Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ac i gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth - yn cyflawni yn unol â’r themâu canlynol:

  • rheoli tir ar raddfa fferm
  • gwella’r amgylchedd ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi gweithredu sy’n ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw, a llywio datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael ar Rhwydwaith Gwledig Cymru (ar businesswales.gov.wales).

Adran A – cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth a'r mathau o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth grant. Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler 'Sut i Wneud Cais' yn adran C a'r llyfryn Sut i Lenwi.

Mae'r broses ymgeisio i’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi’i rhannu’n ddau gam. Yn gyntaf, bydd gofyn ichi Ddatgan Diddordeb. Os caiff eich Datganiad ei ddewis, bydd angen i chi wneud cais llawn.

Bydd y ffenestr Datgan Diddordeb yn agor ar 11 Ebrill 2023 ac yn cau ar 20 Mai 2023.

Mae cyllideb o £300,000 wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Bydd grant o £3,000 ar gael i bob ymgeisydd.

Mae'r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi'i gynllunio i helpu newydd-ddyfodiaid i'r sector garddwriaeth yng Nghymru drwy annog sefydlu busnesau garddwriaeth masnachol newydd, naill ai fel elfen arallgyfeirio o fewn busnes amaethyddol sy'n bodoli eisoes, neu fel menter newydd annibynnol. Wrth wneud hynny, bydd yn helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o Gymru fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfartal.

Bydd y grant yn annog y defnydd o dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu, yn creu ffrwd incwm mwy amrywiol ar gyfer busnesau fferm yng Nghymru, yn sefydlu mentrau gwledig newydd ac yn creu cyfleoedd gwaith.

Mae'r Grant Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar gael i unigolion neu fusnesau sydd am ymuno â'r sector garddwriaethol masnachol. Dyma nodau'r cynllun:

  • Annog sefydlu busnesau garddwriaethol masnachol newydd drwy gynnig cyllid sbarduno iddynt ar ffurf grant.
  • Lleihau ychydig ar y risg ariannol o fuddsoddi mewn menter newydd.
  • Denu mwy o unigolion i ymuno â'r sector.
  • Annog y defnydd o dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu mewn busnesau garddwriaethol.
  • Creu ffrwd incwm mwy amrywiol ar gyfer busnesau fferm yng Nghymru.
  • Sefydlu busnesau gwledig newydd, fydd yn creu gwaith a chyfleoedd i dyfu ac yn cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy.
  • Ymateb i Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru ac annog cyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.

Bydd angen i ymgeiswyr, sy’n cael eu dewis ar ôl Datgan Diddordeb, brofi bod eu prosiectau'n gynigion ymarferol sydd â'r potensial i ddatblygu'n fusnesau cynaliadwy.

Ar ôl asesu’r ceisiadau, caiff contract ei gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus i’w helpu i ddechrau busnes newydd i blannu cnydau garddwriaethol yng ngwanwyn 2024.  Peidiwch â dechrau ar unrhyw waith tan i chi gael cynnig contract.

Canlyniadau ar ôl cwblhau'r prosiect

 Ar ôl cwblhau'r prosiect, bydd yr unigolyn / busnes a gefnogir wedi:

  1. Sefydlu busnes garddwriaethol newydd neu fenter arddwriaethol newydd sy’n rhan o fusnes sy’n bod eisoes.
  2. Tyfu cnwd neu gnydau garddwriaethol ar raddfa fasnachol.
  3. Datblygu llwybr i’r farchnad ar gyfer y cnwd garddwriaethol.
  4. Sicrhau incwm yn sgil gwerthu'r cnwd i farchnad newydd. Fodd bynnag, ni fydd mentrau sydd wedi plannu cnydau parhaol nad ydynt yn cynhyrchu yn y flwyddyn blannu, wedi cael incwm o’u gwerthu eto.
  5. Meithrin gwybodaeth am dyfu, cynaeafu, storio, pacio, marchnata a dosbarthu.
  6. Mynd ati i ddatblygu sgiliau perthnasol (technegol a busnes). O leiaf 2 weithgaredd.
  7. Adolygu cryfder, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau a datblygu strategaethau priodol i ddatblygu'r busnes.
  8. Pennu’r cyfalaf a’r adnoddau y bydd eu hangen yn y dyfodol i ddatblygu'r fenter yn fusnes cynaliadwy.
  9. Datblygu cynllun busnes tair blynedd o leiaf, gyda llinell amser i ddatblygu'r fenter gychwynnol yn fenter fasnachol (neu opsiynau eraill os na all y fenter gychwynnol sicrhau’r canlyniadau a ddymunir).

Adran B – Pwy sy’n gymwys am Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth

Rydych yn gymwys i wneud cais os:

  • ydych yn bwriadu sefydlu menter arddwriaethol fasnachol newydd.  Mae cnydau garddwriaethol yn golygu ffrwythau a llysiau bwytadwy, planhigion addurnol a blodau. Nid yw meithrinfeydd coed yn gnwd garddwriaethol.
  • ydych wedi cofrestru gyda RPW Ar-lein.

Pa grwpiau sy’n gymwys

Gall grŵp o Gynhyrchwyr Garddwriaeth Masnachol newydd wneud cais i’r cynllun Grantiau Bach - Dechrau Busnes Garddwriaeth. I wneud hynny, rhaid i bawb sy'n rhan o'r grŵp fodloni'r holl amodau uchod. Hefyd, rhaid i'r grŵp fod wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a bydd gan y grŵp Gyfeirnod Cwsmer (CRN). Rhaid cyflwyno'r cais o dan y CRN a roddwyd ar gyfer y grŵp.  Dim ond un taliad grant y bydd y grŵp yn gymwys i'w gael.

Nid ydych yn gymwys:

  • os ydych eisoes wedi sefydlu busnes garddwriaethol, waeth a ydych yn gwerthu cynnyrch neu beidio
  • os ydych yn cynhyrchu cnydau garddwriaethol masnachol ar hyn o bryd. Mae hynny’n cynnwys tyfu cnwd garddwriaethol i’w ddefnyddio at ddiben masnachol, gan gynnwys ei werthu i drydydd parti neu ei ddefnyddio fel rhan o weithgaredd masnachol sydd eisoes yn cael ei gynnal
  • os ydych yn berchennog ar fusnes sy'n bodoli eisoes sydd ag elfen arddwriaethol ynddo neu’n bartner neu'n gyfranddaliwr â rôl weithredol mewn busnes o’r fath.
  • os nad ydych yn bwriadu cynhyrchu cnydau i'w gwerthu'n fasnachol.
  • os nad ydych yn bwriadu tyfu cnydau ar raddfa ddigonol i ddangos bod gennych fwriad i’r fenter ddatblygu’n fenter fasnachol gynaliadwy.
  • os ydych yn bwriadu tyfu cnydau mewn lleoliad domestig, fel tŷ gwydr neu ardd ddomestig, neu os bwriedir y cnydau ar eich cyfer chi.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch a ydych yn gymwys, e-bostiwch Horticulture@gov.Cymru

Costau cymwys

Rhoddir y grant ar ffurf cyfalaf gweithio, er mwyn helpu i sefydlu menter arddwriaethol fasnachol. Gellir defnyddio'r grant fel buddsoddiad cyfalaf, neu fel cymorth refeniw i ariannu'r gwariant canlynol:

  • Prynu offer a thechnoleg benodol ar gyfer cynhyrchu cnydau garddwriaethol.
  • Hadau, planhigion ac ati.
  • Systemau cynaeafu a storio.
  • Brandio, deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol neu ddatblygu gwefan.
  • Costau marchnata a/neu hysbysebu.
  • Offer monitro amgylcheddol neu reoli ansawdd.
  • Costau rhentu.
  • Costau contractio.

Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os gall yr ymgeisydd ddangos y canlynol:

  • bod yr offer yn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol
  • ei fod yn ateb y diben
  • y gellid disgwyl iddo bara bum mlynedd arall o leiaf.

Costau anghymwys

 Ni fydd grant ar gael ar gyfer y canlynol.

  • Prynu tir.
  • Prynu cerbydau modur.
  • Prynu tractorau neu gerbydau telesgopig.
  • Prynu adeiladau parhaol.
  • Prynu offer garddwriaeth anfasnachol.
  • Talu am eitemau a brynwyd cyn cynnig contract Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth i chi.
  • Costau cynnal a chadw neu adnewyddu cyfarpar sy'n bodoli eisoes.
  • Cyfarpar a dodrefn swyddfa.
  • Eich costau llafur eich hunan.
  • Buddsoddi mewn eitemau cyfalaf sydd â chapasiti sy'n fwy na gofynion y fenter e.e. prynu offer tyfu sy'n fwy nag sydd ei angen ar y fenter.
  • Eitemau sydd eu hangen i ateb gofynion statudol, e.e. offer iechyd a diogelwch.

Mae'r grant yn amodol ar sicrhau’r holl ganlyniadau hanfodol yn llwyddiannus, a restrir yn Adran A.

Dewis prosiectau llwyddiannus

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl ei werth posibl i'r economi wledig, sut mae'r cais yn ymateb i amcanion y cynllun a photensial y busnes i fod yn gynaliadwy yn y tymor hwy.

Bydd y broses Datgan Diddordeb a dewis gychwynnol yn cadarnhau’ch bod wedi bodloni’r holl feini prawf yn foddhaol a’ch bod yn gymwys.

Gofynion allweddol

Bydd y Contract ar gyfer y prosiect yn para am hyd at 12 mis.

Ni fyddai'r Prosiect yn mynd yn ei flaen heb gymorth y grant.

Adran C – Gwneud cais i’r Cynllun Dechrau Busnes Garddwriaeth

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EOI)

RPW Ar-lein

Rhaid Datgan Diddordeb yn y cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004 (1 Mawrth – 28 Ebrill 2023 (heb gynnwys Gwyliau Banc) Llun – Gwener 9am – 4pm a 2 – 15 Mai 2023 Llun – Iau 9am – 5pm a Gwener 9am – 4pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael defnyddio’ch cyfrif RPW ar-lein. Mae’r cais am y Cynllun Datblygu Garddwriaeth ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif. 

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW.  Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am Ddatgan Diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru. RPW Ar-lein | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.

Adran D - datgan diddordeb a’r broses ddewis

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb

Darllen sut i ddatgan diddordeb trwy RPW Ar-lein.

Eich cyfrifoldeb chi yw Datgan eich Diddordeb yn gywir a sicrhau bod yr wybodaeth rydych wedi’i chyflwyno i gefnogi’ch prosiect yn gywir.

Rhaid cwblhau'r Datganiad o Ddiddordeb yn llawn a chyflwyno’r holl ddogfennau a nodir isod i gefnogi'r cais.

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i Ddatgan Diddordeb trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Dogfennau i ategu’ch datganiad o ddiddordeb

I gefnogi’ch Datganiad o Ddiddordeb, rhaid i chi gyflwyno'r dogfennau canlynol, lle bo hynny'n berthnasol, erbyn y dyddiad cau ar gyfer Datgan Diddordeb.

  • Copi o dystysgrifau o’ch cymwysterau.
  • Tystiolaeth o weithgarwch Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) rhwng 1 Ionawr 2019 a 30 Ebrill 2023.
  • Tystiolaeth o unrhyw weithgaredd hyfforddi neu DPP, neu ddigwyddiad trosglwyddo gwybodaeth gyda garddwriaeth yn brif bwnc ynddo, rhwng 1 Ionawr 2019 a 30 Ebrill 2023.
  • Copi o'r cynllun busnes (os oes un).

Sgorio a dethol

Bydd pob Datganiad o Ddiddordeb yn cystadlu â’i gilydd. Caiff eich Datganiad ei sgorio yn ôl y meini prawf canlynol:

  1. Eich cymwysterau academaidd perthnasol
  2. Gweithgaredd Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) sydd wedi’i gynnal
  3. Gweithgarwch DPP neu ddigwyddiad trosglwyddo gwybodaeth gyda garddwriaeth yn brif bwnc iddo.
  4. Y math o fenter arddwriaethol y byddwch yn ei sefydlu.
  5. A oes gennych gynllun busnes.
  6. Strwythur busnes y fenter

Bydd pob Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei asesu ar sail cyfres o gwestiynau. Caiff y Datganiadau o Ddiddordeb eu sgorio a’u rhoi yn eu trefn. Caiff y prosiectau eu dewis yn eu trefn tan na fydd arian ar ôl neu tan y byddwn wedi cyrraedd uchafswm nifer y ceisiadau. Bydd hyd at 2 grŵp dewis ym mhob ffenestr. Ni allwn warantu y caiff yr holl arian ei neilltuo, na chwaith y caiff uchafswm nifer y prosiectau eu dewis ar gyfer cam 2 y broses.

Er mwyn gallu dewis Datganiad o Ddiddordeb, rhaid iddo gael sgôr o 25 o leiaf.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi a yw’ch Datganiad o Ddiddordeb wedi ei ddewis drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein.

Mae manylion y sgoriau dewis wedi'u nodi isod (sgôr unigol mewn cromfachau).

  1. I gefnogi sefydlu menter arddwriaethol, pa gymhwyster academaidd perthnasol sydd gennych?
  • Cymhwyster ffurfiol mewn garddwriaeth (20)
  • Cymhwyster ffurfiol mewn amaethyddiaeth (15)
  • Cymhwyster ffurfiol mewn pwnc cysylltiedig* (10)
  • Dim cymhwyster ffurfiol mewn garddwriaeth, amaethyddiaeth na phwnc cysylltiedig (0)

Mae cymhwyster ffurfiol yn golygu gradd neu radd uwch neu gymhwyster academaidd NVQ lefel 1-5 neu gymhwyster cyfatebol.

*Gallai pwnc cysylltiedig gynnwys gwyddoniaeth cnydau, marchnata, diogelwch bwyd, astudiaethau busnes, ac ati.

Bydd y Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei sgorio ar sail y cymhwyster uchaf sydd gennych.

  1. A ydych chi wedi dilyn ac yn gallu profi ichi ddilyn gweithgaredd Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP), ym maes cynllunio busnes, rheoli neu ddatblygu busnes, marchnata neu unrhyw weithgaredd datblygu arall a allai’ch helpu i baratoi ar gyfer sefydlu menter newydd lwyddiannus?

(Ymateb yn seiliedig ar weithgarwch DDP rhwng 1 Ionawr 2019 a 30 Ebrill 2023)

  • Ydw (10)
  • Nac ydw (0)

Gallai gweithgaredd DPP cymwys gynnwys: Cynllunio a datblygu busnes, Rheoli llif arian, Cofnodi ariannol, Rheoli Prosiectau, Marchnata, Arallgyfeirio, neu bwnc arall cysylltiedig. Wrth ateb y cwestiwn hwn, peidiwch â chynnwys gweithgaredd DPP lle'r oedd garddwriaeth yn brif bwnc.

  1. A ydych chi wedi ymgymryd â hyfforddiant neu weithgaredd DPP ac yn gallu rhoi tystiolaeth o hynny, neu wedi cymryd rhan mewn digwyddiad trosglwyddo gwybodaeth gyda garddwriaeth yn brif bwnc iddo rhwng 1 Ionawr 2019 a 30 Ebrill 2023)?
  • Ydw (10)
  • Nac ydw (0)

Eich prosiect Dechrau Busnes Garddwriaeth

  1. Pa fath o fenter arddwriaethol ydych chi'n bwriadu ei sefydlu:
  • Garddwriaeth mewn amgylchedd wedi’i reoli (CEH) (40)
  • Cnydau llysiau / salad o dan blastig, yn cynnwys twnelau polythen, neu wydr (30)
  • Cnydau salad mewn caeau (20)
  • Ffrwythau mewn caeau (15)
  • Llysiau mewn caeau (10)
  • Cnydau na ellir eu bwyta, blodau, llwyni addurnol, coed ac ati. (5)
  1. A ydych wedi datblygu cynllun busnes ar gyfer eich menter arddwriaethol newydd arfaethedig?
  • Ydw (10)
  • Nac ydw (0)

Nid yw cynllun busnes llawn yn hanfodol yn y cam Datgan Diddordeb, ond os ydych yn dweud bod gennych gynllun busnes, dylai’r cynllun fod o leiaf ar gyfer y 3 blynedd nesaf a chynnwys y canlynol:

  • Manylion y busnes
  • Gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a’r system gynhyrchu (os yw'n briodol, y berthynas â busnes y fferm)
  • Dadansoddiad o Gryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau.
  • Nodau ac amcanion.
  • Dadansoddiad o'r farchnad a’r gystadleuaeth.
  • Amcanion, opsiynau a chynigion buddsoddi y dyfodol
  • Yr adnoddau sydd eu hangen.
  • Cynllun gweithredu / cyflawni.
  • Rhagolygon ariannol 3 blynedd (Gan gynnwys llif arian, elw a cholled a rhagolygon y fantolen.)

Ar gyfer menter arddwriaethol y bwriedir ei rhedeg o fewn busnes fferm ehangach, dylai'r cynllun egluro sut mae’r mentrau garddwriaethol ac amaethyddol wedi’u hintegreiddio.

  1. Beth fydd strwythur busnes y fenter:
  • Menter o fewn busnes sy'n bodoli eisoes (e.e. chi yw perchennog, partner neu gyfranddaliwr busnes sy'n bodoli eisoes a bydd y fenter arddwriaethol yn cael ei rhedeg o fewn y busnes hwnnw) (5)
  • Menter annibynnol newydd (naill ai fel unig fasnachwr, partneriaeth neu gwmni cyfyngedig) sy’n cael ei sefydlu i fasnachu fel menter arddwriaethol. (10)

Byddwn yn rhoi gwybod ichi a yw’ch Datganiad o Ddiddordeb wedi ei ddewis neu beidio drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein.

Datganiad o Ddiddordeb sydd wedi’i ddewis – Cadarnhau’ch bod yn derbyn

Os caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei ddewis, rhoddir gwybod i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid i chi dderbyn neu wrthod y cynnig trwy lenwi’r Atodiad i’r Cais fydd wedi’i gynnwys yn eich llythyr hysbysu a’i anfon at Lywodraeth Cymru trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad fydd wedi’i nodi yn eich llythyr.

Byddwn yn rhoi nodyn atgoffa i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Os byddwch yn derbyn y cynnig, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i fod yn gais llawn.

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr yn eich hysbysu’ch bod wedi’ch dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y Prosiect. Ni chewch ddechrau ar unrhyw waith nes eich bod yn cael cynnig Contract trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Bydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei wrthod.

Os na fyddwch wedi derbyn y cynnig neu os na fyddwch yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad yn y llythyr, ni chaiff eich Datganiad o Ddiddordeb fynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl.

Datganiad o Ddiddordeb sydd wedi’i ddewis – Cyflwyno cais llawn

Os caiff eich Datganiad ei ddewis, bydd y ffurflen gais lawn yn ymddangos ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Bydd gofyn i chi gyflwyno'r cais o fewn 8 wythnos ar ôl dyddiad rhoi gwybod ichi eich bod wedi’ch dewis.

Yn y cais llawn, bydd angen i ymgeiswyr ateb cwestiynau am:

  • Weithgarwch
  • Targedau a chanlyniadau
  • Adnoddau
  • Gwerthiant a marchnata cynnyrch
  • Gwybodaeth a phrofiad
  • Cynaliadwyedd hirdymor
  • Cyllid a chyflawni
  • Rheoli risg

Hefyd, bydd y cais yn gofyn i chi egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a Phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Dyma’r dangosyddion a’r canlyniadau a fydd yn cael eu monitro yn sgil y buddsoddiad:

  • Nifer y busnesau a gynhelir
  • Nifer y swyddi sy’n cael eu creu
  • Effaith ar drosiant y busnes.
  • Arferion neu dechnoleg arloesol a gyflwynir

Bydd angen cyflwyno'r dogfennau canlynol hefyd gyda'r cais llawn

  • Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo (SAB) Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)
  • Caniatâd Cynllunio os yw'n briodol
  • Rhagolygon Ariannol ar gyfer cyfnod y prosiect
  • Ar gyfer busnesau sy’n bod, cyfrifon y tair blwyddyn ddiwethaf. Os ydych wedi bod yn masnachu am lai na 3 blynedd, cyflwynwch y cyfrifon sydd gennych a allai gynnwys y cyfrifon rheoli ar gyfer y cyfnod diweddaraf.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau nes bod y cais a’r holl ddogfennau ategol yn dod i law Llywodraeth Cymru.  Gallwch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi’ch cais.

Caniatâd Cynllunio 

Os oes angen caniatâd cynllunio ar eich buddsoddiad - ar gyfer tai gwydr neu dwnelau polythen er enghraifft - ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau’r caniatâd cynllunio wedi’u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu. Cewch hyd at yr amser pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad i gyflwyno’r dogfennau hyn.

Os yw'r awdurdod cynllunio wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio ar y prosiect, bydd angen tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hyn.

Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau (SAB) Draenio Cynaliadwy (SuDS)

Os oes angen cymeradwyaeth SAB ar eich buddsoddiad, ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo SAB wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.

I gael trosolwg o'r hyn sydd angen cymeradwyaeth SAB arno ac i gael canllawiau manylach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn: Systemau draenio cynaliadwy (SuDS): canllawiau | LLYW.CYMRU

Os yw'r SAB lleol yn penderfynu nad oes angen iddo gymeradwyo’r prosiect, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan y SAB i gadarnhau hyn. Er bod cymeradwyaeth SAB yn annibynnol ar ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau ar gyfer delio â chaniatâd cynllunio.

Er efallai nad oes angen caniatâd cynllunio awdurdod cynllunio lleol ar gais adeiladu (er enghraifft, datblygiadau a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr), mae’n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth SAB arno os yw’n effeithio ar y system ddraenio. Felly, ni ddylid cymryd yn ganiataol am nad oes angen caniatâd cynllunio, nad oes angen cymeradwyaeth CCS.

  • mae pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi’i roi yn ôl yr angen;
  • cydymffurfir â’r safonau a gofynion deddfwriaethol gofynnol o ran yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol

Arfarnu'r cais llawn

Bydd y cais llawn yn cael ei werthuso yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o ran diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes gwarant y caiff cynnig am brosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod ar ôl y diwrnod cau ar gyfer cyflwyno cais. Efallai y bydd angen mwy o amser os yw’r cais yn un cymhleth. Os ydych yn araf yn ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth, bydd angen mwy o amser arnon ni i arfarnu’ch cais.

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei hasesu ar sail y meini prawf sgorio canlynol ac ar sail hynny y penderfynir rhoi’r grant neu wrthod y cais:

  • uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani

I’r cais lwyddo, rhaid iddo gael o leiaf Sgôr Canolig ym mhob categori.

Sylwch, er mwyn sicrhau’ch bod yn rhoi’r wybodaeth gywir gyda’ch cais, rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau'n ofalus.

Canlyniad gwerthuso a chynnig contract

Mae dau ganlyniad posibl i arfarniad cais llawn:

  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi’i gymeradwyo ar gyfer grant. Fe’ch hysbysir am y rhesymau pam nad oedd eich cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais am yr un prosiect eto os oes cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan ddiwygio’r cais os ydych yn dymuno) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau menter arddwriaethol.
  2. Mae’ch prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Bydd contract yn cael ei roi i chi trwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir i chi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau. Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cynnig y contract o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.

Os byddwch yn derbyn y contract ac yn tynnu allan ohono cyn ei orffen neu nid ydych yn cyflwyno hawliad, ni chewch wneud cais mewn unrhyw rownd ymgeisio yn y dyfodol i’r cynllun Grantiau Bach - Dechrau Busnes Garddwriaeth.

Cewch dynnu’ch cais yn ôl unrhyw bryd cyn dyfarnu’r grant ac ni fydd hynny yn effeithio ar unrhyw geisiadau yn y dyfodol i’r cynllun Grantiau Bach - Dechrau Busnes Garddwriaeth.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Adran E – Amodau’r Grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth (gweler Adran A). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r cynnig o grant Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Gwneir y dyfarniad ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac yn yr ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Rhaid ichi beidio â dechrau ar unrhyw waith ar y prosiect heb ichi yn gyntaf gael awdurdod ysgrifenedig Llywodraeth Cymru. Byddwch wedi prynu'r offer a chysylltu ag RPW trwy RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn y contract a gynigir.

Os na fyddwch wedi cysylltu ag RPW erbyn hynny, caiff y cynnig grant ei wrthod.

Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir ac â chyfraith y DU.

Ni chewch newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Bydd yn rhaid ichi gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru i gael gwared ar, trosglwyddo a gwerthu unrhyw offer a brynir gyda chymorth y grant yn ystod y prosiect ac am bum mlynedd o ddyddiad diwedd y contract. Fel arall, bydd yn rhaid ichi dalu’r grant yn ôl yn llawn.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yng Nghanllawiau’r Cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio’r ffurflen ar dudalen Hawlio Grant RPW Ar-lein a rhaid atodi’r holl ddogfennau sydd eu hangen o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y contract. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw rai o'r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi roi cadarnhad nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall.  Os daw’n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad ac y gellid adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.

Rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ganiatáu iddynt weld gwybodaeth a/neu ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran F – taliadau

Hawliadau

Bydd yn rhaid ichi hawlio'r Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar dudalen Hawlio Grantiau eich cyfrif RPW Ar-lein. Chewch chi ddim mo'ch talu nes bod eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y canlyniadau wedi’u sicrhau a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y caiff hawliadau eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael eich talu, rhaid ichi:

  • Dderbyn contract cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a chadw at yr holl ofynion.
  • Sicrhau na fyddwch yn prynu eitemau a restrir yn eich contract tan ar ôl i chi dderbyn y contract.
  • Sicrhau bod yr holl eitemau rydych wedi’u prynu gyda chymorth ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.
  • Sicrhau bod yr holl eitemau a brynwyd ar y safle ar adeg cyflwyno’ch hawliad.
  • Cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant ar eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio sydd wedi’i nodi yn eich contract.  Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
  • Cyflwyno tystiolaeth bod yr holl ganlyniadau wedi'u sicrhau.
  • Cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS os oes eu hangen.

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy’r ffurflen Hawlio Grantiau gyda’r holl ddogfennau ategol.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y ffurflen Hawlio Grant ar gael. Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl i’r buddsoddiad gael ei gwblhau a’r canlyniadau eu sicrhau.  

Dogfennau ategol

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o dystiolaeth i brofi’ch bod wedi sicrhau’r holl ganlyniadau:

Enghreifftiau o dystiloaeth
CanlyniadY dystiolaeth ategol sydd ei hangen
Sefydlu busnes garddwriaethol newydd neu fenter arddwriaethol newydd sy’n rhan o fusnes sy’n bod eisoes.
  • Ffotograff â geodag o’r eitemau cyfalaf sydd wedi’u prynu.
  • Ffotograff â geodag o gnydau/cnydau'n tyfu. (e.e. hau, tyfu, cynaeafu) Mae angen i'r arwynebedd y tyfir arno adlewyrchu'r arwynebedd a nodir yn y cais.
  • Copïau o anfonebau prynu.
  • Copïau o anfonebau gwerthu (lle bo'n gymwys)
Tyfu cnwd neu gnydau garddwriaethol ar raddfa fasnachol / lled-fasnachol.
Datblygu llwybr i farchnad ar gyfer y cnwd garddwriaethol.
Sicrhau incwm yn sgil gwerthu'r cnwd i farchnad newydd.
  • Copïau o anfonebau gwerthu (lle bo'n gymwys).
  • Tystiolaeth eich bod wedi cael yr incwm (datganiad banc lle bo’n gymwys).
  • Ni fydd mentrau sydd wedi plannu cnydau parhaol nad ydynt yn cynhyrchu yn y flwyddyn blannu wedi cael incwm o’u gwerthu eto.
Meithrin gwybodaeth am dyfu, cynaeafu, storio, pacio, marchnata a dosbarthu.
  • Tystiolaeth a ddarparwyd yn erbyn canlyniadau eraill.
Mynd ati i ddatblygu sgiliau perthnasol (technegol a busnes).
  • Copïau o dystysgrifau hyfforddi.

Tystiolaeth o bresenoldeb mewn digwyddiadau hyfforddi (O leiaf 2 weithgaredd DPP sy'n berthnasol i'r busnes).

Adolygu cryfder, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau a datblygu strategaethau priodol i ddatblygu'r busnes.

 

  • Copi o'r cynllun busnes.

Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:

  • Manylion y busnes.
  • Manylion yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a'r system gynhyrchu (ac os yw'n briodol, y berthynas â’r busnes ffermio).
  • Dadansoddiad SWOT.
  • Nodau ac amcanion.
  • Dadansoddiad o'r farchnad a’r gystadleuaeth.
  • Amcanion a chynigion buddsoddi y dyfodol.
  • Yr adnoddau sydd eu hangen.
  • Cynllun gweithredu / cyflawni.
  • Rhagolygon ariannol 3 blynedd (Gan gynnwys llif arian, elw a cholled a rhagolygon y fantolen.)

Os na fyddwch wedi dangos digon o dystiolaeth, caiff eich hawliad ei wrthod.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Dechrau Busnes Garddwriaeth. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran G – newidiadau i reolau’r Cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (Gan gynnwys Newid Dehongliad)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i Reolau neu gontract y cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran H - Rheoliadau, Monitro a Chadw Cofnodion

Mesurau Rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl i chi talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’ch cais a’ch hawliad i gyd yn cael eu archwilio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae'n ofyn fod yr holl grantiau yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur. Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect ar unrhyw adeg resymol o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

Bydd ymweliadau â safleoedd canran o’r prosiectau a gymeradwywyd yn cael eu cynnal o fewn pum mlynedd ar ôl cwblhau’r prosiect (Dyddiad Gorffen y Prosiect) er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn parhau i fod yn berchen ar y cyfarpar a brynwyd gyda’r grant, a’i ddefnyddio, a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Un o ofynion y grant yw bod angen cadw’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn gweithio ac mewn cyflwr da, a rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau oes hir i’r prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

 Bydd gofyn ichi hefyd:

  • roi unrhyw wybodaeth am eich Contract Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth i Lywodraeth Cymru a hynny’n brydlon yn unol â chais Llywodraeth Cymru amdani
  • gofalu bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am eich contract Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld. Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Adran I - y drefn apelio a chwyno

Gweithdrefn apelio  

(i) Cyn Dyfarnu Contract / Grant 

(a) Datgan Diddordeb 

Nid oes sail dros apelio yn y cam datgan diddordeb.

(b) cais llawn 

Gallwch wneud cais am adolygiad mewnol o benderfyniad a wnaed ar adeg y Cais Llawn. Rhaid cyflwyno eich gwrthwynebiadau, gan gynnwys tystiolaeth ategol, o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr gan amlinellu’r penderfyniad yr ydych yn dymuno ei fod yn cael ei adolygu. Dylid cyflwyno hyn yn ysgrifenedig drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Bydd swyddogion yn adolygu ac yn gwneud penderfyniad terfynol, ac yn eich hysbysu ohono, gyda’r rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw. 

(ii) Ar ôl dyfarnu Contract / Grant 

Caiff apeliadau sy’n ymwneud â phenderfyniad Llywodraeth Cymru unwaith y bydd contract wedi ei gynnig eu hystyried o dan y ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ . Mae’r broses hon yn caniatáu i chi ofyn am adolygiad os ydych yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).

 Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

 Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. 

 Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig

Y drefn gwyno 

 Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru 
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru 

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon.cymru

Adran J - hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu o wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwyster, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw’ch manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • I weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch.
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny.
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol.
  • I ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data.
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Cardiff
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan : https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Adran K – deddfwriaeth

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd).

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef: 

  • meithrin cystadleurwydd amaethyddiaeth;
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
  • sicrhau cadernid rhag yr hinsawdd;
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol i’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd;
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Fel rhan o’r cais, gofynnir i chi ddisgrifio sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.

Hefyd, bydd y Cynllun yn gofyn i ymgeiswyr nodi sut y bydd eu prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • Y Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau i’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau yn berthnasol i o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig;
  2. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, ahyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth;
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran L – cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. I gofrestru, ewch i hysbysiadau Llywodraeth Cymru  neu cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth.