Sut i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau i helpu gofal a chymorth mewn profedigaeth.
Cynnwys
Cefndir
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yng Nghymru. (Include link to published Framework.)
Mae’r fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn cynnwys:
- yr egwyddorion craidd
- y safonau sylfaenol
- amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi cynllunio rhanbarthol a lleol
Mae’r fframwaith yn cydnabod y bydd effeithiau’r pandemig yn para am amser. Mae’n cynnwys adran am ddysgu gwersi o COVID-19. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ar y fframwaith hwn.
Cyllid
Mae Grant Cymorth Profedigaeth Cenedlaethol gwerth £1m ar gyfer 2021 i 2024 ar gael i helpu i weithredu’r fframwaith.
Pwy all ymgeisio?
Gall sefydliadau trydydd sector wneud cais am y grant. Rydyn ni am gefnogi prosiectau sy’n helpu i ddarparu gofal a chymorth mewn profedigaeth. Mae angen i brosiectau gyd-fynd â thair elfen y cymorth profedigaeth a ddisgrifir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
Croesewir cynigion gan sefydliadau unigol neu gan sefydliadau ar y cyd.
Meini prawf y grant
Rhaid bod y prosiect yn:
- cael ei ddarparu yng Nghymru (yn lleol, yn rhanbarthol neu ar lefel Cymru gyfan)
- naill ai’n gynaliadwy y tu hwnt i’r cyfnod ariannu sef 2021 i 2024, neu’n cael eu ddarparu’n llawn o fewn y cyfnod ariannu
- ychwanegu gwerth at ddarpariaeth gwasanaethau profedigaeth presennol
- ategu’r gwasanaethau hynny a ddarperir gan y GIG, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yng Nghymru
- mynd i’r afael â bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth o wasanaethau profedigaeth megis y rheini y tynnwyd sylw atynt yn y fframwaith cenedlaethol
- helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru
- mynd i’r afael ag anghenion profedigaeth cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
- gwella darpariaeth a mynediad at wasanaethau profedigaeth pobl sydd â nodweddion gwarchodedig (Eich hawliau o dan Deddf Cydraddoldeb 2010 | Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (equalityhumanrights.com))
- cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg ac yn cefnogi anghenion ieithyddol eraill
- cefnogi unigolion o grwpiau agored i niwed
- cefnogi pobl yng Nghymru sy’n cyrraedd o dan y cynllun adsefydlu o Afghanistan, a ffoaduriaid eraill sydd angen cymorth profedigaeth
- helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru (gan gynnwys darparu cymorth ar unwaith yn dilyn profedigaeth)
Sut i wneud cais
Llenwch y ffurflen gais. (Insert link to the application form)
Ceisiadau gan sefydliadau ar y cyd.
Pan cyflwynir ceisiadau gan sefydliadau ar y cyd, mae angen yr wybodaeth ganlynol:
- y prif sefydliad
- tystiolaeth o femorandwm cyd-ddealltwriaeth
Rydym yn ceisio cynigion ar gyfer mathau penodol o wasanaethau profedigaeth a/neu wasanaethau profedigaeth cyffredinol.
Sut y caiff cyllid ei ddyfarnu?
Byddwn yn ystyried ceisiadau ar sail gystadleuol. Byddwn yn dyfarnu cyllid i’r sefydliadau sy’n gallu dangos orau sut y mae eu cynigion yn cefnogi meini prawf y grant. Byddwn yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy gydag ymgeiswyr llwyddiannus cyn cadarnhau dyfarniad y grant.
Manylion cyswllt
Population Healthcare Welsh Government
E-bost: PopulationHealthcare@gov.wales
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.