Agorodd y Grant Hanfodion Ysgolion ar 1 Gorffennaf 2024 a bydd yn dod i ben ar 31 Mai 2025.
Pwy sy'n gymwys
Gall teuluoedd sydd â phlant yn y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11 ar incwm is ac sy’n cael budd-daliadau penodol wneud cais am:
- £125 i bob dysgwr a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
- £200 i’r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r chostau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd) a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
Gall rhieni a gofalwyr dim ond gwneud un cais y flwyddyn ysgol ar gyfer pob plentyn.
Nid yw derbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn rhoi hawl awtomatig i'ch plentyn i'r Grant Hanfodion Ysgol:
- Rhaid i ddysgwyr fod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) sy'n destun prawf modd.
- Nid yw dysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau diogelu trosiannol yn gymwys.
- Mae pob plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol yn gymwys i gael y grant.
Rydym hefyd yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio eu disgresiwn i ddarparu'r grant i blant nad oes gan eu rhieni/gofalwyr hawl i arian cyhoeddus.
Ni fydd derbyn y Grant Hanfodion Ysgol yn effeithio ar eich treth neu fudd-daliadau eraill.
Ar gyfer beth mae'r grant
Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu i dalu costau:
- gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
- gweithgareddau ysgol, gan gynnwys dysgu offeryn cerdd, cit chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
- hanfodion ystafell ddosbarth, gan gynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol
- cyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau cwricwlwm newydd fel dylunio a thechnoleg
- cyfarpar TG: gliniaduron a thabledi yn unig (dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig lle nad yw ysgol yn gallu benthyg offer i'r teulu y dylid defnyddio’r Grant Hanfodion Ysgol)
- cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored (er enghraifft, dillad gwrth-ddŵr)
- eitemau hanfodol nad ydynt yn wisg ysgol fel dillad i allu cymryd rhan mewn addysg breswyl awyr agored
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: sgowtiaid, geidiaid, cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawns
I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â'r awdurdod lleol lle mae eich plentyn yn mynd i'r ysgol.
Efallai y bydd mwy o help a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol ar gael drwy'r Grant Hanfodion Ysgol. Hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, mae angen i chi wirio eich cymhwysedd i gael y cymorth ehangach.