Daeth yr ymgynghoriad i ben 25 Ionawr 2013.
Crynodeb o’r canlyniad
Canlyniad ymgynghoriad ar gael yn Transposition of Directive setting criteria for storage of metallic mercury waste ar GOV.UK.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar gynigion ar gyfer meini prawf storio gwastraff mercwri metelaidd yn ddiogel a newid Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Diben y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (Rheoliadau TA 2010) yw lleihau baich cydymffurfio gan gynnal safonau amgylcheddol ar yr un pryd.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar y newidiadau i Reoliadau TA 2010 a fydd yn cael effaith ar 15 Mawrth 2013. Mae’r newidiadau hyn yn ofynnol i droi’r meini prawf ar gyfer storio gwastraff mercwri metelaidd yn gyfraith yn y DU. Nodir y meini prawf hyn yng Nghyfarwyddeb 2011/97/EU.
Bydd y newidiadau arfaethedig i Reoliadau TA 2010 yn effeithio ar Gymru a Lloegr yn unig.
Fel rhan o roi Rheoliad 1102/2008 ar waith mae hefyd angen newid Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 1999. Bydd y newid arfaethedig yn sicrhau bod y cwmpas yn cynnwys cyfleusterau sydd wedi’u trwyddedu i storio gwastraff mercwri metelaidd.
Bydd y newid arfaethedig hwn yn effeithio ar Gymru Lloegr a’r Alban.
Hoffem gael eich barn ar effeithiau ymarferol neu sgil-effeithiau’r newidiadau hyn.
Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn gydag Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (Defra).
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK