Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Grant Cymorth Ychwanegol yn darparu cyllid i helpu i sicrhau bod plant cymwys sydd ag anghenion cymorth ychwanegol yn gallu cyrraedd yr Cynnig Gofal Plant.

Mae’r Grant Cymorth Ychwanegol (ASG) yn darparu cyllid i helpu i sicrhau bod plant cymwys sydd ag anghenion cymorth ychwanegol yn gallu cyrraedd yr elfen gofal plant o’r Cynnig Gofal Plant yn yr un ffordd â phlant cymwys eraill.

Gwnaethpwyd yr ymchwil rhwng mis Mai 2023 a mis Chwefror 2024. Defnyddiwyd dulliau cymysg, yn cynnwys adolygiad o wybodaeth rheoli, arolwg ar-lein gyda darparwyr gofal plant, a chyfweliadau manwl gyda rhanddeiliaid, darparwyr gofal plant, awdurdodau lleol a rhieni.

Roedd darparwyr yn teimlo’n hyderus yn gofalu am blant gydag ADY: roedd pedwar ymhob pump (82%) o ddarparwyr yn hyderus ynghylch adnabod plant oedd efallai ag ADY, ychydig dros ddwy ran o dair (70%) yn gwybod pa gamau i’w cymryd er mwyn cael asesiad ADY ffurfiol i blentyn, ac roedd pedwar ymhob pump yn hyderus ynghylch gweithio gyda phlant sydd ag ADY (81%).

Roedd ymwybyddiaeth am yr ASG ymysg darparwyr yn weddol isel. Roedd tua dwy ran o dair (67%) o ddarparwyr erioed wedi clywed am yr ASG, roedd tua un ymhob pump (19%) wedi clywed am yr ASG ond erioed wedi gwneud cais amdano, ac roedd ychydig yn llai nag un ymhob pump (15%) wedi clywed amdano ac roedden nhw yn y broses o wneud cais amdano neu wedi gwneud cais amdano yn barod.

Yn 2021-22 gwariodd Llywodraeth Cymru tua  £1.1m drwy’r ASG ar draws bob un o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Amrywiodd y gwariant gan awdurdodau lleol o tua £7,000 i tua £180,000, gyda gwariant (cymedrig) cyfartalog fesul awdurdod lleol o tua £49,000.

Mae awdurdodau lleol wedi croesawu’r ASG fel adnodd angenrheidiol iawn i helpu gyda’u hymateb i’r galw cynyddol am gymorth ychwanegol i blant gydag ADY. Mae awdurdodau lleol wedi buddsoddi llawer iawn o feddwl yn y gwaith o ddatblygu prosesau i wneud defnydd effeithiol o’r grant a’i integreiddio yn y gyllideb gyffredinol a ddyrannwyd ar gyfer cymorth ADY yn eu meysydd perthnasol.

Soniodd awdurdodau lleol am orfod llywio drwy system gymhleth o ffrydiau ariannu, yr oedd yr ASG yn un ohonynt. Roedd hyn yn ychwanegu cymhlethdod i’r broses ariannu, ac yn achosi risg y byddai opsiynau ariannu’n cael eu hanwybyddu, a allai olygu bod teuluoedd cymwys yn colli cyfle.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru eisiau adolygu’r arweiniad cyfredol ac ystyried addasiadau fel ei fod yn dangos yn fwy eglur pa bethau y gellir defnyddio’r ASG i’w hariannu.

Gallai Llywodraeth Cymru ystyried gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu ymgyrchoedd cyfathrebu a gwybodaeth ar y cyd i ddarparwyr a theuluoedd er mwyn sicrhau bod pawb sy’n gymwys ac sydd angen cymorth ASG yn gallu cael gafael arno.

Gallai awdurdodau lleol weithio gyda darparwyr ymhob sector (blynyddoedd cynnar ac ysgolion) a theuluoedd i ganfod anghenion cymorth ychwanegol ar gam cynharach.

Efallai y bydd Llywodraeth Cymru eisiau ystyried datblygu a gweithredu proses a thempledi gweithdrefn gyson a systematig i gasglu gwybodaeth fwy gronynnog am reolaeth y grant ac i awdurdodau lleol adrodd amdanynt i Lywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Ymchwil am Grant Cymorth Ychwanegol y Cynnig Gofal Plant i Gymru: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dr Jack Watkins

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.