Neidio i'r prif gynnwy

Bu’r ymchwil yn adolygu fformiwlâu cyfredol, a gwaith maes a gwblhawyd ar y cyd ag awdurdodau lleol. Mae hefyd yn cynnig opsiwn ar gyfer fformiwla ariannu newydd o dan y Grant Cymorth Tai.

Mae’r adroddiad yn awgrymu’r camau canlynol i ddatblygu fformiwla ariannu newydd ar gyfer y Grant Cymorth Tai:

  • cadw at gynseiliau setliad llywodraeth leol
  • defnyddio Cynlluniau Gwariant 2019/2020 i lywio dyluniad fformiwla
  • addasu’r fformiwla ar gyfer gwledigrwydd a phrinder poblogaeth
  • addasu’r fformiwla i ymdrin â'r newidiadau mwyaf posibl mewn cyllid
  • cynllunio trefniadau pontio

Dyma brif ganfyddiadau’r fformiwla arfaethedig:

  • bydd ailddyrannu cyllideb sefydlog yn arwain at rai awdurdodau lleol yn derbyn mwy o arian
  • bydd lefelu’r amrywiad penodol o ddyraniad cyfredol cyllideb Cefnogi Pobl yn gweld 12 awdurdod lleol yn profi newid mewn ariannu (naill ai cynnydd neu ostyngiad) o 10% neu fwy
  • mae’r dyraniad ariannu cymharol wedi’i ddyrannu’n fwy cyfartal o lawer fesul pen o’r boblogaeth o dan y fformiwla ariannu newydd
  • mae rhai o’r awdurdodau lleol sy’n gweld y lleihad mwyaf yn eu dyraniadau ariannu yn parhau i fod ymhlith y rhai a ariennir orau o’u cymharu ag eraill

Adroddiadau

Grant Cymorth Tai: datblygiad fformiwla ariannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rhian Davies

Rhif ffôn: 0300 025 6791

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.