Neidio i'r prif gynnwy

Gall plant sydd â'u teuluoedd ar incwm isel ac sy’n gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol wneud cais am y grant o:

  • £125 i bob dysgwr
  • £200 i'r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r costau uwch sydd yn gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd)

Mae pob blwyddyn ysgol orfodol o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 (neu gyfatebol) bellach yn gymwys.

Mae pob plentyn sy’n cael eu hystyried yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gymwys ar gyfer y grant, p’un a ydynt yn cael derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio. Nid yw dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim dan drefniadau “amddiffyniad wrth bontio” yn gymwys.

Gall teuluoedd dim ond gwneud un cais ar gyfer un plentyn, unwaith ar gyfer pob blwyddyn ysgol. 

Daeth cynllun 2023 i 2024 i ben ar 31 Mai 2024 ac nid yw bellach yn derbyn ceisiadau.

Bydd y cynllun grant newydd yn agor ar 1 Gorffennaf 2024.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch cymhwysedd neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn uniongyrchol.

Chwiliwch:
Er enghraifft CF10 3NQ