Neidio i'r prif gynnwy

Ar ddechrau Sioe Sir Benfro mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bydd cyfnod newydd Grant Cynhyrchu Cynaliadwy, werth £6 miliwn, yn dechrau ym mis Medi i fynd i’r afael â storio maethynnau ar y fferm.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd pedwerydd cyfnod y Grant yn rhoi cyfle i ffermwyr fynd i’r afael â llygredd amaethyddol er mwyn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer.

Bydd grantiau yn amrywio o £12,000 i £50,000 fel cyfraniad o hyd at 40% at gyfanswm cost prosiect. Bydd yr eitemau a ariennir yn cynnwys, ymysg pethau eraill, storfeydd slyri dan orchudd a chyfarpar rheoli.

Ni fydd y Grant ar gael ond lle mae’r buddsoddiad yn rhagori ar reoliadau storio slyri, i ddarparu storfa ar gyfer o leiaf 160 o ddiwrnodau, a 190 am foch a dofednod, yn ogystal ag unrhyw storfa ar y fferm sy’n bodoli eisoes.

Mae disgwyl y bydd cyfnod nesaf y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yn dechrau ar 3 Medi ac yn dod i ben ar 26 Hydref. 

Gan siarad cyn Sioe Sir Benfro, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae achosion o lygredd ar y fferm sy’n effeithio ar ansawdd dŵr a bywyd gwyllt wedi cynyddu’n ddiweddar, yn aml yn sgil camreoli storfeydd slyri a chyfleusterau trin dŵr budr.   

“Mae lefel y diddordeb ym mhob cyfnod o’r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy wedi dangos bod ffermwyr yn barod i fuddsoddi yn eu busnesau fferm er mwyn dod yn fwy cynaliadwy, ffyniannus a chydnerth.

“Bydd cyfnod nesaf y Grant yn canolbwyntio ar helpu ffermwyr i gyflawni’n hamcanion o ran rheoli maethynnau’n well a diogelu a gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer drwy leihau llygredd.  Bydd y buddsoddiad yn helpu ffermwyr i fynd i’r afael â’r materion pwysig hyn a sicrhau bod cenedlaethau heddiw ac yfory’n gallu parhau i elwa ar ein hadnoddau naturiol.”

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dod i ddiwrnod cyntaf Sioe Sir Benfro ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfarfodydd. Mae am glywed barn ffermwyr, undebau a  phartneriaid am gynigion arfaethedig Llywodraeth Cymru, a gafodd eu lansio’n ddiweddar, ynghylch  darparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru ar ôl Brexit.

Ar ddechrau mis Gorffennaf, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet ymgynghoriad 16 wythnos o’r enw Brexit a’n Tir, sy’n cynnig rhaglen Rheoli Tir newydd i gymryd lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE.

Bydd y rhaglen newydd yn cynnwys dau gynllun mawr hyblyg - y Cynllun Cadernid Economaidd a’r Cynllun Nwyddau Cyhoeddus.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiynau galw heibio yn y Sioe, a fydd yn rhoi  cyfle i ffermwyr a’r cyhoedd ddysgu mwy am yr ymgynghoriad a mynegi eu barn.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae Brexit yn creu heriau a chyfleoedd sylweddol. Dw i wedi dweud droeon nad yw cynnal y status quo yn opsiwn inni a bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn dod i ben yng Nghymru unwaith y bydd y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer Rhaglen Rheoli Tir newydd, sy’n unigryw i Gymru, sy’n bwriadu cadw ffermwyr yn  ffermio a sicrhau y gallant ffynnu mewn byd ar ôl Brexit.  Dyma ymgynghoriad 16 wythnos bwysig a fydd yn sail i’n cynlluniau.

“Hon fydd Sioe Sir Benfro olaf cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd.  Mae fy neges yn un syml – ni fu erioed adeg bwysicach i gymryd rhan a’n helpu i lunio dyfodol ffermio yng Nghymru.  Dw i’n edrych ymlaen at ymweld â’r Sioe a chlywed cymaint o sylwadau â phosib ar ein cynigion."