

 

System sy’n addas ar gyfer isafswm o 250 dafad ac yn cynnwys:

Isafswm o 125 troedfedd o glwydi/gatiau ar gyfer creu: 

Corlan grynhoi. 

Corlan gornelu. 

Corlan ddidoli.

Corlannau ochr. 

Cynnwys gatiau guillotine. 

Gallu ffitio baddon traed 

Trelar integredig sy’n gyfreithlon i fod ar y ffordd 

Metel wedi’i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.

Nid yw trelar cneifio yn gymwys.

£9,449£3,780415

Systemau trafod symudol (100 dafad)

 

Systemau Trafod Symudol sy'n addas ar gyfer isafswm o 100 dafad ac yn cynnwys:

Isafswm o 50 troedfedd o glwydi/gatiau ar gyfer creu:

Corlan grynhoi. 

Corlan gornelu. 

Corlan ddidoli.

Corlannau ochr. 

Gatiau guillotine. 

Gallu ffitio baddon traed 

Trelar integredig sy’n gyfreithlon i fod ar y ffordd

Metel wedi’i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.

Nid yw trelar gneifio yn gymwys.

£5,955£2,382415
Systemau trafod sefydlog

System trafod defaid sefydlog sy'n cynnwys: 

Corlan grynhoi.

Corlan gornelu.

Rhedfa.

Gât ddidoli.

Corlannau ochr.

Rhaid iddo fod yn addas ar gyfer gosod baddon traed, yn

addas ar gyfer o leiaf 100 o ddefaid ac 

wedi’i gwneud o fetel wedi'i galfaneiddio'n llawn neu wedi'i baentio â phaent powdr.

£3,699£1,480417.5

Clorian bwyso electronig

 

Crât bwyso electronig â system bwyso electronig. 

Rhaid i'r system fod yn:

Ddyfais bwyso ddigidol sydd â'r gallu i gofnodi anifeiliaid unigol a thracio cyfraddau pesgi, a bod yn

addas ar gyfer ei defnyddio gydag EID.

Os caiff system bwyso electronig ei phrynu ar wahân, gellir defnyddio’r darllenwr digidol gyda’r eitem hon.

£2,219£888372.5

Offer trin defaid

 

Offer trin defaid ar ffurf crât neu graets sy'n gallu tagio, dosio a didoli defaid yn effeithlon. (Er mwyn didoli'r defaid bydd y triniwr yn eu rhyddhau'r drwy gât ddidoli)

Rhaid defnyddio metel wedi'i galfaneiddio neu wedi'i baentio â phaent powdr.

£3,059£1,224417.5

Dyfais llaw ar gyfer darllen EID.

 

Dyfais llaw ar gyfer darllen EID sy'n cynnwys: 

Technoleg adnabod amledd radio (RFID) i ddarllen a chofnodi manylion anifeiliaid unigol

Technoleg sy’n gallu cofnodi pwysau, triniaethau, genedigaethau a symudiadau unigol.

Technoleg sy’n gallu allforio data i becyn meddalwedd cyfrifiadurol neu raglen yn y cwmwl er mwyn monitro da byw yn weithredol.

£1,098£439520

Panel darllen EID ar gyfer adnabod defaid 

 

Panel darllen EID ar gyfer adnabod defaid sy'n cynnwys: 

Darllenydd statig/rhedfa.

Rhaid iddo allu darllen tagiau HDX ac FDXB.

Dylai gynnwys antena a bod yn 

addas i’w gysylltu â chlorian pwysau.

Nid yw dyfeisiau llaw yn gymwys. 

Rhaid iddo gael i osod ar system trafod defaid.

£1,489£596560

System trafod sefydlog 

 

Rhedfa moch sy'n cynnwys: 

Clwydi dalennog.

Gatiau dalennog.

Rhedfa ddiogel ac effeithiol. 

Rhaid iddi fod yn addas i’w chysylltu â chlorian a’i 

haddasu i systemau cynhyrchu naill ai o dan do neu yn yr awyr agored.

£1,706£682422.5

Clorian bwyso electronig 

 

Clorian bwyso ddigidol sy'n gallu: 

Cofnodi pwysau byw moch unigol neu grwpiau o foch. 

Didoli anifeiliaid â llaw neu'n ddigidol. 

Cael ei defnyddio mewn systemau cynhyrchu naill o dan do neu yn yr awyr agored. 

Defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais symudol sydd â rhyngwyneb â system rheoli data electronig.

£1,795£718407.5

Llociau perchyll wedi’u hamgáu a phadiau gwres 

 

Llociau perchyll wedi’u hamgáu a phadiau gwres y mae'n rhaid iddynt fod:

Wedi’u gwneud o baneli GRP (plastig wedi’i atgyfnerthu â gwydr) sydd wedi’u hinswleiddio.

Yn addas i'w glanhau a'u diheintio'n effeithiol.

Rhaid i’r padiau gwres fod addas ar gyfer hyd at 1800 Watt.

Rhaid i'r ddau fod â'r gallu i reoli tymheredd i sicrhau eu bod yn defnyddio ynni mor effeithlon â phosib.

£386£154480
System awyru drwy diwbiau pwysau positif

System awyru pwysau positif sydd â'r nod o wella awyru naturiol, drwy wthio aer lân i'r adeilad. Bydd yr eitem yn cynnwys o leiaf: 

Tiwb awyru mewnol, llorweddol wedi'i wneud o bolythen / ffabrig (neu ddeunydd tebyg) wedi'i lenwi ag aer, sy'n estyn hyd yr adeilad, ac ynddo dyllau i gyfeirio'r aer i lle mae ei angen.

Ffan wedi'i osod ar y wal sy'n tynnu aer lân i'r adeilad. 

Rheolydd a/neu fecanwaith amseru i'w gychwyn a'i ddiffodd. 

£1,395£558460
Teclyn pasteureiddio/rhoi llaeth i loi

Teclyn pasteureiddio/rhoi llaeth i loi sy'n cynnwys:

Teclyn symudol sy'n gweithio ar fatri i basteureiddio a rhoi llaeth tor/llaeth dros ben i loi. 

Capasiti o 150 litr o leiaf.

Rheolydd tymheredd integredig. 

£7,875£3,150470

Biniau sympfwyd (10 tunnell)

 

Biniau sympfwyd sy'n cynnwys: 

Bin tŵr dur neu ffeibr gwydr. 

Bin sy’n gallu atal lleithder a fermin.

Llithrfa neu felt cludo wedi’i chysylltu. 

Isafswm capasiti o 10 tunnell. (ni all capasiti o 10t gynnwys mwy na 2 fin llai)

£6,086£2,434245

Cyfarpar awtomatig ar gyfer bwydo lloi, gydag offer golchi

 

Cyfarpar awtomatig ar gyfer bwydo lloi ynghyd ag offer golchi sy'n cynnwys:

Cyfarpar bwydo llaeth i loi y gellir ei raglennu sy'n 

gallu bwydo lloi'n unigol a monitro faint maent yn ei yfed. 

Larwm i ddweud os nad yw'r llo'n yfed neu os yw'n yfed llai nag arfer. 

Tiwb bwydo a'r deth yn cael eu golchi'n awtomatig rhwng pob sesiwn bwydo.

O leiaf un ddyfais fwydo ac un orsaf fwydo. 

Y allu i nodi o leiaf 30 llo unigol.

£11,270£4,508422.5

Gorsaf fwydo ychwanegol

 

Gorsaf fwydo ychwanegol ar gyfer cyfarpar bwydo llaeth i loi y gellir ei raglennu sy'n cynnwys: 

O leiaf 25 coler fesul gorsaf.

O leiaf tair gorsaf fwydo ychwanegol.

£2,237£895422.5
Cysgodfan ar gyfer grŵp bychan o Loi

Cysgodfan symudol wedi'i hawyru ar gyfer grŵp bychan o loi: 

O leiaf 4.5m2

 system gorlannu allanol.

Wedi'i gwneud o fetel wedi'i galfaneiddio'n llawn. 

£799£320455

Cysgodfan ar gyfer grŵp mawr o loi

 

Cysgodfan wedi'i hawyru ar gyfer grŵp mawr o loi:

O leiaf 7m2

 system gorlannu allanol.

 chorlan wedi'i gwneud o fetel wedi'i galfaneiddio'n llawn.

£2,618£1,047455

Dryll drensio EID awtomatig 

 

Dryll drensio sy'n gallu: 

Cyfathrebu â chlorian yn ddiwifr i addasu'r dos sy'n cael ei ddrensio neu ei dywallt yn ôl pwysau'r anifail.

Lawrlwytho adroddiadau triniaeth i gyfrifiadur neu ddyfais symudol. 

£795£318430
Camerâu ar gyfer monitro da byw

Camera Protocol Rhyngrwyd (IP) ar gyfer monitro da byw sy'n cynnwys: 

IP66 sy'n addas ar gyfer yr awyr agored sy'n gallu panio, gwyro a zwmio.

Golwg dydd a nos. 

Cyrhaeddiad isgoch o 50m o leiaf. 

Zwm o 18x o leiaf. 

O leiaf 1080 picsel. 

Cydnawsedd ag ap gwylio ar-lein ar gyfer ffôn, gliniadur neu lechen.

£431£172495
GPS ar gyfer ffermio manwl

Uned GPS annibynnol sy'n: 

cynnwys swyddogaeth i fesur ffiniau ac adnabod caeau yn awtomatig, ac sy’n gallu wneud o leiaf y canlynol:

Lanlwytho a storio gwybodaeth. 

Cofnodi llinellau syth a chrwm.

Lawrlwytho gwybodaeth i gyfrifiadur.

Rhaid i eitem fod yn uned annibynnol na chafodd ei phrynu fel uned wedi'i hymgorffori mewn cerbyd nac offer amaethyddol.

£1,772£709442.5

Dyfais monitro maint cnwd

 

Dyfais monitro cnwd electronig i gysylltu â chynaeafwr combein neu borthiant sy'n bodoli eisoes 

Monitro maint y cnwd yn ystod y cynhaeaf.

Dylai gynnwys synwyryddion ac dangosfwrdd yn y cab. 

Dylai allu lawrlwytho'r wybodaeth sy'n cael ei chofnodi i gyfrifiadur, a darparu gwybodaeth am y gyfradd cynaeafu, gan fesur maint y cnwd yn ôl arwynebedd y cae neu ran o'r cae. 

£4,730£1,892432.5

Offer rheoli cyfraddau amrywiadwy ar gyfer chwistrellwyr a pheiriannau gwasgaru gwrtaith 

 

Dyfais electronig i gysylltu â chwistrellwr neu beiriant gwasgaru gwrtaith sy’n bodoli eisoes. Dylai gynnwys y canlynol: 

Y gellir ei chysylltu â chwistrellwr neu beiriant gwasgaru gwrtaith er mwyn gwasgaru ar gyfradd amrywiol heb mewnbwn gan y gweithredwr; sy’n

cynnwys system reoli sy'n gweithio drwy synhwyrydd pwysau neu synhwyrydd llif; sy’n gallu

rheoli rhannau unigol o offer (e.e. breichiau chwistrellu),

gwasgaru yn seiliedig ar faint arfaethedig y cnwd a ffrwythlondeb y pridd, 

cofnodi cyfraddau gwasgaru a'u lawrlwytho i gyfrifiadur; ac sy’n 

cynnwys rheolydd ac dangosfwrdd yn y cab. 

Nid yw’r eitem yn gymwys os caiff ei phrynu â chwistrellwr neu beiriant gwasgaru gwrtaith newydd.

£3,893£1,557452.5

Aradr isbridd

 

Aradr isbridd sy'n cynnwys:

Isafswm lled gweithio o 2.7m.

O leiaf ddwy goes.

Disg dorri o flaen pob coes isbridd.   

Rowler cefn er mwyn cywasgu’r pridd.

Rheolydd dyfnder. 

£7,743£3,097300

Aradr awyru glaswelltir

 

Aradr awyru glaswelltir: 

 llafnau o leiaf 100mm o faint. 

Y gellir ei chysylltu â chysylltiad tri phwynt neu gael ei thynnu gan dractor.

 lled o 3m o leiaf.

£5,309£2,124300
Bras-droi’r pridd/peiriant tyrchu

Peiriant aml-ddarn cyfunol / bras-droi’r pridd, yn cynnwys:  

O leiaf dair gwahanol ran sy’n dod i gysylltiad â’r phridd

Y ddwy ran sy’n dod i gysylltiad â’r pridd ar resi gwahanol, naill ai: pigau sefydlog, disgiau, coesau llacio, pigau hyblyg 

Rhaid i’r drydedd ran sy’n dod i gysylltiad â’r pridd fod yn: 

 cywasgydd ôl, malwr, rowler, cylchoedd neu gylchoedd ysgwydd.

Isafswm lled gweithio o 3m. 

Nid yw peiriant palu na rhychog pŵer yn gymwys o dan yr eitem hon.

£22,892£9,157400.1
Mesurydd Lleithder (ar gyfer grawn)Mesurydd lleithder grawn cludadwy gyda grinder grawn integredig.£320£128420
Mesurydd Lleithder y Gelli a’r Gwellt

Mesurydd lleithder cludadwy ar gyfer mesur cynnwys dŵr mewn bêls gwair a gwellt. 

I gynnwys chwiliedydd / picell.

£240£96430
Pedestal Grawn a Phicelli

Pedestal neu phicel sychu grawn gydag:

Isafswm uchder o 2.5 metr

Wedi’i adeiladu o blastig neu fetel

Yn cynnwys ffan pedestal ar gyfer echdynnu aer

£762£305420
Synwyryddion Tymheredd Grawn

Synwyryddion wedi'u cynllunio i fonitro tymheredd grawn gyda sgrin ddigidol.

Synwyryddion sy'n gallu troi ffaniau ymlaen yn awtomatig pan fo'r tymheredd amgylchynol yn addas ar gyfer oeri grawn.

£259104420

Rowler cnydau âr

 

Rowler Cambridge / rowler gylchoedd, aml-adran sy'n cynnwys:

Olwynion plygu a chludo hydrolig. 

Isafswm lled gweithio o 6.15m.

Cylchoedd plaen neu falu.

Rowler glaswelltir gwastad ddim yn gymwys

£14,475£5,790237.50

Peiriant hau uniongyrchol 

 

Peiriant hau uniongyrchol neu slot sy'n gallu hau hadau gwair, meillion, perlysiau a chnydau porthiant i bridd heb ei aflonyddu.

Isafswm lled gweithio o 2.7m.

Hadau'n cael eu mesur a'u hau drwy fecanwaith niwmatig neu fecanyddol.

Hadau'n cael eu hau'n uniongyrchol i slot wedi'i wneud ymlaen llaw gan ddisg neu fecanwaith slotio mewn pridd heb ei aflonyddu. 

Hadau'n cael eu hau ar ddyfnder cyson. 

(Nid yw offer sy'n gwasgaru hadau ar wyneb y tir a'u claddu â pheiriant tyllu a/neu rowleri, neu driliau sy’n aflonyddu / trin y pridd cyn hau yn gymwys o dan yr eitem hon)

£24,327£9,731290

Storfa gemegion

 

Adeilad ar gyfer storio cemegion y mae'n rhaid iddo fod:

Yn ddiogel ac yn gloadwy. 

Wedi'i fyndio. 

 draeniau addas i gasglu unrhyw gemegion sy'n gollwng. 

Â'r gallu i wrthsefyll rhew. 

£3,654£1,462402.50

Weed Wiper

 

‘Weed Wiper’ i ganiatáu rheoli chwyn mewn modd dethol â llai o chwynladdwr. Rhaid iddo: 

Fod yn addas i gael ei dynnu gan beic cwad neu ei osod ar dractor 

Cynnwys tanc a phwmp ar gyfer dosbarthu cemegion. 

Bod o leiaf 2m o led. 

£2,965£1,186452.50

Mesurydd porfa (llaw) 

 

Dyfais llaw i asesu gorchudd y glaswellt drwy fesur cyfanswm ei uchder a nifer y mesuriadau. Rhaid i'r ddyfais allu: 

Storio gwybodaeth am gaeau ar wahân. 

Storio'r data i'w lawrlwytho i gyfrifiadur. 

£627£251402.50
Ffens Drydan

Offer ffens drydan, sy'n cynnwys lleiafswm o:

50 x Polion ffensys dros dro,

3 x Rîl / sbŵl ar gyfer gwifren, 

1 x rîl a phostyn (i ddal o leiaf 3 rîl)

3 x dolenni gât wedi'u hinswleiddio / darnau diwedd.

1200m Gwifren ffens drydan, gwifren blethedig neu polywire.

£377£151485

'Energiser' ar gyfer ffens drydan

 

'Energiser' ar gyfer ffens drydan sy’n gweithio drwy ynni’r haul, sydd â phaneli a batri solar integredig. Isafswm o 0.5 Joule.£426£170477.50

Uned adfer gwres i gynhesu dŵr ar gyfer system dŵr poeth bresennol 

 

Uned adfer gwres sy'n gallu: 

Cynhesu dŵr ymlaen llaw gan ddefnyddio ynni sy'n cael ei ryddhau gan y system oeri llaeth. 

Defnyddio’r ynni a adferir i gynhesu dŵr ymlaen llaw ar gyfer system dŵr poeth bresennol sy’n cael ei defnyddio i olchi tanc/parlwr godro.

£5,816£2,326422.5

Gyriannau amrywio cyflymder ar bympiau gwactod a/neu bympiau llaeth

 

Pwmp gwactod amrywio cyflymder sy’n gallu: 

Amrywio cyflymder pwmp gwactod fel nad yw’n gwneud ond y gwaith sydd ei angen.

£4,444£1,778377.5

Plât cyfnewid gwres (PHE) sy’n cynnwys falf solenoid ar gyfer oeri llaeth. 

 

Plât cyfnewid gwres wedi’i ddylunio i arbed dŵr ac ynni sy’n gallu:

oeri llaeth ymlaen llaw cyn iddo fynd i’r tanc swmp, gan ddefnyddio dŵr oer, ac sy’n 

cynnwys falf solenoid i reoli llif y dŵr i cyd-fynd â llif y llaeth cynnes.

£4,254£1,702357.5

Gwresogydd dŵr effeithlon / rheolyddion thermostatig 

 

Silindr dŵr poeth sy’n cynnwys:

Isafswm maint tanc 180 litr

System rheoli tymheredd ac amseru. 

Y gallu i ddefnyddio trydan oriau tawel a/neu drydan adnewyddadwy a gynhyrchir ar y fferm. 

£2,332£993352.5

Unedau cywasgu/cyddwyso effeithlon

 

Systemau a chydrannau oeri effeithlon iawn sy’n cynnwys: 

Uned cyddwyso arwynebedd estynedig. 

Falfiau ehangu electronig.

£4,877£1,951325

Systemau crafu trydan

 

System crafu slyri trydan i’w defnyddio yn lle tractor sy’n cynnwys: 

system grafu sy’n gweithio â gyriant hydrolig neu winsh raff/gadwyn 

motorau trydan

systemau rheoli ac amseru, ac sy’n 

gallu gweithio’n awtomatig. 

£8,135£3,254455

Tanciau tanwydd (diesel)

 

Tanciau dosbarthu tanwydd diesel y mae’n rhaid iddynt fod: 

ag isafswm capasiti o 1,500 litr

wedi'u byndio, 

wedi’u gwneud o bolythen neu ddur,

yn gloadwy,

â mannau archwilio, ac rhaid iddynt

gydymffurfio â SSAFO

Ni chynhwysir tanciau at ddibenion domestig. 

£1,629£652355

Unedau rheoli lleithder a dadleithyddion ar gyfer sychu grawn 

 

Unedau rheoli lleithder a dadleithyddion ar gyfer sychu grawn yn barhaus sy’n cynnwys: 

System reoli i synhwyro lleithder ac i reoli dwysedd y broses sychu. 

System rhybuddio i fonitro’r broses o sychu sympiau o rawn. 

Rheolydd tymheredd ar gyfer nifer o ffannau oeri.

£6,075£2,430375

System slyri ‘Trailing Shoe’ sy’n cynnwys offer malu 

 

Gwasgarydd slyri ‘Trailing Shoe’ sy’n cynnwys: 

Isafswm lled gweithio o 6m

Y gallu i ffitio i dancer slyri sy'n bodoli eisoes neu ei atodi i system bibellau/llinell y bogail hyblyg.

(Rhaid i eitem fod yn eitem unigol ar anfoneb ac ni ellir ei chynnwys gyda phrynu tancer slyri)

£19,484£7,793392.5

Gwahanydd slyri 

 

Gwahanydd slyri i wahanu hylif oddi wrth y ffibr mewn slyri anifeiliaid sy’n cynnwys: 

Pwmp slyri. 

Uned gwahanu. 

£18,405£7,362345

Systemau chwistrellu bas

 

System chwistrellu i chwistrellu slyri i arwyneb y pridd sy’n gallu: 

Cael ei gosod ar dancer slyri presennol neu ei chysylltu â system bibellau/llinell y bogail hyblyg 

Isafswm lled gweithio 3m. 

(Rhaid i eitem fod yn eitem unigol ar anfoneb ac ni ellir ei chynnwys gyda phrynu tancer slyri)

£22,169£8,868382.5

Bar Diferion 

 

Gwasgarydd bar diferion sydd ag:

Isafswm lled gweithio o 6m.

Y gallu cael ei gosod ar dancer slyri presennol neu ei chysylltu â system bibellau/llinell y bogail hyblyg.

(Rhaid i eitem fod yn eitem unigol ar anfoneb ac ni ellir ei chynnwys gyda phrynu tancer slyri)

£12,925£5,170392.5

Olwyn pibell – system llinyn y bogail

 

Olwyn pibell (system llinyn y bogail) sy’n gallu: 

cael ei weindio’n rhydd neu ei rannu yn adrannau

cael ei lusgo neu ei osod ar dractor, ac sy’n 

cynnwys pibell ac sydd o leiaf 400m o hyd.

£10,126£4,050300

Olwyn pibell lusg adrannol. 

 

Olwyn pibell lusg adrannol ar gyfer gwasgaru slyri. Rhaid iddo gynnwys o leiaf 1600m o bibell.£11,161£4,464257.5

System monitro llif ar gyfer gwasgaru slyri. 

 

System monitro llif ar gyfer mesur a chofnodi gwasgaru slyri sy’n cynnwys:

mesurydd llif slyri,

dangosfwrdd/rheolydd yn y cab, sydd

yn gydnaws â system GPS ac 

yn gallu cofnodi a chadw gwybodaeth am gyfaint y slyri sy’n cael ei wasgaru i arwynebedd penodol, a 

lawrlwytho’r wybodaeth i gyfrifiadur.

£4,342£1,737422.5
Offer casglu a hidlo dŵr glaw. (uwchlaw arwyneb y tir)

Systemau casglu a hidlo dŵr glaw sy’n cynnwys: 

Tanc uwchlaw wyneb y tir.

System hidlo a’r tapiau a’r ffitiadau cysylltiedig. 

Tanc sy’n dal o leiaf 10,000 litr. 

System hidlo ar y mewnlif. (lle mae mwy nag un tanc wedi'i osod a'i gysylltu, dim ond un system hidlo mynediad sydd ei hangen)

Gorlif yn cael ei ailgyfeirio i ddraen dŵr glân. 

Bydd y dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer glanhau, yfed neu olchi, a bydd y tanc yn cael ei gysylltu â system defnyddio dŵr addas. 

Dŵr a gynaeafir o adeiladau amaethyddol a'i ddefnyddio at ddibenion fferm.

£2,000£800280
Offer casglu a hidlo dŵr. (islaw arwyneb y tir)

System casglu dŵr glaw sy’n cynnwys: 

Tanc islaw arwyneb y tir.

Tanc sy’n dal o leiaf 20,000 litr.

System hidlo a’r cysylltyddion a’r ffitiadau cysylltiedig.

Pwmp dŵr.

Hidlydd UV.

System hidlo’r mewnlif. 

Gorlif yn cael ei ailgyfeirio i ddraen dŵr glân.

Bydd y dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer glanhau, yfed neu olchi, a bydd y tanc yn cael ei gysylltu â system defnyddio dŵr addas.

Dŵr a gynaeafir o adeiladau amaethyddol a'i ddefnyddio at ddibenion fferm.

£9,000£3,600280
Gorchudd neu orchudd arnofiol ar gyfer storfeydd slyri (fesul metr sgwâr)  

Gorchudd arnofiol dros lagŵn neu danc storio i: 

atal dŵr glaw rhag mynd i’r storfa

atal nwyon sy’n dod o slyri rhag dianc, ac sy’n 

hyblyg, yn wydn ac yn anhydraidd. 

Pris fesul metr

£7.44£3357.5

Twll turio

 

Twll turio ar gyfer codi dŵr sy’n cynnwys:

Pympiau, pibellau, ceblau ac ati. 

Treialu’r pwmp a’r cludiant. 

Mae’n rhaid cael unrhyw drwyddedau neu ganiatadau cyn gwneud cais. 

Dŵr i'w ddefnyddio'n bennaf at ddefnydd da byw / amaethyddol.

£8,258£3,303355
Bocsys graddnodi ar gyfer peiriannau gwasgaru 

Bocsys graddnodi ar gyfer peiriannau gwasgaru sy’n cynnwys: 

O leiaf deg bocs (50cm x 50cm).

Bafflau i atal peledi rhag bownsio allan o’r bocsys. 

Offer mesur i gyfrifo’r pwysau a wasgarwyd fesul uned o arwynebedd. 

£275£110377.5
System gwthio/casglu slyri robotaidd

System robotaidd sy’n cynnwys: 

Meddalwedd ddeallus a synwyryddion i alluogi’r robot i symud drwy’r llwybrau’n annibynnol. 

Synwyryddion mewnol i atal y robot rhag cyffwrdd â’r da byw. 

Robot a gorsaf wefru. 

£27,151£10,860550

System gwthio silwair robotaidd

 

System robotaidd sy’n cynnwys:

Meddalwedd ddeallus y gellir ei rhaglennu i’r llwybr bwydo, ac

sy’n gallu synhwyro’r pellter o’r bar bwydo 

a chanfod faint o fwyd sydd yn y llwybr. 

£16,330£6,532455
Caledwedd gyfrifiadurol sy’n gydnaws â meddalwedd  rheoli busnes, meddalwedd rheoli fferm, bancio ar-lein a CTS/EID Cymru. 

Caledwedd gyfrifiadurol: 

Cyfrifiadur Personol (PC) Pen Bwrdd, Cyfrifiadur Personol Integredig neu Liniadur sy’n gydnaws â meddalwedd busnes, meddalwedd rheoli fferm, bancio ar-lein, a System Olrhain Gwartheg/EID Cymru. 

Manyleb ofynnol: Monitor PC 19" neu liniadur 15" Windows 10 â  system weithredu gartref 64Bit neu system gyfatebol; 

O leiaf Intel Core i3 neu AMD Ryzen 3 sy’n seiliedig ar CPU;

Cof sydd ag o leiaf 8GB o RAM. 

Gyriant caled mewnol sydd ag o leiaf 1TB neu yriant galed cyflwr soled sydd ag o leiaf 256GB.

Noder: Gellir ehangu’r lle storio mewnol drwy storio ar y cwmwl neu gysylltu â Rhwydwaith Storio, ond ni ddylid defnyddio’r rhain yn lle storio mewnol.

Uchafswm o un eitem i bob cais

£495£198492.5

Meddalwedd rheoli fferm, busnes a chymwysiadau cofnodi ffisegol (ni chynhwysir ffioedd tanysgrifio)

 

Pecynnau meddalwedd rheoli fferm manyleb ganolog-uchel (ni chynhwysir opsiynau cychwyn nac opsiynau sylfaenol) ar gyfer rheoli byw da/ cnydau neu’r ddau. 

Rhaid i’r pecynnau allu cofnodi gwybodaeth ffisegol i: 

Reoli mentrau

Helpu gyda chydymffurfedd 

Ni chynhwysir ffioedd blynyddol am gymorth na thanysgrifiadau. 

£456£182512.5

Porth a synwyryddion LoRaWAN IoT

 

Porth LoRaWAN IoT sydd â’r fanyleb ganlynol o leiaf:

Porth 868Mhz sy’n cydymffurfio â LoRa Alliance/wedi’i ardystio ganddynt, gan gynnwys bracedi gosod

Antena LoRaWAN

Addas i gael pŵer dros yr ether-rwyd (PoE) – gan gynnwys chwistrellydd/addasydd PoE. 

IP67

Cydnaws â ‘Rhyngrwyd y Pethau’ neu rwydweithiau LoRaWAN eraill. 

O leiaf pum synhwyrydd i fonitro gweithgarwch fferm mewn perthynas ac anifeiliaid a chynhyrchu cnydau, a/neu berfformiad amgylcheddol.

£1,042£417490

Gorsaf dywydd ddigidol, wedi’i chysylltu â meddalwedd gyfrifiadurol. 

 

Gorsaf dywydd ddigidol, wedi’i chysylltu â chyfrifiadur, sy’n gallu mesur o leiaf pump o’r canlynol :

Gwasgedd baromedrig 

Tymheredd

Lleithder

Glawiad

Gwynt

Ymbelydredd yr haul

Golau uwchfioled

Lleithder a thymheredd y pridd

Mae’r pris yn cynnwys bracedi gosod a synwyryddion. 

Ni chynhwysir costau gosod, costau gwasanaethu, graddnodi na thrwyddedau blynyddol.

£778£311397.5

Synwyryddion LoRaWAN IoT

 

 

 

Synhwyrydd i fonitro gweithgarwch fferm sy'n ymwneud â chynhyrchu anifeiliaid a chnydau, a/neu berfformiad amgylcheddol.

Cydnaws a LoRaWAN Gateway.

£107£43490

Tancer dŵr gyda chafn integredig­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­­

 

 

 

 

 

Tancer Dŵr gydag isafswm capasiti 1000 litr i gyflenwi dŵr i dda byw ar gyfer rheoli glaswelltir ac atal sathru cyrsiau dŵr.

Yn cynnwys cafn dŵr integredig sy'n llenwi o'r tanc yn awtomatig. 

Rhaid i'r eitem fod yn system integredig,

Nid yw prynu trelar, tanc dŵr a chafn ar wahân yn gymwys

£3,094£1,237350
Pwmp dŵr tanddwr pŵer solar

Mae pwmp dŵr pŵer solar i gyflenwi dŵr i dda byw ar gyfer rheoli glaswelltir ac atal sathru cyrsiau dŵr, yn cynnwys: 

Pwmp dŵr, 

Batri 

Panel solar i ail-wefru batri

Isafswm pibell 25m

£1,314526350
System awtomatig i lanhau traed gwartheg 

System awtomatig untro i lanhau carnau gwartheg sy’n gallu: 

Llenwi, dosio, fflysio ac yn ail-lenwi’n awtomatig 

£6,678£2,671422.5
Peiriant hadu micro

Peiriant hadu bach, sy'n addas ar gyfer hau hadau bach fel glaswellt, meillion, rêp, maip sofl etc. 

Isafswm maint hopys 75 litr

Wedi'i bweru gan fodur trydan,

Y gallu i raddnodi ac addasu cyfradd hadu

System rheoli electronig troi ymlaen/diffodd

Gellir ei osod ar y bras-droi’r pridd/peiriant tyrchu, tractor neu ATV.

£1,980£792396.70
Dadansoddydd carbon deuocsid 

Dadansoddydd carbon deuocsid i’w ddefnyddio i wirio a chofnodi lefelau o garbon deuocsid mewn storfeydd cnydau ac adeiladau da byw. Rhaid iddo gynnwys: 

larymau gweledol a/neu glywedol sy’n gywir i blws neu finws 40ppm neu lai, a gallu storio data i’w lawrlwytho nes ymlaen gan ddefnyddio WiFi neu gysylltiad USB â chyfrifiadur neu lechen.

£271£108450
Dadansoddydd amonia    

Dadansoddydd nwy amonia i’w ddefnyddio i wirio a chofnodi lefelau amonia mewn adeiladau da byw. Rhaid iddo gynnwys:

larymau gweledol a/neu glywedol, a 

gallu storio data i’w lawrlwytho nes ymlaen gan ddefnyddio WiFi neu gysylltiad USB â chyfrifiadur neu lechen.

£723£289430