Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn wedi'u darparu ochr yn ochr â Ffurflen Gais ar gyfer y Grant Gwres Carbon Isel.

Mae'r cyllid ar gael i sefydliadau'r sector cyhoeddus sydd â phrosiectau sy'n barod i'w gweithredu. Fe'i bwriedir ar gyfer gwaith cyfalaf sy'n gysylltiedig ag ôl-osod atebion gwres carbon isel mewn adeiladau nad ydynt yn rai domestig, sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus.

Mae'r cyllid hwn yn rhoi cymorth i sefydliadau'r sector cyhoeddus weithredu prosiectau gwres carbon isel fel rhan o'u taith tuag at gyflawni Sero-Net. 

Sylwer: nid yw'r cyllid ar gael i Awdurdodau Lleol na chyrff addysg uwch. Gall pob un o'r rhain wneud cais i Grant Gwres Carbon Isel yr Awdurdod Lleol neu'r cynlluniau Digarbon yn y drefn honno. Gall cyrff addysg bellach wneud cais.

2. Amcanion grant

Amcanion y Grant Cyfalaf Gwres Carbon Isel yw:

  • Lleihau allyriadau carbon fel rhan o'r ymgyrch tuag at gyflawni sero net
  • Cyflymu'r trosglwyddiad i ffwrdd o losgi tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi gofod a dŵr poeth
  • Darparu cyllid ar gyfer prosiectau gwres carbon isel, gan alluogi cynlluniau gyda sefyllfaoedd ariannol heriol
  • Annog dull adeilad cyfan ar gyfer gwres carbon isel
  • Datblygu capasiti a nodi’r hyn a ddysgwyd o fewn y sector cyhoeddus gan alluogi gwres carbon isel i ddod yn arfer pob dydd

3. Amserlenni

I adlewyrchu cyfalaf ac amserlen sydd ar gael yn y cynllun, bydd un rownd ariannu: 6 Chwefror 2025 i 20 Mawrth 2025 (yn amodol i newid).

Ni ellir trosglwyddo arian i'r flwyddyn ariannol nesaf. Dylai'r holl gostau cymwys fod o fewn y flwyddyn ariannol bresennol a'u gwario erbyn 31 Mawrth 2026.

4.1 Cais: sut i fynd ati

Mathau o Geisiadau

Mae un ffurflen gais, sy'n caniatáu:

  • Ceisiadau blwyddyn sengl ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026: mae'n ofynnol i brosiectau gael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2026

Ni fydd yn bosibl symud cyllid a ddyrannwyd o un flwyddyn ariannol i'r llall. Rydym yn disgwyl i geisiadau blwyddyn sengl gael eu cwblhau o fewn y flwyddyn ariannol hon.

Gellir ychwanegu hyd at 10 adeilad at un ffurflen gais. Os oes gennych fwy na 10 adeilad, bydd angen eu rhannu ar draws sawl ffurflen gais.

4.2 Cais: asesiad

Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu ar sail 3 i 4 wythnos. Er y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin mewn egwyddor, gellir gosod cyfyngiadau ar raddfa'r ymrwymiadau cyllid yn y dyfodol, yn ogystal â chap i bob sefydliad, er mwyn sicrhau dosbarthiad teg. 

Rydym yn rhagweld y bydd angen cyfarfodydd adolygu ceisiadau gydag ymgeiswyr.

4.3 Cais: aeddfedrwydd prosiect

Rydym yn disgwyl i brosiectau fod mewn sefyllfa sy'n barod am fuddsoddiad.

Mae ein profiad o brosiectau gwres carbon isel blaenorol wedi dangos bod y prosiectau sydd â'r llwyddiant mwyaf wrth ddarparu a gwario cyllid grant yn amserol yn dechrau'n gynnar, ac mae ganddynt gynllun prosiect clir. Y meysydd allweddol i'w hystyried, a fydd yn cael eu craffu yn ystod y broses asesu yw:

  • Statws caniatâd cynllunio, os oes angen, neu os cadarnheir ei fod yn ddatblygiad a ganiateir gan y tîm cynllunio lleol
  • Sefyllfa gaffael, p'un a yw cyflenwyr mewn contract
  • Statws ymgysylltu Gweithredwr Rhwydwaith Ardal, neu gadarnhad nad oes angen uwchraddio i Weithredwr Rhwydwaith Ardal
  • Cam dylunio, rydym yn disgwyl o leiaf cam 2 Riba
  • Rhagolygon taliad misol (pan fydd yr ymgeisydd yn disgwyl bod yn gofyn am daliadau gan y Gwasanaeth Ynni)

5.1 Cymhwysedd: sefydliad

Mae'r cyllid hwn ar hyn o bryd yn agored i bob prif awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae'r endidau canlynol wedi eu gwahardd:

  • Cynghorau Tref
  • Cynghorau Cymuned
  • Cyrff cyhoeddus eraill
  • Cyrff Addysg Uwch (Gall cyrff Addysg Bellach wneud cais)

5.2 Cymhwysedd: math a lleoliad y prosiect

Mae'r cyllid hwn ar gyfer gwaith cyfalaf ar gyfer ateb ôl-osod i wres carbon isel i ddisodli systemau gwresogi tanwydd ffosil mewn adeiladau annomestig awdurdodau lleol. Mae'r Meini Prawf Cymhwysedd yn cynnwys y canlynol:

  • Rhaid i’r adeiladau fod yn eiddo i’r sefydliad neu o dan les hirdymor (o leiaf 10 mlynedd). Rhaid cadw adeiladau sy'n amodol ar grant am 10 mlynedd ar ôl dyfarnu'r grant
  • Rhaid i adeiladau fod yn rhan o adroddiad carbon blynyddol yr awdurdod lleol i Lywodraeth Cymru
  • Mae'n rhaid i wres yr adeiladau, ar hyn o bryd, gael ei gyflenwi gan systemau gwresogi tanwydd ffosil (e.e. nwy naturiol, LPG, neu olew gwresogi)
  • Ni ddylai'r gwaith arfaethedig ar y safle fod wedi dechrau eto

Rhaid i bob gwariant cymwys y gwneir cais amdano gael ei gyflawni o fewn y flwyddyn ariannol, erbyn 31 Mawrth 2026. Mae'r cyllid yn cael ei neilltuo ar sail blwyddyn ariannol a rhaid ei wario o fewn y flwyddyn ariannol a bennir. Ni ellir cario arian drosodd o un flwyddyn ariannol i'r nesaf.

Dylai prosiectau fod wedi bod yn destun gwaith dichonoldeb a datblygu blaenorol, gyda sefydliad yr ymgeisydd yn gwybod yr ateb technoleg ac wedi ymrwymo i gyflawni'r cynllun gwres carbon isel yn y dyfodol.

Gall ceisiadau gynnwys yr holl waith adeiladu / gwaith cysylltiedig angenrheidiol i gwblhau'r gosodiad. Ni fydd unrhyw eitemau sydd wedi'u cynnwys mewn cais y gellir eu hariannu o ffynhonnell arall yn cael eu cymeradwyo ar gyfer cyllid o'r gronfa hon. Ni fydd cynnwys eitem anghymwys yn effeithio ar gymeradwyo eitemau cymwys, byddant yn cael eu dileu, a lle bo'n briodol, eu cyfeirio at ffynonellau cyllid eraill (e.e. cyllid ôl-osod / Salix ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni).

5.3 Cymhwysedd: technoleg a mesurau

Cymwysiadau derbyniol o fewn y gwaith cyfalaf:

  • Gwelliannau i ffabrig yr adeilad, gan gynnwys atal drafftiau lle na ellir ei ariannu o ffynonellau eraill (e.e. cyllid cynnal a chadw ôl-groniad).
  • Dosbarthiad gwres ac uwchraddio allyrru (gan gynnwys addasiadau i fatris gwres uned trin aer (AHU)
  • Uwchraddio storio thermol
  • Pympiau gwres (aer / daear / dŵr), a boeleri trydan (at ddibenion atodol / wrth gefn yn unig)
  • Uwchraddio capasiti seilwaith trydanol i ganiatáu gosod pwmp gwres
  • Biomas lle nad yw ansawdd aer lleol yn cael effaith andwyol sylweddol, ac nid yw pympiau gwres yn addas
  • Rhwydweithiau Gwres o amgylch un safle/campws, e.e. campws ysgol uwchradd fawr
  • Uwchraddio i rwydweithiau gwres ardal bresennol (cynhyrchu gwres carbon isel) Noder na fydd prosiectau Cynllun Effeithlonrwydd Rhwydwaith Gwres cymwys yn cael eu cefnogi gyda'r grant hwn.
  • Gwaith datblygu – gwaith dylunio ac archwilio pellach (e.e. treialon tyllau turio)
  • Prosiectau graddol

5.4 Cymhwysedd: costau anghymwys

Ni fydd y Grant Cyfalaf Gwres Carbon Isel yn cefnogi cyllid ar gyfer:

  • Unrhyw brif waith gwresogi tanwydd ffosil e.e. boeleri nwy, Gwres a Phŵer Cyfunedig nwy
  • Amnewid systemau gwres carbon isel sy'n bodoli eisoes (bwriedir i'r grant ddisodli systemau tanwydd ffosil)
  • Gwresogi Ardal – gosodiadau newydd ac estyniadau i'r systemau presennol, lle mae achos ariannol ac enillion o werthiant gwres
  • Gwaith dichonoldeb neu gysyniad
  • Costau staff mewnol
  • Costau wrth gefn - dylai'r ymgeisydd reoli costau ychwanegol
  • Prosiectau lle mae'r gosodiad eisoes wedi dechrau
  • TAW y gellir ei adennill – bydd angen i ymgeiswyr reoli'r agwedd llif arian hwn yn briodol lle telir TAW mewn un flwyddyn ariannol, ond adferwyd y nesaf
  • Costau gweithredu a chynnal a chadw

6. Dull adeilad cyfan

We expect applicants to adopt a 'whole building approach' towards decarbonising heat and transitioning away from fossil fuels. Applications should propose fully decarbonised solutions, with the removal of fossil fuel provisions.

Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr fabwysiadu 'dull adeilad cyfan' tuag at ddatgarboneiddio gwres a symud i ffwrdd o danwydd ffosil. Dylai ceisiadau gynnig atebion wedi'u datgarboneiddio'n llawn, gyda dileu darpariaethau tanwydd ffosil.

Mae atebion pwmp gwres fel arfer yn gofyn am systemau tymheredd is i weithredu ar eu mwyaf effeithlon. Felly, rydym yn disgwyl gweld ymgeiswyr yn gostwng llif tymereddau gymaint â phosibl (rhwng 35 i 55 ºC) er mwyn sicrhau'r perfformiad gorau posibl o'u systemau gwresogi carbon isel. Gallai hyn olygu bod angen allyrwyr gwres a mesurau i wella inswleiddio.

Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn bwriadu lleihau llif tymheredd egluro eu dull gweithredu a dangos datrysiad cwbl ddatgarboneiddio.

Rydym yn disgwyl pwmp gwres gydag isafswm Cyfernod Perfformiad Tymhorol (sCOP) o 2.5. Lle mae boeleri wrth gefn / atodol trydanol wedi'u cynnwys, byddem yn disgwyl iddynt gwmpasu dim mwy nag 20% o gyfanswm y galw am wres.

Ar gyfer dull adeilad cyfan sy'n cynnwys mwy o effeithlonrwydd trydanol neu gynhyrchu ynni adnewyddadwy, gellir cael gafael ar gyllid drwy Raglen Ariannu Cymru.

Dylid amlinellu costau uwchraddio cysylltiad trydanol, o bosibl yn cwmpasu mesurau eraill fel systemau gwefru cerbyd trydan neu ffotofoltäig, yn y ceisiadau. Yna byddwn yn ystyried sut y gellid cefnogi costau uwchraddio'r
grid.

7. Cyllid sydd ar gael

Cais am Grant

Gall pob prosiect wneud cais am gyllid hyd at 90% o gyfanswm costau cyfalaf y prosiect.

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyfrannu o leiaf 10% o gyfanswm gwerth y prosiect, naill ai trwy gronfeydd wrth gefn, cyllideb ganolog, neu gyllid allanol. Sylwer: Ni ellir croesi drosodd gynlluniau cyllido eraill Llywodraeth Cymru y gwnaethpwyd cais amdanynt.

Ni fydd y Grant Cyfalaf Gwres Carbon Isel yn dyblygu unrhyw gyllid sy'n bodoli eisoes. Rydym yn annog ymgeiswyr i ddefnyddio ffynonellau cyllid eraill lle bo hynny'n briodol, er mwyn lleihau allyriadau carbon i'r eithaf.

8. Meini prawf asesu

Meini prawf allweddol

  • Rydym yn disgwyl i systemau gynhyrchu gwres ar lai na 100g CO2e/kWh

Er na fydd prosiectau'n cael eu hasesu'n uniongyrchol yn erbyn y paramedrau a restrir isod, byddwn yn eu hystyried fel rhan o'r cais i bennu addasrwydd ar gyfer cyllid.

Metrigau sy’n cael eu hystyried

  • allbwn gwres kW wedi'i osod fesul £ o gyllid
  • kWh/m2 presennol vs. gwell
  • £/tCO2e o arbedion (dros oes technoleg)
  • Gwybodaeth am ad-daliad/effaith ariannol
  • Disgwyl allyriadau CO2e sy'n gysylltiedig â gwres ar ôl gosod ffynhonnell wres
    carbon isel
  • Canran y defnydd o bwmp gwres yn erbyn boeler trydan

Agweddau ansoddol sy’n cael eu hystyried

  • Cyflawni, aeddfedrwydd y prosiect, a thystiolaeth ategol
  • Gwydnwch a blaengynllun esblygiad
  • Arfarniad opsiynau technegol a gynhaliwyd, gan gynnwys lleihau defnydd ynni sylfaenol / defnydd ffabrig dull cyntaf
  • Llywodraethu prosiectau
  • Cadarnhad o ystad a gedwir

9. Gofynion allweddol eraill

Darparu gwybodaeth ategol

Tystiolaeth o gostau, fel dyfynbris cyflenwi neu amserlen cost y cynllun

  • Gwaith dichonoldeb yn dangos y:
    o Gellir gosod y system yn dechnegol
    o Disgwylir i'r system ddarparu gwres ar lai na 100g CO2e / kWh
  • Taflen manyleb ar gyfer y pwmp gwres neu ffynhonnell wres carbon isel arall
  • Tystiolaeth o Gyfernod Perfformiad Tymhorol (sCOP) y pwmp gwres
  • Asesiad risg yn amlinellu risgiau mawr i gyflawni prosiectau

Sylwer, nid oes angen lluniadau cynllunio sy'n dangos lleoliad a graddfa’r cynllun gyda'r cais cychwynnol. Fodd bynnag, gellir gofyn amdanynt fel rhan o adolygiad y prosiect.

10. Amodau

Ceisiadau am amodau arbennig, data, gwybodaeth a chyfathrebu

  • I dderbyn y grant, rhaid i ymgeiswyr ddarparu prawf o amcan bris a phenodiad contractwyr i'r Gwasanaeth Ynni.
  • Mae'n ofynnol i gyrff cyhoeddus ddarparu mynediad i staff gweithredol ar gyfer cynnal cyfweliadau/arolygon, ymateb i geisiadau am astudiaethau achos a datganiadau i'r wasg, a chytuno ar geisiadau rhesymol i rannu dysgu a mewnwelediadau. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i, rannu gwybodaeth am ddyluniad/perfformiad, cefnogi ymweliadau safle, a rhannu gwybodaeth / lluniau astudiaeth achos.
  • Sylwch fod y pot yn gyfyngedig, ac os bydd ceisiadau yn fwy na'r cyllid sydd ar gael, byddwn yn ystyried agweddau megis cyflawni, effaith carbon bosibl a gwaith gwerthuso dichonoldeb/opsiynau blaenorol i flaenoriaethu cyllid.
  • Bydd prosiectau cymeradwy yn derbyn llythyr cymeradwyo grant yn nodi telerau ac amodau'r grant. I dderbyn y grant, bydd angen i'r ymgeisydd gwblhau a llofnodi ffurflen gais am grant.

11. Canllawiau Ychwanegol: yr hyn a ddysgwyd o gynlluniau ALl

Gwersi a ddysgwyd gan Awdurdodau Lleol yn gosod gwres carbon isel

  • Gall darparu gwres carbon isel fod yn gymhleth, ond, er gwaethaf yr heriau, mae'r farchnad yn cymryd rhan ac mae yna wersi i’w dysgu o'r nifer cynyddol o brosiectau awdurdodau lleol sydd ar waith wrth i wres carbon isel ddechrau dod yn 'fusnes fel arfer'.
  • Yr ystyriaethau allweddol wrth gynllunio ar gyfer prosiectau gwres carbon isel yw:
    - Dull Adeiladu Cyfan
    - Llwytho a chapasiti trydanol
    - Maint priodol y dechnoleg gwres carbon isel a storio thermol
    - Ystyriaethau dylunio a chynllunio
    - Rhaglen Gosod
    - Mesur a Gwirio Parhaus
  • Y brif wers a ddysgwyd a'r cyngor allweddol y byddem yn ei roi i unrhyw ymgeiswyr gwres carbon isel yw i fod yn rhagweithiol iawn a cheisio ymgysylltu'n gynnar â’r gweithredwr rhwydwaith ardal, hyd yn oed cyn y cam dyluniad terfynol. Ar draws prosiectau gweithredwr rhwydwaith ardal rydym yn gweld cymysgedd o anghenion ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â gweithredwr rhwydwaith ardal, nid oes angen gwaith uwchraddio ar rai, gan fod
    ganddynt ddigon o gapasiti safle, ac mae rhai angen gwaith cysylltiad gweithredwr rhwydwaith ardal. Rydym yn annog ymgeiswyr yn gryf i gael dealltwriaeth glir o'u sefyllfa gweithredwr rhwydwaith ardal ymlaen llaw.
  • Ni chafodd y pethau canlynol eu cynnwys yn nyfynbrisiau cychwynnol contractwyr, ond fe'u nodwyd yn ddiweddarach yn ôl yr angen:
    - plinthiau concrit ar gyfer pympiau gwres o’r aer
    - uned gaeedig ddiogel ar gyfer pwmp gwres o’r aer (lle bo hynny'n berthnasol)
    - gwelliannau ffabrig / bylchau drafftiog mewn drysau/agoriadau
  • Ystyriwch a yw'r eitemau hyn wedi'u cynnwys ym manyleb eich contractwr.
  • Nid yw pob adeilad yn addas ar gyfer gwres carbon isel ar hyn o bryd. Gwaith ategol (grid, trydan, inswleiddio ychwanegol ac ati) yn aml yw'r rhan fwyaf cymhleth o osod prosiect gwresogi carbon isel ar eiddo hŷn.
  • Mae arbenigedd mewn dylunio systemau gwres carbon isel effeithlon yn gwella ond yn dal i fod yn brin mewn diwydiant. Efallai y bydd angen i chi edrych y tu allan i gontractwyr Mecanyddol a Thrydanol cyfredol wrth gaffael gwres carbon isel. Bydd angen hyfforddi timau mewnol ar ddefnyddio systemau gwres carbon isel yn effeithlon hefyd a dylid ei gynnwys ym manyleb y prosiect.
  • Gall amseriad prosiect fod yn her, yn enwedig i adeiladau addysg; mae hyn yn gofyn am ystyriaeth ofalus. Gall fod yn synhwyrol i roi arian wrth gefn yn llinellau amser y prosiect os oes potensial i arolygon ddatgelu problemau, yn enwedig gydag adeiladau hŷn.

Crynodeb o ystyriaethau dylunio allweddol:

  • Mae cynllun tymheredd pympiau gwres awyr agored yn effeithio ar kW, a capasiti trydanol – ystyriwch beth sy'n realistig
  • Mae unedau caeedig Pwmp Gwres o’r Aer yn aml yn ofyniad diogelwch – ystyriwch llif aer fel nad yw gweithrediad yn cael ei effeithio
  • Datrysiad ar gyfer Dŵr Poeth Domestig: ystyriwch golledion system i werthuso canolog yn erbyn datganoledig
  • Tymheredd y cynllun: lleihau cymaint â phosibl yn y dyluniad, ystyriwch dreial yn y gaeaf cyn lleihau tymheredd y llif
  • Mae angen rhoi ystyriaeth drylwyr i welliannau ffabrig ac atal drafft
  • Uwchraddio trydanol: sicrhau eich bod yn deall y gofynion
  • Maint y storfa thermol: yn gallu ffitio drwy'r drws, ond hefyd maint ar gyfer Cyfernod Perfformiad
  • Effaith amgylcheddol: ystyried materion cynllunio fel perygl llifogydd, ac ystlumod!

Crynodeb o’r astudiaethau prosiectau allweddol

  • Caniatâd cynllunio ar gyfer y cynllun- cadarnhau a ganiateir neu ddim!
  • Ymagwedd caffael, amser, a risg i ddylunio / cyllid - dyfynbris yn ystod y cam ymgeisio, ystyriwch ddefnyddio un contractwr o Dyfynbrisiau terfynol a chymeradwyaeth Gweithredwr Rhwydwaith Ardal – effaith amser a chostau’n newid- ymgysylltu'n rhagweithiol a gwthio ymlaen.
  • Cadw costau ar gyfer blwyddyn - rydym yn rheoli hyn gyda llythyr cadarnhau cadw, hyd at 10%

Crynodeb o astudiaethau gosod allweddol

  • Llwch: effaith mewn lle rydych yn byw ynddo a larymau tân!
  • Diogelwch y safle a mynediad i gontractwyr: gweithio o gwmpas amseroedd prysur
  • Materion annisgwyl: asbestos
  • Defnydd o'r system bresennol: gofyniad i lanhau pibellau presennol a slwtsh rheiddiadur