Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw [ddydd Llun 23], cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y byddai unedau bach dros dro yn cael eu gosod ar gyfer ymwelwyr â chartrefi gofal ledled Cymru i’w gwneud yn haws iddynt ymweld â’u hanwyliaid dros y Nadolig a misoedd y gaeaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun peilot, sy’n werth £3miliwn, yn cynnwys caffael, gosod a llogi 100 o unedau, gyda’r 30 cyntaf yn cael eu gosod, a’u gwneud yn barod i’w defnyddio cyn y Nadolig.

Bydd yr unedau lled-barhaol hyn ar gael am gyfnod o 6 mis, tra bo atebion mwy tymor hir yn cael eu hystyried a’u rhoi ar waith.

Mae hyn hefyd yn cynnwys £1miliwn ar gyfer cynlluniau i helpu darparwyr sydd am wneud eu trefniadau tebyg eu hunain.

Bydd ehangu’r lle sydd ar gael mewn cartrefi gofal yn ei gwneud yn haws cynnal ymweliadau’n seiliedig ar asesiadau risg yn ystod misoedd y gaeaf, gan fod rhai darparwyr gofal wedi ei chael yn anodd trefnu ymweliadau gan nad oes digon o le dan do i allu cadw at y mesurau pellter cymdeithasol.

Cafodd y cyfyngiadau ar ymweliadau â chartrefi gofal eu llacio wrth i’r cyfyngiadau ehangach gael eu codi yn yr haf, ac unwaith yn rhagor wedyn yn dilyn y cyfnod atal byr mwy diweddar. Ers mis Awst, mae’r canllawiau’n cefnogi’r syniad o ailddechrau cynnal ymweliadau ag ymwelydd dynodedig dan do, lle bo hynny’n bosibl.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor anodd fu’r misoedd diwethaf i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’u hanwyliaid. Fodd bynnag, mae’n hollbwysig sicrhau bod ein pobl fwyaf agored i niwed yn ddiogel bob amser.

Rydyn ni’n cydnabod y trallod a’r tristwch a fu’n rhan o fywyd pobl ers mis Mawrth, a hefyd yr awydd sydd gan y cartrefi gofal i hwyluso ymweliadau cyn y Nadolig ac wedyn, drwy gydol y gaeaf. Ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, rydyn ni’n hyderus y bydd yr unedau hyn yn ffordd o sicrhau bod ymweliadau ystyrlon yn gallu digwydd unwaith yn rhagor.

“Bydd y cynllun peilot yn ein helpu i well a fyddai gosod unedau ymweld yn ffordd effeithiol ac ymarferol o gynnal ymweliadau ystyrlon. Byddwn ni’n defnyddio’r hyn a ddysgir i benderfynu a ddylem ystyried comisiynu ateb pwrpasol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, os bydd hynt y pandemig yn golygu y bydd angen gwneud hynny.