Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae ein hamgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol yn darparu gwasanaethau a chymorth hanfodol i gymunedau ledled Cymru. Hefyd, maent ar gael fel ffynonellau gwybodaeth, addysg a mwynhad i’r bobl sy’n ymweld â hwy.

Mae moderneiddio cyfleusterau i wella mynediad, sicrhau cydweithio rhwng gwasanaethau ac adnewyddu’r cynnig i ddefnyddwyr yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella’r gwasanaethau a ddarperir. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod hyn, ac mae’n cefnogi’r gwaith datblygu trwy ei rhaglen cyllid cyfalaf.

Adran Diwylliant Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli’r Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid hon, a fydd yn galluogi’r cyrff llwyddiannus i drawsnewid gwasanaethau er mwyn:

  • datblygu model mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau
  • gwella gwasanaethau i bobl a’u cymunedau
  • gwella datblygiad casgliadau, gofal amdanynt neu fynediad iddynt
  • cyflawni yn erbyn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (2021-2026) a blaenoriaethau strategol y sefydliad ei hun.
  • cynnal a datblygu ansawdd gwasanaethau

1. Y broses ymgeisio

Bydd y cynllun grant yn gweithredu fel proses dau gam:

Cam 1: Cais agored i’r sector ddarparu Datganiad o Ddiddordeb

Cam 2: Gofynnir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddatblygu a chyflwyno cais llawn. Rhaid i geisiadau Cam 2 fod yn gyson â’r cynnig a nodwyd yn y Datganiad o Ddiddordeb a gymeradwywyd.

Bydd y ddau gam yn gystadleuol. Nid yw Datganiad o Ddiddordeb llwyddiannus yn gwarantu cyllid ar Gam 2.

Mae’r amserlen ar gyfer cynllun grant 2024/25 fel y ganlyn:

Amserlen

Dyddiadau

Y cyfnod ymgeisio yn agor

28 Gorffennaf 2023

Gweminar cyngor a chymorth – 1

14 Awst 2023

Gweminar cyngor a chymorth – 2

30 Awst 2023

Gweminar cyngor a chymorth – 3

7 Medi 2023

Cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb

Erbyn 5pm 22 Medi 2023

Cyhoeddi penderfyniadau Cam 1

Yr wythnos yn dechrau 6 Tachwedd Hydref 2023

Cyflwyno Ceisiadau Cam 2

Erbyn 5pm 26 Ionawr 2024

Cyhoeddi penderfyniadau Cam 2

Ar neu cyn 29 Mawrth 2024

2. Pwy all wneud cais?

Llyfrgelloedd

Gwasanaethau llyfrgell cyhoeddus awdurdod lleol neu ymddiriedolaethau / cwmnïau dielw sy’n darparu gwasanaeth llyfrgell ar draws ardal yr awdurdod ar ran yr awdurdod lleol. Caiff llyfrgelloedd a reolir gan y gymuned sydd wedi'u cyfansoddi o dan fframwaith rheoleiddio (e.e. elusen gofrestredig neu gwmni budd cymunedol) hefyd wneud cais.

  • Caiff llyfrgelloedd cymunedol sy’n cael eu cefnogi gan yr awdurdod lleol ac sy’n rhan o’r gwasanaeth statudol wneud cais, ond rhaid iddynt roi gwybod i’w hawdurdod lleol eu bod yn gwneud hynny cyn gwneud cais.
  • Caiff llyfrgelloedd cymunedol annibynnol nad ydynt yn rhan o’r gwasanaeth statudol wneud cais. Nid oes angen iddynt roi gwybod i’r awdurdod lleol eu bod yn gwneud cais.

Mae llyfrgelloedd cymunedol yn cynnwys:

  • Wedi’u reoli gan y gymuned: Mae’r rhain wedi’u harwain a’u gweithredu yn bennaf gan y gymuned fel arfer heb staff cyflogedig ond yn aml gyda rhyw fath o gefnogaeth rheolaidd y cyngor ac yn aml yn parhau’n rhan o rhwydwaith y llyfrgell cyhoeddus  
  • Wedi’u cefnogi gan y gymuned: Y cyngor sy’n arwain ac yn ariannu’r rhain, ac mae ganddynt staff cyflogedig proffesiynol fel rheol, ond mae gwirfoddolwyr yn rhoi cryn gymorth iddynt.

Amgueddfeydd

Amgueddfeydd sy’n cael eu rhedeg gan awdurdod lleol neu’n annibynnol sydd ag Achrediad llawn neu amodol fel rhan o gynllun Achredu Amgueddfeydd y Deyrnas Unedig.

Archifau

Gwasanaethau archif awdurdod lleol neu ymddiriedolaethau / cwmnïau dielw sy’n darparu gwasanaethau archif ar ran yr awdurdod lleol. Rhaid i wasanaethau archif fod ag Achrediad llawn neu amodol fel rhan o gynllun Achredu Gwasanaethau Archif y Deyrnas Unedig, neu wedi ymrwymo i gael Achrediad o fewn amserlen gytunedig.

Mae ceisiadau oddi wrth bartneriaethau sy’n darparu gwasanaethau rhanbarthol neu Gymru gyfan yn gymwys.

3. Yr hyn y byddwn yn ei gyllido

Mae’r cyllid o dan y rhaglen hon ar gyfer costau cyfalaf yn unig. Mae gwariant cymwys yn cynnwys gwaith adeiladu a pheirianyddol, ffioedd proffesiynol, a ffitiadau / offer ychwanegol sy’n hanfodol i’r gwaith datblygu ehangach. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cymhwysedd elfennau o’ch prosiect, dylech gysylltu ag Adran Diwylliant (gweler adran 7 i gael y manylion cyswllt).

Hefyd, caiff gwasanaethau wneud cais am gyllid ar gyfer seilwaith technoleg gwybodaeth a digidol sydd wedi’i fwriadu i alluogi gwasanaethau i ddiwallu anghenion cynyddol am fynediad i gasgliadau a gwasanaethau digidol. Ni fydd cyllid ar gyfer seilwaith o’r fath yn cael ei gefnogi ond lle mae cynllun ar waith i gynnal systemau yn y tymor hirach (gan gynnwys cefnogaeth ysgrifenedig gan wasanaethau TG perthnasol). Rhoddir blaenoriaeth hefyd i geisiadau cydweithredol lle bydd y system arfaethedig yn diwallu anghenion ar draws nifer o wasanaethau.

Caiff ymgeiswyr ofyn am hyd at 10% o’r dyfarniad grant i gynorthwyo â chostau penodol staff rheoli prosiect.

O ganlyniad i’r amodau economaidd sy’n bodoli ar hyn o bryd, rydym yn gwybod efallai y bydd costau rhai cynigion yn cynyddu rhwng y cam datgan diddordeb, y cam gwneud cais a’r cam dyfarnu. Rydym yn fodlon ystyried costau uwch o’r fath lle y gellir dangos y rheswm dros y costau uwch yn glir. Bydd rhaid i unrhyw geisiadau am gostau uwch ar gyfer prosiectau ar ôl y cam dyfarnu gael eu cyflwyno yn ffurfiol a byddant yn cael eu ystyried fesul achos.

Os gwneir cais am gostau uwch, disgwylir hefyd i’r ymgeisydd gynyddu lefel yr arian cyfatebol.

Gofynnir i gyrff sy’n ystyried gwneud cais am gyllid tuag at adeilad newydd gysylltu â’r Adran Diwylliant yn gynnar yn y broses o ddatblygu eu datganiad o ddiddordeb. Gweler y manylion cyswllt yn adran 7 o’r ddogfen hon.

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021–26 yn amlinellu amrediad o amcanion buddsoddi ar    gyfer y tymor llywodraeth hwn:

  • Ehangu mynediad at ein treftadaeth [a’n diwylliant] ... a sicrhau bod gan ddiwydiannau [diwylliannol] y cymorth sydd ei angen arnynt i gynnal eu priod le ar lwyfan y byd;
  • Sicrhau bod hanes ein cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig yn cael eu cynrychioli’n ddigon drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith o amgueddfeydd;
  • Buddsoddi yn ein theatrau a’n hamgueddfeydd;
  • Parhau i gefnogi ein partneriaid llywodraeth leol a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus lleol.

Er mwyn mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd a Natur a chefnogi’r dull sero-net sy’n ganolog i’n Rhaglen Lywodraethu newydd, mae angen i ni asesu’r cysylltiad rhwng ein buddsoddiadau seilwaith arfaethedig a’u heffeithiau carbon cysylltiedig. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir ynghylch yr angen i ystyried ystyriaethau amgylcheddol ym mhob penderfyniad a gymerwn ac ystyried gwerth am arian ochr yn ochr â buddion ehangach.

Ar gyfer y Rhaglen hon, un o’r amodau craidd i unrhyw adeilad newydd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yw ei fod yn cyrraedd y ddwy safon adeiladu ganlynol:

  • Safon ‘Rhagorol’ yn gyffredinol o dan fframwaith asesu BREEAM, neu safon debyg o dan fframwaith asesu cyfwerth;
  • Safon ofynnol ar gyfer cynnwys wedi’i ailgylchu. Dylai o leiaf 10% o gyfanswm gwerth ariannol y deunyddiau a ddefnyddir ddeillio o gynnwys wedi’i ailgylchu a’i ailddefnyddio yn y cynhyrchion a deunyddiau a ddewisir.

Noder na ellir defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a ddyrennir o dan y cynllun hwn tuag at brynu tir neu adeiladau.

4. Y lefelau cyllid sydd ar gael

Mae dau fand o grantiau cyfalaf ar gael:

  • Band A – grantiau gwerth hyd at £150,000
  • Band B – grantiau gwerth hyd at £300,000

Nod grantiau Band A yw annog cyrff i wella’r golwg a’r amgylchedd mewnol ac allanol, ansawdd y gofal i’r casgliadau, profiad ymwelwyr a chynaliadwyedd hirdymor. Fel arfer, ni fyddwn yn cefnogi prosiectau lle mae’r costau prosiect yn llai na £50,000.

Mae grantiau Band B ar gyfer prosiectau strategol, mwy o faint fel ail-alinio’r ddarpariaeth gwasanaeth (e.e. adnewyddu adeilad mawr, datblygu partneriaethau a chyfleusterau a rennir) neu’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau rhwng-awdurdodol neu ‘ranbarthol’.

Caiff cyrff neu wasanaethau (llyfrgelloedd, archifau, amgueddfeydd ac ati yn achos awdurdodau lleol) gyflwyno hyd at ddau gais am grant ym mhob cyfnod grant. Caiff y rhain fod yn yr un band neu yn y ddau fand a ddisgrifir uchod. Os yw corff/gwasanaeth yn cyflwyno dau gais, dylai nodi’r flaenoriaeth a ffefrir, a darparu tystiolaeth o’i allu i reoli dau brosiect cyfalaf ar yr un pryd. Os yw corff yn cyflwyno cynigion ar ran partneriaeth neu gonsortiwm, nid oes rhaid trefnu cynigion unigol y corff ar sail blaenoriaeth, a byddant yn cael eu hesemptio o’r cyfyngiad o ddau grant fesul cyfnod grant a ddisgrifir uchod.

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu o leiaf 10% o’r cyllid sydd ei angen fel arian cyfatebol ychwanegol tuag at gost y prosiect. Gellir cynnwys nwyddau neu wasanaethau yn yr arian cyfatebol ar gyfer eich prosiect. Rhaid ichi gysylltu â’r cynghorydd sector a enwir cyn cyflwyno eich cais os ydych am gynnwys nwyddau neu wasanaethau yn eich arian cyfatebol.

Mae canllawiau ar gael yma Cefnogi Trydydd Sector Cymru: Gwerth Economaidd Gwirfoddolwyr.

5. Cymhwysedd

Rhaid i’r holl geisiadau fodloni’r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys:

  • rhaid i’r cais ddod oddi wrth amgueddfa, archif neu lyfrgell sy’n cael ei rheoli gan awdurdod lleol / ymddiriedolaeth/cwmni dielw neu’n annibynnol, fel y nodir yn adran 2;
  • rhaid i geisiadau oddi wrth ymddiriedolaethau / cwmnïau dielw gynnwys lythyr o gefnogaeth gan yr awdurdod(au) lleol perthnasol;
  • rhaid i’r holl Ganiatadau Cynllunio / Caniatadau Adeilad Rhestredig perthnasol fod wedi’u sicrhau cyn cyflwyno’r cais Cam 2. Ni fydd ceisiadau heb y caniatadau gofynnol yn cael eu symud ymlaen.
  • rhaid i gostau’r prosiect gynnwys o leiaf 10% o arian cyfatebol gan y rhiant gorff. Rhaid i’r cyfraniad o 10% gan sefydliadau Awdurdod Lleol fod yn gyfraniad ariannol.
  • dylid cadarnhau arian cyfatebol cyn cyflwyno cais cam 2 (rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sydd â chyllid cadarnhaol);
  • dylai lleoliad y prosiect fod ar agor o leiaf 15 awr yr wythnos ar gyfer prosiectau Band A (gwneir lwfansau ar gyfer amgueddfeydd sy’n agor yn dymhorol), a 30 awr ar gyfer prosiectau Band B, ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau;
  • dangos tystiolaeth glir o’r angen, gan gynnwys sut mae’r prosiect yn diwallu anghenion cynlluniau busnes a pholisïau lleol a chenedlaethol;
  • rhaid i’r gwaith a gyllidir gan y grant gael ei gwblhau, a rhaid hawlio amdano, erbyn 31 Mawrth 2025 ar gyfer gwobrau blwyddyn sengl, neu 31 Mawrth 2026 y flwyddyn ariannol berthnasol ar gyfer gwobrau sy’n mynd dros sawl blwyddyn.
  • ni ddyfernir dros £150k mewn tair blynedd i unrhyw gorff ar gyfer prosiectau Band A, na thros £300k mewn pum mlynedd ar gyfer prosiectau Band B.

Rhaid i ymgeiswyr siarad â’u hymgynghorydd ariannol perthnasol cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, ac eto cyn cyflwyno cais cam 2. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn mynychu o leiaf un o’n gweminarau cynghori (dyddiadau uchod). 

6. Meini prawf blaenoriaeth

Caiff y cynigion Datgan o Ddiddordeb eu sgorio gan ddefnyddio’r graddfeydd sgorio canlynol, wedi’u lluosi gan y ffactor pwysoli cysylltiedig i roi cyfanswm y sgôr.

 

Meini rawf blaenoriaeth

Sgôr

Pwysoli

band  a

Pwysoli

band  b

1

datblygu cynaliadwy

0 - 4

x 4

x 5

2

pobl

0 - 4

x 5

x 4

3

casgliadau

0 - 4

x 4

x 4

4

cyweddu strategaethau

0 - 3

x 2

x 2

5

safonau

0 - 3

x 2

x 2

Datblygu cynaliadwy

Prosiectau a all ddangos sut y bydd y cynigion yn datblygu model mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau, yn unol ag Amcanion Llesiant Rhaglen Lywodraethu - Llywodraeth Cymru (2021 i 2026), er enghraifft:

Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

Gallai enghreifftiau gynnwys defnyddio technolegau digidol a symudol i ddarparu gwasanaethau; dulliau rhanbarthol neu bartneriaethau eraill; cydleoli gwasanaethau.

Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.

Gallai enghreifftiau gynnwys modelau newydd o ddarparu gwasanaethau; datblygiadau eraill i gynnal / darparu gwasanaethau’n well; gwella effeithiolrwydd adnoddau; lleihau’r defnydd o ynni a dŵr; defnyddio ffynonellau ynni cynaliadwy.

Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.

Gallai enghreifftiau gynnwys mesurau i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau gan gynnwys newidiadau i systemau rheoli amgylcheddol, systemau goleuo a gwresogi.

Sgôr

Rhesymeg

4

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn ymdrin â datblygu cynaliadwy ar draws mwy nag un maes, gyda thystiolaeth o ymgysylltu â phartneriaid ac arbenigwyr perthnasol

3

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn ymdrin ag un canlyniad blaenoriaethol o ran datblygu cynaliadwy, gyda thystiolaeth o ymgysylltu â phartneriaid ac / neu arbenigwyr perthnasol

2

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn ymdrin â chanlyniad(au) datblygu cynaliadwy, ond gellid bod cynlluniau wedi’u datblygu’n well

1

mae cysylltiadau â chanlyniadau datblygu cynaliadwy posibl yn amlwg, ond nid ydynt wedi’i hystyried yn llawn

0

ni roddwyd unrhyw gwybodaeth ynghylch sut y byddir yn ymdrin â materion sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy

Pobl

Prosiectau a all ddangos sut y bydd y cynigion yn gwella gwasanaethau i bobl a chymunedau, yn unol ag Amcanion Llesiant Rhaglen Lywodraethu - Llywodraeth Cymru (2021 i 2026) er enghraifft:

Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.

Gallai enghreifftiau gynnwys cyfleusterau addysgol / cymunedol newydd, a gwell ddarpariaeth TGCh, gan gynnwys argaeledd Wi-Fi.

Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.

Gallai enghreifftiau gynnwys datblygiadau sy'n gwella hygyrchedd a gwasanaethau i bobl anabl, gan gynnwys datblygu seilwaith digidol i alluogi darparu gwasanaethau a gweithgareddau ar-lein.

Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.

Gallai enghreifftiau gynnwys gwella adeiladau er mwyn darparu amgylchedd gwasanaeth mwy modern a deniadol; cyfleusterau cymunedol newydd; cyfrannu at fentrau adfywio cymunedol ehangach.

Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.

Gallai enghreifftiau gynnwys datblygu cyfleusterau i ddarparu gwasanaethau ac ymgysylltu â chymunedau a dangynrychiolir a'u dathlu eu cyfraniad i ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Sgôr

Rhesymeg

4

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn gwella gwasanaethau i bobl a chymunedau ar draws mwy nag un maes, gyda thystiolaeth o ymgynghori â defnyddwyr, a’r rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr, o bob oed

3

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn gwella gwasanaethau mewn un maes blaenoriaeth, gyda thystiolaeth o ymgynghori â defnyddwyr, a’r rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr, o bob oed

2

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn cyflawni canlyniadau gwella gwasanaeth, ond gallai’r ymgynghori fod wedi’i ddatblygu’n well

1

mae canlyniadau gwella gwasanaeth posibl yn amlwg, ond nid ydynt wedi’i hystyried yn llawn

0

ni roddwyd unrhyw gwybodaeth ynghylch sut y bydd y prosiect yn gwella gwasanaethau i bobl a chymunedau

Casgliadau

Prosiectau a all ddangos sut y bydd y cynigion yn gwella datblygiad casgliadau, gofal amdanynt neu fynediad iddynt, yn unol ag Amcanion Llesiant Rhaglen Lywodraethu - Llywodraeth Cymru  (2021 i 2026), er enghraifft:

  • bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu
  • arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang

Gallai enghreifftiau gynnwys cyfleusterau ac offer newydd ar gyfer mynediad i gasgliadau, eu storio a’u harddangos, gan gynnwys mesurau i wella sefydlogrwydd amgylcheddol.

Sgôr

Rhesymeg

4

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn gwella datblygiad casgliadau, gofal amdanynt neu fynediad iddynt, mewn mwy nag un maes, gan nodi dull seiliedig ar dystiolaeth o benderfynu ar anghenion a datrysiadau

3

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn darparu gwelliannau mewn un maes blaenoriaeth, gan nodi dull seiliedig ar dystiolaeth o benderfynu ar anghenion a datrysiadau

2

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn darparu gwelliannau gwasanaeth, ond gallai’r sail resymegol fod wedi’i datblygu’n well

1

mae gwelliannau gwasanaeth posibl yn amlwg, ond nid ydynt wedi’i hystyried yn llawn

0

ni roddwyd unrhyw gwybodaeth ynghylch sut bydd y prosiect yn gwella datblygiad casgliadau, gofal amdanynt neu fynediad iddynt

Cyweddu Strategaethau

Prosiectau a all dangos sut y bydd y cynigion yn cyflawni yn erbyn blaenoriaethau a chanlyniadau strategol, yn unol â pholisïau, strategaethau a deddfwriaeth lleol a chenedlaethol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru (2021 i 2026)
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Sgôr

Rhesymeg

3

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn cyflawni yn erbyn / yn alinio â blaenoriaethau a chanlyniadau strategol perthnasol yn lleol ac yn genedlaethol

2

rhoddir esboniad clir o sut mae’r prosiect yn alinio â blaenoriaethau a chanlyniadau strategol perthnasol, ond gallai’r potensial hwnnw fod wedi’i ddatblygu’n well

1

mae aliniadau strategol posibl yn amlwg, ond nid oes digon o wybodaeth i ddangos y rhoddwyd ystyriaeth briodol i’r gwaith o gyweddu strategaethau yn y prosiect

0

ni roddwyd unrhyw gwybodaeth ynghylch sut mae’r prosiect yn cysylltu â blaenoriaethau a chanlyniadau strategol, yn lleol nac yn genedlaethol

Safonau

Prosiectau a all ddangos sut y bydd y cynigion yn helpu i gynnal a datblygu ansawdd gwasanaethau, yn unol â’r safonau, cynlluniau a deddfwriaeth perthnasol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cynllun Achredu Gwasanaethau Archif
  • Cynllun Achredu Amgueddfeydd
  • Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru
  • Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Cynllun Indemniad y Llywodraeth
  • Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr
  • BS 4971:2017 Conservation and care of archive and library collections
  • BS EN 16893:2018 Conservation of Cultural Heritage. Specification for location, construction and modification of buildings or rooms intended for the storage or use of heritage collections
  • Lefelau Cadwraeth Digidol yr NDSA
  • Ffederasiwn Llyfrgelloedd Digidol – Lefelau Mynediad Digidol-Anedig OSF
  • Fframwaith asesu BREEAM

Sgôr

Rhesymeg

3

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn helpu i gynnal a datblygu ansawdd gwasanaethau, gan nodi sut y byddir yn ymdrin â gofynion y safonau, cynlluniau a deddfwriaeth perthnasol

2

rhoddir esboniad clir o sut y bydd y prosiect yn helpu i gynnal a datblygu ansawdd gwasanaethau, ond gellid bod wedi rhoi tystiolaeth well o sut y byddid yn ymdrin â’r gofynion mewn meysydd perthnasol

1

ymwybyddiaeth amlwg o’r safonau, cynlluniau a deddfwriaeth perthnasol, ond dim digon o wybodaeth i ddangos y rhoddwyd ystyriaeth ddigonol i’w gofynion wrth ddatblygu’r prosiect

0

ni roddwyd unrhyw gwybodaeth ynghylch sut y bydd y prosiect yn helpu i gynnal a datblygu ansawdd gwasanaethau, yn unol â’r safonau, cynlluniau a deddfwriaeth perthnasol

Cyllid

Rhoddir ystyriaeth i ganran yr arian cyfatebol y bydd y prosiect yn ei gyfrannu tuag at gost y prosiect, ac a yw hyn yn bodloni’r gofyniad o 10% o leiaf. Os nad yw ceisiadau’n bodloni’r gofyniad o 10% o leiaf ni fyddant yn symud ymlaen i Gam 2.

Byddwn yn ystyried ariannu prosiectau dros uchafswm o 2 flynedd ariannol. Rhowch wybod i ni os hoffech i ni ystyried hyn ar gyfer eich prosiect ac amlinellu'r rhesymau dros eich cais. Byddem fel arfer yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'r cyllid a ddyfarnwyd cael ei ddefnyddio ym mlwyddyn un.

Fan leiaf rydym yn disgwyl i brosiectau sy’n derbyn cyllid ddarparu diweddariadau o’r cynnydd bob chwarter drwy gwblhau a chyflwyno templed. Rhoddir y templed hwn i brosiectau llwyddiannus yn ystod y cam dyfarnu a bydd yn cael ei alinio ag amserlen hawlio y cytunwyd arni.

7. Ble allaf i gael cymorth?

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd gysylltu â’r cynghorydd sector perthnasol yn Diwylliant a Chwaraeo i gael cyngor ar ei brosiect arfaethedig cyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.

E-bost: diwylliant@llyw.cymru

Rhif ffon: 0300 062 2112  

8. Ffynonellau cyngor eraill

Mae’r wefan Designing Libraries yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i ddarpar ymgeiswyr ym maes gwasanaethau llyfrgell. Mae’n rhoi enghreifftiau o brosiectau adnewyddu llyfrgelloedd a llyfrgelloedd newydd ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae Cymdeithas Amgueddfeydd Annibynnol wedi cyhoeddi’r ddogfen Success Guide: Successfully Managing Capital Projects

Mae’r Archifau Gwladol yn darparu dolenni i amrywiaeth o adnoddau gwybodaeth defnyddiol am ddatblygiadau cyfalaf.

Adeiladau rhestredig ac henebion rhestredig