Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Telerau ac Amodau'r Grant Creu Coetir i'w gweld isod. Darllenwch y Telerau ac Amodau cyn derbyn y Contract.

1. Diffiniadau

Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Amodau hyn at:

chi’, ‘eich’ yn gyfeiriad at enw, cyfeiriad cofrestredig derbynnydd y grant fel y nodwyd

yn y Contract.

“Gweithgarwch amaethyddol” yn golygu cynhyrchu, magu neu dyfu cynnyrch amaethyddol gan gynnwys cynaeafu, godro, bridio anifeiliaid a chadw anifeiliaid at ddibenion ffermio, a chadw’r tir mewn cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da.

"Buddiolwr" a "Buddiolwyr" yn golygu gweithredwr, corff neu gwmni, boed yn gyhoeddus neu'n breifat, sy'n gyfrifol am gychwyn, neu cychwyn a gweithredu gweithrediadau neu'n cael cymorth o dan y Contract.

"Dibenion" yn golygu parseli ac amserlenni talu Creu Coetir.

“Tir y Contract” yn golygu’r parseli o dir sydd wedi’u rhestru yng Nghontract y Grant Creu Coetir.

“Rheolaeth Lwyr” yn golygu bod gan y Buddiolwr reolaeth lwyr dros Dir y Contract sydd at ei ddefnydd i gyflawni rhwymedigaethau’r Grant Creu Coetir am dymor y Contract.

"Digwyddiad Hysbysu" yn golygu unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn Atodiad 1.

“Torri telerau’r Cynllun” yn golygu unrhyw achos o beidio â chydymffurfio ag un o’r gofynion a geir yn y contract hwn.

“Trosglwyddo” yn golygu’r weithred o lesio neu werthu neu etifeddu tir neu ei drosglwyddo mewn ffordd arall.

Y Sawl y Trosglwyddir iddo” yn golygu’r person y mae’r Buddiolwr yn trosglwyddo neu’n gwerthu’r tir iddo neu’n ei waredu mewn ffordd arall.

“Coetir” yn golygu coetir sydd wedi’i fapio o dan “Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol’ Cyfoeth Naturiol Cymru.

2. Yr hyn y mae’n rhaid ichi ddefnyddio’r Cyllid ar ei gyfer

Rhaid i chi ddefnyddio’r Cyllid at y dibenion a bennir yn y Contract, a hynny’n unig

(b)    Os bydd angen gwneud unrhyw newidiadau i’r Contract, bydd angen i chi gael ein caniatâd ysgrifenedig cyn gweithredu’r newidiadau hyn. Nodwch nad oes rhaid i ni roi caniatâd, ond byddwn yn ystyried pob cais ysgrifenedig rhesymol.

(c)    Ni chaniateir i chi ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid ar gyfer unrhyw fath o weithgaredd a allai ddwyn anfri arnom yn ein barn ni, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i (1) dibenion gwleidyddiaeth plaid, (2) hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol, (3) gamblo, (4) pornograffi, (5) cynnig gwasanaethau rhywiol, neu (6) unrhyw fath o weithgareddau anghyfreithlon.

(d)    Ni chaniateir i chi ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid ar gyfer: (1) eich ffioedd cyfreithiol mewn perthynas â’r Contract, (2) Costau a Ysgwyddir neu Gostau a Ysgwyddir ac a Dalwyd gennych wrth gyflawni’r Dibenion cyn y cyfnod y cyfeirir ato yn y Contract.

3. Rhagamodau’r Cyllid

(a)    Ni fyddwn yn talu unrhyw ran o’r Cyllid i chi nes byddwch chi wedi derbyn y
Contract ar RPW Ar-lein o fewn 30 o ddiwrnodau o ddyddiad y cynnig.

(b)    Pan fydd angen i chi ddarparu gwybodaeth a dogfennau i ni fel tystiolaeth eich bod wedi bodloni rhagamod, neu Amod benodol neu i ategu hawliad, rhaid i’r wybodaeth a’r dogfennau fod yn dderbyniol i ni ym mhob ffordd. Yr ydym yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw wybodaeth a dogfennau nad ydynt yn dderbyniol i ni am unrhyw reswm, a/neu ofyn am unrhyw wybodaeth a/neu ddogfennau pellach neu ychwanegol i gefnogi’r cais am Gyllid.

4. Sut i hawlio’r Cyllid

(a)    Mae cyllid yn ymwneud â'r cyfnod a nodir yn eich contract a rhaid ei hawlio'n llawn erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio, neu fel arall bydd unrhyw ran o'r Cyllid sydd heb ei hawlio yn peidio â bod ar gael i chi.

(b)    Rhaid i chi hawlio’r grant drwy eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio er mwyn cael eich ystyried ar gyfer taliad cyfalaf y Grant Creu Coetir.
 
(c)    Rhaid cwblhau’r holl brosiectau yn unol â’r fanyleb dechnegol gywir a
gofynion y plan Creu Coetir.

(d)    Byddwn yn anelu at dalu pob hawliad dilys cyn gynted ag y bo modd ar ôl derbyn hawliad dilys a gyflwynir yn unol â’ch Contract, a bob amser cyhyd â bod rhag-amodau’r Cyllid a nodir yn Amod 3 uchod wedi’u bodloni ar ddyddiad yr hawliad a dyddiad talu’r Cyllid i chi:

i.    bydd y datganiadau a wnaed yn Amod 8 isod yn wir ac yn gywir ac y byddant yn wir ac yn gywir yn union ar ôl i’r Cyllid perthnasol gael ei dalu i chi; ac

ii.    nad oes Digwyddiad Hysbysadwy yn mynd rhagddo neu nad oes
posibilrwydd i Ddigwyddiad Hysbysadwy ddeillio o’r Cyllid arfaethedig.

iii.    Byddwch yn cyflwyno hawliad am daliad bob blwyddyn er mwyn cael parhau’n gymwys am eich taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm, ac i’w derbyn.

iv.    Ni chewch hawlio blwyddyn gynta’r taliad Cynnal a Chadw Coetir neu’r Premiwm Coetir tan y flwyddyn ar ôl ichi hawlio taliad cyfalaf y Grant Creu Coetir.

v.    Byddwch yn llenwi ac yn cyflwyno Ffurflen Cais Sengl bob blwyddyn trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau’ch bod yn llenwi ac yn cyflwyno Ffurflen Cais Sengl bob blwyddyn.

vi.    Byddwch yn datgan eich holl dir fel y mae ar 15 Mai bob blwyddyn. Rhaid i’r Ffurflen Cais Sengl ddod i law Gweinidogion Cymru ddim hwyrach na 15 Mai bob blwyddyn. Pan fydd y diwrnod hwnnw’n ŵyl banc, yn ddydd Sadwrn neu’n ddydd Sul, y diwrnod olaf ar gyfer ei chyflwyno fydd y diwrnod gweithio llawn nesaf ar ôl 15 Mai.

5. Rheolaeth Lwyr

(a)    Os gofynnir iddo, rhaid i’r Buddiolwr roi tystiolaeth bod ganddo reolaeth dros y tir ac y gall fodloni meini prawf cymhwysedd y cynllun drwy gydol tymor y Contract.

(b)    Rhaid bod gan y Buddiolwr reolaeth dros Dir y Contract am dymor llawn y Contract.
 
(c)    Os penderfynir nad oes gan y Buddiolwr y rheolaeth angenrheidiol, caiff y tir ei dynnu’n ôl o’r Contract a bydd pob taliad a wnaed mewn perthynas â’r tir yn cael ei adennill a gellir rhoi cosbau ariannol.

6. Eich ymrwymiadau cyffredinol chi i ni

Rhaid i chi:

(a)    ddiogelu’r Cyllid rhag twyll yn gyffredinol ac, yn benodol, twyll ar ran eich Personél, a rhaid ichi ein hysbysu ni ar unwaith os bydd gennych reswm i amau bod twyll wedi digwydd yn eich sefydliad, yn digwydd neu’n debygol o ddigwydd, p'un ag ydyw'n ymwneud â'r Cyllid ai peidio. Rhaid i chi hefyd gymryd rhan yn y cyfryw fentrau atal twyll ag y byddwn yn eu gwneud yn ofynnol o bryd i’w gilydd;

(b)    cynnal gweithdrefnau priodol ar gyfer delio ag unrhyw wrthdaro buddiannau mewn perthynas â’r Cyllid, boed yn rhai gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig;

(c)    cydymffurfio â phob cyfraith a rheoliad domestig neu ryngwladol perthnasol, a chyfarwyddebau swyddogol;

(d)    trefnu a pharhau i gynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd a gaiff eu gwneud wrth gyflawni’r Dibenion. Yr ydym yn cadw’r hawl i’w gwneud yn ofynnol i chi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant;

(e)    sefydlu a chynnal systemau ariannol, risg a rheoli priodol cyn defnyddio unrhyw ran o’r Cyllid i ddarparu grant neu i gaffael unrhyw nwyddau neu wasanaethau o drydydd parti;

(f)    cydweithredu’n llawn â Llywodraeth Cymru ac unrhyw weithiwr arall yn Llywodraeth Cymru neu ymgynghorydd a benodir gennym ni i fonitro’r modd y defnyddiwch y Cyllid a’ch cydymffurfiaeth â’r Amodau hyn;

(g)    rhoi gwybod i ni ar unwaith os bydd unrhyw ddatganiad a wnaed yn Amod 8 yn anghywir mewn unrhyw fodd neu, o’i ailadrodd ar unrhyw adeg gan gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau a fodolai bryd hynny, y byddai’n anghywir;

(h)    rhoi gwybod i ni am unrhyw gyllid yr ydych wedi’i gael o unrhyw ffynhonnell a gaffaelir neu a ddefnyddir ar y cyd â’r Cyllid i gefnogi’r Dibenion yn uniongyrchol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’ch darparwr yswiriant (yswiriant canslo/amharu ar fusnes), a/neu unrhyw gronfa/cynllun gan
 
Lywodraeth Cymru ac unrhyw gyllidwyr eraill. Bwriad yr Amod hwn yw osgoi
cyllid dyblyg mewn perthynas â’r Dibenion;

(i)    rhaid i chi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau sy'n berthnasol yn ystod cyfnod y prosiect hwn;

(j)    bodloni unrhyw rwymedigaethau mewn perthynas â chael caniatâd cynllunio, lle bo angen;

(k)    bod cydsyniadau, trwyddedau a chaniatadau wedi'u rhoi pan fo angen.

7. Diwygio’r Contract

7.1    Newidiadau i Delerau ac Amodau'r Contract

(a)    Efallai y bydd angen i Weinidogion Cymru wneud newidiadau i'r Contract hwn am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru'r amodau rheoli er mwyn ystyried y cyngor gwyddonol diweddaraf, diwygio rheolau'r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, diwygio rheolau'r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i Bolisi Llywodraeth Cymru a diwygio cyfraddau talu, ymhlith pethau eraill.

(b)    Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r newidiadau yn Gwlad Ar-lein, ar wefan Llywodraeth Cymru a lle bo angen, yn cysylltu â Buddiolwyr drwy gyfrifon ar-lein RPW.

(c)    Mae'n ofynnol i'r Buddiolwr gadw at unrhyw newidiadau a wneir i'r Contract hwn os bydd unrhyw amrywiad statudol neu addasiad i'r Rheoliadau ac yn dilyn hysbysiad gan Weinidogion Cymru.

7.2    Terfynu

Terfynu gan Weinidogion Cymru

Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r Contract hwn pan fo newidiadau i ddarpariaethau cyllidebol Gweinidogion Cymru yn golygu bod angen diwygio gweithrediad y Cynllun grantiau Bach – Creu Coetir neu os bydd Gweinidogion Cymru bod ‘force majeure’ wedi digwydd.
 
Terfynu gan y Buddiolwr

Os bydd y Buddiolwr yn terfynu'r Contract hwn cyn i dymor yr ymrwymiad ddod i ben, bydd Gweinidogion Cymru, yn unol â'r Rheoliadau, yn cymryd camau i adennill taliadau a wneir i'r Buddiolwr o dan y Contract, gyda llog.

8. Datganiadau

Yr ydych yn datgan:

(a)    bod gennych y pŵer i ymgymryd â’r rhwymedigaethau a bennir yn y Telerau ac Amodau hyn a’u cyflawni, a’ch bod wedi cymryd pob cam angenrheidiol i awdurdodi ymgymryd â’r rhwymedigaethau a’u cyflawni o dan y Telerau ac Amodau hyn;

(b)    na ragorir ar unrhyw gyfyngiad ar eich pwerau o ganlyniad i hawlio’r Cyllid,
nac o ganlyniad i roi unrhyw sicrwydd a ystyrir gan y Telerau ac Amodau;

(c)    nad yw ac na fydd ymgymryd â’r llythyr hwn, ei gyflawni gennych chi na’r trafodiadau a ystyrir ganddo yn mynd yn groes i’r canlynol nac yn gwrthdaro â’r canlynol:

i.    eich dogfennau cyfansoddiadol;

ii.    unrhyw gytundeb neu offeryn sy’n rhwymol arnoch chi neu’ch asedau neu sy’n gyfystyr â digwyddiad diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn o’r fath; neu

iii.    unrhyw ddeddf neu reoliad neu orchymyn barnwrol neu swyddogol,
sy’n gymwys i chi;

(d)    nad oes Digwyddiad Hysbysadwy yn mynd rhagddo neu na ddisgwylir yn rhesymol i Ddigwyddiad Hysbysadwy ddeillio o ddarparu’r Cyllid ac nad oes digwyddiad nac amgylchiad arall sy’n gyfredol sy’n gyfystyr â (neu a fyddai, gyda therfyn ar gyfnod gras, rhoi hysbysiad, gwneud unrhyw benderfyniad neu unrhyw gyfuniad o’r pethau hyn, yn gyfystyr â) digwyddiad diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn arall sy’n rhwymol arnoch chi neu y mae unrhyw un neu ragor o’ch asedau yn ddarostyngedig iddo;

(e)    nad oes achos o ymgyfreitha na chymrodeddu nac achos gweinyddol ar y gweill, yn yr arfaeth, nac wedi’i fygwth hyd y gwyddoch, sy’n cael, neu a allai gael, effaith anffafriol ar eich gallu i gyflawni a chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o’r Telerau ac Amodau hyn;
 
(f)    bod datgeliad llawn wedi’i wneud i ni o’r holl ffeithiau neu amgylchiadau perthnasol y mae’n ofynnol eu datgelu er mwyn sicrhau y gallwn gael darlun gwir a chywir o’ch busnes a’ch gweithgarwch (cyfredol ac arfaethedig), neu y dylid eu darparu i unrhyw berson sy’n ystyried darparu cyllid i chi;

(g)    nad ydych wedi creu'n artiffisial yr amodau sydd eu hangen i gael y cyllid

(h)    bod unrhyw wybodaeth, ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, a ddarparwyd gennych chi i ni mewn cysylltiad â’r Cyllid, ar yr adeg y’i darparwyd neu’r dyddiad y nodwyd ei bod wedi’i darparu (yn ôl y digwydd):

i.    yn achos gwybodaeth ffeithiol, yn gyflawn, yn wir ac yn gywir ym mhob agwedd berthnasol;

ii.    yn achos barn neu fwriad, wedi’i gwneud ar sail resymol ac ar ôl ystyriaeth ofalus a’i bod yn deg; a

iii.    nad yw gwybodaeth o’r fath yn gamarweiniol mewn unrhyw agwedd berthnasol, nac yn cael ei gwneud yn gamarweiniol gan fethiant i ddatgelu gwybodaeth arall, ac eithrio i’r graddau y cafodd ei diwygio, ei disodli neu ei diweddaru gan wybodaeth ddiweddarach a ddarparwyd gennych chi i ni;

(i)    nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau mewn perthynas â’r Cyllid, boed yn rhai gwirioneddol, posibl neu ganfyddedig;

(j)    na fydd derbyn y dyfarniad hwn o Gyllid yn arwain at gyllid dyblyg mewn perthynas â’r gweithgareddau angenrheidiol i gyflawni’r Dibenion. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw daliadau yr ydych wedi’u cael mewn perthynas ag effeithiau lledaeniad y coronafeirws (COVID-19) gan eich darparwr yswiriant (yswiriant canslo/amharu ar fusnes), a/neu unrhyw gronfa/cynllun gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw gyllidwyr eraill;

(k)    ystyrir y byddwch wedi ailadrodd y datganiadau yn yr Amod 8 hwn ar bob dyddiad pan allai fod gennych rwymedigaeth i ad-dalu’r dyfarniad Cyllid i ni, a thrwy gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau sy’n bodoli ar ddyddiad o’r fath.

Rhanddirymiadau

(a)    Gall Gweinidogion Cymru o dan amgylchiadau eithriadol, o dderbyn cais ysgrifenedig gan y Buddiolwr roi caniatâd ysgrifenedig i randdirymu’r gofynion yn y Contract.
 
(b)    Bydd y Buddiolwr yn cyflwyno cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am randdirymiad cyn y digwyddiad, ac mewn pryd i Weinidogion Cymru allu ystyried y cais a fyddai o’i wrthod yn dal i ganiatáu i’r Buddiolwr ysgwyddo ymrwymiadau ei gontract.

(c)    Bydd Gweinidogion Cymru’n pennu terfynau amser penodol ar gyfer
unrhyw newidiadau a ganiateir.

(d)    Rhaid i’r Buddiolwr beidio â gwneud unrhyw waith tan iddo gael cadarnhad
bod y cais am randdirymiad wedi’i gymeradwyo.

(e)    Gall Gweinidogion Cymru derfynu’r Contract hwn neu ofyn i’r Buddiolwr ad- dalu taliadau os na fydd y Buddiolwr wedi cael rhanddirymiad ysgrifenedig ac yn newid y Contract y cytunwyd arno.

Trosglwyddo neu Werthu Tir o dan y Contract

(a)    Rhaid i’r Buddiolwr roi gwybod i Weinidogion Cymru ei fod wedi trosglwyddo neu werthu unrhyw dir sy’n rhan o Gontract y Grant Creu Coetir o fewn 30 diwrnod calendr ar ôl gwneud. Bernir bod peidio â rhoi gwybod i Weinidogion Cymru o fewn 30 diwrnod yn dramgwydd o’r cynllun a gallai gael ei gosbi.

(b)    Mae’n bosibl y gofynnir i’r Buddiolwr ad-dalu’r holl arian sydd eisoes wedi’i dalu gyda llog o dan y Contract ar ôl trosglwyddo, gwerthu neu waredu Tir y Contract os nad yw’r sawl y trosglwyddir y tir iddo yn ysgwyddo ymrwymiadau Tir y Contract neu os na cheir y gymeradwyaeth dan sylw gan Weinidogion Cymru.

(c)    Gall y sawl y trosglwyddir y tir iddo barhau ag ymrwymiadau’r Contract am
weddill tymor y Contract cyn belled ag y bodlonir yr holl amodau cymwys.

(d)    Bydd y sawl y trosglwyddir y tir iddo yn atebol am y Contract, gan gynnwys am yr holl dramgwyddau a welir ar ôl ei drosglwyddo a’r cosbau a roddir o ganlyniad, hyd yn oed os digwyddodd achos y tramgwydd cyn dyddiad trosglwyddo’r tir, o ddyddiad trosglwyddo’r Contract oddi wrth y Buddiolwr i’r sawl y trosglwyddir y tir iddo.

(e)    Os bydd y Buddiolwr yn trosglwyddo, gwerthu neu’n gwaredu Tir y Contract neu ran ohono a bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod amcanion amgylcheddol y Contract wedi’u tanseilio o ganlyniad, gallai hynny gael ei drin fel tramgwydd a allai arwain at ei derfynu ac at adennill yr holl daliadau a wnaed i’r Buddiolwr gyda llog.
 

9. Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

(a)    Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.

(b)    O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.
 

10. Digwyddiadau Hysbysadwy a’u canlyniadau

(a)    Rhaid i chi ein hysbysu ni ar unwaith o unrhyw Ddigwyddiad Hysbysadwy sydd wedi digwydd neu’n debygol o ddigwydd ond yr ydym ni hefyd yn cadw'r hawl i'ch hysbysu chi pan fyddwn ni o'r farn bod Digwyddiad Hysbysadwy wedi digwydd neu’n debygol o ddigwydd;

(b)    Byddwn naill ai

i)    yn eich hysbysu chi ein bod ni'n ystyried, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, nad oes modd unioni'r Digwyddiad Hysbysadwy; neu

ii)    os byddwn ni'n ystyried, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, fod modd unioni'r Digwyddiad Hysbysadwy, yn ceisio trafod y Digwyddiad Hysbysadwy â chi gyda'r bwriad o gytuno ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r Digwyddiad Hysbysadwy.

(c)    Mae hawl gennym gymryd unrhyw un o’r camau a restrir yn Amod 8(d):

i)    os na fyddwn, er gwaethaf ein hymdrechion, wedi llwyddo i drafod y Digwyddiad Hysbysadwy gyda chi; neu

ii)    os byddwn yn eich hysbysu nad oes modd unioni’r Digwyddiad
Hysbysadwy yn ein barn ni; neu

iii)    os na chytunir gyda chi ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r
Digwyddiad Hysbysadwy a/neu i’w unioni; neu

iv)    os cytunir gyda chi ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r Digwyddiad Hysbysadwy a/neu i’w unioni a chithau wedyn yn peidio â dilyn y camau hynny, neu os na fodlonir unrhyw amod sy’n gysylltiedig â’r camau gweithredu (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, yr amserlen ar gyfer y cyfryw gamau gweithredu) mewn modd sydd wrth ein bodd ni; neu
 
v)    os  yw’r  ffordd  o  weithredu  yn  methu  ag  unioni’r  Digwyddiad
Hysbysadwy mewn modd sydd wrth ein bodd ni.

(d)    Os digwydd unrhyw un o’r amgylchiadau a bennir yn Amod 8(c) gallwn eich
hysbysu, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, ein bod yn gweithredu fel a ganlyn:

i)    tynnu'r dyfarniad Cyllid yn ôl; a/neu

ii)    ei gwneud yn ofynnol eich bod yn ad-dalu’r cyfan neu ran o’r Cyllid
gyda llog a/neu

iii)    atal dros dro neu’n derfynol bob taliad pellach o’r Cyllid; a/neu

iv)    gwneud pob taliad pellach o’r Cyllid yn ddarostyngedig i ba bynnag
amodau a bennir gennym ni; a/neu

v)    tynnu pob swm sy’n ddyledus i ni o dan yr Amodau hyn o unrhyw gyllid arall yr ydym wedi’i ddyrannu i chi neu a allai gael ei ddyrannu i chi; a/neu

vi)    arfer yn eich erbyn unrhyw hawliau eraill a allai fod gennym mewn
perthynas â’r Cyllid a/neu

viii) eich gwahardd rhag dechrau ymgymeriad newydd neu gytundeb newydd am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd o'r dyddiad terfynu.

(e)    Cyfrifir llog ar gyfer y cyfnod rhwng y dyddiad cau ar gyfer talu'r Buddiolwr a nodir yn y gorchymyn adfer, na chaiff ei bennu ar fwy na 60 diwrnod, a dyddiad naill ai ad-dalu neu ddidynnu.

(f)    Rhaid i bob ad-daliad o Gyllid gael ei wneud i ni o fewn 60 diwrnod i ddyddiad ein cais amdano.

11. Gofynion monitro

Rhaid i chi:

(a)    darparu i ni’r cyfryw ddogfennau, gwybodaeth ac adroddiadau y gallwn yn rhesymol ofyn amdanynt o bryd i’w gilydd, er mwyn i ni fonitro eich cydymffurfiaeth chi â’r Telerau ac Amodau;

(b)    cyfarfod â Swyddog o Lywodraeth Cymru neu unrhyw gynrychiolydd arall
o’r fath y gallwn yn rhesymol ofyn ichi eu cyfarfod o bryd i’w gilydd;
 
(c)    rhaid i chi ganiatáu i swyddogion o Lywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, gynnal archwiliad ar y fferm. Gellid ei gynnal heb rybudd neu gyda rhybudd byr.

Bydd y Buddiolwr yn:

a)    caniatáu i swyddogion Gweinidogion Cymru neu Berson Awdurdodedig i fynd ar Dir y Contract ac i’w archwilio ar unrhyw adeg resymol er mwyn cadarnhau y cydymffurfir yn briodol ag amodau’r Contract hwn;

b)    rhoi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â'r Contract. Os yw Person Awdurdodedig o'r farn bod hynny'n angenrheidiol, bydd y Buddiolwr yn mynd gyda Pherson Awdurdodedig;

5.11 Gall archwiliadau gael eu cynnal o eitemau gwaith cyfalaf ar ôl cyfnod y
contract os oes ymrwymiad sy’n parhau ar ôl tymor y contract.
 

12. Gofynion Archwilio

a)    Rhaid i chi:

i)    cynnal cofnodion cyfrifyddu cyflawn, cywir a dilys sy’n nodi’r holl incwm a gwariant mewn perthynas â’r Dibenion;

ii)    yn ddi-dâl, ganiatáu i unrhyw swyddog neu swyddogion o Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, ar unrhyw adeg resymol ac ar ôl i chi dderbyn cyfnod rhesymol o rybudd (dan amgylchiadau eithriadol, megis atal neu ganfod twyll, efallai na fydd yn ymarferol rhoi rhybudd rhesymol i chi), ymweld â’ch mangre a/neu arolygu unrhyw un neu rai o’ch gweithgareddau a/neu archwilio a gwneud copïau o’ch llyfrau cyfrifon a pha bynnag ddogfennau neu gofnodion eraill, sut bynnag y'u cedwir, a allai, ym marn resymol y swyddog, ymwneud mewn unrhyw ffordd â’r modd y defnyddiwch y Cyllid. Nid yw’r ymgymeriad hwn yn lleihau dim ar effaith unrhyw hawliau a phwerau statudol eraill sy’n arferadwy gan Lywodraeth Cymru, Archwilio Cymru neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant unrhyw un o’r uchod, ac y mae’r ymgymeriad yn ddarostyngedig i’r cyfryw hawliau a phwerau statudol hynny;

iii)    cadw'r holl ddogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â'r Cyllid am 5 mlynedd ar ôl taliad terfynol y cynllun;
 
iv)    rhoi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â'r Contract. Os yw Person Awdurdodedig o'r farn bod hynny'n angenrheidiol, bydd y Buddiolwr yn mynd gyda Pherson Awdurdodedig;

v)    cydsynio i Weinidogion Cymru gysylltu ag awdurdodau perthnasol eraill i geisio datgelu gwybodaeth yn unol ag unrhyw ymholiadau y bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno eu gwneud o bosibl i ddilysu gwybodaeth a ddarparwyd gan y Buddiolwr.

b)    O dan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hawliau mynediad eang i ddogfennau a gwybodaeth sy’n ymwneud ag arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae pŵer ganddo ef a’i swyddogion i’w gwneud yn ofynnol i bersonau perthnasol, sy’n rheoli neu’n dal dogfennau, roi pa bynnag gymorth, gwybodaeth ac esboniadau y gofynnant amdanynt; a’i gwneud yn ofynnol i’r personau hynny ymddangos ger eu bron i’r cyfryw ddiben. Caiff yr Archwilydd Cyffredinol a’i staff arfer yr hawl hon ar unrhyw adeg resymol.
 

13. Rhwymedigaethau i drydydd partïon

(a)    Nid oes dim yn y Telerau ac Amodau hyn sydd yn gosod unrhyw rwymedigaeth arnom ni mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth sy’n ddyledus gennych chi i unrhyw drydydd parti (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, cyflogeion a chontractwyr).

(b)    Rhaid i chi ein hindemnio ni rhag unrhyw rwymedigaethau, hawliadau, achosion cyfreithiol, galwadau am dâl, colledion, costau a threuliau, y bu i ni eu dioddef neu eu hachosi yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, o ganlyniad i neu mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant ar eich rhan chi i gyflawni, yn llawn neu’n rhannol, unrhyw rwymedigaeth a allai fod arnoch i drydydd parti.

14. Hawliau eiddo deallusol a chyhoeddusrwydd

(a)    Nid oes dim yn y Telerau ac Amodau hyn yn trosglwyddo i ni unrhyw hawliau
mewn eiddo deallusol a grëir gennych chi o ganlyniad i’r Dibenion.

(b)    Yr ydych yn cytuno bod hawl gennym, o ddyddiad y llythyr hwn hyd at 5 mlynedd o ddyddiad taliad olaf y Cyllid gynnwys manylion eich sefydliad a’ch busnes chi, a'r Cyllid a’r Dibenion mewn deunyddiau hyrwyddo ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac yr ydych yn cytuno ymhellach i gydweithredu â cheisiadau rhesymol gennym ni at y diben o baratoi deunyddiau o’r fath

15. Cosbau a Thorri Telerau’r Contract

(a)    Gall Gweinidogion Cymru roi cosb a all arwain at wrthod taliadau’n llawn neu’n rhannol ac adennill taliadau a wnaed eisoes, am:

•    danddatgan tir;

•    gorddatgan tir;

•    torri telerau’r Contract;

•    cam-hawlio ac anghysonderau wrth hawlio am Waith Cyfalaf

•    cyflwyno’r Ffurflen Gais Sengl yn hwyr; a

•    torri gofynion Trawsgydymffurfio.

15.1    Tanddatgan Tir

(b)    Gallai peidio â datgan yr holl dir amaethyddol ar y daliad ar y Ffurflen Cais Sengl (yr holl dir rydych yn berchen arno a’r tir rydych yn ei rentu i mewn ac nid y tir sy’n rhan o’r Contract hwn yn unig) arwain at leihau’r taliad y byddwch yn ei gael o dan daliad y Contract hwn. Cyfrifir y taliad ar sail yr arwynebedd y byddwch wedi’i ddatgan, p’un a yw’r arwynebedd a welir yn fwy ai peidio.

15.2    Gorddatgan Tir

(c)    Bydd Gweinidogion Cymru yn cosbi am orddatgan pan fydd yr arwynebedd fydd wedi’i ddatgan ar gyfer mesur cymorth sy’n seiliedig ar arwynebedd ar y Ffurflen Cais Sengl yn fwy na’r arwynebedd fydd wedi’i weld.

(d)    Bydd Gweinidogion Cymru’n cyfri’r cosbau am orddatgan gan ddefnyddio’r arwynebeddau y bydd y Buddiolwr wedi’u datgan sy’n derbyn yr un gyfradd o gymorth (grwpiau cnydau fel y’u gelwir).
 
(e)    Bydd Gweinidogion Cymru’n cyfri’r cymorth ar sail arwynebedd fydd wedi’i leihau 1.5 gwaith y gwahaniaeth a welwyd, os bydd y gwahaniaeth hwnnw yn fwy na 3% neu 2 hectar o’r arwynebedd a welwyd,

Ni fydd y gosb yn fwy na 100% o’r symiau sy’n seiliedig ar yr arwynebedd fydd wedi’i ddatgan

15.3    Torri Telerau’r Cynllun

(f)    Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cosbau os na chydymffurfir ag unrhyw rai o delerau’r Contract hwn, neu os bydd unrhyw rai o delerau’r Cynllun yn cael eu torri.

(g)    Bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried difrifoldeb, graddau, parhad a mynychder yr achos o ddiffyg cydymffurfio wrth benderfynu ar y gyfradd gwrthod rhoi cymorth neu ei dynnu’n ôl ar ôl achos o ddiffyg cydymffurfio ag unrhyw rai o’r ymrwymiadau yn y Contract hwn neu reolau cynllun sy’n gymwys a bydd hyn hefyd yn gymwys i unrhyw symiau a dalwyd eisoes mewn blynyddoedd blaenorol ar gyfer yr un gweithrediad.

(h)    Mae’r system cosbau am dorri telerau’r Cynllun ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Grant Creu Coetir | LLYW.CYMRU neu drwy Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru. Caiff y system cosbau am dorri telerau cynllun eu hadolygu’n flynyddol a gellir ei newid.

15.4    Torri Gofynion Trawsgydymffurfio

(i)    Gall y Buddiolwr golli rhan neu ei holl gymorth gan gynnwys ei wahardd rhag ymrwymo yn y flwyddyn ganlynol os na fydd wedi bodloni’r gofynion Trawsgydymffurfio (Rheoliadau Rheoli Statudol a Chadw Tir mewn Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da) boed hynny trwy fwriad neu esgeulustod. Cewch ragor o wybodaeth am y cosbau Trawsgydymffurfio ar wefan Llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU), yn Llyfryn Rheolau Ffurflen Cais Sengl neu gan y Swyddfa Ranbarthol.

(j)    Bydd Gweinidogion Cymru’n cyfrif unrhyw gosb a roddir am dorri rheolau Trawsgydymffurfio yn unol â’r fersiwn o’r Matrics Cosbau Trawsgydymffurfio sydd mewn grym adeg yr archwiliad. Mae’r Matrics Cosbau Trawsgydymffurfio’n cael ei newid o dro i dro. Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyhoeddi yn Gwlad ac ar wefan Llywodraeth Cymru.

16. “Force Majeure”

(a)    Gall Gweinidogion Cymru dderbyn o dan rai amgylchiadau bod Buddiolwr wedi’i rwystro rhag cyflwyno cais o fewn terfyn amser penodedig oherwydd force majeure neu amgylchiadau eithriadol.

(b)    Gall Gweinidogion Cymru dderbyn o dan rai amgylchiadau nad yw Buddiolwr wedi gallu cydymffurfio â’i ymrwymiadau ac y gellid ei ganiatáu i gadw ei hawl i gymorth mewn perthynas â’r tir oedd yn gymwys pan ddigwyddodd y force majeure neu amgylchiadau eithriadol.

(c)    Dyma enghreifftiau o force majeure ac amgylchiadau eithriadol posibl:

•    marwolaeth y Buddiolwr

•    cyflwr tymor hir sy’n rhwystro’r Buddiolwr rhag gweithio

•    trychineb naturiol ddifrifol sy’n effeithio’n andwyol ar dir y daliad

•    damwain sy’n dinistrio adeiladau da byw ar y daliad

•    colli rhan fawr o’r daliad os nad oedd modd rhagweld hynny ar ddiwrnod llofnodi’r Contract

•    clefyd episootig neu glefyd planhigion sy’n effeithio ar dda byw neu ar gnydau’r Buddiolwr, neu ar rai ohonynt

(d)    Rhaid i’r Buddiolwr gyflwyno tystiolaeth berthnasol yn ysgrifenedig er boddhad Gweinidogion Cymru o’r digwyddiad force majeure o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl i’r Buddiolwr neu rywun sydd â’r hawl i wneud ar ei ran, allu gwneud hynny.

(e)    Bydd Gweinidogion Cymru yn tynnu’r taliad perthynol yn ôl os nad yw’r Buddiolwr wedi gallu cyflawni ymrwymiad oherwydd force majeure neu amgylchiadau eithriadol, am y blynyddoedd pan ddarfu’r achos o force majeure neu amgylchiadau eithriadol. Bydd y taliad a dynnir yn ôl ond yn ymwneud â’r rhannau hynny o’r ymrwymiad na fu costau ychwanegol na cholli incwm wrthynt cyn i’r force majeure neu amgylchiadau eithriadol ddigwydd.

(f)    Ni chaiff taliad ei dynnu’n ôl mewn perthynas â’r meini prawf cymhwysedd
nac ymrwymiadau eraill ac ni roddir cosb weinyddol.
 

17. Hysbysiad Preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Mae'r hysbysiad hwn yn hysbysu'r Buddiolwr am ddefnydd Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth a gedwir ac a gafwyd mewn perthynas â'r Contract hwn neu unrhyw ddogfen arall a ddefnyddir, a grëwyd neu a geir mewn cysylltiad â'r Contract hwn.

Mae hefyd yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol a'ch hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu o wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwyster efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw’ch manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch.
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny.
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol.
  • I ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data.
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data L
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD

CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr,
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd

CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan : ico.org.uk

18. Dehongli

Mewnosodir penawdau'r paragraff er hwylustod cyfeirio yn unig ac ni fyddant mewn unrhyw ffordd yn effeithio ar ystyr neu effaith adeiladu unrhyw beth a gynhwysir yn y Contract hwn nac yn rheoli hawliau a rhwymedigaethau'r partïon.

19. Cydraddoldeb

Rhaid ichi fod â pholisïau cydraddoldeb ar waith ynghylch cyflogaeth, defnyddio gwirfoddolwyr a darparu gwasanaethau, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

20. Y Gymraeg

(a)    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r Gymraeg a’i diwylliant ac mae strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg yn darparu gweledigaeth ar gyfer tyfu a datblygu’r Gymraeg ymhellach.

(b)    Pan fo’r Dibenion yn cynnwys neu’n ymwneud â darparu gwasanaethau yng Nghymru, rhaid iddynt gael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg oni bai ei bod yn afresymol neu’n anghymesur gwneud hynny. Rhaid iddynt gael eu darparu mewn modd nad yw'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

(c)    Pan fo darpariaeth gwasanaethau yn ffurfio rhan o’r Dibenion, rhaid i chi weithredu’n unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac amcanion Cymru 2050. Yn ymarferol, bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

i)    Sicrhau bod unrhyw ddeunydd ysgrifenedig a gynhyrchir, gan gynnwys deunydd digidol, yn ddwyieithog.

ii)    Sicrhau bod unrhyw arwyddion yn ddwyieithog.

iii)    Sicrhau y cynhelir unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi neu ddigwyddiadau cyhoeddus yn ddwyieithog.

iv)    Hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yn weithredol (gan gynnwys darparu gwasanaethau a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg) o fewn gweithgareddau a ariennir.

I gael cyngor cyffredinol ynghylch darparu gwasanaethau’n ddwyieithog ac i gael gwybodaeth am sefydliadau a all eich helpu, cysylltwch â “Helo Blod”, sef gwasanaeth sy’n rhoi cyngor ar y Gymraeg, drwy ffonio 03000 258888 neu e- bostio heloblod@llyw.cymru
 

heloblod@gov.wales with your query.

21. Datblygu cynaliadwy

Rhaid i’r modd y defnyddiwch y Cyllid gyfrannu at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru sydd wedi'u nodi yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Rhaid i chi weithio mewn modd cynaliadwy (yr egwyddor datblygu cynaliadwy) wrth gyflawni'r Dibenion er mwyn sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd ataliol, integredig, hirdymor a chydweithredol sy'n cynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

22. Swyddogaethau Gweinidogion Cymru

Yr ydych yn cydnabod bod gan Weinidogion Cymru ystod o swyddogaethau a fydd yn parhau i gronni a chael eu diwygio, a bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â phob swyddogaeth unigol yng ngoleuni’r holl ystyriaethau perthnasol, gan eithrio pob ystyriaeth amherthnasol. Yr ydych yn cytuno na fydd dim sy’n gynwysedig yn y Telerau ac Amodau hyn neu sydd ymhlyg ynddynt, neu sy’n codi oddi tanynt neu mewn cysylltiad â hwy, mewn unrhyw fodd yn niweidio, yn llyffetheirio, neu’n effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru neu unrhyw rai ohonynt, nac yn rhwymo Gweinidogion Cymru, neu unrhyw rai ohonynt i arfer eu swyddogaethau, neu ymatal rhag eu harfer, mewn unrhyw fodd penodol.

23. Cyffredinol

(a)    Os digwydd i unrhyw un o’r Telerau ac Amodau hyn, ar unrhyw adeg, fynd, neu gael ei ystyried, yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy mewn unrhyw fodd o dan unrhyw gyfraith, nid effeithir ac nid amherir mewn unrhyw fodd ar ddilysrwydd, cyfreithlondeb a gorfodadwyedd gweddill y darpariaethau.

(b)    Ni fydd methiant neu oedi ar ein rhan ni i arfer unrhyw bŵer, hawl neu rwymedi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn gweithredu fel hepgoriad o’r cyfryw bŵer, hawl neu rwymedi, nac yn ein rhwystro rhag arfer y cyfryw bŵer, hawl neu rwymedi ymhellach, neu arfer unrhyw bŵer, hawl neu rwymedi arall. Mae’r pwerau, yr hawliau neu’r rhwymedïau a ddarperir drwy hyn yn rhai cronnus, ac nid ydynt yn eithrio unrhyw bwerau, hawliau neu rwymedïau a ddarperir drwy gyfraith.

(c)    Rhaid i unrhyw ddiwygiad neu amrywiad i’r Telerau ac Amodau hyn fod yn ysgrifenedig a chael ei lofnodi gennym ni a chennych chi, yn yr un modd â’r Contract (neu fel y cytunir fel arall gennym ni’n ysgrifenedig o bryd i’w gilydd).

(d)    Ni chaniateir ichi aseinio, na gwaredu mewn unrhyw ffordd arall, eich hawliau, eich buddion, eich rhwymedigaethau na’ch dyletswyddau o dan yr Amodau hyn.

(e)    Bydd Amodau 6,9,11,13,15,17,18,23(e), o’r Telerau ac Amodau a’r cyfryw Amodau eraill y mae angen iddynt, drwy oblygiad, barhau y tu hwnt i daliad olaf y Cyllid, yn parhau felly yn eu llawn rym ac effaith.

(f)    I chi yn unig y gwneir y dyfarniad Cyllid ac nid oes gan neb arall hawl i wneud unrhyw hawliad mewn perthynas â’r Cyllid, nac ychwaith i ddibynnu ar unrhyw rai o’r Telerau ac Amodau hyn neu eu gorfodi.
 
(g)    Dan amgylchiadau lle’r ydych yn cynnwys dau neu fwy o bersonau neu gyrff, bydd rhwymedigaethau’r personau neu’r cyrff hynny ar y cyd ac yn unigol, ac fe fydd diffygdalu ar ran un o’r personau neu gyrff yn cael ei gyfrif yn ddiffygdalu gan bob un.

(h)    Llywodraethir a dehonglir y Telerau ac Amodau hyn, ac unrhyw anghydfod neu hawliad (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau digontract) sy’n codi mewn cysylltiad â, neu yn sgil, eu ffurfio neu eu maes pwnc, yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr fel y’u cymhwysir yng Nghymru, ac y mae’r partïon i’r Amodau hyn yn ymostwng i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
 

Atodiad 1

Digwyddiadau Hysbysadwy

Rhestrir y Digwyddiadau Hysbysu y cyfeirir atynt yn Amod 8 isod:

  1. bod ad-dalu unrhyw ran o’r Cyllid yn ofynnol yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol
  1. eich bod yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o’r Telerau ac Amodau
  1. eich bod yn peidio â chydymffurfio â Rheolau’r Cynllun
  1. eich bod yn peidio â chydymffurfio â’r Manylebau Technegol
  1. eich bod yn peidio â’r Plan Creu Coetir cymeradwy
  1. nad yw’r Cyllid, yn llawn neu’n rhannol, yn cael ei ddefnyddio at y Dibenion
  1. eich bod yn methu â chyrraedd unrhyw un neu’r cyfan o’r Dibenion yn y Contract
  1. bod cynnydd anfoddhaol tuag at gwblhau’r Dibenion yn y Contract
  1. eich bod yn peidio â darparu gwybodaeth am y Dibenion yr ydym ni neu unrhyw gorff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, neu unrhyw rai o’i archwilwyr, asiantau neu gynrychiolwyr, yn gofyn amdani
  1. bod rheswm gennym gredu eich bod chi a/neu unrhyw rai o'ch Personél yn cymryd rhan mewn gweithgarwch twyllodrus neu wedi bod yn rhan o weithgarwch twyllodrus [wrth i'r Dibenion gael eu cyflawni]
  1. ein bod ni wedi gordalu Cyllid i chi
  1. bod cyllid dyblyg mewn perthynas ag unrhyw ran o’r Dibenion. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw daliadau yr ydych wedi’u cael mewn perthynas ag effeithiau lledaeniad y coronafeirws (COVID-19) gan eich darparwr yswiriant (yswiriant canslo/amharu ar fusnes), a/neu unrhyw gronfa/cynllun gan Lywodraeth Cymru
  1. bod unrhyw ddatganiad a wnaed yn Amod 8 yn anghyflawn, yn anghywir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fodd, neu y profir ei fod felly, neu o’i ailadrodd ar unrhyw adeg gan gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau a fodolai bryd hynny, y byddai’n anghywir
  1. bod digwyddiad neu amgylchiad wedi codi sy’n gyfredol ac sy’n gyfystyr â (neu a fyddai, gyda therfyn ar gyfnod gras, rhoi hysbysiad, gwneud unrhyw benderfyniad neu unrhyw gyfuniad o’r pethau hyn, yn gyfystyr â) digwyddiad diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn arall sy’n rhwymol arnoch chi neu y mae unrhyw un neu ragor o’ch asedau yn ddarostyngedig iddo
  1. bod moratoriwm mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw un o’ch dyledion neu’ch asedau, neu fod compównd neu gytundeb gyda’ch credydwyr, wedi’i gytuno, ei orchymyn neu’i ddatgan
  1. eich bod yn atal neu’n gohirio talu unrhyw ddyledion neu nad ydych yn gallu talu’ch dyledion, neu eich bod yn cyfaddef yn ysgrifenedig nad ydych yn gallu talu eich dyledion
  1. bod gwerth eich asedau yn llai na’ch rhwymedigaethau (gan ystyried rhwymedigaethau digwyddiadol a darpar rwymedigaethau)
  1. eich bod yn dechrau negodiadau, neu’n ymgymryd ag unrhyw gompównd, cytundeb cyfaddawdol, aseiniad neu drefniant, gydag un neu ragor o’ch credydwyr gyda golwg ar ad-drefnu unrhyw un neu ragor o’ch dyledion (oherwydd anawsterau ariannol gwirioneddol neu ddisgwyliedig)
  1. bod unrhyw gamau, achos neu weithdrefn yn cael eu cymryd mewn perthynas â chi ynghylch:
    1. gohirio taliadau, moratoriwm mewn perthynas ag unrhyw ddyled, dirwyn i ben, diddymu, mynd i ddwylo gweinyddwyr neu ad-drefnu (gan ddefnyddio trefniant neu gynllun gwirfoddol neu fel arall); neu
    1. compównd,  cytundeb  cyfaddawdol,  aseiniad  neu  drefniant  gydag unrhyw un neu ragor o’ch credydwyr; neu

 

    1. penodi diddymwr, derbynnydd, derbynnydd gweinyddol, gweinyddwr, rheolwr gorfodol neu swyddog tebyg arall mewn perthynas â chi neu unrhyw un neu ragor o’ch asedau.
  1. bod archeb statudol yn cael ei rhoi yn eich erbyn
  1. eich bod chi’n rhoi’r gorau, neu’n bygwth gohirio neu roi’r gorau, i gynnal y cyfan neu ran berthnasol o’ch busnes
  1. bod newid yn eich cyfansoddiad, eich statws, eich rheolaeth neu’ch perchnogaeth a/neu fod un o’ch archwilwyr allanol yn ymddiswyddo
  1. eich bod yn methu â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau adrodd statudol sy’n gymwys i chi (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i ofynion ffeilio ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau, y Comisiwn Elusennau, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol)
  1. bod unrhyw newid, parhaol neu dros dro, yn eich cyfranddalwyr, eich cyfarwyddwyr, eich ymddiriedolwyr neu’ch partneriaid a/neu Bersonél a all effeithio ar eich gallu i gyflawni’r Dibenion
  1. bod unrhyw ddigwyddiad, neu unrhyw amgylchiadau’n codi, sydd, yn ein barn ni, yn rhoi sail resymol dros gredu y gallai darparu’r Cyllid, a/neu barhau â’r trefniadau a ystyrir gan y Contract, ddwyn anfri arnom
  1. bod unrhyw ddigwyddiad, neu unrhyw amgylchiadau’n codi, sydd, yn ein barn ni, yn rhoi sail resymol dros gredu y gallech beidio â chyflawni neu gydymffurfio ag unrhyw un o’ch rhwymedigaethau o dan y Telerau ac Amodau hyn, neu y gallech fod yn analluog i wneud hynny.