Neidio i'r prif gynnwy

1. Amcanion y polisi

Effaith pa benderfyniad rydych chi’n ei hasesu?

Penderfyniad i leihau cyllid addysg cyn 16 oed £13.9m, 2.1% o gyllidebau addysg cyn-16; a phenderfyniad i uno grantiau i awdurdodau lleol mewn perthynas â chyllid addysg cyn-16.

2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Pa ymchwil a data presennol ar blant a phobl ifanc sydd ar gael i lywio eich polisi penodol chi? 

Gall amcan eich polisi effeithio ar feysydd polisi eraill – bydd trafodaethau gyda thimau polisi eraill yn rhan bwysig o'r broses o asesu effaith drwy sicrhau eich bod wedi casglu amrywiaeth o wybodaeth a thystiolaeth.

  • Gan ddefnyddio'r gwaith ymchwil hwn, sut ydych chi'n rhagweld y bydd eich polisi yn effeithio ar wahanol grwpiau[Troednodyn 1] o blant a phobl ifanc, yn gadarnhaol ac yn negyddol? Cofiwch y gall polisïau sy'n canolbwyntio ar oedolion effeithio ar blant a phobl ifanc hefyd.
  • Pa waith cyfranogol gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi'i ddefnyddio i lywio eich polisi? Os nad ydych wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, esboniwch pam.[Troednodyn]

Darperir cyllid craidd ar gyfer cyllidebau ysgolion drwy'r setliad Llywodraeth Leol. Yn y broses ar gyfer cyllideb ddrafft 2024 i 2025, rydym wedi gweithredu i ddiogelu'r Setliad Llywodraeth Leol ar y lefel ddangosol a nodwyd yn y broses pennu cyllideb flaenorol. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol ddiogelu a blaenoriaethu cyllid ysgolion.

Er hynny, o gofio maint y pwysau sy'n ein hwynebu, ni fu modd osgoi'r holl effeithiau ar blant a phobl ifanc. Rydym wedi gweithredu i leihau'r effeithiau hyn cyn belled â phosibl o fewn y cyllid sydd ar gael.  Dyma pam rydym wedi sicrhau yr un lefel o gyllid ag yn 2023 i 2024 ar gyfer grantiau yr ydym yn eu darparu i awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion ymhellach. Mae'r gostyngiad o £13.9m wedi'i wneud yn erbyn cyllid y tu allan i'r hyn sydd wedi'i gyfeirio at gefnogi ysgolion.

Bydd cyfuno'r grant yn golygu newid mewn mecanwaith ariannu tra bod lefelau'r cyllid hwnnw wedi'u cynnal. 

Mae effeithiau negyddol gostyngiadau yn y gyllideb wedi cael eu lliniaru drwy ddiogelu cyllid craidd ysgolion a diogelu cyllid grant sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ymhellach, felly ni theimlir bod ymgysylltu yn angenrheidiol mewn perthynas â chanlyniadau'r penderfyniad hwn.

Ni theimlwyd bod ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn briodol mewn perthynas â'r penderfyniad i uno'r grantiau addysg cyn-16. Mae tystiolaeth o adolygiadau a gynhaliwyd ac a gomisiynwyd, gan gynnwys argymhellion yr Adolygiad Cyllid Ysgolion, wedi llywio'r penderfyniad hwn. Mae tystiolaeth o adolygiadau a gynhaliwyd ac a gomisiynwyd, gan gynnwys argymhellion yr Adolygiad Cyllid Ysgolion, wedi llywio'r penderfyniad hwn. Mae tystiolaeth glir bod angen cyllid ysgolion symlach a thryloyw yng Nghymru ac mae'r dull grant newydd hwn yn gam tuag at hyn.

3. Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd gennych, pa effaith y mae eich polisi yn debygol o’i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?

Sut y mae eich cynnig yn gwella neu’n herio hawliau plant, fel y’u nodir yn erthyglau CCUHP a’i Brotocolau Dewisol? Cyfeiriwch at yr erthyglau i weld pa rai sy'n berthnasol i'ch polisi eich hun.

Erthyglau CCUHP neu Brotocol Dewisol

Erthygl 3 (lles pennaf y plentyn) 

Mae’n rhaid i les pennaf y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad neu weithred sy’n effeithio ar blant.

Mae'r amgylchiadau ariannol heriol sy'n deillio o'r argyfwng costau byw wedi achosi lefel o ansefydlogrwydd ariannol mewn ysgolion ac awdurdodau lleol a allai effeithio ar ein dysgwyr.  Bydd diogelu'r cyllid sy'n canolbwyntio ar gefnogi ein hysgolion yn helpu i alluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu a sicrhau y gall plant barhau â'u dysgu.

Erthygl 28 (hawl i addysg)

Mae gan blant yr hawl i addysg. Rhaid i addysg gynradd fod am ddim a rhaid i wahanol fathau o addysg uwchradd fod ar gael i bob plentyn. Rhaid i ddisgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas a hawliau plant. Rhaid i wledydd cyfoethocach helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.

Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael addysg ac mae dyletswydd statudol yn sicrhau bod hyn yn cael ei ddarparu.  Mae diogelu cyllid ysgolion yn sicrhau y gellir cyflawni'r ddyletswydd hon.

Ystyriwch a oes unrhyw rai o Hawliau Dinasyddion yr UE (fel y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb) yn berthnasol i bobl ifanc hyd at 18 oed.

Amherthnasol.

4.Cyngor i’r Gweinidog a’i benderfyniad

Sut bydd eich dadansoddiad o’r effeithiau hyn yn cyfrannu at eich cyngor i Weinidogion?

  • Ar ôl ei gwblhau, rhaid i'ch Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant gael ei gymeradwyo gan eich Dirprwy Gyfarwyddwr.
  • Dylai canfyddiadau eich Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant gael eu hintegreiddio i'ch cyngor gweinidogol i lywio eu penderfyniad.

Mae dadansoddiad o'r effeithiau wedi llywio'r broses o wneud penderfyniadau, a dyna pam rydym yn diogelu cyllid ysgolion wrth gymhwyso toriadau cyllidebol angenrheidiol fel rhan o'r broses o lunio cyllideb ddrafft 2024 i 2025.

Bydd yr asesiad effaith hwn yn cael ei gynnwys yn y cyngor Gweinidogol a gyflwynwyd.

5. Cyhoeddi’r Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog, dylid cyhoeddi’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Anfonwch adrannau 1 ac 8 o’ch Asesiad Effaith Integredig a’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (Atodiad A) at reolwr gwe eich adran i’w cyhoeddi.

Rhaid anfon pob Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant sydd wedi eu cwblhau hefyd i flwch post CRIA@llyw.cymru.

6. Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Os ydych wedi gofyn am farn plant a phobl ifanc ynglŷn â’ch cynnig, sut y byddwch yn rhoi gwybod iddynt am y canlyniad?

Amherthnasol.

7. Monitro ac adolygu

Mae'n hanfodol ailedrych ar eich Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i nodi a welwyd yr effeithiau a nodwyd gennych yn wreiddiol, ac a oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol. 

Pan fyddwch yn bwrw ymlaen ag is-ddeddfwriaeth, ni fydd dibynnu ar yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn ddigon ar gyfer y ddeddfwriaeth sylfaenol; bydd angen i chi ddiweddaru’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant i ystyried sut gallai manylion y cynigion yn y rheoliadau neu’r canllawiau effeithio ar blant.

Gall yr arweinydd polisi ailedrych ar y fersiwn o'u Hasesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant a gyhoeddwyd, ei hailenwi'n adolygiad o'r Asesiad gwreiddiol, a diweddaru'r dystiolaeth o'r effaith. Dylid cyflwyno'r Asesiad o'r Effaith a adolygwyd i Weinidogion gydag unrhyw gynigion ynghylch diwygio'r polisi, arferion neu ganllawiau. Dylid cyhoeddi'r Asesiad a adolygwyd hwn hefyd.

Cofiwch amlinellu pa drefniadau monitro ac adolygu y byddwch yn eu sefydlu ar gyfer adolygu’r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant hwn. 

Bydd yn cael ei fonitro i adolygu'r effaith yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf wrth i'r newidiadau gael eu gweithredu.

Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r polisi neu’r dull o'i roi ar waith? 

Nid ar ôl yr adolygiad cychwynnol hwn. 

Troednodiadau

[1] Efallai y byddwch, er enghraifft, yn ystyried sut y byddai eich polisi yn cael effeithiau gwahanol ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc: 

  • y blynyddoedd cynnar
  • cynradd
  • uwchradd
  • oedolion ifanc
  • plant ag anghenion dysgu ychwanegol
  • plant anabl; plant sy'n byw mewn tlodi
  • plant Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
  • Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • mudwyr
  • ceiswyr lloches
  • ffoaduriaid
  • siaradwyr Cymraeg
  • plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • plant LHDTC+

Noder nad yw hon yn rhestr gyflawn ac na fydd pawb o fewn y carfanau hyn yn rhannu’r un profiadau. 

[1] Dywed Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fod gan blant yr hawl i fynegi eu barn, yn enwedig pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac i'w barn gael ei hystyried.