Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau i helpu gofal a chymorth mewn profedigaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth yng Nghymru.

Mae'r fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn cynnwys:

  • yr egwyddorion craidd
  • y safonau sylfaenol
  • amrywiaeth o gamau gweithredu i gynorthwyo cynllunio rhanbarthol a lleol

Mae’r fframwaith yn cydnabod y bydd effeithiau’r pandemig yn para am amser hir. Mae'n cynnwys adran am ddysgu gwersi o COVID-19. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ar y fframwaith hwn.

Cyllid

Mae Grant Cymorth Profedigaeth gwerth £927,000 y flwyddyn (2025 i 2028) ar gael i helpu i weithredu'r fframwaith.

Pwy all ymgeisio

Gall sefydliadau'r trydydd sector wneud cais am y grant. Hoffem gefnogi prosiectau sy'n helpu i ddarparu gofal a chymorth profedigaeth. Mae angen i brosiectau gyd-fynd â 3 elfen y cymorth profedigaeth a ddisgrifir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Dylid trafod pob prosiect gydag arweinydd profedigaeth y bwrdd iechyd lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r prosiect yn gweithredu, cyn i'r cais gael ei gyflwyno.

Croesewir cynigion gan sefydliadau unigol neu gan sefydliadau ar y cyd.

Meini prawf y grant

O ran y prosiect:

  • rhaid iddo gael ei gyflawni yng Nghymru (yn lleol, yn rhanbarthol neu ar lefel Cymru gyfan) a rhaid i'r holl wasanaethau fod ar gael yn Gymraeg a rhaid iddynt gefnogi'r iaith a'i diwylliant
  • rhaid iddo ychwanegu gwerth at ddarpariaeth gwasanaethau profedigaeth presennol ac ategu'r rhai a ddarperir eisoes gan y GIG, y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector yng Nghymru
  • dylai ddangos sut y bydd yn mynd i'r afael ag anghenion profedigaeth cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a grwpiau eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol ac sy'n agored i niwed, a sut y bydd hyn yn cael ei dystiolaethu
  • dylai gynnwys darparu gwasanaethau i sicrhau mynediad teg i bawb, ni waeth beth fo'u statws economaidd-gymdeithasol neu unrhyw nodweddion gwarchodedig, gan hefyd fodloni nodau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Rhaid i brosiectau fynd i'r afael â chymaint â phosibl o'r meysydd blaenoriaeth a ganlyn:

  • mynd i'r afael â bylchau o ran darparu gwasanaethau profedigaeth megis y rhai a amlygwyd yn y fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth yng Nghymru
  • bodloni gofynion y Llwybrau Profedigaeth Cenedlaethol yng Nghymru
  • helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru
  • uwchsgilio arweinwyr cymunedol i ddatblygu sgiliau i helpu eu hunain ac eraill
  • helpu anghenion pobl mewn profedigaeth mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain
  • helpu'r rhai yng Nghymru sy'n cyrraedd o dan y cynlluniau adsefydlu o Affganistan, a ffoaduriaid eraill y mae arnynt angen cymorth profedigaeth
  • helpu'r rhai yr effeithir arnynt gan wrthdaro rhyngwladol megis y rhyfeloedd yn Wcráin a Phalesteina
  • rhaid i’r sefydliad(au) sy’n gwneud cais am gyllid roi manylion eu profiadau blaenorol o weithio ym maes gofal a chymorth profedigaeth

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Medi 2024.

Ceisiadau gan sefydliadau ar y cyd

Pan gyflwynir ceisiadau gan sefydliadau ar y cyd, mae angen yr wybodaeth a ganlyn:

  • y sefydliad arweiniol
  • tystiolaeth o femorandwm cyd-ddealltwriaeth

Rydym yn chwilio am gynigion ar gyfer mathau penodol o wasanaethau profedigaeth a/neu wasanaethau profedigaeth cyffredinol.

Sut y caiff cyllid ei ddyfarnu

Byddwn yn ystyried ceisiadau ar sail gystadleuol. Byddwn yn dyfarnu cyllid i’r sefydliadau sy’n gallu dangos orau sut y mae eu cynigion yn cefnogi meini prawf y grant. Byddwn yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus cyn cadarnhau'r dyfarniad grant.

Manylion cyswllt

Ansawdd a Nyrsio Llywodraeth Cymru

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Hysbysiad preifatrwydd