Gorlenwi tai ac ethnigrwydd: adolygiad llenyddiaeth (crynodeb)
Mae’r adolygiad hwn yn amlinellu’r dystiolaeth sy’n bodoli ynghylch y cysylltiadau cymhleth a rhyng-gysylltiedig rhwng ethnigrwydd a gorlenwi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Nodau’r adolygiad llenyddiaeth hwn oedd archwilio pa dystiolaeth sydd ar gael ynghylch sut mae gorlenwi tai yn effeithio ar grwpiau lleiafrifoedd ethnig, yn bennaf yng Nghymru, ac mewn mannau eraill; ac effeithiau gorlenwi tai ac ethnigrwydd ar ganlyniadau COVID-19.
Paratowyd yr adroddiad hwn gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gyfres o chwiliadau llenyddiaeth a gynhaliwyd gan Wasanaethau Llyfrgell Llywodraeth Cymru rhwng 12 Awst 2021 a 03 Medi 2021, gan ddefnyddio nifer o gronfeydd data academaidd a gwefannau perthnasol a ddetholwyd.
Defnyddiwyd allweddeiriau â phwyslais ar orlenwi, ethnigrwydd, tai a Covid-19 yn y chwiliadau.
Roedd y canlyniadau wedi’u cyfyngu i adroddiadau / papurau ymchwil, papurau ymchwil llywodraethol ac erthyglau cyfnodolion. Er y ffafriwyd dogfennau a gyhoeddwyd yn y pum mlynedd diwethaf, cafodd dogfennau a gyhoeddwyd hyd at ddeng mlynedd yn ôl eu cynnwys.
Ni ddefnyddiwyd system bwysoli ffurfiol ar gyfer y dystiolaeth a nodwyd yn yr adolygiad. Fodd bynnag, wrth adolygu’r dystiolaeth, neilltuwyd mwy o bwys yn gyffredinol i ddogfennau â phwyslais ar Gymru neu’r DU a lle mai tai gorlawn ac ethnigrwydd oedd y prif bwyslais. Roedd llawer o’r dystiolaeth yn waith ymchwil eilaidd yn hytrach na chynradd ac roedd adolygiadau tystiolaeth yn dueddol o fod yn ddisgrifiadol yn hytrach na systematig. Oherwydd hyn, mae’r adolygiad wedi’i gyfyngu o ran ei allu i ynysu achosiaethau gorlenwi yng nghyd-destun ethnigrwydd.
Defnyddiwyd adolygiad llenyddiaeth disgrifiadol yn hytrach na methodoleg adolygu systematig i nodi cyd-destun a syniadau cyfredol ac i archwilio ansawdd y dystiolaeth sydd ar gael ar y pwnc hwn.
Prif ganfyddiadau
Nodwyd wyth deg chwech o ddogfennau gan y chwiliadau llenyddiaeth. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn archwilio gorlenwi yng nghyd-destun pandemig COVID-19. Roedd y gweddill yn ymwneud â gorlenwi yng Nghymru neu wledydd eraill y DU heb gyfeirio at COVID-19. Roedd yr holl ddogfennau hyn yn ffynonellau eilaidd, yn cynnwys papurau briffio ac adroddiadau llywodraeth. Roedd diffyg tystiolaeth gynradd, gyfredol ac o ansawdd uchel yn ymwneud â Chymru. Efallai y bydd hyn yn cael sylw yn ddiweddarach yn 2022 pan fydd data rhagarweiniol o Gyfrifiad 2021 y DU yn dechrau cael eu cyhoeddi.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod gorlenwi yn effeithio’n anghymesur ar grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn y DU ar draws yr holl grwpiau oed, mewn lleoliadau gwledig a threfol, a bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur hefyd. Yng Nghymru, mae dadansoddiad o ddata Cyfrifiad 2011 y DU yn dangos bod tua 4.9% o bobl Gwyn Prydeinig yn byw mewn tai gorlawn o’i gymharu â 28.7% o Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig, 27% o bobl Bangladeshaidd a 19.4% o bobl Dduon, y tri grŵp y mae gorlenwi’n effeithio arnynt fwyaf. (Price, 2021).
Er na ellir dadansoddi achosiaeth yn llawn yn seiliedig ar y dystiolaeth a nodwyd yn y chwiliadau llenyddiaeth ar gyfer yr adolygiad hwn, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod ffactorau economaidd-gymdeithasol, systemig a strwythurol yn chwarae rhan fawr yn y ffaith bod gorlenwi yn effeithio’n anghymesur ar aelwydydd lleiafrifoedd ethnig. Nodwyd tystiolaeth o wahaniaethu hanesyddol ym marchnad dai y DU yn mynd yn ôl i’r Ail Ryfel Byd ac ymhellach hefyd (de Noronha, 2021).
Mae ffigurau gan lywodraeth y DU yn dangos bod aelwydydd o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fod yn orlawn ym mhob grŵp deiliadaeth (Barton a Wilson, 2021). Hefyd, mae cyfraddau gorlenwi yn uwch mewn aelwydydd sector rhentu cymdeithasol a phreifat, lle mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig wedi’u gorgynrychioli (Llywodraeth Cymru, 2020, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2020).
Mae’n ymddangos bod gorlenwi a’i effeithiau cysylltiedig yn effeithio’n arbennig o ddifrifol ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Fodd bynnag, canfuwyd bod diffyg tystiolaeth difrifol ynghylch cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac mae hyn yn debygol o guddio anghydraddoldebau mwy amlwg byth (de Noronha, 2015).
Mae’n ymddangos bod tai gorlawn yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwael penodol (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2015), ac mae gan gymunedau Gwyn Prydeinig ganran salwch pob oed is na’r holl grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill ac eithrio Asiaidd/Asiaidd Prydeinig yng Nghymru (Allen et al., 2015). Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a ganfuwyd yn y chwiliadau llenyddiaeth yn archwilio’r berthynas rhwng tai gorlawn a chanlyniadau iechyd cyffredinol yn brin.
Nodwyd pum deg pedwar o ddogfennau perthnasol gan y chwiliadau llenyddiaeth ynghylch y croestoriad o ethnigrwydd, gorlenwi a chanlyniadau iechyd COVID-19, sy’n adlewyrchu natur frys y pandemig a faint o waith ymchwil a wnaed mewn ymateb iddo. Cydnabyddir yn helaeth fod gan bobl o bron i bob grŵp lleiafrifoedd ethnig ganlyniadau gwaeth o COVID-19 a chyfraddau marwolaeth uwch na grwpiau Gwyn Prydeinig ar draws y DU. Mae’r rhesymau aml-ffactor am gyfraddau marwolaeth anghymesur, ac yn debygol o gynnwys byw mewn amodau gorlawn yn ogystal â gweithio mewn swyddi â risg uwch, bod â chyflwr meddygol blaenorol, mathau penodol o ymddygiadau sy’n effeithio ar iechyd, a gwahaniaethu systemig (Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 2020).
Casgliadau
Er ei bod yn anodd dadansoddi’r cysylltiadau achosol rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a systemig, ethnigrwydd a gorlenwi, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod gorlenwi wedi effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig, ar draws yr holl grwpiau oed, mewn lleoliadau gwledig a threfol, a bod COVID-19 yn cael effaith anghymesur hefyd. Mae’n ymddangos bod gorlenwi a'i effeithiau cysylltiedig yn effeithio’n arbennig o ddifrifol ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod ffactorau economaidd-gymdeithasol, systemig a strwythurol yn chwarae rhan yn y ffaith bod gorlenwi’n effeithio’n anghymesur ar aelwydydd lleiafrifoedd ethnig.
Mae angen tystiolaeth o ansawdd uchel ynghylch effeithiau gorlenwi ar grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae Uned Gwahaniaethau ar sail Hil wrthi’n cael ei sefydlu yn Llywodraeth Cymru, a rhan o gylch gwaith yr Uned yw gwella’r broses o gasglu data a gweithio gyda chymunedau i adennill ymddiriedaeth ym mhrosesau casglu data ac adrodd llywodraethol. Gallai hyn helpu i fynd i’r afael a bylchau data ar gyfer y grŵp hwn.
Er y nodwyd rhywfaint o dystiolaeth ynghylch ysgogiadau gorlenwi, roedd hon yn brin. Mae angen gwaith ymchwil pellach i ysgogiadau gorlenwi mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Dylai gwaith pellach archwilio yn fwy trwyadl sut mae gorlenwi ac ethnigrwydd yn croestorri â nodweddion gwarchodedig eraill.
Roedd llawer o’r dystiolaeth a nodwyd yn y chwiliadau llenyddiaeth yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2011. Bydd data rhagarweiniol o Gyfrifiad 2021 yn dechrau cael eu cyhoeddi yn 2022, a bydd y data hyn yn cynnig tystiolaeth fwy cyfredol ynghylch tai a gorlenwi. Dylid defnyddio cyhoeddiad y data hyn i fynd i’r afael â bylchau yn y dystiolaeth ynghylch sut mae gorlenwi yn effeithio ar grwpiau lleiafrifoedd ethnig penodol i wahanol raddau yng Nghymru.
Er ei bod yn ymddangos bod y gydberthynas rhwng gorlenwi ac effaith COVID-19 wedi’i phrofi, mae angen gwaith ymchwil o hyd i archwilio profiadau grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ystod pandemig COVID-19. Bydd angen ymchwil pellach i’r ffactorau sy’n effeithio gorlenwi mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru i ddeall effaith gorlenwi mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn well.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Katy Addison, Rebecca Batt, a Katherine Stock
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Hannah Browne Gott
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 59/2022
ISBN digidol 978-1-80364-565-0