Neidio i'r prif gynnwy

Gall plant sydd â'u teuluoedd ar incwm isel ac sy’n gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol wneud cais am y grant o:

  • £125 i bob dysgwr
  • £200 i'r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r costau uwch sydd yn gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd)

Mae pob blwyddyn ysgol orfodol o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 bellach yn gymwys. 

Mae pob plentyn sy’n cael eu hystyried yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gymwys ar gyfer y grant, p’un a ydynt yn cael derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio. Nid yw dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim dan drefniadau “amddiffyniad wrth bontio” yn gymwys. 

Gall teuluoedd dim ond gwneud un cais ar gyfer un plentyn, unwaith ar gyfer pob blwyddyn ysgol. 

Mae cynllun 2023 i 2024 bellach ar agor ac yn cau mis 31 Mai 2024. 

I wneud cais am y grant hwn, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. 

Chwiliwch:
Er enghraifft CF10 3NQ