Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r asesiad effaith hwn yn ystyried effeithiau'r:

  • gostyngiadau mewn cyllidebau addysg (ysgolion) fel rhan o gyllideb ddrafft 2024 i 2025 
  • cynnig cyfuno grantiau ar gyfer cyllid addysg

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Mae'r gostyngiadau canlynol yn y gyllideb yn cael eu gweithredu fel rhan o gyllideb ddrafft 2024 i 2025:

  • BEL Cwricwlwm ac Asesu (5162):  £2.4m 
  • BEL Datblygu a Chymorth Athrawon (4880):  £2.3m 
  • Mynd i'r afael â Rhwystrau i Gyrhaeddiad: Hanfodion Ysgol (4764) – £0.5m
  • ‌BEL Bwyd a Maeth mewn Ysgolion (5219):  £1m 
  • ‌BEL Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc (4760): £1m 
  • ‌BEL Tystiolaeth Ymchwil a Rhyngwladol (5480):  £0.05m 
  • ‌BEL Cymraeg 2050 - Cymraeg Mewn Addysg (5164): £3.5m 
  • ‌BEL y Gymraeg (6021): £0.17m
  • ‌BEL Seilwaith Addysg (4765): £3m

Ochr yn ochr â thoriadau cyllidebol fel rhan o gyllideb ddrafft 2024 i 2025, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfuno ei grantiau addysg a ddarperir i awdurdodau lleol a chonsortia a phartneriaethau rhanbarthol.

Bydd y cynnig yn golygu bod cyllid yr ydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd i awdurdodau lleol a chonsortia a phartneriaethau rhanbarthol drwy Grant Addysg yr Awdurdod Lleol (LAEG), Grant Consortia Rhanbarthol (RCG) a'r Grant Datblygu Disgyblion (PDG) yn cael eu cyfuno yn un grant i awdurdodau lleol gyda mwy o hyblygrwydd o fewn ei delerau ac amodau. 

Er gwybodaeth, ni fydd rhywfaint o gyllid a ddarperir ar hyn o bryd trwy'r LAEG, lle mae grantiau'n cael eu harwain gan alw, yn cael ei gynnwys yn y dull grant newydd hwn.

Mae angen gwneud y penderfyniad yng nghyd-destun:

Cais y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddechrau ar y gwaith o wneud newidiadau a gwelliannau i'n tirwedd ariannu grantiau gyda'r nod o leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol. 

Yr amgylchiadau ariannol presennol a'r pwysau y bydd ein hawdurdodau lleol a'n hysgolion yn eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Mae bellach yn bwysicach nag erioed ein bod yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael i ni, er mwyn darparu cymaint o hyblygrwydd ag y gallwn i'r awdurdodau lleol sy'n bartneriaid y gallwn ddibynnu arnynt.

Trafodaethau'r undebau addysg a gynhaliwyd yn gynharach yn 2023, lle'r ymrwymodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i leihau'r baich gwaith ar arweinwyr a staff ysgolion.

Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer cyllideb ddrafft 2024 i 2025, gwnaed gostyngiadau yn erbyn cyllidebau dangosol. Mae cyllid ysgolion wedi cael ei flaenoriaethu o fewn y portffolio Addysg a'r Gymraeg. 

Byddwn yn gweld gostyngiad o £13.9m ar draws addysg cyn 16 oed o gyllidebau Addysg Llywodraeth Cymru. Nid oes yr un o'r gostyngiadau hyn yn berthnasol i'r uno grant.

Darperir cyllid craidd i ysgolion, sy'n cael ei bennu gan Awdurdodau Lleol, drwy'r Grant Cynnal Refeniw (RSG). Mae'r gyllideb hon wedi'i diogelu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, yn cael eu blaenoriaethu.

Pum Ffordd o Weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 

Atal

Bydd cyflwyno grant cyfunol newydd ar gyfer grantiau addysg i awdurdodau lleol yn atal problemau yn y dyfodol i'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol ac yn helpu i sicrhau bod ein hamcanion sector cyhoeddus yn cael eu cyflawni'n fwy effeithiol ar lefel lleol. Rydym wedi derbyn adborth ers rhai blynyddoedd ynghylch cymhlethdod a baich ein grantiau ar awdurdodau lleol ac ysgolion, felly mae'r dull newydd hwn yn cael ei gymryd i leihau'r baich gweinyddol a darparu mwy o hyblygrwydd i'r awdurdod lleol sy'n bartneriaid yr ydym yn dibynnu arnynt. 

Integreiddio

Mae'r cam hwn yn cynnwys dull cydgysylltiedig, gyda'r awdurdodau lleol sy'n cyflawni deilliannau'r cyllid, gan sicrhau bod y camau gweithredu ynsy'n ymgorffori amcanion addysg Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Cydweithio

Bydd angen cydweithio agos rhwng partneriaid a rhanddeiliaid allweddol wrth i ni weithredu'r dull newydd hwn. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid cyn gweithredu ym mis Ebrill 2024, i weithio trwy unrhyw broblemau disgwyliedig posibl, a byddwn yn parhau â'r trafodaethau hyn yn ystod y flwyddyn ariannol er mwyn rhoi cymorth llawn ag unrhyw faterion gweithredol.

Cyfranogiad

Bydd yr holl randdeiliaid perthnasol yn cael eu hysbysu ac yn cymryd rhan yn y gwaith gweithredu.

Y tymor hir

Mae'r penderfyniad i newid strwythur ar gyfer grantiau addysg yn y dyfodol yn cael ei wneud gyda golwg ar y tymor hir. Nododd yr Adolygiad Cyllid Ysgolion y cymhlethdodau sy'n bodoli mewn cyllid addysg yng Nghymru ac argymhellodd yr angen am fwy o dryloywder a chysondeb yn ein cyllid. Bydd y newid hwn yn rhan sylweddol o'n gwaith o gyflawni argymhellion yr adolygiad a bydd yn darparu ateb hirdymor i rai o'r problemau presennol, sydd wedi gwreiddio yn ein system ariannu ysgolion.

Adran 8: Casgliad

Sut mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cyfrannu at y gwaith o’i ddatblygu?

Mae'r cynnig i uno grantiau cyllid addysg cyn-16 i awdurdodau lleol wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i argymhellion yr Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru. Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at gymhlethdodau presennol cyllid ysgolion ac yn galw am system gyllido ysgolion symlach a thryloyw yng Nghymru.

Rydym wedi ymgysylltu â'n rhanddeiliaid allweddol mewn adolygiadau pellach o strwythurau a mecanweithiau cyllido cyfredol, lle mae canlyniadau'r rhain wedi tynnu sylw ymhellach at gymhlethdodau y system ariannu ysgolion bresennol ac wedi tynnu sylw eto at angen am dryloywder wrth symud ymlaen.

O ran y gostyngiadau sy'n cael eu cymhwyso i gyllidebau addysg yng nghyllideb ddrafft 2024-25, rydym wedi diogelu cyllid sydd wedi'i gyfeirio at ysgolion a chymhwyso gostyngiadau i feysydd eraill o'r gyllideb addysg.

Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

O ran y cynnig i uno grantiau addysg cyn-16 i awdurdodau lleol, yr effaith fwyaf arwyddocaol yw'r hyblygrwydd y byddwn yn ei ddarparu i awdurdodau lleol wrth symud ymlaen. Fel partneriaid dibynadwy ac yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ar anghenion ac amgylchiadau lleol, bydd yr hyblygrwydd cynyddol hwn yn eu galluogi i gymhwyso cyllid a chyflawni gweithgarwch yn y ffordd fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion lleol tra'n parhau i gyflawni amcanion polisi a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae rhai risgiau gyda'r hyblygrwydd cynyddol hwn o ystyried bod gan rai grantiau cyfredol delerau ac amodau penodol iawn wrth gyflawni dibenion y cyllid penodol sy'n cael ei ddyfarnu. Fodd bynnag, bydd y risg hon yn cael ei lliniaru drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn bodloni telerau ac amodau'r grant drwy gyflawni'r gyfres o amcanion polisi a nodir ym mhob un o'r elfennau cyllid grant.

O ran y gostyngiadau sy'n cael eu cymhwyso i gyllidebau addysg fel rhan o gyllideb ddrafft 2024 i 2025, yr effaith gadarnhaol fwyaf arwyddocaol yw diogelu cyllid sy'n canolbwyntio ar gefnogi ysgolion. Rydym wedi gweithredu i leihau'r effeithiau hyn cyn belled â phosibl o fewn y cyllid sydd ar gael. Dyna pam rydym wedi sicrhau'r un lefel o gyllid ag yn 2023 i 2024 ar gyfer grantiau yr ydym yn eu darparu i awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig: 

  • yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

O ystyried yr heriau ariannol sy'n ein hwynebu, mae cynnal lefel y flwyddyn flaenorol o gyllid grant i awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion yn gadarnhaol i raddau helaeth a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr mewn addysg cyn 16.

Bydd newidiadau i'r ffordd yr ydym yn dyrannu'r cyllid yn golygu y bydd gan awdurdodau lleol fwy o hyblygrwydd i'w helpu i gynllunio a chyflawni'n fwy effeithlon ac effeithiol. Bydd y strwythur ariannu newydd hwn yn helpu i ddarparu system ariannu fwy cyson, tryloyw a thecach ledled Cymru.  Bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio, er mwyn sicrhau bod pob parti yn cael eu cefnogi i gyflawni'r canlyniadau disgwyliedig. 

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Byddwn yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i fonitro'r newidiadau ac adolygu'r effaith yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf wrth i'r newidiadau gael eu gweithredu. Disgwyliwn y byddwn yn gallu nodi effeithiau'r penderfyniad hwn o fewn blwyddyn a'u defnyddio i lywio unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol. decision and use these to inform any future decisions.