Neidio i'r prif gynnwy

Grantiau a ddyfarnwyd o dan y cynllun grant arloesi tlodi plant a chefnogi cymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

2024

Mae'r sefydliadau arweiniol canlynol wedi derbyn cyllid o dan y cynllun grant yn 2024 i 2025: 

  • Bydd ‘Menter Tlodi Plant’ Positive Programmes C.I.C yn hybu cydweithio rhwng gwahanol sectorau a phartneriaethau rhanbarthol i greu rhwydwaith cymorth cynhwysfawr ar gyfer pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
  • Bydd creu 'rôl gwirfoddolwr ymgysylltu â theuluoedd i ddatblygu rhaglen ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd yn y gymuned leol' yn Academi Gymnasteg y Cymoedd yn ffordd gydweithredol o wella lles teuluoedd yn y tymor hwy, gyda chyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu a chyflwyno rhaglen wirfoddoli i ymgynghori â’r gymuned ar wella lles teuluoedd yn Markham, Caerffili.
  • Bydd Area 43 yn recriwtio 'Cydlynydd Partneriaeth Mannau Diogel Ceredigion' i reoli trefniadau partneriaeth yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan a datblygu model o weithio mewn partneriaeth y gellir ei efelychu drwy Becyn Cymorth Partneriaeth a fydd yn manylu ar drefniadau llywodraethu.
  • Bydd 'Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar Sir Gaerfyrddin' gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerfyrddin yn darparu gwasanaethau integredig i blant 0 i 4 oed a'u teuluoedd, gan dargedu ardaloedd lle ceir anghydraddoldebau iechyd, anfantais ac amddifadedd. 
  • Bydd 'Cysylltu cymunedau i hybu lles ariannol' yng Nghyngor Sir Ceredigion yn gwella'r ffordd y mae is-grŵp Tlodi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion yn ymgysylltu â staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr mannau croeso cynnes, caffis cymunedol a banciau bwyd ac yn cydweithio â nhw i greu datrysiadau. 
  • Bydd 'Troi Geiriau yn Weithredu' gan Gyngor ar Bopeth Sir Benfro yn gweithredu argymhellion allweddol o ymchwil diweddar gyda phobl yn Sir Benfro sydd â phrofiad o dlodi ac yn treialu rhai o'r syniadau a gyflwynwyd gan y cyfranogwyr, gan annog cyd-gynhyrchu gyda'r rhai sydd â phrofiad bywyd o dlodi.
  • Mae 'Cynghrair Partneriaeth Caerdydd o sefydliadau Somali i ymdrin â thlodi plant’ Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat  yn anelu at gael effaith gynaliadwy ar dlodi plant yng nghymunedau Somali Caerdydd trwy wasanaethau cymorth integredig wedi'u targedu, gan sefydlu hybiau lloeren. Bydd y prosiect hwn yn grymuso teuluoedd, yn gwella mynediad at wasanaethau hanfodol ac yn meithrin cadernid cymunedol.
  • Mae 'Cynllun Hyderus am Dlodi Plant a Chostau Byw’ Cymdeithas Dai Sir Fynwy yn ceisio defnyddio gwybodaeth gyfunol ac arferion gorau i ddatblygu rhaglenni hyfforddiant wyneb yn wyneb ac e-ddysgu cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar dlodi plant. 
  • Bydd 'Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar Atebion' Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe yn gweithio gyda thair ysgol uwchradd i ddangos y gellir gwella profiad dysgwyr mewn aelwydydd incwm isel trwy feithrin perthynas a gwrando go iawn. 
  • Bydd ‘Rise Strong: Teuluoedd a Chymunedau Ffynniannus gydag Arian, Dysgu, Iechyd a Hyder' gan Trivallis yn gweithio gyda chymunedau i gyd-gynhyrchu rhaglen 'Rise Strong' o gymorth, gan rannu adnoddau gyda chymunedau a’u galluogi fanteisio ar asedau cyhoeddus ac asedau eraill yn Rhondda Cynon Taf.
  • Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn recriwtio 'Swyddog Partneriaethau Atal a Chymorth Cynnar' i gynnal ymarfer mapio ac i nodi'r bylchau yn y gefnogaeth y mae angen eu blaenoriaethu.
  • Bydd 'Cynllun Peilot Gweithredu ar Sail Lleoliad’' Actif Gogledd Cymru yn mabwysiadu dull datblygu cymunedol ar sail asedau, gan weithio'n agos gyda chymunedau i nodi ac adeiladu ar yr hyn sy'n gryf yn eu lleoliad nhw er mwyn mynd i'r afael â heriau lleol ac anghydraddoldeb. Nod y prosiect yw defnyddio bod yn egnïol a symud fel ffordd o gefnogi plant sy'n wynebu tlodi, gan ddarparu cyfleoedd bywiog a hygyrch yn y gymuned leol am gost isel neu am ddim. 
  • Bydd 'Cydweithio traws-sector i leihau tlodi ymhlith plant heb hawl i gyllid cyhoeddus' gan Sefydliad Bevan yn atgyfnerthu'r Clymblaid Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus newydd gan alluogi ymgysylltu effeithiol ac arloesol rhwng elusennau, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i wella'r ymateb i dlodi ar gyfer plant a theuluoedd sydd â mynediad cyfyngedig i'r system les, ac yn cynhyrchu adnoddau i gefnogi hyn. 
  • Bydd 'Dull partneriaeth i gwella ymwybyddiaeth am fwydo ar y fron mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol' yn galluogi’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron i gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddarparu cyngor a chymorth bwydo ar y fron mewn cymunedau incwm isel yn y Rhondda a Chasnewydd. 
  • Bydd 'Cyngor i Deuluoedd: cyngor ymyrraeth gynnar gan Gyngor ar Bopeth mewn ysgolion' gan Gyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro yn ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau cynghori lles mewn ysgolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. 
  • Bydd EYST yn 'Cynhyrchu a rhannu gwybodaeth newydd a phresennol am sut y gall gwasanaethau fynd i'r afael yn effeithiol â thlodi plant mewn cymunedau ethnig lleiafrifol' drwy gydweithio â phartner ymchwil i nodi'r mentrau presennol sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth fynd i'r afael â thlodi plant ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam ac yn cynhyrchu pecyn cymorth i helpu sefydliadau i wella eu harferion. 
  • Bydd 'Dim Drws Anghywir' Grŵp Pobl yn ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi mewn dwy ardal adfywio, sef Penderi yn Abertawe a Pilgwenlli yng Nghasnewydd. Bydd yn nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a pham, lle gall gwasanaethau gydweithio'n well, lle mae bylchau yn y ddarpariaeth a lle ceir cydweithio cryf. 
  • Bydd Cyngor Sir Powys yn 'Cydweithio dros newid: ymateb i dlodi plant ym Mhowys' drwy gydweithio â PAVO i gyflwyno mentrau peilot yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd o bob rhan o'r sir sydd wedi helpu i lunio Cynllun Gweithredu Tasglu Tlodi Plant Powys. 
  • Bydd ‘Cymunedau Ymarfer: ymestyn yr effaith a rhannu dysgu' gan Achub y Plant Cymru yn dod â phartneriaid at ei gilydd yn rheolaidd i drafod materion sy'n effeithio ar blant mewn tlodi a rhannu arferion da, gan ymgorffori lleisiau plant a theuluoedd o fewn rhwydweithiau a chydlynu gweithredu ar draws ffiniau sefydliadol. 
  • Bydd 'Model llywodraethu newydd i nodi a hyrwyddo profiad bywyd plant a phobl ifanc sy'n profi tlodi yng Ngorllewin Morgannwg' gan Wasanaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe yn dod â phartneriaid ynghyd i gyd-gynhyrchu a sefydlu model llywodraethu newydd a fydd yn darparu fforwm i gasglu, rhannu a hyrwyddo lleisiau plant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr sy'n profi tlodi neu sydd wedi profi tlodi. 
  • Bydd ‘System Atgyfeirio Rhwydwaith Cyngor Cymunedol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot’ Clinig y Gyfraith Abertawe yn ymestyn cyrhaeddiad system atgyfeirio ar-lein ryngasiantaethol sy'n caniatáu i sefydliadau wneud atgyfeiriadau cynnes i sefydliadau eraill yn lle cyfeirio. Mae'r dechnoleg arloesol hon yn annog asiantaethau i gymhwyso arferion atgyfeirio da trwy sicrhau atgyfeiriadau proffesiynol, cywir ac amserol, gan godi teuluoedd allan o dlodi. 
  • Bydd ‘Cefnogi cadernid ariannol y rhai sy’n gadael gofal er mwyn osgoi tlodi’ gan Voices from Care Cymru yn galluogi cydweithio i greu pecyn cymorth cadernid ariannol a gyd-gynhyrchir gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a hyfforddiant wyneb yn wyneb i weithwyr proffesiynol.