Grant Cymorth Profedigaeth Cenedlaethol 2025 i 2028: sefydliadau llwyddiannus
Y sefydliadau a wnaeth gais llwyddiannus am y grant i wella gwasanaethau cymorth profedigaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Bydd deunaw elusen yn cael arian gan y Grant Cymorth Profedigaeth dros y tair blynedd nesaf. Bydd y grant hwn yn cefnogi'r rhai sy'n profi colled, gan roi cymorth arbennig i bobl ym maes ffermio a'r rhai sy’n wynebu mathau cymhleth o alar.
Ymhlith y sefydliadau sydd wedi cael cyllid mae:
Sefydliad DPJ
Cymorth profedigaeth ym maes ffermio
Bydd y prosiect yn cefnogi iechyd meddwl y rhai sydd mewn profedigaeth yn y gymuned amaethyddol yng Nghymru ac yn genedlaethol.
Powys, Mind Canolbarth a Gogledd Powys
Prosiect cymorth profedigaeth Powys
Diben y prosiect cymorth profedigaeth fydd mynd i'r afael ag anghenion profedigaeth unigolion o bob oedran ledled Powys.
Sandy Bear
Cymorth profedigaeth Sandy Bear
Nod y prosiect yw gwella ac ehangu cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn y Gorllewin ac Abertawe.
Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth a'r Cylch (HAHAV)
Tyfu o gwmpas galar
Bydd y prosiect yn creu rhwydweithiau gofal profedigaeth yng Ngheredigion i helpu pobl i gefnogi ei gilydd.
2wish
Prosiect cymorth ar unwaith 2wish
Bydd y prosiect yn darparu cymorth ar unwaith ledled Cymru i'r rhai yr effeithir arnynt gan farwolaeth sydyn plentyn neu berson ifanc.
Marie Curie
Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Profedigaeth Cymru (BISS)
Bydd y prosiect yn adeiladu ar wasanaethau llwyddiannus Marie Curie i sicrhau mynediad teg at gymorth profedigaeth ledled y wlad.
Platfform
Cymorth profedigaeth Lles Platfform
Bydd y prosiect yn darparu cymorth profedigaeth a chwnsela yng Nghaerdydd ac Abertawe. Bydd cymorth ar-lein ar gael ledled y wlad.
Ty Hafan
Gwasanaeth cymorth profedigaeth gwell
Bydd y prosiect yn gwella ac yn ehangu gwasanaeth profedigaeth Tŷ Hafan i blant a theuluoedd. Bydd yn darparu cymorth ledled y wlad.
Tŷ Gobaith
Cymorth teuluol i'n teuluoedd mewn profedigaeth sy'n byw yng Nghymru
Bydd y prosiect yn ariannu Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd ar gyfer pob hosbis. Bydd hyn yn cefnogi teuluoedd yn y Gogledd a Phowys.
The City Hospice Trust Limited
Gadael neb heb gymorth
Bydd y prosiect yn cynnig cwnsela allgymorth yng Nghaerdydd. Bydd yn helpu pobl ag anghenion profedigaeth cymhleth. Bydd hefyd yn cefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd cael cymorth.
Gofal Hosbis Dewi Sant
Prosiect cymorth profedigaeth gofal hosbis Dewi Sant
Bydd y prosiect yn darparu cymorth profedigaeth amserol i oedolion. Bydd yn gwasanaethu ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, a Phowys. Bydd yn helpu'r rhai sy'n colli rhywun annwyl iddynt.
HOPE Trust Cardiff CIO (Sefydliad Corfforedig Elusennol), The Junction
The Junction
Bydd y prosiect yn cefnogi dynion a menywod yng Nghaerdydd sydd wedi colli baban. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer camesgoriad, marw-enedigaeth, colli baban newydd-anedig, y cyfnod ar ôl erthyliad, anffrwythlondeb, a beichiogrwydd yn dilyn colled.
Canolfan Felin Fach
Enfys Alice
Bydd y prosiect yn darparu cymorth tosturiol, lleol i'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad yn y Gogledd. Mae model Enfys Alice yn nodi'r weledigaeth ar gyfer cymorth ar ôl hunanladdiad.
ACE, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái
Cydgynhyrchu cymorth profedigaeth cynhwysol
Bydd y prosiect yn helpu cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Caerdydd. Bydd hefyd yn cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i gael y cymorth cywir pan fydd ei angen arnynt.
Gofal mewn Galar Cruse (Cruse Cymru)
Gwasanaeth ymateb arbenigol i brofedigaeth Cymru
Bydd y prosiect hwn yn gwella mynediad at wasanaethau profedigaeth i'r rhai yr effeithir arnynt gan golled sydyn neu drawmatig. Bydd yn mynd i'r afael ag annhegwch yn y cymorth sydd ar gael i gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a grwpiau amrywiol eraill. Bydd y gwasanaethau hyn ar gael ledled y wlad.
Sefydliad Paul Sartori
Darparu cymorth cynaliadwy i oedolion mewn profedigaeth yn Sir Benfro
Bydd y prosiect yn parhau â gwasanaeth cwnsela'r elusen yn Sir Benfro. Bydd yn cwrdd â'r galw mewn ffordd gynaliadwy ac yn gwella'r gwasanaeth.
Age Cymru Dyfed ac Age Cymru Powys
Gwasanaeth profedigaeth pobl hŷn Dyfed-Powys
Bydd y prosiect peilot hwn yn mynd i'r afael ag anghenion cymorth profedigaeth unigryw oedolion hŷn yng nghefn gwlad y canolbarth a'r gorllewin. Bydd yn canolbwyntio ar ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, a Phowys.
Llamau
Gwasanaeth cymorth profedigaeth Llamau
Bydd y prosiect yn parhau i gynnal a darparu'r gwasanaeth cymorth profedigaeth cenedlaethol gwerthfawr hwn. Bydd yn diwallu anghenion galar a cholled pawb sy'n cael eu cefnogi gan yr elusen, ac sy'n gweithio yno. Mae hyn yn cynnwys cymorth cwnsela arbenigol. Mae hefyd yn darparu mynediad at adnoddau ar-lein a modiwlau e-ddysgu byrion. Mae'r modiwlau hyn yn codi ymwybyddiaeth o faterion profedigaeth ymhlith ein cydweithwyr.