Neidio i'r prif gynnwy

Bydd busnesau’n dechrau derbyn eu grantiau coronafeirws argyfwng ganol wythnos nesaf, meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Lywodraeth Cymru’n datblygu pecyn arall o gymorth i helpu busnesau i ddelio ag effaith y feirws. Caiff y manylion eu cyhoeddi ddydd Llun.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o £1.4 biliwn o gymorth i fusnesau Cymru.

Bydd pob busnes adwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd ag eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000.

Mae hyn yn golygu y bydd rhyw 8,500 o siopau, bwytai, caffis, barau, tafarndai, sinemâu, mannau cynnal cerddoriaeth fyw, gwestai, tai llety a phreswyl a llety hunanddarpar yn cael grant.

Bydd grant o £10,000 ar gael i’r 63,500 o fusnesau eraill yng Nghymru sy’n gymwys am y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.

Yr awdurdodau lleol fydd yn dosbarthu’r grantiau hyn i fusnesau ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd:

Mae ein hymrwymiad i gefnogi busnesau dros y cyfnod anhygoel o anodd hwn yn gadarn.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar y gymuned fusnes y bydd yr arian mawr ei angen y mae Llywodraeth Cymru wedi’i addo iddi yn ei chyrraedd yn fuan.

Rydym wedi cael gwared ar y fiwrocratiaeth er mwyn ei gwneud hi’n haws cael gafael ar y grantiau – ni fyddwn yn gofyn i fusnesau ond am yr wybodaeth fwyaf sylfaenol. Gall cwmnïau ofyn am y grant yn gyflym ac yn rhwydd trwy wefan Busnes Cymru.

Rydyn ni dal wrthi’n datblygu’n cymorth i fusnesau, gan gynnwys i bobl hunangyflogedig, wrth geisio rheoli effeithiau digynsail y pandemig.

Fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i sicrhau y bydd busnes da heddiw yn cael bod yn fusnes da flwyddyn nesaf hefyd.

Hoffwn ddiolch i’r awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am eu cefnogaeth i weinyddu’r grantiau. Dyma enghraifft arall o bartneriaid yn dod ynghyd yn ystod argyfwng cenedlaethol er lles y gymdeithas gyfan.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, llefarydd cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

Rydyn ni’n sylweddoli ei bod hi’n gyfnod neilltuol o ofidus i bawb ac mae’r ansicrwydd hwn wedi taro busnesau’n arbennig o galed.

Mae cynghorau’n awyddus i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cymorth ariannol hwn cyn gynted fyth ag y bo modd. Rydyn ni’n gofyn i fusnesau ymgeisio ar-lein cyn gynted ag y medrant er mwyn i awdurdodau lleol allu prosesu’r holl daliadau.

Mae gwefannau awdurdodau lleol wrthi’n cael eu datblygu neu eisoes wedi cael eu sefydlu er mwyn i fusnesau allu cael yr arian yn gyflym. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gael gafael ar yr arian hanfodol hwn ar wefan Busnes Cymru.