Neidio i'r prif gynnwy

Gosod Safonau drafft ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rheoliadau’n berthnasol i Fyrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, a bydd gofyn i’r cyrff hyn fynd ati’n rhagweithiol i gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y safonau’n ei gwneud yn ofynnol i’r byrddau iechyd gynllunio’u gwaith er mwyn gwella’r hyn y maen nhw’n ei gynnig, gan gynnwys mwy o wasanaethau clinigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y safonau’n adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan Mwy na Geiriau..., fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iaith ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, sydd wedi helpu i wella gwasanaethau Cymraeg yn y sector. 

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’n bwysig iawn ein bod yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar y byrddau iechyd i ddarparu mwy o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol. Mae hynny’n arbennig o bwysig yn achos cleifion oedrannus a phlant ifanc iawn, sy’n teimlo’n fwy cyfforddus yn cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf ar adegau o straen difrifol.

“Er hynny mae’n rhaid inni gadw mewn cof hefyd bod rhai o'r cyrff yn y sector hwn ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod yr wythnos a’u bod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau – o driniaethau rheolaidd i lawdriniaethau ar y galon, triniaeth frys a gofal diwedd oes.

“Mae prif ffrydio gwasanaethau Cymraeg yn y sector hwn yn her enfawr a fydd yn cymryd amser. Rwy'n hyderus bod yr agwedd synhwyrol a realistig rydyn ni wedi’i mabwysiadu yn y rheoliadau drafft hyn yn cydnabod yr anawsterau. Ar yr un pryd, mae hefyd yn gam ymlaen yn y broses o gynnig mwy o welliannau a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ymwneud â'r sector iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.”

Yn ogystal â gwneud yn siŵr bod meddygfeydd teulu sydd dan ofal byrddau iechyd yn gorfod cydymffurfio â’r safonau newydd, bydd trafodaethau hefyd yn dechrau â’r cyrff sy’n cynrychioli contractwyr er mwyn cytuno ar y rhwymedigaethau sydd arnynt o ran y Gymraeg drwy eu trefniadau contract neu eu hamodau gwasanaeth.

Cafodd y rheoliadau eu gosod gan y Gweinidog wedi iddi ymweld ag ysgol feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Yno cafodd weld darlith yn cael ei rhoi i 300 o fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i'r rheini nad oedden nhw'n siarad Cymraeg, a chyfarfod hefyd â myfyrwyr Cymraeg sy'n astudio drwy gyfrwng eu mamiaith. 

Dywedodd:

“Cefais fy ysbrydoli ar fy ymweliad â’r ysgol feddygaeth. Er nad oedd llawer o'r myfyrwyr yn siarad Cymraeg, roedd cael darlith drwy gyfrwng y Gymraeg yn dangos iddyn nhw fod y Gymraeg yn iaith fyw sy’n rhan o fywyd bob dydd yng Nghymru a’i bod yn berthnasol ym mhob sefyllfa. Rwy’n gobeithio bod hyn wedi rhoi hyder i'r siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Er mwyn i'r sector iechyd fodloni ei rwymedigaethau o dan safonau'r Gymraeg, bydd yn hollbwysig annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn eu gyrfaoedd ac annog pobl eraill i ddysgu’r iaith. Bydd mentrau fel y 'Rhwydwaith Ysgoloriaeth ac Addysg Iaith Gymraeg' ym Mhrifysgol Caerdydd a gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff ddefnyddio’u Cymraeg mewn amgylchedd clinigol wrth iddyn nhw weithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – heddiw ac yfory.”