Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar reoliadau drafft sy’n darparu ar gyfer system o raddau arolygu cyhoeddedig ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal (i oedolion a phlant) a gwasanaethau cymorth cartref o fis Ebrill 2025. Teitl y rheoliadau drafft yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025.

Cefndir

Cafodd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“deddf 2016”) Gydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016. Roedd y ddeddf hon wedi diwygio’r drefn reoleiddio ac arolygu ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Nod deddf 2016 yw darparu mwy o dryloywder a chymharedd ar draws gwasanaethau yng Nghymru, ailgydbwyso’r atebolrwydd o fewn y system fel bod yr asiantaethau neu’r unigolion priodol yn cael eu dal yn gyfrifol o dan y gyfraith, a symud o ddull sy’n seiliedig ar gydymffurfiaeth i ddull sy’n adlewyrchu ansawdd y ddarpariaeth. Bu’r system newydd o reoleiddio gwasanaethau a sefydlwyd gan ddeddf 2016 ar waith ers i ddarparwyr ailgofrestru eu gwasanaethau ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn 2018.

Mae Adran 37 o ddeddf 2016 yn darparu ar gyfer system o raddau arolygu ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig fel rhan o weithgarwch arolygu’r rheoleiddiwr. Mae Adran 37(1) yn bŵer gwneud rheoliadau sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ynghylch graddau y caniateir iddynt gael eu rhoi mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi cael ei arolygu. Mae Adran 37(2) yn nodi y caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch arddangos graddau, pennu meini prawf i’w cymhwyso wrth benderfynu ar radd, a bod yn rhaid iddynt gynnwys darpariaeth i apelio yn erbyn gradd sydd wedi ei chynnwys mewn adroddiad arolygu.

Mae Adran 45 o ddeddf 2016 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu, drwy reoliadau, ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 37(2)(a) (arddangos graddau yn y modd, ac yn y man, a bennir gan y rheoliadau). Mae Adrannau 52(1) a (2) o ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi hysbysiad cosb i berson os ydynt wedi eu bodloni bod y person wedi cyflawni trosedd ragnodedig drwy reoliadau a wnaed o dan adran 45.

Rydym wedi creu rheoliadau o dan adrannau 37, 45 a 52 o ddeddf 2016 sy’n gosod gofynion ar wasanaethau cartref gofal (i oedolion a phlant) a gwasanaethau cymorth cartref. Caiff y gwasanaethau hyn eu diffinio o dan atodlen 1 o ddeddf 2016.

Mae’r rheoliadau drafft yn gosod gofynion ar ddarparwyr y gwasanaethau hyn i arddangos graddau arolygu, ar-lein ac yn y safleoedd (gyda rhai eithriadau). Mae’r rheoliadau drafft yn darparu ar gyfer system i apelio yn erbyn graddau. Maent hefyd yn creu trosedd, sef methu ag arddangos gradd arolygu, y gellir ymdrin â hi drwy hysbysiad cosb. Caiff manylion y rheoliadau eu cynnwys yn yr adrannau isod. Bydd y rheoliadau drafft yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ac, os cânt eu cymeradwyo gan y Senedd, byddant yn dod i rym ar 31 Mawrth 2025.

Rhagair gan y gweinidog

Mae graddau arolygu yn rhan allweddol o’r fframwaith rheoleiddiol yng Nghymru ac yn cefnogi diwylliant o welliant parhaus. Byddant yn rhoi syniad clir a gwrthrychol i sefydliadau o ansawdd eu gwasanaeth. Byddant yn cydnabod rhagoriaeth ac arferion da ac yn dangos ble mae angen gwneud gwelliannau.

Mae’r rheoliadau drafft yn darparu’r sail statudol ar gyfer system o raddau arolygu cyhoeddedig. Bydd graddau arolygu cyhoeddedig yn rhoi mwy o dryloywder ynghylch ansawdd y gofal mewn gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref rheoleiddiedig. Byddant yn llywio arferion comisiynu ac yn helpu unigolion a theuluoedd i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu dewis o ofal.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi mynd ati mewn ffordd bwyllog i gyflwyno graddau arolygu, gan gymryd gofal i sicrhau bod y system yn gyson, yn deg a’i bod wedi’i phrofi’n llawn ar lefel weithredol. Mae’r arolygiaeth wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed yn y gwerthusiad annibynnol o’r cam peilot a bydd yn parhau i ymgysylltu’n helaeth â’r sector.

Ar ôl i raddau arolygu gael eu sefydlu’n llwyddiannus ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref, byddaf yn ystyried sut y gellir eu cymhwyso i wasanaethau rheoleiddiedig eraill yng Nghymru.

Edrychaf ymlaen at glywed eich barn.

Dawn Bowden AS
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol.

Gwerthuso graddau mud

Er mwyn paratoi ar gyfer y rheoliadau drafft i sefydlu system o raddau arolygu cyhoeddedig, treialodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) system o raddau arolygu ‘mud’ neu anghyhoeddedig rhwng mis Mehefin 2023 a mis Ebrill 2024. Yn ystod y cam peilot, dyfarnwyd graddau (Rhagorol, Da, Angen Gwella, a Gwael) ar gyfer pedair thema arolygu (Llesiant, Gofal a Chymorth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ac Amgylchedd). Roedd y graddau a ddyfarnwyd ar ôl arolygiad yn cael eu rhannu â darparwyr gwasanaethau ond nid oeddent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad arolygu na’u cyhoeddi ar wefan AGC.

Comisiynodd AGC werthusiad annibynnol o raddau mud rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2024 i asesu cysondeb AGC wrth gymhwyso graddau, yn ogystal â’r effaith ar ddarparwyr gwasanaethau a thimau arolygu. Mae AGC wedi cyhoeddi’r adroddiad ar y gwerthusiad sy’n cynnwys nifer o argymhellion sy’n nodi sut y gellir gwella graddau yn barod ar gyfer eu cyhoeddi o fis Ebrill 2025.

Mae cynllun gweithredu cyhoeddedig AGC yn amlinellu’r camau y bydd yn eu cymryd i baratoi ar gyfer graddau cyhoeddedig o fis Ebrill 2025. Mae AGC yn ymrwymedig i weithio gyda’r sector er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gofal a’r cymorth gorau posibl ac mae’r adroddiad ar y gwerthusiad yn cynnig cyfle da i ymgysylltu ymhellach er mwyn mynd i’r afael ag argymhellion yr adroddiad. Mae’r cynllun gweithredu yn cynnwys gwaith ymgysylltu a chyfathrebu eang o fewn AGC ac yn allanol ac ymrwymiad i gydweithio’n sylweddol â rhanddeiliaid ar benderfyniadau allweddol. Bydd AGC yn parhau i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau a’r sector ehangach yn ystod y cyfnod ymgynghori a’r misoedd nesaf.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ymwneud â’r rheoliadau drafft. Nid yw’n gofyn am farn ar gynllun gweithredu cyhoeddedig AGC na’r trefniadau gweithredol ehangach i gyflwyno graddau arolygu cyhoeddedig unwaith y bydd y rheoliadau ar waith. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar gynllun gweithredu AGC neu faterion gweithredol eraill, cysylltwch â AGC.Graddau@llyw.cymru

Canllawiau ar raddau

Bydd AGC yn cyhoeddi canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau er mwyn cefnogi’r broses o gyflwyno graddau arolygu cyhoeddedig o 1 Ebrill 2025. Yn y cyfamser, mae AGC wedi cyhoeddi canllawiau interim i gefnogi’r cam peilot. Mae’r canllawiau interim yn rhoi trosolwg o’r ffordd y bydd AGC yn gweithredu graddau. Maent yn disgrifio’r graddau a gaiff eu dyfarnu (rhagorol, da, angen gwella, a gwael) ar gyfer pedair thema arolygu (llesiant, gofal a chymorth, arweinyddiaeth a rheolaeth, ac amgylchedd). Maent yn egluro sut y caiff graddau eu cymhwyso a’r meini prawf y bydd arolygwyr yn eu defnyddio i benderfynu pa radd i’w dyfarnu. Mae’r canllawiau ar gael ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae Polisi AGC ar gyfer Ymateb i Adroddiadau Arolygu yn rhoi mwy o fanylion gweithredol am y broses apelio, felly gall fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr gwasanaethau ddarllen y polisi hwn ochr yn ochr â’r rheoliadau.

Graddau arolygu, rheoliadau drafft

Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025 yn darparu’r sail gyfreithiol ar gyfer system o raddau arolygu cyhoeddedig. Mae’r rheoliadau drafft yn ymdrin â thair agwedd ar y system – arddangos graddau arolygu, apelio yn erbyn graddau arolygu a throseddau.

Arddangos graddau arolygu

Arddangos graddau ar-lein

Mae’r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cartrefi gofal i oedolion, gwasanaethau cartrefi gofal i blant, a gwasanaethau cymorth cartref, gyhoeddi eu graddau arolygu diweddaraf ar bob gwefan a gynhelir ganddynt, neu bob gwefan a gynhelir gan drydydd parti ar eu rhan, mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw. Os bydd gan ddarparwr fwy nag un gwasanaeth neu os bydd yn darparu gwasanaeth mewn mwy nag un man, o fwy nag un man neu mewn perthynas â mwy nag un man, rhaid i’r darparwr ei gwneud yn glir pa fan y mae’r graddau arolygu yn ymwneud ag ef.

Rhaid i’r graddau arolygu a ddangosir ar wefan darparwr:

  • cael eu harddangos yn ddi-oed ar ôl i raddau arolygu gael eu cyhoeddi mewn adroddiad arolygu gan AGC
  • bod ar y ffurf benodedig a ddynodir gan Weinidogion Cymru
  • bod yn ddarllenadwy
  • cynnwys y dyddiad y rhoddwyd y graddau arolygu
  • cael eu harddangos mewn lle amlwg

Nid yw’r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gael gwefan. Fodd bynnag, os caiff ei basio, bydd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), sy’n diwygio deddf 2016, yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gyhoeddi’r datganiadau blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 10 o ddeddf 2016 ar eu gwefan eu hunain. Felly, bydd angen i ddarparwyr gwasanaethau gael gwefan i fodloni gofynion Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) unwaith y daw’r bil yn ddeddf ac y daw’r gofyniad i rym. Amcangyfrifir y bydd hyn yn digwydd ar ôl mis Ebrill 2026.

Arddangos graddau yn safleoedd gwasanaethau neu o safleoedd gwasanaethau

Gwasanaethau cartrefi gofal i oedolion

Mae’r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cartrefi gofal i oedolion arddangos o leiaf un arwydd yn dangos eu graddau arolygu diweddaraf ym mhob safle cartref gofal y caiff gwasanaeth ei ddarparu ynddo neu ohono ac y mae’r graddau yn ymwneud ag ef. Rhaid i raddau arolygu:

  • cael eu harddangos yn ddi-oed ar ôl i raddau arolygu gael eu cyhoeddi mewn adroddiad arolygu
  • bod ar y ffurf benodedig a ddynodir gan Weinidogion Cymru
  • bod yn ddarllenadwy
  • cynnwys y dyddiad y rhoddwyd y graddau arolygu
  • cael eu harddangos mewn lle amlwg
  • cael eu harddangos mewn lleoliad sy’n hygyrch i unigolion sy’n cael y gwasanaeth ac ymwelwyr â’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo neu ohono

Ni fydd y gofyniad i arddangos y graddau arolygu mewn safleoedd cartrefi gofal yn gymwys i ddarparwyr cartrefi gofal llai sydd â phedwar neu lai o unigolion yn byw yn y gwasanaeth. Mae’r gwasanaethau hyn yn debycach i gartrefi teuluol ac, felly, efallai na fydd arddangos graddau arolygu yn briodol a gall wneud i’r gwasanaeth deimlo’n llai cartrefol. Gall darparwyr y gwasanaethau llai hyn ddefnyddio eu barn a gallant arddangos y graddau arolygu yn wirfoddol os ydynt o’r farn bod hynny’n briodol.

Mae’r trothwy o “bedwar unigolyn neu lai” yn cyd-fynd â’r dull a ddefnyddiwyd gennym yn Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (fel y’u diwygiwyd). Mae’r rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref mewn perthynas ag ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir. Mae’r rheoliadau hyn yn cynnwys esemptiad sy’n datgymhwyso’r gofynion yn Rhan 13 o’r rheoliadau (fel y gofyniad i ystafelloedd gwely gael cyfleusterau en-suite) ar gyfer cartrefi â phedwar neu lai o unigolion.

Rydym yn croesawu barn ar b’un a yw datgymhwyso’r gofyniad i arddangos graddau arolygu mewn safleoedd cartrefi gofal â phedwar unigolyn neu lai yn gymesur neu a allai fod unrhyw oblygiadau anfwriadol.

Gwasanaethau cartrefi gofal i blant

Ni fydd y gofyniad i arddangos arwyddion amlwg o raddau arolygu mewn safleoedd cartrefi gofal yn gymwys i gartrefi gofal i blant. Cafodd yr esemptiad hwn ei bennu ar sail adborth a gafwyd gan blant â phrofiad o fod mewn gofal fel rhan o adroddiad a gomisiynwyd gan AGC i ganfod barn plant a phobl ifanc ynghylch beth sy’n gwneud cartref gofal ardderchog. Dywedodd y rhai a gymerodd ran na ddylai cartref plant edrych yn wahanol i gartref teuluol unrhyw blentyn arall. Roedd y plant am gael cartrefi nad ydynt yn edrych fel cartrefi plant ac nid oeddent am weld unrhyw arwyddion (corfforaethol) i ddangos mai cartref plant yw eu cartref, a all arwain at stigma cysylltiedig eu bod yn ‘derbyn gofal.’

Gwasanaethau cymorth cartref

Mae’r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cymorth cartref arddangos o leiaf un arwydd yn dangos eu graddau arolygu diweddaraf ym mhob swyddfa y mae gwasanaeth yn gweithredu ynddi neu ohoni ac y mae’r graddau yn ymwneud ag ef oni bai bod y swyddfa’n anhygyrch i aelodau o’r cyhoedd. Mae hyn yn ffordd o gydnabod nad oes gofyniad cyfreithiol i wasanaeth cymorth cartref gael swyddfa ffisegol.

Rhaid i raddau arolygu a arddangosir:

  • cael eu harddangos yn ddi-oed ar ôl i raddau arolygu gael eu cyhoeddi mewn adroddiad arolygu
  • bod ar y ffurf benodedig a ddynodir gan Weinidogion Cymru
  • bod yn ddarllenadwy
  • cynnwys y dyddiad y rhoddwyd y graddau arolygu
  • cael eu harddangos mewn lle amlwg
  • cael eu harddangos mewn lleoliad sy’n hygyrch i unigolion sy’n cael y gwasanaeth ac ymwelwyr â’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo neu ohono

Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn glir nad yw’n ofynnol arddangos graddau arolygu yng nghartrefi pobl sy’n derbyn gwasanaethau cymorth cartref, gan na fyddai hynny’n briodol. Mae hyn yn cynnwys llety byw â chymorth. Mae pobl sy’n byw mewn gwasanaethau byw â chymorth yn derbyn cymorth cartref yn eu fflatiau hunangynhwysol eu hunain. Fel y cyfryw, nid yw’n ofynnol arddangos graddau arolygu yn y lleoliadau hyn.

Darparu graddau arolygu ar gais

Mae’r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth cartref a gwasanaethau cartrefi gofal roi eu graddau arolygu i unrhyw unigolyn ar gais, mewn fformat priodol. Dylai’r fformat fod yn addas i anghenion, oedran a lefel dealltwriaeth yr unigolyn sy’n gwneud cais amdano. Mae hyn yn cyd-fynd â’r bwriad yn neddf 2016 i sicrhau bod gwybodaeth hygyrch a gwrthrychol am wasanaethau rheoleiddiedig ar gael i’r cyhoedd.

Apelio yn erbyn graddau arolygu

Mae deddf 2016 yn nodi bod yn rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 37 gynnwys darpariaeth i ddarparwr gwasanaeth apelio yn erbyn gradd sydd wedi’i chynnwys mewn adroddiad arolygu. Mae cynnwys proses apelio o fewn y rheoliadau yn rhoi ffordd i ddarparwyr herio penderfyniadau graddau a wneir gan arolygwyr o dan amgylchiadau arbennig.

Mae’r rheoliadau drafft yn nodi y caiff darparwyr apelio yn erbyn graddau sydd wedi’u cynnwys mewn adroddiad arolygu ar y sail eu bod yn seiliedig ar anghywirdeb ffeithiol neu dystiolaeth anghyflawn. Felly, gall darparwyr apelio yn erbyn graddau yr ystyrir eu bod yn seiliedig ar ganfyddiadau sy’n cynnwys gwallau neu dystiolaeth anghyflawn.

Pe bai darparwr yn dymuno apelio ar y seiliau a nodir uchod, rhaid iddo wneud cais yn gyntaf i’r arolygiaeth gynnal adolygiad o’r graddau drwy ysgrifennu at AGC o fewn 10 diwrnod gwaith i’r dyddiad y darparwyd yr adroddiad arolygu drafft. Os bydd yn anfodlon ar ganlyniad adolygiad, gall y darparwr gyflwyno apêl drwy ysgrifennu at AGC o fewn 5 diwrnod gwaith i gael hysbysiad o ganlyniad yr adolygiad. Rhaid i’r apêl gael ei gwneud ar yr un seiliau â’r rhai y dibynnir arnynt i geisio’r adolygiad. Caiff yr apêl ei hystyried gan unigolyn sy’n annibynnol ar dîm yr arolygydd. Bydd AGC yn ystyried yr apêl ac yn cadarnhau’r graddau arolygu terfynol drwy anfon adroddiad arolygu terfynol at y darparwr gwasanaeth a’i gyhoeddi ar ei gwefan.

Mae’r broses hon yn cyd-fynd â phroses dau gam bresennol AGC i ddarparwyr herio adroddiadau arolygu, a amlinellir ym Mholisi AGC ar gyfer Ymateb i Adroddiadau Arolygu.

Troseddau

Mae’r rheoliadau yn creu trosedd, sef methu ag arddangos gradd arolygu yn unol â gofynion y rheoliadau perthnasol. Bydd hyn yn gymwys os na fydd darparwr yn arddangos y radd ar ei wefan (os oes ganddo un), neu yn y safle y mae’n darparu gwasanaeth ynddo neu ohono (oni bai bod yr esemptiad yn gymwys iddo).

Mae’r rheoliadau yn galluogi AGC i ymdrin â’r drosedd drwy hysbysiad cosb. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r darparwr dalu dirwy yn hytrach na wynebu camau cyfreithiol mewn perthynas â’r drosedd. Mae’r gosb sy’n daladwy am y drosedd yn gyfwerth â lefel 4 ar y raddfa safonol, sef £2,500.

Mae’r gosb hon yn debyg i’r ddirwy y gellir ei rhoi os na fydd darparwr yn cydymffurfio â gofynion i wneud hysbysiadau neu sicrhau bod ganddo bolisïau a gweithdrefnau penodol.

Sut i ymateb

Gallwch gyflwyno eich sylwadau erbyn hanner nos, 14 Hydref 2024, mewn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

  • cwblhau ein ffurflen ar-lein.
  • lawrlwytho a chwblhau ein ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad, a’i hanfon drwy e-bost i TimCartrefiGofal@llyw.cymru (dylech gynnwys y cyfeirnod WG49540 ym mhennawd pwnc eich e-bost)
  • lawrlwytho a chwblhau ein ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad, a’i hanfon drwy’r post i’r cyfeiriad isod

Tîm Cartrefi Gofal
Yr Is-adran Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a ddelir amdanoch a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw anghywirdeb yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i ofyn i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am sut i arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth fel rhan o’r ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â hwy neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau yn y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi ymatebion i ymgynghoriad ymhellach, yna gall trydydd parti achrededig gael ei gomisiynu i gyflawni’r gwaith (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff gwaith o’r fath ei wneud. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion manwl ar gyfer prosesu a diogelu data personol.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) y person neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi ar y cyd â’r ymateb. Os na hoffech i’ch enw neu’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, gwnewch nodyn ysgrifenedig o hyn pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Yna byddwn yn hepgor y manylion hyn cyn cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Caiff unrhyw ddata a ddelir fel arall gan Lywodraeth Cymru eu cadw am hyd at dair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG49540.

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill. Os oes angen arnoch ar gyfer fersiwn mewn ffurf arall, cysylltwch â ni.