Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths wedi ymweld â phrosiect ynni gwynt yng ngofal y gymuned mwyaf Cymru, fferm wynt Awel Aman Tawe ger Pontardawe, i ddod i wybod mwy am eu gwaith ar y newid yn yr hinsawdd, wedi'i ariannu gan eu hincwm o'r prosiect gwynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Awel Aman Tawe yn fenter gymdeithasol yng Nghwm Tawe gyda hanes o gefnogi prosiectau defnyddio ynni yn effeithlon, ynni adnewyddadwy ac addysg dros yr 20 mlynedd diwethaf.  

Sefydlwyd y cwmni ar y sail y byddai fferm wynt gymunedol yn darparu ynni adnewyddadwy ac yn creu incwm i'w ddefnyddio er budd y cyhoedd. Mae'r prosiect wedi ymrwymo i ddarparu £47,000 y flwyddyn o fanteision cymunedol tra'n ad-dalu ei gyllid adeiladu. 

Wedi hynny, bydd yr holl gyllid y maent yn ei dderbyn yn cefnogi prosiectau lleol.

Mae'r ynni sy'n cael ei greu gan Awel  Aman Tawe yn cael ei gynhyrchu gan ddau dyrbin gwynt gyda chyfanswm o 4.7MW sydd yn y bryniau uwchben Pontardawe. Amcangyfrifir bod cyfanswm yr incwm lleol am oes y prosiect gwynt yn oddeutu £6 miliwn, yn ogystal â'r arbedion carbon a manteision ehangach eraill i'r ardal leol.

Ar ei hymweliad â'r fferm wynt, cyfarfu y Gweinidog â phlant o Ysgol y Bedol a Chanolfan y Gors, oedd yn dysgu am ynni adnewyddadwy a chwmnïau cydweithredol gan bobl oedd yn rhan o brosiect Awel Aman Tawe. 

Yn ystod yr ymweliad, cyhoeddodd y Gweinidog gyllid o £45,000 drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i helpu menter gymdeithasol newydd y grŵp,  Egni   Solar Coop, i osod paneli solar ar hyd at 250 adeilad ledled Cymru.  Mae'r rhain yn cynnwys busnesau, canolfannau cymunedol ac ysgolion, clybiau chwaraeon a chanolfannau hamdden. 

Bydd pob safle yn derbyn taliadau am y trydan y maent yn ei gynhyrchu, gan arbed dros £8 miliwn o bosibl dros 30 mlynedd.  Yn ystod eu hoes, amcangyfrifir y bydd y paneli solar yn arbed oddeutu 35,000 tunnell o CO2.

Mae Egni Solar Coop hefyd wedi datblygu paneli solar ar gyfer toeon Ysgol y Bedol a Chanolfan y Gors. Mae'r ynni solar sy'n cael ei greu gan y paneli yn cynhyrchu trydan ar gyfer ysgolion ac yn enghraifft wych arall o ynni glân yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:  

"Mae'r cynlluniau sy'n cael eu harwain gan y gymuned yn deall eu bröydd ac yn gallu dod â phobl ynghyd i wireddu nodau cytûn.  Mae Awel Aman Tawe yn enghraifft wych o brosiect ynni adnewyddadwy sydd o fudd i'r gymuned gyfan ac rwy'n siŵr y bydd prosiect toeau Egni yr un mor llwyddiannus.

Mae proses Egni Coop o gyflwyno paneli solar ar doeau yng Nghymru yn fenter gyffrous iawn. Dwi'n falch bod Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu grant o £45,500 i gefnogi costau datblygu y prosiect. Bydd hwn yn gyfraniad mawr i'n targedau ynni lleol ac yn un o'r ffyrdd ymarferol yr wyf yn gweld Cymru yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni Co-op: 

"Rydym yn falch iawn bod Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi darparu'r grant hwn. Nawr bod gan y newid yn yr hinsawdd broffil mor uchel, dyma gyfle i Gymru achub y blaen ac i gynifer â phosibl o bobl fod yn rhan o'r ymdrech ar y cyd  yma."