Neidio i'r prif gynnwy

Sut i lesio eiddo preswyl i'ch awdurdod lleol drwy Gynllun Lesio Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Gall perchnogion eiddo wneud cais i lesio eiddo preswyl i'w hawdurdodau lleol drwy Gynllun Lesio Cymru.

Mae 20 o gynlluniau awdurdod lleol yn y rhaglen ar hyn o bryd.

Nodau'r prosiect yw:

  • gwella mynediad a fforddiadwyedd i gartrefi yn y sector rhentu preifat
  • darparu sicrwydd llety yn y tymor hwy
  • gwella safonau tai
  • cefnogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaeth
  • helpu i leihau digartrefedd

Manteision

Bydd perchnogion eiddo sy'n ymuno â'r cynllun yn elwa o:

  • tenantiaeth rhwng 5 ac 20 mlynedd
  • taliadau rhent wedi'u gwarantu (hyd yn oed os yw'r eiddo yn wag) am hyd y les ar y gyfradd newydd ar gyfer y Lwfans Tai Lleol
  • grantiau o hyd at £5,000 i ddod ag eiddo i safon y cytunwyd arno ac i gynyddu graddfa'r EPC i lefel C. Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag.
  • unrhyw waith trwsio difrod i'r eiddo a wneir gan denantiaid fydd yr awdurdod lleol yn talu amdanynt. Nid yw hyn yn cynnwys traul bob dydd nac atebolrwydd y landlord am ddiffygion strwythurol
  • gwarant o gefnogaeth briodol i denantiaid, drwy gydol y les

Safonau eiddo

Bydd angen i eiddo fodloni safonau penodol i fod yn gymwys i ddod ar y cynllun, a bydd eich awdurdod lleol yn gallu rhoi cyngor pellach.

Gall grantiau o hyd at £5,000 fod ar gael i ddod ag eiddo i safon y cytunwyd arno ac i gynyddu graddiad EPC yr eiddo i lefel C.

Gallai'r cyllid hwn gael ei ymestyn i uchafswm o £25,000 ar gyfer eiddo gwag.

Darganfyddwch fwy am y cyllid hwn drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol.

Sut i wneud cais

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun ac i gael gwybod sut i wneud cais ar gyfer y cynllun, dylech gysylltu â'r awdurdod lleol lle mae eich eiddo.