Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pecyn Cronfa Cadernid Economaidd diweddaraf Llywodraeth Cymru gwerth £180 miliwn i gwmnïau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau coronafeirws ar agor ar gyfer ceisiadau o 12 ddydd Mercher 13 Ionawr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyllid, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn rhan o becyn cymorth byw gwerth £450 miliwn y gall y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yn ogystal â’u cadwyni cyflenwi ei ddefnyddio a bydd yn rhoi cefnogaeth hanfodol i filoedd o gwmnïau yr effeithwyd arnynt gan y cyfyngiadau lefel 3 a 4. Mae’r £180 miliwn yn ychwanegol i becyn cymorth gwerth £270 miliwn i fusnesau sy’n talu ardrethi annomestig, sy’n cynnwys busnesau manwerthu dianghenraid, a chaiff ei ddarparu gan Awdurdodau Lleol.

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif, gyda’r pecyn cymorth, gallai busnes lletygarwch yng Nghymru gyda’r hyn sy’n cyfateb â chwech staff llawn-amser fod yn gymwys i dderbyn cyfanswm o rhwng £12,000 a £14,000, gan ei wneud y cynnig mwyaf hael yn y DU.
   
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

“Mae y cynnydd yn y cyfraddau coronafeirws yn golygu y bu’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol i warchod ac arbed bywydau pobl. Rydyn ni’n gwybod bod y penderfyniadau hyn yn cael effaith ar ein busnesau a does dim amheuaeth bod y cyfyngiadau diweddaraf yn golygu heriau real iawn i gwmnïau sydd eisoes wedi gorfod delio gyda chymaint.   

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i warchod ein busnesau yn ystod y cyfnod heriol iawn yma. Mae ein pecyn cymorth yr un mwyaf hael yn y DU ac ers dechrau’r pandemig mae dros £1.6 biliwn o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau. 

“Mae nifer o fusnesau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu dianghenraid eisoes wedi derbyn taliadau o £3,000 neu £5,000 yn y mis diwethaf a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn hollol hanfodol i gefnogi busnesau cymwys drwy’r wythnosau anodd o’n blaenau.” 

Mae’r swm y gall gwmni ei hawlio o’r gronfa benodol i’r sector gwerth £180 miliwn yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y staff a throsiant. Mae disgwyl i’r gronfa gefnogi hyd at £8,000 o gwmnïau lletygarwch, twristiaeth a hamdden y mae’r cyfyngiadau yn cael effaith arnyn nhw a 2,000 arall o bosibl mewn cadwyni cyflenwi cysylltiedig.    

Bu gwiriwr cymhwysedd a chyfrifiwr yn fyw ar Busnes Cymru ers mis Rhagfyr i helpu busnesau weithio allan cyfsanswm y cymorth y gallant ddisgwyl bod yn gymwys amdano a’r manylion y bydd ei angen arnynt i wneud cais. Rhoddwyd rhagor o gyfarwyddiadau hefyd yr wythnos ddiwethaf.

Ers diwedd Hydref yn unig, cafodd dros 69,000 o gynigion o gymorth gwerth dros £230 miliwn ei wneud i fusnesau ledled Cymru drwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.     

Mae cymorth Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwarchod dros 125,000 o swyddi allai fod wedi eu colli fel arall.

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwrisitaeth:

“Rydyn ni’n gwbl ymwybodol, drwy ein grŵp rhanddeiliaid lletygarwch yn benodol, o effaith y cyfyngiadau fu’n rhaid inni eu gosod. 

Nid oedd hwn y cyfnod Nadolig yr oedden ni wedi obeithio amdano, ond hoffwn annog busnesau i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael. 

“Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi ein cwmnïau a’n pobl i ochr arall y pandemig ofnadwy hwn.” 

Cewch wybodaeth am sut i wneud cais am y pecyn cymorth busnes ar Busnes Cymru. Bydd y gronfa yn pahrau i fod ar agor am bythefnos neu tan i’r cyllid gael ei ymrwymo’n llawn.