Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ac i gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth - yn cyflawni yn unol â’r themâu canlynol:

  • rheoli tir ar raddfa fferm
  • gwella’r amgylchedd ar ffermydd
  • effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • coetiroedd a choedwigaeth
  • cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi gweithredu sy’n ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw, a llywio datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn Materion Gwledig Cymr (ar busnescymru.llyw.cymru).

Adran A: cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth a'r mathau o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth grant. Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler 'Sut i Wneud Cais' yn adran C  a'r llyfryn Sut i Lenwi.

Bydd y ffenestr ymgeisio yn agor ar 4 Tachwedd 2024 ac yn cau ar 10 Ionawr 2025.

Mae cyllideb o £100,000 wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod (ffenest) ymgeisio hwn.

Bydd grant o £3,000 ar gael i bob ymgeisydd.

Mae'r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth wedi'i gynllunio i helpu newydd-ddyfodiaid i'r sector garddwriaeth yng Nghymru drwy annog sefydlu busnesau garddwriaeth masnachol newydd, naill ai fel elfen arallgyfeirio o fewn busnes amaethyddol sy'n bodoli eisoes, neu fel menter newydd annibynnol. 

Wrth wneud hynny, bydd yn helpu i wireddu ein huchelgais o Gymru fwy ffyniannus, gwyrdd a chyfartal. Bydd y grant yn annog y defnydd o dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu, yn creu ffrwd incwm mwy amrywiol ar gyfer busnesau fferm yng Nghymru, yn sefydlu mentrau gwledig newydd ac yn creu cyfleoedd gwaith. 

Mae'r Grant Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar gael i unigolion neu fusnesau sydd am ymuno â'r sector garddwriaethol masnachol. Dyma nodau'r cynllun:

  • annog sefydlu busnesau garddwriaethol masnachol newydd drwy gynnig cyllid sbarduno iddynt ar ffurf grant
  • lleihau ychydig ar y risg ariannol o fuddsoddi mewn menter newydd
  • denu mwy o unigolion i ymuno â'r sector
  • annog y defnydd o dechnoleg newydd a thechnoleg sy'n datblygu mewn busnesau garddwriaethol
  • creu ffrwd incwm mwy amrywiol ar gyfer busnesau fferm yng Nghymru
  • sefydlu busnesau gwledig newydd, fydd yn creu gwaith a chyfleoedd i dyfu ac yn cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy
  • ymateb i Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru ac annog cyflenwi bwyd lleol yng Nghymru

Gofynion y cynllun 

 Ar ôl cwblhau'r prosiect, bydd yr unigolyn / busnes a gefnogir wedi gwneud pobun o’r canlynol:

  1. Sefydlu busnes garddwriaethol newydd neu fenter arddwriaethol newydd sy’n rhan o fusnes sy’n bod eisoes.
  2. Tyfu cnwd neu gnydau garddwriaethol ar raddfa fasnachol.
  3. Datblygu llwybr i’r farchnad ar gyfer y cnwd garddwriaethol.
  4. Sicrhau incwm yn sgil gwerthu'r cnwd i farchnad newydd. Fodd bynnag, ni fydd mentrau sydd wedi plannu cnydau parhaol nad ydynt yn cynhyrchu yn y flwyddyn blannu, wedi cael incwm o’u gwerthu eto.
  5. Meithrin gwybodaeth am dyfu, cynaeafu, storio, pacio, marchnata a dosbarthu.
  6. Mynd ati i ddatblygu sgiliau perthnasol (technegol a busnes). O leiaf 2 weithgaredd.
  7. Adolygu cryfder, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau a datblygu strategaethau priodol i ddatblygu'r busnes.
  8. Pennu’r cyfalaf a’r adnoddau y bydd eu hangen yn y dyfodol i ddatblygu'r fenter yn fusnes cynaliadwy.
  9. Datblygu cynllun busnes tair blynedd o leiaf, gyda llinell amser i ddatblygu'r fenter gychwynnol yn fenter fasnachol (neu opsiynau eraill os na all y fenter gychwynnol sicrhau’r canlyniadau a ddymunir). 

Adran B: pwy sy’n gymwys am Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth

Rydych yn gymwys i wneud cais os:

  • ydych yn bwriadu sefydlu menter arddwriaethol fasnachol newydd. Mae cnydau garddwriaethol yn golygu ffrwythau a llysiau bwytadwy, planhigion addurnol, blodau a choed. Mae sefydlu meithrinfa goed yn gymwys
  • ydych wedi cofrestru gyda RPW Ar-lein a’ch bod wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN)

 Nid ydych yn gymwys:

  • os ydych eisoes wedi sefydlu busnes garddwriaethol, waeth a ydych yn gwerthu cynnyrch neu beidio
  • os ydych yn cynhyrchu cnydau garddwriaethol masnachol ar hyn o bryd. Mae hynny’n cynnwys tyfu cnwd garddwriaethol i’w ddefnyddio at ddiben masnachol, gan gynnwys ei werthu i drydydd parti neu ei ddefnyddio fel rhan o weithgaredd masnachol sydd eisoes yn cael ei gynnal
  • os ydych yn berchennog ar fusnes sy'n bodoli eisoes sydd ag elfen arddwriaethol ynddo neu’n bartner neu'n gyfranddaliwr â rôl weithredol mewn busnes o’r fath
  • os nad ydych yn bwriadu cynhyrchu cnydau i'w gwerthu'n fasnachol
  • os nad ydych yn bwriadu tyfu cnydau ar raddfa ddigonol i ddangos bod gennych fwriad i’r fenter ddatblygu’n fenter fasnachol gynaliadwy
  • os ydych yn bwriadu tyfu cnydau mewn lleoliad domestig, fel tŷ gwydr neu ardd ddomestig, neu os bwriedir y cnydau ar eich cyfer chi

Os oes gennych gwestiynau ynghylch a ydych yn gymwys, e-bostiwch Horticulture@gov.cymru.

Costau cymwys

Rhoddir y grant i gefnogi buddsoddiad sy’n sefydlu menter arddwriaethol fasnachol. Gellir defnyddio'r grant fel buddsoddiad cyfalaf, neu fel cymorth refeniw i ariannu'r gwariant canlynol:

  • prynu offer a thechnoleg benodol ar gyfer cynhyrchu cnydau garddwriaethol
  • hadau, planhigion ac ati
  • systemau cynaeafu a storio
  • brandio, deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol neu ddatblygu gwefan
  • costau marchnata a/neu hysbysebu
  • offer monitro amgylcheddol neu reoli ansawdd
  • costau rhentu
  • costau contractio

Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os gall yr ymgeisydd ddangos y canlynol: 

  • bod yr offer yn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol
  • ei fod yn ateb y diben
  • y gellid disgwyl iddo bara bum mlynedd arall o leiaf

Costau anghymwys

 Ni fydd grant ar gael ar gyfer y canlynol:

  • prynu tir
  • prynu cerbydau modur
  • prynu cerbydau gan gynnwys tractorau neu beiriannau telesgopig
  • prynu adeiladau parhaol
  • talu am eitemau a brynwyd cyn cynnig Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth i chi
  • eitemau sydd eu hangen i ateb gofynion statudol, e.e. offer iechyd a diogelwch
  • costau cynnal a chadw neu adnewyddu cyfarpar sy'n bodoli eisoes
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa
  • eich costau llafur eich hunan
  • buddsoddi mewn eitemau cyfalaf sydd â chapasiti sy'n fwy na gofynion y fenter e.e. prynu offer tyfu sy'n fwy nag sydd ei angen ar y fenter

Mae'r grant yn amodol ar sicrhau’r holl ganlyniadau hanfodol yn llwyddiannus, a restrir yn Adran A. 

Dewis prosiectau llwyddiannus 

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl ei werth posibl i'r economi wledig, sut mae'r cais yn ymateb i amcanion y cynllun a photensial y busnes i fod yn gynaliadwy yn y tymor hwy.

Bydd y broses ymgeisio a dewis yn cadarnhau’ch bod wedi bodloni’r holl feini prawf yn foddhaol a’ch bod yn gymwys.

Gofynion allweddol

Rhaid cwblhau’r prosiect a gynhelir o dan y grant hwn o fewn 12 mis ar ôl dyddiad y llythyr dyfarnu grant. 

Ni fyddai'r Prosiect yn mynd yn ei flaen heb gymorth y grant. 

Adran C: gwneud cais i’r Cynllun Dechrau Busnes Garddwriaeth

Cyflwyno cais

RPW Ar-lein

Yr unig ffordd o gyflwyno cais am y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yw trwy fynd ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch cod defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004 (1 Mawrth i 28 Ebrill 2023 (heb gynnwys gwyliau banc) Llun i Gwener 9am i 4pm a 2 i 15 Mai 2023 Llun i Iau 9am i 5pm a Gwener 9am i 4pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff cod defnyddio newydd ei anfon atoch. 

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth. 

Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael defnyddio’ch cyfrif RPW ar-lein. Mae’r cais am y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif. 

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW. Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a chod defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am ddatgan diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Mae rhagor o fanylion am RPW Ar-lein ar gael ar ein gwefan.

Cyflwyno cais 

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno'ch cais drwy RPW Ar-lein ar gael ar ein gwefan.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod y cais yn gywir a sicrhau bod yr wybodaeth rydych wedi’i chyflwyno i gefnogi’ch prosiect yn gywir. 

Rhaid cwblhau'r cais yn llawn a chyflwyno’r holl ddogfennau a nodir isod i gefnogi'r cais. 

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i gyflwyno cais drafft trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau. 

Dogfennau ategol 

I gefnogi’ch cais, rhaid i chi gyflwyno'r dogfennau canlynol (fel tystiolaeth ar gyfer cwestiynau 1, 2 a 3) , lle bo hynny'n berthnasol, erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais.

  • copi o dystysgrifau o gymwysterau perthnasol
  • tystiolaeth o weithgarwch Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) rhwng 1 Ionawr 2020 a 30 Ebrill 2024

Adran D: y broses ymgeisio dau gam

Caiff y broses asesu ei rhannu’n ddwy ran. Bydd pob cais a gyflwynir yn cystadlu â’i gilydd. Yn y cam cyntaf, caiff yr adrannau canlynol o’r cais eu hasesu a’u sgorio ar sail y meini prawf ar gyfer dewis: 

  • y ffit strategol 
  • gwybodaeth a phrofiad  
  • addasrwydd y buddsoddiad / gweithgaredd 

Bydd y ceisiadau sy’n ennill y sgôr uchaf yn cael eu dewis yn eu trefn tan y bydd holl arian y rownd wedi’i neilltuo. 

Byddwn yn rhoi gwybod ichi a fydd eich cais wedi’i ddewis ar eich cyfrif RPW ar-lein. 

Os caiff ei ddewis, bydd eich cais yn mynd i gam 2, a chaiff yr adrannau canlynol eu hasesu i gwblhau’r broses o gloriannu’ch cais. 

  • adnoddau 
  • gwerthu a marchnata cynnyrch 
  • cynaliadwyedd tymor hir
  • cyllid a chyflawni
  • risg a rheoli risg
  • themâu trawsbynciol

Cam 1: asesu ar gyfer eich dewis 

Fel rhan o gam 1 y broses asesu ceisiadau ar gyfer y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth, caiff pob cais ei asesu ar sail nifer o feini prawf gan ddefnyddio graddfa sgorio o 0 i 4 i’w lluosi wedyn â’r ffactor pwysoli i roi sgôr gyfan. 

Caiff pob cais ei roi yn nhrefn ei rinweddau. Byddwn yn dewis prosiectau yn ôl eu trefn tan y bydd yr holl arian wedi’i neilltuo neu tan y bydd y nifer mwyaf o geisiadau wedi’u dewis. Ni allwn warantu y caiff yr holl arian ei neilltuo, na chwaith y caiff uchafswm nifer y prosiectau eu dewis ar gyfer cam 2 y broses.

Dyma fanylion y meini prawf ar gyfer dewis. 

Adran busnes/cynllun prosiect i'w hasesu

  • ffit strategol: sgôr 0 i 4 wedi'i luosi gan ffactor pwysoli 5
  • gwybodaeth a phrofiad: sgôr 0 i 4 wedi'i luosi gan ffactor pwysoli 4
  • addasrwydd buddsoddiad / gweithgaredd: sgôr 0 i 4 wedi'i luosi gan ffactor pwysoli 3

Er mwyn gallu dewis cais, rhaid iddo gael sgôr o 24 o leiaf. Bydd sgôr o 1 neu 0 (dim) yn unrhyw un o’r meini prawf yn golygu na chaiff eich cais fynd yn ei flaen i gam 2 y broses. 

Ar gyfer pob adran, caiff yr asesiad ei wneud ar sail yr wybodaeth a’r esboniadau y byddwch wedi’u rhoi i ni. 

Bydd y sgoriau uchaf yn cael eu rhoi i’r rheini sy’n rhoi’r esboniadau mwyaf cynhwysfawr gydag enghreifftiau o’r gweithgareddau y byddan nhw am eu cynnal a sut y caiff y gweithgareddau hyn eu rheoli. 

Bydd sgôr is yn cael ei rhoi os bydd yr esboniadau’n ddim mwy na datganiadau o fwriad, er enghraifft, “byddwn yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda rhanddeiliaid gydol y prosiect”.

Cam 1: cwestiynau asesu ar gyfer eich dewis

Ffit strategol 

Er mwyn i brosiect fodloni ffit strategol y cynllun, bydd angen ichi roi manylion y math o fenter arddwriaethol y byddwch am ei sefydlu, unrhyw weithgareddau datblygu proffesiynol parhaus (CPD) y byddwch yn eu cynnal a strwythur y fenter a’r cymwysterau sydd gennych. 

Dyma enghreifftiau o’r math o gymwysterau: cymhwyster mewn garddwriaeth, amaethyddiaeth neu bwnc cysylltiedig. (Gallai pwnc o’r fath gynnwys gwyddor cnydau, marchnata, diogelwch bwyd, astudiaethau busnes ac ati.) 

Rhaid ichi gyflwyno’r dogfennau canlynol, os yn gymwys, erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais:

  • copi o dystysgrifau cymwysterau
  • tystiolaeth o weithgareddau CPD rhwng 1 Ionawr 2020 a 30 Ebrill 2024
Gwybodaeth a phrofiad 

Er mwyn i brosiect fodloni’r gofynion o ran gwybodaeth a phrofiad, bydd angen ichi roi manylion eich gwybodaeth a'ch profiad. 

Nid oes yn rhaid i’r profiad hwnnw fod yn y sector garddwriaeth a gall gynnwys profiad ehangach, fel rheoli staff, gwerthiant ac ati. Gallwch ddechrau menter ran-amser tra’n parhau i weithio ble ydych chi, ond bydd angen ichi esbonio sut y byddwch yn rheoli’r weithgaredd ac yn delio â blaenoriaethau all gwrthdaro. 

Addasrwydd y buddsoddiad/gweithgaredd 

Er mwyn i brosiect fodloni’r gofynion o ran addasrwydd y buddsoddiad/ gweithgaredd, bydd angen ichi roi manylion pam eich bod am sefydlu’r busnes gan gynnwys sut y bydd yn fenter hyfyw. 

Bydd angen ichi gadarnhau’r cnydau a’r tir y byddwch am dyfu cnydau arno yn y flwyddyn gyntaf. Bydd disgwyl bod gennych gynllun clir. 

Bydd tri chanlyniad posibl i’r asesiad cam 1: 

  1. nid yw’ch cais yn gymwys am y grant 
  2. nid yw’ch cais wedi’i ddewis ar gyfer asesiad cam 2 y cais
  3. mae’ch cais yn llwyddiannus yng ngham 1 ar gyfer ei ddewis a bydd yn mynd yn ei flaen i’w arfarnu’n llawn

Os na chewch eich dewis, ond bod eich cais yn bodloni’r trothwy, byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW ar-lein nad ydych wedi cael eich dewis ond y byddwn yn cadw’ch cais wrth gefn. 

Wedi’ch dewis yn llwyddiannus yng ngham 1

Os caiff eich cais ei ddewis, byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Os nad ydych am i’ch cais fynd ei flaen i gam 2 i gael ei arfarnu, rhaid ichi gadarnhau hynny’n ysgrifenedig atom trwy’ch cyfrif ar-lein o fewn 7 niwrnod ar ôl dyddiad rhoi’r llythyr dewis. Os byddwch wedi rhoi gwybod i ni nad ydych am i’r cais fynd yn ei flaen i gam 2, caiff eich cais ei dynnu’n ôl.

Os ydych yn hapus eich bod wedi’ch dewis, ni fydd angen ichi wneud unrhyw beth arall a bydd eich cais yn mynd yn ei flaen yn awtomatig i gam 2 y broses gloriannu. 

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cael llythyr yn eich hysbysu’ch bod wedi’ch dewis yn golygu y cewch ddechrau gweithio ar y prosiect. Ni chewch ddechrau ar unrhyw waith nes eich bod yn cael cynnig contract trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Bydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei wrthod.

Os na fydd eich cais wedi bodloni meini prawf y cynllun neu os na chaiff ei ddewis, byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch cyfrif ar-lein. 

Cam 2: arfarnu'r cais llawn 

Os caiff ei ddewis, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i Gam 2 a chaiff yr adrannau canlynol eu hasesu i gwblhau proses arfarnu’r cais ac ystyried cynnig grant i chi. 

  • adnoddau 
  • gwerthu a marchnata cynnyrch 
  • cynaliadwyedd tymor hir
  • cyllid a Chyflawni
  • risg a rheoli risg
  • themâu trawsbynciol

Bydd y cais llawn yn cael ei werthuso yn unol â chanllawiau’r cynllun a’r rheolau ynghylch pwy sy’n gymwys. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o ran diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes gwarant y caiff cynnig am brosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod ar ôl y diwrnod cau ar gyfer cyflwyno cais. Efallai y bydd angen mwy o amser os yw’r cais yn un cymhleth. Os ydych yn araf yn ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth, bydd angen mwy o amser arnon ni i arfarnu’ch cais.

Cwestiynau’r cais ar gyfer cam 2:

Adnoddau 

Bydd angen ichi ddisgrifio’r adnoddau sydd ar gael ichi a faint sydd ar gael (e.e. arwynebedd y tir, maint y twnelau polithin).

Lle bo hynny’n briodol, rhaid ichi ddisgrifio’r cytundeb sydd gennych ar gyfer eu defnyddio e.e. ydych chi’n berchen arnyn nhw, yn eu rhentu, yn bwriadu eu prynu? 

O ran offer, os nad oes gennych beiriannau neu offer sydd ar gael ichi neu os bydd yn rhaid ichi brynu’r holl beiriannau, esboniwch sut yr ydych am gynnal y weithgaredd. 

Gwerthu a marchnata cynnyrch 

Rhaid ichi roi manylion y farchnad yr ydych yn bwriadu gwerthu’ch cynnyrch ynddi, gan ddisgrifio unrhyw waith ymchwil rydych wedi’i wneud i’r farchnad honno ac unrhyw effeithiau a gewch ar gynhyrchwyr eraill. 

Os ydych am werthu y tu allan i’ch ardal neu os oes gennych gytundeb gyda chwsmer, bydd hynny’n rhoi sgôr uwch i’ch cais. 

Cynaliadwyedd tymor hir 

Mae defnyddio adnoddau yn effeithlon yn hollbwysig er mwyn helpu i sicrhau economi Lesiant, yn ogystal â lleihau allyriadau. Rydyn ni’n eich cynghori i ystyried sut y bydd eich cynlluniau’n effeithio ar yr amgylchedd ac yn effeithio ar y newid yn yr hinsawdd.

Bydd gweithgareddau fydd yn arwain at wella ansawdd dŵr, y defnydd o ddŵr ac ansawdd pridd ac aer hefyd yn arwain at sgôr uwch na’r rheini na fydd yn cynnal gweithgareddau o’r fath. 

Cyllid a chyflawni 

Rhaid ichi roi manylion y cynnig buddsoddi a chynllun y prosiect ynghyd ag amserlen sefydlu’ch menter arddwriaethol. Rhaid ichi esbonio hefyd pam mae angen grant arnoch. 

Bydd sgôr uwch yn cael ei rhoi i gais sy’n disgrifio’r cynigion buddsoddi’n fanwl ac yn rhoi cynllun ac amserlen fanwl, ac a fydd yn disgrifio’n fanwl hefyd sut y caiff y grant ei ddefnyddio. 

Risg a rheoli risg

Gan gydnabod y risgiau y gallai’r prosiect eu hwynebu, waeth pa mor annhebygol y gallen nhw fod, mae’n bwysig eich bod yn nodi’r risgiau posibl i’ch helpu i reoli’r prosiect. Rhaid ichi ddisgrifio’r risgiau mwyaf all effeithio ar eich gallu i gynnal y prosiect: rhaid ichi ddisgrifio o leiaf pump ohonyn nhw. 

Targedau a chanlyniadau 

Bydd angen ichi nodi’r targedau a chanlyniadau rydych yn gobeithio’u cyflawni yn ystod 12 mis cyntaf eich menter. Dyma’r targedau: 

  • arwynebedd y cnwd / y cnwd a dyfir
  • nifer y cwsmeriaid rydych yn eu targedu 
  • gwerth eich gwerthiant 

Rydyn ni’n disgwyl i’r targedau y byddwch yn eu cynnig fod yn rhai rhesymol ac yn ddigon uchelgeisiol i fusnes newydd. Bydd tyfu cnwd ar ddarn bychan o dir a thargedu un cwsmer yn rhoi sgôr isel ichi. 

Themâu trawsbynciol 

Sut bydd y buddsoddiad yn cyfrannu at y themâu trawsbynciol canlynol? Bydd angen ichi ymateb i’r tair thema drawsbynciol ac esbonio sut bydd eich menter yn cyfrannu at eu prif-ffrydio. 

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  • trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  • y Gymraeg

Cam 2 Sgôr Asesu 

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei hasesu ar sail y meini prawf sgorio canlynol ac ar sail hynny y penderfynir rhoi’r grant neu wrthod y cais:

  • uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdanyn nhw

Y trothwy yw sgôr Ganolig yn y naw categori. Os na fydd eich cais yn bodloni’r gofyn hwn, mae’n bosibl y gofynnwn ichi roi rhagor o wybodaeth. Os na fyddwch yn gallu cael sg֧ôr foddhaol, caiff eich prosiect ei wrthod. 

Pwysig: os bydd angen rhagor o wybodaeth, gallai hynny arafu’r broses o arfarnu’r cais felly rydyn ni’n eich cynghori i ddilyn y canllawiau’n ofalus a rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani.  

Mae dau ganlyniad posibl i arfarniad cais llawn:
  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi’i gymeradwyo ar gyfer grant. Fe’ch hysbysir am y rhesymau pam nad oedd eich cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais am yr un prosiect eto os oes cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan ddiwygio’r cais os ydych yn dymuno) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau menter arddwriaethol.
  2. Mae’ch prosiect yn gymwys ac yn cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Bydd contract yn cael ei roi i chi trwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir i chi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau. Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cynnig y contract o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn rhoi nodyn atgoffa i chi trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y cynnig.

Os byddwch yn dewis tynnu allan o’r grant cyn ei gwblhau neu os nad ydych am brynu’r holl eitemau sydd wedi’u cymeradwyo yn eich dyfarniad grant, efallai na chewch wneud cais i’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn y rownd nesaf ac efallai y bydd angen ichi ad-dalu’r arian sydd wedi’i dalu ichi.

Os byddwch yn derbyn y cynnig, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i fod yn gais llawn. 

Gallwch dynnu’ch cais yn ôl unrhyw bryd cyn i ni gynnig y grant ichi heb i hynny effeithio ar unrhyw gais a wnewch yn y dyfodol am y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth. 

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect. 

Caniatâd cynllunio 

Os oes angen caniatâd cynllunio ar eich buddsoddiad - ar gyfer tai gwydr neu dwnelau polythen er enghraifft - ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau’r caniatâd cynllunio wedi’u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu. Cewch hyd at yr amser pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad i gyflwyno’r dogfennau hyn. 

Os yw'r awdurdod cynllunio wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio ar y prosiect, bydd angen tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hyn.

Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau (SAB) Draenio Cynaliadwy (SuDS)

Os oes angen cymeradwyaeth SAB ar eich buddsoddiad, ni chaiff grant ei dalu nes bod dogfennau cymeradwyo SAB wedi'u cyflwyno a bod Llywodraeth Cymru wedi’u dilysu.

I gael trosolwg o'r hyn sydd angen cymeradwyaeth SAB arno ac i gael canllawiau manylach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn: : Systemau draenio cynaliadwy (SuDS): canllawiau

Os yw'r SAB lleol yn penderfynu nad oes angen iddo gymeradwyo’r prosiect, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan y SAB i gadarnhau hyn. Er bod cymeradwyaeth SAB yn annibynnol ar ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau ar gyfer delio â chaniatâd cynllunio. 

Er efallai nad oes angen caniatâd cynllunio awdurdod cynllunio lleol ar gais adeiladu (er enghraifft, datblygiadau a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr), mae’n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth SAB arno os yw’n effeithio ar y system ddraenio. Felly, ni ddylid cymryd yn ganiataol am nad oes angen caniatâd cynllunio, nad oes angen cymeradwyaeth CCS.

  • mae pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi’i roi yn ôl yr angen
  • cydymffurfir â’r safonau a gofynion deddfwriaethol gofynnol o ran yr amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol

Adran E: amodau’r grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth (gweler Adran A). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd / derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r cynnig o grant y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn llythyr dyfarnu’ch grant, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod.  Bydd cyfnod y grant yn para’r 12 mis o ddyddiad rhoi llythyr dyfarnu’r grant ichi. 

Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad grant arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau

Gwneir y dyfarniad ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac yn yr ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Rhaid ichi beidio â dechrau ar unrhyw waith ar y prosiect heb ichi yn gyntaf gael awdurdod ysgrifenedig Llywodraeth Cymru. Byddwch wedi prynu'r offer a chysylltu ag RPW trwy RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio a nodir yn y grant a gynigir. 

Os na fyddwch wedi cysylltu ag RPW erbyn hynny, caiff y cynnig grant ei wrthod.

Rhaid ichi gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir ac â chyfraith y DU.

Ni chewch newid y prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Bydd yn rhaid ichi gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru i gael gwared ar, trosglwyddo a gwerthu unrhyw offer a brynir gyda chymorth y grant yn ystod y prosiect ac am bum mlynedd o ddyddiad diwedd llythyr dyfarnu’r grant. Fel arall, bydd yn rhaid ichi dalu’r grant yn ôl yn llawn.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yng Nghanllawiau’r Cynllun. 

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio’r ffurflen ar dudalen Hawlio Grant RPW Ar-lein a rhaid atodi’r holl ddogfennau sydd eu hangen o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn llythyr dyfarnu’r grant. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw Llywodraeth Cymru.

Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw rai o'r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi roi cadarnhad nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall. Os daw’n amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad ac y gellid adennill taliadau.

Rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect.

Rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ganiatáu iddynt weld gwybodaeth a/neu ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r hysbysiad preifatrwydd. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). 

Adran F: taliadau

Hawliadau

Bydd yn rhaid ichi hawlio'r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar dudalen Hawlio Grantiau eich cyfrif RPW Ar-lein. Chewch chi ddim mo'ch talu nes bod eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y canlyniadau wedi’u sicrhau a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y caiff hawliadau eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn cael eich talu, rhaid ichi:

  • dderbyn dyfarniad grant y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a chadw at yr holl ofynion
  • sicrhau na fyddwch yn prynu eitemau a restrir yn eich Dyfarniad Grant tan ar ôl i chi dderbyn y contract
  • sicrhau bod yr holl eitemau rydych wedi’u prynu gyda chymorth ar y safle pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad
  • sicrhau bod yr holl eitemau a brynwyd ar y safle ar adeg cyflwyno’ch hawliad 
  • cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant ar eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio sydd wedi’i nodi yn llythyr dyfarnu’ch grant
  • byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio
  • cyflwyno tystiolaeth bod yr holl ganlyniadau wedi'u sicrhau
  • cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SuDS os oes eu hangen

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy’r ffurflen Hawlio Grantiau gyda’r holl ddogfennau ategol. 

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y ffurflen Hawlio Grant ar gael. Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl i’r buddsoddiad gael ei gwblhau a’r canlyniadau eu sicrhau. 

Dogfennau ategol 

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o dystiolaeth i brofi’ch bod wedi sicrhau’r holl ganlyniadau:

Canlyniad

Sefydlu busnes garddwriaethol newydd neu fenter arddwriaethol newydd sy’n rhan o fusnes sy’n bod eisoes
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen
  • ffotograff â geodag o’r eitemau cyfalaf sydd wedi’u prynu
  • ffotograff â geodag o gnydau/cnydau'n tyfu. (e.e. hau, tyfu, cynaeafu) Mae angen i'r arwynebedd y tyfir arno adlewyrchu'r arwynebedd a nodir yn y cais
  • copïau o anfonebau prynu
  • copïau o anfonebau gwerthu (lle bo'n gymwys)
Tyfu cnwd neu gnydau garddwriaethol ar raddfa fasnachol / lled-fasnachol
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen 
  • ffotograff â geodag o’r eitemau cyfalaf sydd wedi’u prynu
  • ffotograff â geodag o gnydau/cnydau'n tyfu. (e.e. hau, tyfu, cynaeafu) Mae angen i'r arwynebedd y tyfir arno adlewyrchu'r arwynebedd a nodir yn y cais
  • copïau o anfonebau prynu
  • copïau o anfonebau gwerthu (lle bo'n gymwys)
Datblygu llwybr i farchnad ar gyfer y cnwd garddwriaethol
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen
  • ffotograff â geodag o’r eitemau cyfalaf sydd wedi’u prynu
  • ffotograff â geodag o gnydau/cnydau'n tyfu. (e.e. hau, tyfu, cynaeafu) Mae angen i'r arwynebedd y tyfir arno adlewyrchu'r arwynebedd a nodir yn y cais
  • copïau o anfonebau prynu
  • copïau o anfonebau gwerthu (lle bo'n gymwys)
Sicrhau incwm yn sgil gwerthu'r cnwd i farchnad newydd
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen 
  • copïau o anfonebau gwerthu (lle bo'n gymwys)
  • tystiolaeth eich bod wedi cael yr incwm (datganiad banc lle bo’n gymwys)
  • ni fydd mentrau sydd wedi plannu cnydau parhaol nad ydynt yn cynhyrchu yn y flwyddyn blannu wedi cael incwm o’u gwerthu eto 
Meithrin gwybodaeth am dyfu, cynaeafu, storio, pacio, marchnata a dosbarthu
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen
  • tystiolaeth a ddarparwyd yn erbyn canlyniadau eraill
Mynd ati i ddatblygu sgiliau perthnasol (technegol a busnes)
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen
  • copïau o dystysgrifau hyffordd
  • tystiolaeth o bresenoldeb mewn digwyddiadau hyfforddi (O leiaf 2 weithgaredd DPP sy'n berthnasol i'r busnes)
Adolygu cryfder, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau a datblygu strategaethau priodol i ddatblygu'r busnes
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen
  • copi o'r cynllun busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:
    • manylion y busnes
    • manylion yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a'r system gynhyrchu (ac os yw'n briodol, y berthynas â’r busnes ffermio)
    • dadansoddiad SWOT
    • nodau ac amcanion
    • dadansoddiad o'r farchnad a’r gystadleuaeth
    • amcanion a chynigion buddsoddi y dyfodol
    • yr adnoddau sydd eu hangen
    • cynllun gweithredu / cyflawni
    • rhagolygon ariannol 3 blynedd (Gan gynnwys llif arian, elw a cholled a rhagolygon y fantolen)
Pennu’r cyfalaf a’r adnoddau y bydd eu hangen yn y dyfodol i ddatblygu'r fenter yn fusnes cynaliadwy.
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen
  • copi o'r cynllun busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:
    • manylion y busnes
    • manylion yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a'r system gynhyrchu (ac os yw'n briodol, y berthynas â’r busnes ffermio)
    • dadansoddiad SWOT
    • nodau ac amcanion
    • dadansoddiad o'r farchnad a’r gystadleuaeth
    • amcanion a chynigion buddsoddi y dyfodol
    • yr adnoddau sydd eu hangen
    • cynllun gweithredu / cyflawni
    • rhagolygon ariannol 3 blynedd (Gan gynnwys llif arian, elw a cholled a rhagolygon y fantolen)
Datblygu cynllun busnes tair blynedd o leiaf, gyda llinell amser i ddatblygu'r fenter gychwynnol yn fenter fasnachol (neu opsiynau eraill os na all y fenter gychwynnol sicrhau’r canlyniadau a ddymunir)
Y dystiolaeth ategol sydd ei hangen
  • copi o'r cynllun busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:
    • manylion y busnes
    • manylion yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a'r system gynhyrchu (ac os yw'n briodol, y berthynas â’r busnes ffermio)
    • dadansoddiad SWOT
    • nodau ac amcanion
    • dadansoddiad o'r farchnad a’r gystadleuaeth
    • amcanion a chynigion buddsoddi y dyfodol
    • yr adnoddau sydd eu hangen
    • cynllun gweithredu / cyflawni
    • rhagolygon ariannol 3 blynedd (Gan gynnwys llif arian, elw a cholled a rhagolygon y fantolen)

Os na fyddwch wedi dangos digon o dystiolaeth, caiff eich hawliad ei wrthod. 

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Dechrau Busnes Garddwriaeth. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran G: newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (gan gynnwys Newid Dehongliad)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt. 

Newidiadau i Reolau’r Cynllun neu Ddyfarniad y Grant 

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich dyfarniad grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein gwefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen. 

Adran H: rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli 

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl i chi talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’ch cais a’ch hawliad i gyd yn cael eu archwilio. 

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae'n ofyn fod yr holl grantiau yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur. Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect ar unrhyw adeg resymol o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

Bydd ymweliadau â safleoedd canran o’r prosiectau a gymeradwywyd yn cael eu cynnal o fewn pum mlynedd ar ôl cwblhau’r prosiect (Dyddiad Gorffen y Prosiect) er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn parhau i fod yn berchen ar y cyfarpar a brynwyd gyda’r grant, a’i ddefnyddio, a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl. 

Un o ofynion y grant yw bod angen cadw’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn gweithio ac mewn cyflwr da, a rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y dyfarniad grant. Gwneir hyn er mwyn sicrhau oes hir i’r prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect. 

Cadw cofnodion 

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • roi unrhyw wybodaeth am ddyfarniad gant y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth i Lywodraeth Cymru a hynny’n brydlon yn unol â chais Llywodraeth Cymru amdani
  • gofalu bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am dyfarniad grant y Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld
  • bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono

Adran I: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio  

Cyn dyfarnu’r grant 

Cam 1: asesu ar gyfer dewis 

Nid oes sail dros apelio yn erbyn penderfyniadau yng ngham 1 asesu ar gyfer dewis.

Cam 2: asesu 

Cewch ofyn am adolygiad mewnol o benderfyniad cam 2: asesu. Rhaid ichi gyflwyno’ch gwrthwynebiadau, gan gynnwys tystiolaeth ategol, o fewn 60 niwrnod o’r llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych chi am ei gael wedi’i adolygu. Dylech ei gyflwyno’n ysgrifenedig trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. 

Bydd swyddogion yn cynnal adolygiad ac yn gwneud penderfyniad terfynol gan eich hysbysu a rhoi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw. 

Ar ôl dyfarnu’r grant 

Mae apeliadau ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru ar ôl i Lythyr Dyfarnu Grant gael ei gynnig yn cael eu hystyried o dan y ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ . Mae’r broses yn rhoi caniatâd i chi ofyn am adolygiad os ydych yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • cam 1: adolygiad gan RPW
  • cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng ngham 1)

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr yn y Gymraeg os honno yw’ch dewis iaith.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi. 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig: canllaw.

Y drefn gwyno 

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru 
Adeiladau'r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378
E-bost: mailto:cwynion@llyw.cymru 
Gwefan: cwyn am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203 
Gwefan: Ombwdsmon

Adran J: hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu o wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwyster, efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • awdurdodau lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: https://cap-payments.defra.gov.uk/Search_Cy.aspx.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw’ch manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol
  • i ofyn (o dan rai amylchiadau) inni 'ddileu' eich data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421
Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hybysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Adran K: deddfwriaeth

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd). 

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy Reoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef: 

  • meithrin cystadleurwydd amaethyddiaeth
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • sicrhau cadernid rhag yr hinsawdd
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol i’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd
  • arloesi
  • yr amgylchedd 

Fel rhan o’r cais, gofynnir i chi ddisgrifio sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.

Hefyd, bydd y Cynllun yn gofyn i ymgeiswyr nodi sut y bydd eu prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd 
  • trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol 
  • y Gymraeg 

Yn ogystal, bydd ceisiadau i’r Cynllun Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru. 

Bydd gweithgareddau yn berthnasol i o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig
  2. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth
  5. hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig

Sefydliad Masnach y Byd a rheoli cymhorthdal

  1. mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’
  2. o ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU

Adran L: cysylltiadau

Ymholiadau: y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid 

 Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

 Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig 

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'n gwefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae'n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl newyddion a datblygiadau amaethyddiaeth diweddaraf yn y dyfodol, byddem yn eich annog i gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad neu weld ein tudalen newyddion.