Neidio i'r prif gynnwy

Dair blynedd wedi cyflwyno'r ddeddf i fynd i'r afael â phori anghyfreithlon, mae adroddiad yn dangos ei fod wedi cael effaith ar leihau nifer y ceffylau yr hysbysir yr heddlu yn eu cylch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r adroddiad gan Equiventus Ltd yn dangos cysylltiad clir rhwng lleihau'r ymddygiad hwn a'r dull o fynd i'r afael â'r broblem yng Nghymru, gan gynnwys cyflwyno Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 ar fyrder.
Mae'r ymyriadau pwysig eraill yn cynnwys cynnydd yn y rhaglenni addysgu i berchnogion ceffylau, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r broblem a chyfathrebu a cydweithio gwell rhwng y prif asiantaethau sy'n rhan o'r broblem.
Wrth groesawu cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:
"Comisiynwyd Equiventus Ltd gennyf y llynedd i gynnal arfarniad ar werth Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) ac i ystyried a oedd hyn wedi arwain at fanteision i gymunedau ledled Cymru.
"Mae'n wir yn newyddion positif bod y Ddeddf wedi chwarae rhan mor bwysig i leihau nifer y ceffylau yr hysbysir yr heddlu yn eu cylch, a'u bod yn y pen draw yn cael eu symud oherwydd pori anghyfreithlon, eu bod wedi crwydro, neu eu gadael.  Mae'n amlwg o ganfyddiadau'r adroddiad bod y ddeddf wedi cael effaith bositif ar leihau ymddygiad sydd wedi achosi cymaint o anawsterau i'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt a'r anifeiliaid dan sylw.
"Fodd bynnag, er bod yr adroddiad gan Equiventus Ltd yn newyddion da iawn, ni ddylem bwyso ar ein rhwyfau, ac mae'n rhaid inni barhau i weithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, yr Heddlu, perchnogion tir a sefydliadau lles i gyflawni argymhellion yr adroddiad. Dwi'n benderfynol o barhau i wneud yr hyn sydd ei angen i fynd i'r afael â'r problemau sy'n codi mewn cymunedau ac sy'n cael eu hachosi gan achosion o bori anghyfreithlon, crwydro a gadael ceffylau a merlod."
Cewch gopi o'r Bil drafft ar wefan Llywodraeth Cymru.