Neidio i'r prif gynnwy

Darparu cymorth ariannol ar gyfer ardaloedd bach o blannu coed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r cynllun yn darparu cymorth ariannol i blannu coed ar arwynebeddau llai o dir rhwng 0.1 a 2 hectar.

Gall y plannu fod ar gyfer:

  • coed cysgodol
  • ar hyd cyrsiau dŵr
  • yng nghorneli caeau neu mewn caeau bach
  • mannau cysgodi stoc
  • bioamrywiaeth
  • tanwydd pren  

Mae dyddiadau y cyfnodau nesaf ar gyfer ymgeisio ar Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio.

Pwy sy'n cael gwneud cais

Caiff ffermwyr a pherchnogion tir eraill wneud cais i'r cynllun. Rhaid i goed gael eu plannu ar dir sydd:

  • wedi'i wella’n amaethyddol 
  • o werth amgylcheddol isel 

Mae map Grantiau Bach – Creu Coetir yn dangos y tir sy'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn.

Yr hyn mae'r cynllun yn ei gynnig

Mae'r cynllun yn darparu cyllid ar gyfer plannu coed a gosod ffensys a gatiau.

Mae hefyd yn cynnig taliadau cynnal a chadw a thaliadau premiwm am 12 mlynedd (digolledu am golli incwm amaethyddol).

Ni fydd plannu coed o dan y cynllun yn effeithio ar Gynllun y Taliad Sylfaenol neu gymhwysedd tir.

Fel rhan o'r cynllun, bydd cynllun creu coetir sy'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU yn cael ei greu gan system ar-lein RPW.

Cyfraddau’r taliadau

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu am bob hectar o goed maent yn ei blannu. Bydd swm y taliadau'n dibynnu ar y math o blannu coed a nifer y coed a blannir ar bob hectar o dir: 

Cyfraddau talu
CategoriCoed fesul hectarTâl fesul Hectar
Coetir gwlyb a glan nant1,100£3,302
Bioamrywiaeth frodorol1,100£3,302
Coetir gwlyb a glan nant  1,600£4,550
Bioamrywiaeth frodorol1,600£4,550
Tanwydd pren (cynhyrchiol)2,500£5,146
Coed cysgodol (cynhyrchiol)2,500£5,146
Gwiwer goch1,600£4,550
Gwiwer goch2,500£5,146
Coed cysgodol brodorol2,500£6,170

Mae'r cynllun hefyd yn talu i ffensys a gatiau gael eu gosod o amgylch yr ardaloedd plannu. Y cyfraddau talu yw:

  • ffensys – £8.32 fesul metr
  • ffensys ceirw (o gyfnod 3) – £11.93 fesul hectar
  • Cilbyst a gât ceffyl o bren – £220.83 yr un
  • Cilbyst a gât mochyn o bren – £237.80

Mae'r cynllun yn darparu taliadau cynnal a chadw fesul hectar i ofalu am y coed am gyfnod o 12 mlynedd, fel isod.

Taliadau cynnal a chadw fesul hectare
Bl 1Bl 2Bl 3Bl 4Bl 5Bl 6Bl 7Bl 8Bl 9Bl 10Bl 11Bl 12
£400£300£250£70£70£70£70£70£70£70£70£70

I ddigolledu am golli incwm amaethyddol ar y tir y plannir y coed arnynt, mae'r cynllun hefyd yn darparu taliadau premiwm blynyddol o £350 fesul hectar.

Sut i wneud cais

Bydd nifer o gyfnodau ymgeisio yn ystod y flwyddyn. Dylid gwneud cais ar Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth am:

  • sut i wneud cais
  • canllawiau technegol
  • rheolau cynlluniau
  • amodau a thelerau
  • canllawiau sut i lenwi

ar gael yn Grantiau Bach – Creu Coetir.

Cymorth wrth wneud cais a rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o gyngor ar bolisïau a grantiau ffoniwch y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm

Mae cyngor technegol ar gael gan Cyswllt Ffermio a Hyb Creu Coetiroedd CNC.