Neidio i'r prif gynnwy

Bydd tair ysgol, cartref gofal ac amlosgfa yng Nghasnewydd ymhlith yr adeiladau cyntaf i osod paneli to solar fel rhan o gymorth Llywodraeth Cymru i ehangu gwaith cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y paneli hyn yn cynhyrchu dau megawat o drydan ac yn cael eu gosod gan gwmni cydweithredol ynni solar Egni, ar ôl derbyn bron i £2.35m o gyllid.

Mae Cymru’n hyrwyddo perchnogaeth leol o ynni adnewyddadwy mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a hefyd yn sgil y pryderon presennol ynghylch costau byw cynyddol a diogelwch ynni byd-eang.

Rhagwelir y bydd y prosiect yn arbed tua 3,700 tunnell o garbon ac yn sicrhau arbedion sylweddol ar filiau trydan.

Mae Cymru'n arwain y ffordd drwy sicrhau bod addysgu am yr argyfwng hinsawdd yn orfodol yn ei chwricwlwm ysgol newydd - ac mae Egni wedi addo ail-fuddsoddi arian dros ben o ynni a werthir yn ôl i'r grid mewn rhagor o gyfleoedd addysg ym maes y newid yn yr hinsawdd.

Mae Ysgol Gyfun Caerllion eisoes yn elwa ar osodiad gan Egni. Wrth siarad ar ymweliad yno, dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Mae ein gweledigaeth yn glir. Rydym am i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf a defnyddio unrhyw ynni sydd dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Mae prosiectau fel hyn yn dangos y gall uchelgais sbarduno canlyniadau.

Gyda phob adroddiad gan yr IPCC, mae’r sefyllfa o ran yr argyfwng hinsawdd yn dod yn fwy clir ac rydym am i Gymru gyfrannu at yr ymateb byd-eang drwy gyflawni Sero Net erbyn 2050.

Er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, mae'n rhaid i ni gynyddu cyfanswm yr ynni gwyrdd rydym yn ei gynhyrchu bum gwaith dros y 30 mlynedd nesaf.

Ailbwysleisiodd Cymru Sero Net | LLYW.CYMRU ein hymrwymiad i drawsnewid yn sylweddol waith cynhyrchu ynni yn lleol gan leihau’r defnydd o danwydd ffosil a chynhyrchu ynni adnewyddadwy cynaliadwy.

Mae ynni sy'n eiddo i'r gymuned yn adeiladu gwydnwch ynni lleol drwy ddulliau glanach a gwyrddach – sy'n hanfodol yn ein hymdrechion i gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050, a helpu ysgolion, ysbytai a chymunedau i amddiffyn eu hunain rhag costau byw cynyddol.

Mae Egni, a fydd yn berchen ar y paneli ac yn eu rheoli, eisoes wedi cysylltu paneli solar yn llwyddiannus gan gynhyrchu 4.3MW o ynni ar gyfer bron i 90 o adeiladau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru o dros 100 megawat erbyn 2026.

Dywedodd Dan McCallum o Gwmni Cydweithredol Egni:

Rydym wedi derbyn cefnogaeth arbennig gan Lywodraeth Cymru.

Egni yw cwmni cydweithredol mwyaf y DU ym maes paneli to solar sy'n tystio i’r ffaith y gall dull cydweithredol alluogi Cymru i gyflawni pethau gwych.

Mae'n hanfodol bod y gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy ddulliau cydweithredol yn cynyddu'n gyflym. Bydd ynni adnewyddadwy yn rhoi rhyddid i ni ac mae pobl Cymru yn haeddu dyfodol heb danwyddau ffosil.