Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd 21 o ganolfannau dysgu cymunedol ychwanegol yn cael eu hadeiladu ar draws Cymru, diolch i Grant Cyfalaf Canolfannau Cymunedol gwerth £15m .
Mae’r gronfa yn rhan o’r Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif, sef buddsoddiad o £3.7 biliwn dros ddau gam neu gyfnod, a gychwynnodd yn 2014. Diben y gronfa yw adnewyddu adeiladau addysgol drwy Gymru.
Prif ddiben y £15m fydd cyllido prosiectau sy’n helpu’r gymuned leol.
Gall hyn olygu addasu adeiladau presennol ar gyfer cael eu defnyddio gan y gymuned ehangach, megis cynyddu maint neuadd yr ysgol, trwy roi cyfleusterau arbenigol sy’n ehangu’r defnydd neu wella’r cyfleusterau chwaraeon er mwyn i bobl leol eu defnyddio.
Defnyddir y cyllid hefyd i greu mannau sy’n diwallu angen penodol o fewn y gymuned leol, megis dysgu ieithoedd newydd neu sgiliau galwedigaethol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Mae ein Rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif eisoes yn gwneud gwahaniaeth i ddisgyblion, athrawon a chymunedau lleol drwy Gymru; gan roi mynediad iddynt i gyfleusterau addysgol o’r radd flaenaf.
“Mae ysgolion yn elfen hollbwysig o’r gymuned, ac rwy’n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw sicrhau bod ein hysgolion yn addas at y diben, a’u bod hefyd yn gallu diwallu anghenion y gymuned leol.
“Dyma pam ry’n ni wedi ymrwymo i gyflwyno mwy o ganolfannau dysgu cymunedol, ac yn bwriadu rhoi prosiectau sy’n canolbwyntio ar y gymuned wrth wraidd cam nesaf y rhaglen.
“Gyda chymorth y cyllid ychwanegol hwn, gall awdurdodau lleol adeiladu canolfannau newydd neu newid y cyfleusterau presennol er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned, megis cymorth o ran gofal plant neu gymorth i ddysgu fel teulu.”
Ceir rhagor o wybodaeth am brosiectau a ariennir drwy'r grant yn y tabl isod:
Awdurdod Lleol/ Sefydliad Addysg Bellach |
Rhanbarth |
Disgrifiad byr o'r prosiect |
Abertawe |
Canol /Gorllewin Cymru |
Darparu cyfleusterau cymunedol, cyfleusterau chwaraeon a mannau hyblyg yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe, at ddefnydd yr ysgol, y gymuned ac at ddefnydd amlasiantaethol. |
Caerffili |
De-ddwyrain Cymru |
Creu cyfleuster athletau yn Ysgol Gynradd Rhiw Syr-Dafydd sy'n gwasanaethu ysgolion drwy'r sir a'r gymuned ehangach hefyd |
Castell-nedd Port Talbot |
Canol /Gorllewin Cymru |
Creu 'Hafan', ystafell gymunedol llawn adnoddau / ychwanegiad i Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn, Llansawel |
Ceredigion |
Canol /Gorllewin Cymru |
Ehangu Canolfan Hamdden Plascrug i greu Canolfan Gymunedol - pwynt cyswllt cyntaf i ystod eang o wasanaethau sy'n cefnogi teuluoedd ar safle sydd gerllaw nifer o ysgolion. |
Coleg Caerdydd a'r Fro |
Canol De Cymru |
Creu Canolfan Chwaraeon a Chwarae Cymunedol Canal Park yn Nhrebiwt, un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, i'w defnyddio'n rhad ac am ddim gan ysgolion a digwyddiadau chwarae a chwaraeon cymunedol sydd wedi eu trefnu. Prosiect ar y cyd â Chyngor Caerdydd |
Coleg Cambria |
Gogledd Cymru |
Creu Canolfan Dysgu Cymunedol ar gampws Llysfasi sy’n cynnwys cydleoli cyfleusterau i gefnogi busnesau gwledig. |
Conwy |
Gogledd Cymru |
Creu estyniad amlbwrpas i Ysgol Pencae ar gyfer gofal plant, cydleoli gwasanaethau at ddefnydd rhieni a'r gymuned. |
Conwy |
Gogledd Cymru |
Adeiladu ystafell amlbwrpas ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid a'r gymuned yn ardal Bae Cinmel fel rhan o gampws newydd yr ysgol. |
Conwy |
Gogledd Cymru |
Adeiladu ystafell amlbwrpas ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid a'r gymuned yn ardal Llanddulas fel rhan o gampws newydd yr ysgol. |
Gwynedd |
Gogledd Cymru |
Adeiladu neuadd gymunedol newydd a chanolfan aml wasanaeth gydag ystafelloedd cyfarfod fel rhan o Ysgol Cymerau, Pwllheli. Bydd y cyngor cymuned yn cyfarfod yma. |
Gwynedd |
Gogledd Cymru |
Adeiladu canolfan gymunedol a chanolfan aml wasanaeth newydd fel rhan o Ysgol y Faenol, Bangor, sy'n cynnwys cartref i'r cyngor cymuned |
Merthyr |
Canol De Cymru |
Creu man ymgysylltu a hyfforddi yng Nghanolfan Parth Cymunedol y Gurnos sy'n datblygu model cydleoli gwasanaethau; creu Canolfan Cyfryngau a Chlinig Creadigol mewn adeilad gyfagos. |
Pen-y-bont ar Ogwr |
Canol De Cymru |
Ysgol Brynteg - Canolfan y Dwyrain. Adleoli canolfan aml wasanaeth i'r ysgol er mwyn gwneud lle i 40 o staff a chaniatáu ar gyfer gwaith integredig agos. |
Rhondda Cynon Taf |
Canol De Cymru |
Creu neuadd newydd, cyfleusterau gofal plant ac ystafell gymunedol yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ffynnon Taf. |
Rhondda Cynon Taf |
Canol De Cymru |
Ehangu ac ad-drefnu Canolfan Gymunedol Porth Plaza - safle amlasiantaethol i helpu unigolion a theuluoedd gael mynediad at wasanaethau. |
Sir Benfro |
Canol /Gorllewin Cymru |
Ailwampio bloc Gwyddoniaeth Ysgol Penfro gynt a chydweithio ag Ysgol Harri Tudur a'r ganolfan hamdden i greu canolfan ar gyfer y cwricwlwm galwedigaethol. |
Sir Gaerfyrddin |
Canol /Gorllewin Cymru |
Adeiladu ystafell gymunedol fel ychwanegiad at ysgol a adeiladwyd ar gyfer yr 21ain ganrif - Llanymddyfri (Ysgol Rhys Pritchard). Cyfle i ddiwallu'r angen am fannau i'r gymuned mewn ardal wledig |
Sir y Fflint |
Gogledd Cymru |
Canolfan Dysgu Cymunedol ac amlasiantaethol ar gampws Queensferry, i'w adeiladu wrth ochr ysgol ag uned cyfeirio disgyblion/ canolfan gofal dydd i oedolion, er mwyn diwallu'r angen am gyfleoedd dysgu a chwaraeon |
Torfaen |
De-ddwyrain Cymru |
Creu estyniad i Ysgol Arbennig Crownbridge ar gyfer caffi a gwagle hygyrch amlddefnydd er mwyn meithrin cysylltiadau rhwng yr ysgol, y gymuned a gwasanaethau. |
Torfaen |
De-ddwyrain Cymru |
Creu maes chwarae 3G yn Ysgol Uwchradd Gorllewin Trefynwy at ddefnydd yr ysgol yn ystod y diwrnod ysgol ac at ddefnydd y gymuned ar adegau eraill. |
Ynys Môn |
Gogledd Cymru |
Datblygu Canolfan Gymunedol Bryn Hwfa i ddwyn ynghyd ystod o adnoddau ar draws asiantaethau i roi cymorth i fyfyrwyr anabl a'u rhieni/gofalwyr |