Neidio i'r prif gynnwy

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu grantiau addysg cyn-16 ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Grant Addysg Awdurdod Lleol

Mae ein cyllid grantiau addysg cyn-16 yn cynnwys 4 elfen ariannu:Rydym wedi cyfuno rhywfaint o'n cyllid grantiau addysg cyn-16 yn 4 elfen ariannu:

  1. Safonau Ysgolion.
  2. Tegwch.
  3. Diwygio.
  4. Cymraeg 2050.

Safonau ysgolion

Diben cyllid Safonau Ysgolion yw cefnogi safonau mewn ysgolion a lleoliadau ledled Cymru. Mae'n cynnwys cyllid a fydd yn cael ei ddosbarthu i ysgolion gan ddefnyddio fformiwla genedlaethol. Mae hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer addysg gynnar mewn lleoliadau nas cynhelir a chyllid i awdurdodau lleol gefnogi ysgolion a lleoliadau i godi safonau.

Tegwch

Mae'r elfen hon yn cynnwys cyllid sy'n cefnogi tegwch mewn polisïau addysg. Bydd y deilliannau'n cefnogi amcanion polisi tegwch gan gynnwys:

  • y grant datblygu disgyblion
  • plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • presenoldeb
  • dysgwyr ethnig leiafrifol ac sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • dysgwyr a addysgir yn y cartref
  • ysgolion bro

Diwygio 

Mae'r elfen hon yn cynnwys cyllid a fydd yn cefnogi mentrau diwygio addysg. Bydd yn cefnogi deilliannau ar gyfer:

  • Cwricwlwm i Gymru
  • dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth
  • anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant meddyliol

Cymraeg 2050

Mae'r elfen hon yn cynnwys cyllid sy'n cefnogi ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol i wireddu amcanion Cymraeg 2050.

Bydd pob un o'r 4 elfen ariannu yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol drwy'r Grant Addysg i Awdurdod Lleol. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddirprwyo'r rhan fwyaf o'r cyllid hwn i ysgolion a lleoliadau. Byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol wneud hyn cyn gynted â phosibl ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026. 

Cyllid safonau ysgolion

Dosbarthu’r cyllid

Mae'r cyllid ar gyfer Safonau Ysgolion yn werth cyfanswm o £168.8 miliwn. O hyn:

  • bydd 92% yn cael ei ddosbarthu i ysgolion ac i ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, 'y Grant Safonau Ysgolion' fydd ei enw
  • bydd 5% yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol ar gyfer Addysg Gynnar a bydd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer lleoliadau nas cynhelir
  • bydd gweddill y cyllid, ynghyd ag arian (cyfatebol) awdurdodau lleol eu hunain yn cael ei ddefnyddio i gefnogi safonau addysg

Mae'r cyllid i gefnogi safonau addysg yn ymwneud â'r cymorth ychwanegol y mae awdurdodau lleol yn ei roi i ysgolion a lleoliadau eraill. Defnyddir y cymorth ychwanegol hwn i wneud y canlynol:

  • cyflwyno mesurau gwella ysgolion
  • gwella safonau ysgolion

Y Grant Safonau Ysgolion

Sut y caiff y grant ei bennu

Bydd y Grant Safonau Ysgolion yn seiliedig ar fformiwla genedlaethol. Bydd gwerthoedd y cyllid yn newid bob blwyddyn yn unol â data cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD). Gyda hyn mewn golwg, rydym yn bwriadu cyhoeddi manylion y fformiwla bob mis Ionawr, cyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd. Bydd hyn yn helpu ysgolion wrth iddynt gynllunio eu cyllidebau.

Dyraniadau grant ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026

Mae'r fformiwla yn seiliedig ar ddata CYBLD 2024.

Mae’r dyraniadau fel a ganlyn:

  • ar gyfer pob dysgwr o'r dosbarth meithrin i Flwyddyn 11 bydd ysgolion yn cael £89.64
  • ar gyfer pob dysgwr mewn ysgol wledig yn nosbarthiad gwledig neu drefol 1, 2 neu 3, bydd yr ysgol yn cael £89.64 yn ychwanegol

Bydd ysgolion arbennig yn cael:

  • £179.28 ychwanegol ar gyfer pob dysgwr
  • cyfandaliad ychwanegol o £10,500

I gefnogi cymarebau dysgu sylfaen:

  • bydd ysgolion yn cael £613.09 yn ychwanegol am bob dysgwr meithrin
  • bydd ysgolion yn cael £1,226.18 yn ychwanegol am bob dysgwr mewn dosbarth derbyn
  • bydd ysgolion yn cael £613.09 yn ychwanegol am bob dysgwr ym Mlwyddyn 1 a Blwyddyn 2 

I gefnogi llwybrau dysgu 14 i 16:

  • bydd ysgolion yn cael £193.11 yn ychwanegol am bob dysgwr ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11

Yr hyn y mae'n ei olygu i ysgolion

Bydd ysgolion yn derbyn y Grant Safonau Ysgolion. Y cyfanswm y bydd ysgolion a lleoliadau yn ei gael am hyn yw £155.3 miliwn.

Cyllid grant arall ar gyfer ysgolion a lleoliadau

Mae gan rai rhannau o'r elfennau ariannu Tegwch a Diwygio gyllid a fydd hefyd yn cael ei ddirprwyo i ysgolion a lleoliadau.

Elfennau ariannu Tegwch

Grant Datblygu Disgyblion 

Dyrennir hwn ar sail nifer y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM) gan ddefnyddio data CYBLD 2024. Mae'n cael ei ddyrannu ar gyfradd o £1,150 y dysgwr. Cyfanswm y swm a ddirprwywyd ar gyfer hyn yw £108.4 miliwn. Mae £5.7 miliwn arall yn cael ei ddyrannu ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026, bydd cyllid Grant Datblygu Disgyblion ychwanegol ar gael. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol er mwyn iddynt benderfynu sut y caiff ei ddosbarthu. Fodd bynnag, rydym wedi dweud wrth awdurdodau lleol bod yn rhaid dirprwyo'r cyfan o'r £13.1 miliwn ychwanegol sydd ar gael i ysgolion a lleoliadau.

Elfennau ariannu diwygio

Cwricwlwm i Gymru 

Caiff hwn ei ddyrannu i awdurdodau lleol er mwyn iddynt benderfynu sut y caiff ei ddosbarthu i ysgolion a lleoliadau. Cyfanswm y gost ar gyfer hyn yw £6 miliwn.

Dysgu proffesiynol 

Dyrennir hwn ar sail nifer yr athrawon cymwysedig gan ddefnyddio data Cyfrifiad Blynyddol 2022 o’r gweithlu ysgolion. Ar gyfer ysgolion arbennig, mae'r nifer hwn yn cynnwys rhai aelodau ychwanegol o staff. Cyfanswm y gost ar gyfer hyn yw £13.5 miliwn.

Ansawdd a Chyflenwi ADY

Dyrennir hwn fel cyfandaliad ar gyfer pob ysgol neu leoliad. Mae dyraniad pellach wedi'i seilio ar nifer y dysgwyr o'r dosbarth meithrin i Flwyddyn 11, gan ddefnyddio data CYBLD 2024. Cyfanswm y gost ar gyfer hyn yw £10.4 miliwn.