Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus neu ar incwm isel yn parhau i gael cymorth dan gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor tan o leiaf ddiwedd 2017-18.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y penderfyniad hwn yn sicrhau bod tua 300,000 o aelwydydd yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd yn eu treth gyngor. O’r rhain, bydd 220,000 yn parhau i beidio â gorfod talu treth gyngor o gwbl.

Wrth gyhoeddi’r estyniad heddiw, dywedodd Mark Drakeford:

“Fe wnaeth Llywodraeth y DU ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor a throsglwyddo’r cyfrifoldeb am greu cynllun yn ei le i Lywodraeth Cymru. Wrth wneud hynny, trosglwyddwyd 10% o ostyngiad ariannol hefyd.

“Er gwaethaf y diffyg yn y cyllid, mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru wedi cydweithio i sicrhau gostyngiadau i aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus neu ar incwm isel. Gwneir hyn gyda chymorth yr £244m yr ydym wedi’i ddarparu drwy ein setliad i lywodraeth leol.

“Mae ein dull gweithredu ni yn cyferbynnu’n llwyr â’r sefyllfa yn Lloegr, lle gadawyd i awdurdodau lleol greu eu cynlluniau eu hunain a rheoli unrhyw ddiffyg ariannol oedd yn deillio o hynny. O ganlyniad, mae dros ddwy filiwn o aelwydydd sydd ar incwm isel bellach yn gorfod talu cyfran fwy o’u bil treth gyngor. 

“Mae teuluoedd yn Lloegr sydd ar incwm isel bellach yn talu £169 y flwyddyn yn fwy ar gyfartaledd nag y byddent yn ei wneud pe bai Budd-dal y Dreth Gyngor yn dal ar gael.  

“Rydyn ni’n sicrhau y bydd awdurdodau lleol Cymru yn dal i gael eu hamddiffyn rhag y costau y mae cynghorau yn Lloegr yn eu hwynebu, ac y bydd yr aelwydydd sydd fwyaf o angen cymorth yn parhau i gael eu hamddiffyn.”